Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrthseicotig

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.

Beth yw cyffuriau gwrth-Parkinson?

Defnyddir cyffuriau gwrth-Parkinson yn bennaf i drin clefyd Parkinson. Nid ydynt yn gyffuriau seiciatrig, sy'n golygu nad ydynt wedi'u trwyddedu i drin problemau iechyd meddwl.

Ond efallai y bydd eich meddyg neu seiciatrydd yn rhoi presgripsiwn am un o'r cyffuriau hyn ochr yn ochr â meddyginiaeth gwrthseicotig, i leihau sgil-effeithiau penodol y feddyginiaeth gwrthseicotig. Gelwir y rhain yn sgil-effeithiau niwrogyhyrol, am eu bod yn effeithio ar system niwrogyhyrol eich corff. Gall yr effeithiau gael eu hadnabod hefyd fel Parkinsonism, am eu bod yn debyg i rai o effeithiau clefyd Parkinson. Mae'r effeithiau hyn yn cynnwys:

  • eich cyhyrau'n mynd yn anystwyth ac yn wan
  • datblygu cryndod araf (ysgwyd), yn enwedig yn eich dwylo
  • eich ceg yn hongian ar agor ac rydych chi'n driblo.

Mae tri chyffur gwrth-Parkinson y gellir eu rhoi drwy bresgripsiwn ochr yn ochr â chyffuriau gwrthseicotig i leihau'r symptomau hyn:

Gelwir y cyffuriau gwrth-Parkinson hyn weithiau'n gyffuriau gwrthfysgarinig. Gwrthfysgarinig yw'r term a ddefnyddir ar gyfer y grŵp o effeithiau y mae'r cyffuriau hyn yn eu cael ar eich corff.

Nid oes unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng y tair meddyginiaeth hyn. Ond efallai y gwelwch fod un o'r cyffuriau hyn yn gweithio'n well i chi nag eraill.

Pryd y gellir rhoi presgripsiwn ar gyfer cyffur gwrth-Parkinson i mi?

Dim ond os ydych chi wedi datblygu symptomau Parkinsonism fel sgil-effaith eich cyffur gwrthseicotig y dylech chi gael presgripsiwn am gyffuriau gwrthseicotig, ac 

  • na allwch newid i feddyginiaeth gwrthseicotig gwahanol na lleihau eich dos, neu
  • rydych wedi ceisio newid y cyffur gwrthseicotig neu leihau'r dos, ond nid yw hyn wedi helpu eich symptomau Parkinsonism.

Ni ddylid byth rhoi presgripsiwn ar gyfer y cyffuriau hyn i atal sgil-effeithiau nad ydych wedi'u cael eisoes.

Beth yw'r risgiau gyda'r cyffuriau hyn?

  • Mae cyffuriau gwrth-Parkinson yn cael eu defnyddio i leihau sgil-effeithiau penodol cyffuriau gwrthseicotig. Ond gallant hefyd achosi sgil-effeithiau. Gweler ein gwybodaeth ar procyclidine, trihexyphenidyl ac orphenadrine i gael gwybod am sgil-effeithiau posibl pob cyffur.
  • Mae'r cyffuriau hyn hefyd yn cael effaith adfywiol. I rai pobl, gallant achosi dibyniaeth.
  • Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth gwrth-Parkinson, dylech leihau eich dos yn raddol. Fel arall, efallai y bydd eich symptomau Parkinsonism yn dychwelyd.
  • Efallai y byddwch yn penderfynu rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-Parkinson a chyffuriau gwrthseicotig tua'r un amser. Yn yr achos hwn, mae canllawiau'n awgrymu rhoi'r gorau i'r cyffur gwrthseicotig yn gyntaf, ac yna rhoi'r gorau i'r cyffur gwrth-Parkinson.

Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth gymryd y cyffuriau hyn os oes gennych chi un o'r canlynol:

  • afiechyd y galon
  • pwysedd gwaed uchel
  • clefyd yr afu
  • clefyd yr arennau.

Dylech osgoi'r cyffuriau hyn:

  • os oes gennych glawcoma (cyflwr llygaid difrifol), neu mewn perygl o'i ddatblygu
  • os ydych chi'n dangos arwyddion o dyscinesia camsymud araf
  • os oes gennych myasthenia gravis (anhwylder cyhyr prin, difrifol)
  • os oes gennych brostad chwyddedig
  • os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron. Y rheswm am hyn yw mai ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am ba mor ddiogel yw'r cyffuriau hyn, ac mae babanod yn sensitif i effeithiau cyffuriau gwrth-fysgarinig.

Ynglŷn â procyclidine

  • Enwau masnach: Kemadrin
  • Ar gael ar ffurf: tabledi, hylif
  • Hanner oes: 12 awr
  • Mae'r tabledi yn cynnwys lactos

Sgil-effeithiau posibl

Cyffredin (rhwng 1 o bob 10 ac 1 o bob 100 o bobl):
  • golwg aneglur
  • rhwymedd
  • anhawster gwneud dŵr
  • ceg sych
Anghyffredin (rhwng 1 o bob 100 ac 1 o bob 1,000 o bobl):
  • aflonyddwch meddwl (teimlo'n bigog)
  • gorbryder
  • dryswch
  • anhawster canolbwyntio
  • dryswch (ddim yn gwybod ble rydych chi)
  • pendro
  • cyfog (teimlo’n sâl)
  • rhith-weld pethau
  • problemau cof
  • nerfusrwydd
  • brech
  • chwydu (bod yn sâl)
Prin (rhwng 1 o bob 1,000 ac 1 o bob 10,000 o bobl):

Ynglŷn â trihexyphenidyl

  • Enwau masnach: Agitane, Artane, Benzhexol
  • Ar gael ar ffurf: tabledi, hylif
  • Hanner oes: tair i bedair awr

Sgil-effeithiau posibl

Cafodd trihexyphenidyl ei drwyddedu gyntaf cyn i'r system bresennol o gofnodi sgil-effeithiau gael ei defnyddio'n eang. Felly nid oes amcangyfrifon o ba mor debygol ydych chi o brofi'r sgil-effeithiau hyn ar gael. Rhestrir y sgil-effeithiau hysbys isod yn nhrefn yr wyddor.

Efallai y bydd rhai taflenni gwybodaeth i gleifion ar gyfer rhai brandiau o trihexyphenidyl yn rhestru pa mor gyffredin yw'r sgil-effeithiau ar gyfer y brand penodol hwnnw. Gallwch ddod o hyd i'r daflen gwybodaeth i gleifion yn y blwch gyda'ch meddyginiaeth.

  • aflonyddwch meddwl (teimlo'n bigog)
  • golwg aneglur
  • dryswch
  • rhwymedd
  • rhithdybiau
  • anhawster cysgu
  • anhawster llyncu
  • anhawster gwneud dŵr
  • pendro
  • ceg sych
  • gwddf sych
  • croen sych
  • cyffro
  • llygad yn anghyfforddus, ac yn fwy sensitif i olau a phwysau yn y llygad
  • curiad calon cyflym
  • cochni (croen yn cochi)
  • llid y deintgig (deintgig poenus, llidus)
  • rhith-weld pethau
  • tymheredd uchel
  • problemau cof
  • cyfog (teimlo’n sâl)
  • nerfusrwydd
  • aflonyddwch
  • brech ar y croen
  • syched
  • chwydu (bod yn sâl)

Ynglŷn ag orphenadrine

  • Ar gael ar ffurf: hylif
  • Hanner oes: tuag 14 awr

Sgil-effeithiau posibl

Cyffredin (rhwng 1 o bob 10 ac 1 o bob 100 o bobl):
  • golwg aneglur
  • pendro
  • ceg sych
  • teimlo'n aflonydd
  • cyfog (teimlo’n sâl)
  • anhwylder ar y stumog
Anghyffredin (rhwng 1 o bob 100 ac 1 o bob 1,000 o bobl):
  • dryswch
  • rhwymedd
  • anhawster cysgu
  • anhawster gwneud dŵr
  • cyffro
  • curiad calon cyflym
  • rhith-weld pethau
  • penysgafn
  • nerfusrwydd
  • problemau gyda chydsymud
  • tawelyddu (cysglyd)
  • trawiadau (ffitiau)
Prin (rhwng 1 o bob 1,000 ac 1 o bob 10,000 o bobl):
  • problemau cof

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig