Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Beth yw tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn?
Meddyginiaethau tawelu yw tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn. Mae hyn yn golygu eu bod yn arafu swyddogaethau eich corff a’ch ymennydd. Er enghraifft, eich anadlu, curiad eich calon a’ch prosesau meddwl.
Gellir rhoi presgripsiwn am y meddyginiaethau hyn ar gyfer gorbryder difrifol neu anhunedd (anhawster mynd i gysgu neu aros ynghwsg). Mae hyn yn cynnwys rhoi presgripsiwn am y canlynol:
- meddyginiaeth bensodiasepin ar gyfer gorbryder neu anhunedd
- tabledi cysgu heblaw bensodiasepin
- meddyginiaeth lleddfu gorbryder heblaw bensodiasepin
Efallai y byddwch hefyd yn clywed y cyffuriau hyn yn cael eu galw’n gyffuriau hypnotig ac ancsiolytig (neu gyffur lleihau gorbryder). Er ein bod yn defnyddio’r term ‘tabledi cysgu’ i ddisgrifio llawer o’r cyffuriau hyn, efallai y bydd rhai ohonynt hefyd ar gael fel hylif, naill ai i’w lyncu neu i’w chwistrellu.
Sut gallai tabledi cysgu neu dawelyddion ysgafn fy helpu i?
Rhoddir presgripsiwn am y cyffuriau hyn fel arfer i wneud y canlynol:
- lleihau eich symptomau o orbryder, fel teimlo’n gynhyrfus iawn neu’n sigledig
- eich helpu i oresgyn anhunedd, fel y gallwch ddychwelyd i batrwm cysgu iachach.
Ni allant iachau gorbryder neu anhunedd. Mae hyn oherwydd nad ydynt yn ymdrin ag achosion sylfaenol y problemau hyn. Ond, gallant eich helpu i deimlo’n llonydd a’ch ymlacio yn y tymor byr.
Pwy all roi presgripsiwn am dabledi cysgu a thawelyddion ysgafn?
Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gallu rhoi presgripsiwn am dabledi cysgu a thawelyddion ysgafn i chi yn cynnwys:
- eich meddyg teulu
- seiciatrydd
- nyrs-bresgripsiynydd arbenigol
- fferyllydd arbenigol
- eich deintydd
Mae’r tudalennau gwybodaeth hyn fel arfer yn cyfeirio at ‘eich meddyg’ yn rhagnodi’r feddyginiaeth hon. Eich meddyg sydd fwyaf tebygol o roi presgripsiwn i chi am y cyffuriau hyn.
Pryd y gellir cynnig tabledi cysgu neu dawelyddion ysgafn i mi?
Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylid cynnig y cyffuriau hyn i chi:
- os oes gennych orbryder difrifol neu anhunedd sy’n cael effaith sylweddol ar eich bywyd bob dydd
- pan na fydd mathau eraill o driniaeth neu gymorth yn addas neu pan na fyddant wedi helpu. Er enghraifft, gall hyn gynnwys cael therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), neu wneud newidiadau i wella eich cwsg.
Daw’r argymhellion hyn o ganllawiau gofal iechyd a luniwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF). Dylai meddygon a phresgripsiynwyr eraill ddilyn y canllawiau hyn pan fyddant yn cynnig unrhyw fath o gyffur i chi.
Pa mor hir fydd yn rhaid i mi barhau i gymryd fy meddyginiaeth?
Mae canllawiau gofal iechyd yn argymell mai dim ond am gyfnod byr y dylech gymryd tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn. Mae hyn oherwydd, i’r rhan fwyaf o bobl:
- maent yn dod yn llai effeithiol os byddwch yn eu cymryd am gyfnod hwy o amser
- gallant achosi dibyniaeth os byddwch yn eu cymryd yn rheolaidd
Dyma’r argymhellion ar gyfer pa mor hir i gymryd y gwahanol fathau o gyffuriau:
- Cymryd tabledi cysgu am ddim hwy na thair wythnos, yn ddelfrydol dim mwy nag wythnos.
- Cymryd cyffuriau lleddfu gorbryder am ddim hwy na phedair wythnos, gan gynnwys y cyfnod diddyfnu.
- Ar gyfer unrhyw un o’r cyffuriau hyn, dylid ceisio osgoi eu cymryd bob dydd.
Dim ond canllawiau i feddygon eu dilyn yw’r rhain. Gallwch drafod beth sydd orau i chi gyda’ch meddyg.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.
