Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Cymharu bensodiasepinau

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu i gymharu gwahanol bensodiasepinau. Mae yma dablau ar gyfer cymharu bensodiasepinau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gorbryder, ac ar gyfer cymharu bensodiasepinau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer anhunedd (anhawster mynd i gysgu neu aros ynghwsg).

Mae yma wybodaeth hefyd sy’n esbonio sut mae bensodiasepinau yn wahanol i’w gilydd.

Mae gan rai o’r cyffuriau yn y tablau hyn fwy nag un enw. Efallai eich bod yn adnabod cyffur wrth ei enw generig neu ei enw masnachol. Gweler ein tudalen ar enwau cyffuriau am ragor o wybodaeth.

Cymharu bensodiasepinau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gorbryder

Drag or scroll this table to view full contents

Cyffuriau hir-weithredol

Enw generig

Enwau masnachol

Ffurf

Hanner oes

Ystyriaethau deitegol

chlordiazepoxide

Librium

Tropium

  • capsiwlau
  • tabledi

36 i 200 awr

  • yn cynnwys lactos

clonazepam

Rivotril

  • tabledi
  • hylif trwy'r geg

20 i 60 awr

  • tabledi yn  cynnwys lactos

diazepam

Diazemuls

Diazepam RecTubes

Stesolid

Tensium

  • tabledi
  • hylif trwy'r geg
  • hylif sy'n cael ei chwistrellu 
  • tiwbiau rectal
  • tawddgyffuriau

36 i 200 awr

  • tabledi yn cynnwys lactos

Cyffuriau byr-weithredol

alprazolam

Xanax

  • tabledi

12 i 15 awr

  • yn cynnwys lactos

lorazepam

Ativan

  • tabledi
  • hylif sy'n cael ei chwistrellu

10 i 20 awr

  • tabledi yn cynnwys lactos

oxazepam

dim

  • tabledi

6 i 20 awr

  • yn cynnwys lactos

Cymharu bensodiasepinau a ddefnyddir yn bennaf fel tabledi cysgu

Drag or scroll this table to view full contents

Cyffuriau hir-weithredol

Enw generig

Enwau masnachol 

Ffurf

Hanner oes

Ystyriaethau deitegol

nitrazepam

Mogadon

  • tabledi   

24 i 40 awr

  • yn cynnwys lactos

Cyffuriau byr-weithredol

loprazolam

dim

  • tabledi

6 i 12 awr

  • yn cynnwys lactos

lormetazepam

Dormagen

  • tabledi

10 i 12 awr

  • yn cynnwys lactos

temazepam

dim

  • tabledi
  • hylif trwy'r geg

5 i 15 awr

  • tabledi yn cynnwys lactos

Mae gwahanol feddyginiaethau yn gweithio i wahanol bobl. Roedd lorazepam yn fy siwtio i pan oeddwn i mewn argyfwng, ac mae diazepam yn fwy addas i mi yn y tymor hwy.

Sut mae bensodiasepinau yn wahanol i’w gilydd

Mae bensodiasepinau yn wahanol i’w gilydd mewn sawl ffordd:

Hyd hanner oes

Mae rhai bensodiasepinau yn gweithredu ar eich ymennydd a’ch corff am fwy o amser nag eraill. Mae hanner oes pob cyffur yn ffordd ddefnyddiol o ddeall pa mor hir y gall effeithiau cyffur bara.

Hanner oes byr sydd i bensodiasepinau byrweithredol. Mae hyn yn golygu bod y cyffuriau’n cael eu prosesu ac yn gadael eich corff yn gyflymach. Mae gan gyffuriau byrweithredol fwy o risg o symptomau diddyfnu. Mae hyn oherwydd bod gan eich corff lai o amser i addasu i weithio heb y cyffur ar ôl i chi roi’r gorau i’w gymryd.

Mae gan bensodiasepinau hir-weithredol hanner oes hirach. Mae hyn yn golygu bod y cyffuriau’n cael eu prosesu gan eich corff yn arafach ac yn cymryd mwy o amser i adael y corff. Rydych yn fwy tebygol o deimlo effaith ‘pen mawr’ wrth gymryd y cyffuriau hyn. Ond rydych yn llai tebygol o gael problemau diddyfnu.

Yn gyffredinol, defnyddir bensodiasepinau byrweithredol fel tabledi cysgu a defnyddir bensodiasepinau hir-weithredol ar gyfer gorbryder. Ond, nid dyma’r achos bob tro. Gall rhai cyffuriau ar gyfer gorbryder eich helpu i gysgu os byddwch yn eu cymryd gyda’r nos. Gall dosau llai o dabledi cysgu eich helpu i deimlo’n llonydd os byddwch yn eu cymryd yn ystod y dydd.

Nerth (cryfder)

Gall bensodiasepinau fod â lefelau gwahanol o ran nerth. Mae hyn yn ymwneud â chryfder yr adwaith cemegol y bydd pob cyffur yn ei achosi yn eich corff.

Os cymerwch ddos llai o bensodiasepin cryfder uchel, gall hyn achosi effeithiau tebyg i ddos uwch o bensodiasepin cryfder isel.

Metaboleiddio (chwalu o fewn y corff)

Mae bensodiasepinau yn cael eu torri i lawr gan y corff mewn gwahanol ffyrdd. Gelwir y broses hon yn eich corff yn metaboleiddio’r cyffur.

Mae rhai cyffuriau bensodiasepin, fel diazepam, yn cynhyrchu cemegau bensodiasepin pellach pan gânt eu metaboleiddio. Mae’r cemegau ychwanegol hyn yn aros yn eich corff ac yn gwneud i effaith gyffredinol y cyffur bara’n hirach.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig