Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Pa sgil-effeithiau y gall cyffuriau gwrthseicotig eu hachosi?
Mae gan bob cyffur gwrthseicotig ei sgil-effeithiau posibl ei hun. Ni fydd pawb sy'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn profi sgil-effeithiau.
Mae'r dudalen hon yn rhestru'r sgil-effeithiau mwyaf difrifol sy'n bosibl gydag unrhyw gyffur gwrthseicotig. Mae rhai o'r sgil-effeithiau hyn yn brin.
- effeithiau gwrthfysgarinig
- gwlychu'r gwely
- anhwylderau gwaed
- problemau tymheredd y corff
- effeithiau emosiynol
- problemau llygaid
- problemau'r galon
- anhwylderau'r afu
- syndrom metabolig
- syndrom malaen cyffuriau niwroleptig (NMS)
- sgil-effeithiau niwrogyhyrol
- tawelyddu (cysglyd)
- trawiadau (ffitiau)
- problemau rhywiol a hormonaidd
- problemau croen
- ymddygiad a theimladau am ladd eich hun
- dyscinesia cam-symud araf (TD)
- seicosis araf
- magu pwysau
Gall rhai mathau o gyffuriau gwrthseicotig hefyd gael sgil-effeithiau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma. Mae gan Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain restr A-Z o gyffuriau sydd wedi'u trwyddedu i'w defnyddio yn y DU. Mae gan y rhestr hon ddolenni i gael rhagor o wybodaeth am bob cyffur, gan gynnwys gwybodaeth am sgil-effeithiau.
Gweler ein tudalen ar ymdopi â sgil effeithiau am arweiniad ar beth i'w wneud os ydych chi'n profi un o'r sgîl-effeithiau hyn.
Effeithiau gwrthfysgarinig
Sgil-effeithiau a achosir gan newidiadau i lefel y cemegyn asetylcolin yn eich corff yw effeithiau gwrthfysgarinig. Weithiau gelwir yr effeithiau hyn yn effeithiau gwrthgolinergig.
Os yw lefel eich asetylcolin yn newid, gall hyn gael effeithiau dros eich corff i gyd. Mae'r effeithiau hyn yn cynnwys:
- golwg aneglur
- dryswch a chynnwrf
- rhwymedd, a all fygwth bywyd os na chaiff ei drin
- anhawster gwneud dŵr
- cysgadrwydd
- ceg sych, a all achosi pydredd dannedd yn y tymor hir
- trafferthion cael codiad
- rhith-weld pethau
- croen poeth neu sych, a chwysu llai
- pwysedd cynyddol yn y llygaid
- pwysedd gwaed isel (mae cymryd bath poeth yn cynyddu’r risg hon)
- cyfog (teimlo’n sâl)
- curiad calon cyflym a rhythm calon cynhyrfus.
Mae effeithiau gwrthfysgarinig yn fwy cyffredin gyda rhai cyffuriau gwrthseicotig nag eraill. Yn benodol, gall clozapine fod yn fwy tebygol o achosi rhwymedd difrifol na mathau eraill o gyffuriau gwrthseicotig.
Gall yr effeithiau hyn hefyd ddigwydd gyda mathau eraill o feddyginiaeth, fel cyffuriau gwrth-iselder trichylchol a chyffuriau gwrth-Parkinson.
Gyda haloperidol roedd fy nhafod i'n hongian allan o'm ceg ac roedd fy ngwefusau'n ymestyn yn llydan ac yn agored. Gwnaeth quetiapine i mi deimlo'n chwil i ddechrau, ac fe wnes i fagu llwyth o bwysau.
Agranulocytosis
Mae agranulocytosis yn anhwylder gwaed sy'n golygu colli un math o gell gwyn y gwaed. Mae'n golygu eich bod yn fwy tebygol o ddal heintiau ac yn llai abl i'w hymladd. Mae'n ddifrifol iawn ac mae pobl wedi marw o'r anhwylder.
Os oes gennych y symptomau canlynol, gall fod yn arwydd nad yw eich system imiwnedd yn gweithio cystal ag y dylai:
- dolur gwddf
- wlserau ceg
- twymyn neu oerfel.
Os bydd gennych un o'r symptomau hyn, dylech gysylltu â'ch meddyg ar unwaith.
Mae'r risg o agranulocytosis yn uwch gyda clozapine na chyffuriau gwrthseicotig eraill. Os ydych chi'n cymryd clozapine, byddwch chi'n cael profion gwaed rheolaidd i wirio hyn.
Anhwylderau ceulo gwaed (thrombo-emboledd gwythiennol neu VTE)
Mae'r rhain yn cynnwys thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) a thrombosis yr ysgyfaint (clot gwaed yn yr ysgyfaint), a all beryglu bywyd.
Llai o gelloedd gwaed gwyn
Taking antipsychotics may cause a reduction in your white blood cells.
Effeithiau emosiynol
Weithiau gall cyffuriau gwrthseicotig wneud i chi deimlo:
- yn orbryderus
- yn gynhyrfus
- yn gythryblus
- yn ymosodol
- yn isel eich ysbryd (er y gall rhai cyffuriau gwrthseicotig gael effaith gwrth-iselder, gan wneud i chi deimlo'n llai isel)
- yn aflonydd ac yn methu cadw'n llonydd
- allan o gysylltiad â realiti
- yn tynnu nôl yn gymdeithasol, ac yn teimlo ar wahân i'r rhai o'ch cwmpas.
Problemau llygaid
Gall rhai cyffuriau gwrthseicotig achosi problemau llygaid amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- golwg aneglur ac anhawster darllen
- croniad o haenau gronynnog yn y gornbilen a'r lens. Nid yw hyn fel arfer yn effeithio ar eich golwg
- dirywiad y retina, sef y rhan o'r llygad sy'n sensitif i olau. Gall hyn effeithio ar eich golwg
- glawcoma, sy'n gyflwr llygaid difrifol
- argyfwng oculogyric, sy'n effeithio ar y cyhyrau sy'n rheoli symudiadau eich llygaid. Gall achosi i'ch llygaid droi'n sydyn, felly ni allwch reoli ble rydych chi'n edrych.
Mae gan bob cyffur gwrthseicotig y potensial hefyd i achosi glawcoma ongl gul. Mae hwn yn argyfwng meddygol. Os ydych chi erioed wedi cael glawcoma neu broblemau llygaid, dylech fod yn ofalus iawn ynghylch cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Efallai y byddwch am osgoi rhai cyffuriau gwrthseicotig yn gyfan gwbl, yn enwedig y rhai ag effeithiau gwrthfysgarinig.
Os ydych yn pryderu am hyn, gallwch siarad â'ch meddyg neu seiciatrydd i gael gwybod mwy.
Problemau'r galon
Gall cyffuriau gwrthseicotig achosi rhai problemau ar y galon, fel:
- cyfradd curiad y galon yn uwch
- crychguriadau'r galon, sef curiadau calon sy'n dod yn fwy amlwg yn sydyn yn eich brest
- effeithiau ar rythm eich calon. Mae hyn wedi achosi marwolaeth sydyn mewn achosion eithafol. Mae'r risg o hyn wedi'i chysylltiedig benodol o fod ar ddos uchel, neu gymryd mwy nag un cyffur gwrthseicotig ar yr un pryd.
Gweler ein tudalennau ar gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel a dosau cyffuriau gwrthseicotig am ragor o wybodaeth am risgiau problemau'r galon tra'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi reoli'r risgiau hyn.
Syndrom metabolig
Syndrom metabolig yw'r enw meddygol ar gyfuniad o'r symptomau canlynol:
- magu pwysau a gordewdra
- siwgr gwaed uchel
- diabetes
- pwysedd gwaed uchel
- colesterol uchel.
Nid oes rhaid i chi brofi'r holl symptomau hyn i gael diagnosis o syndrom metabolig.
Gall cymryd cyffuriau gwrthseicotig gynyddu eich risg o ddatblygu syndrom metabolig. Os ydych chi'n profi syndrom metabolig, mae hyn yn golygu eich bod mewn mwy o berygl o ddatblygu:
- diabetes
- strôc
- clefyd y galon.
Mae'r risg o hyn yn cynyddu hyd yn oed yn fwy os oes gennych ffordd o fyw afiach. Efallai y bydd eich meddygon yn awgrymu ceisio bwyta diet mwy iach a chael digon o ymarfer corff er mwyn helpu i leihau'r risg hon.
Gweler ein tudalennau ar fwyd a hwyliau am awgrymiadau ar fwyta'n iach, ac ymarfer corff a'ch iechyd meddwl am lawer o ffyrdd i fod yn fwy actif. Os oes gennych chi berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, efallai y bydd ein tudalennau ar broblemau bwyta yn eich helpu.
Bydd angen i chi hefyd gael archwiliadau iechyd rheolaidd cyn ac yn ystod eich triniaeth. Gweler ein tudalen ar gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel am ragor o wybodaeth.
Syndrom malaen niwroleptig (NMS)
Mae NMS yn anhwylder niwrolegol prin ond difrifol, sy'n golygu ei fod yn effeithio ar eich system nerfol.
Gall ddigwydd fel un o sgil-effeithiau cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Gall hefyd ddigwydd fel symptom diddyfnu os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig. Os bydd yn digwydd, mae fel arfer yn datblygu’n gyflym dros 24 i 72 awr.
Y symptomau yw:
- chwysu neu dwymyn, gyda thymheredd uchel
- cryndod (ysgwyd), anhyblygedd (teimlo’n anystwyth a methu symud eich cyhyrau) neu golli symudiad
- anhawster siarad a llyncu
- curiad calon cyflym, anadlu cyflym iawn a newidiadau mewn pwysedd gwaed
- newidiadau mewn ymwybyddiaeth, gan gynnwys dryswch a syrthni neu goma.
Tymheredd uchel ac anhyblygedd fel arfer yw’r symptomau cyntaf i ymddangos. Mae hyn yn golygu y gall NMS weithiau gael ei ddrysu â haint. Ond gall NMS fod yn beryglus iawn os na chaiff ei ganfod a'i drin. Mewn achosion prin, gall fod yn angheuol.
Os ydych yn poeni bod gennych symptomau NMS, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu ar frys neu ffonio 999 am ambiwlans.
Beth yw'r driniaeth ar gyfer NMS?
Os bydd gennych NMS, mae'r driniaeth yn debygol o gynnwys eich derbyn i'r ysbyty, atal eich meddyginiaeth gwrthseicotig a lleihau eich twymyn.
Defnyddir rhai dulliau eraill o'i drin, er nad yw'r dystiolaeth ar gyfer defnyddio'r rhain mor gryf. Gall y dulliau hyn gynnwys defnyddio’r canlynol:
- meddyginiaeth i ymlacio'ch cyhyrau
- meddyginiaeth i wrthsefyll yr effeithiau cemegol y credir eu bod yn achosi NMS
- therapi electrogynhyrfol (ECT).
Gall y symptomau bara am ddyddiau, neu hyd yn oed wythnosau, ar ôl rhoi’r gorau i’r feddyginiaeth sy’n eu hachosi. Mae llawer o bobl sydd wedi cael NMS unwaith yn mynd ymlaen i’w gael eto.
Os bydd gennych NMS, dim ond os ydyn nhw’n hanfodol i’ch iechyd meddwl y dylech gymryd cyffuriau gwrthseicotig wedi hynny. Yn ogystal, dylech gael y dos isaf posibl sy'n dal i roi'r effeithiau cadarnhaol.
Sgil-effeithiau niwrogyhyrol
Mae cyffuriau gwrthseicotig yn ymyrryd â dopamin, sef cemegyn yn yr ymennydd, sy'n bwysig wrth reoli symudiad. Felly, gall cyffuriau gwrthseicotig achosi anhwylderau symud. Mae hyn i'w weld yn fwy cyffredin gyda chyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf (hŷn) ac yn llai tebygol gyda'r cyffuriau gwrthseicotig mwy newydd. Maent yn cynnwys y canlynol:
Parkinsonism
Mae rhai sgil-effeithiau niwrogyhyrol yn debyg i effeithiau clefyd Parkinson, a achosir yn sgil colli dopamin. Gelwir yr effeithiau hyn yn Parkinsonism, ac maent yn cynnwys y canlynol:
- Mae eich cyhyrau'n mynd yn anystwyth ac yn wan.
- Rydych chi'n ei chael hi'n anoddach gwneud mynegiant wyneb.
- Mae rhai symudiadau bach yn teimlo'n anodd, fel ysgrifennu neu godi gwrthrychau â'ch dwylo.
- Rydych chi'n datblygu cryndod araf (ysgwyd), yn enwedig yn eich dwylo.
- Mae'ch bysedd yn symud fel petaech chi'n rholio gwrthrych bach rhyngddynt.
- Wrth gerdded, rydych chi'n pwyso ymlaen, yn cymryd camau bach ac yn ei chael hi'n anodd cychwyn a stopio.
- Mae eich ceg yn hongian ar agor, ac rydych chi'n driblo.
Colli symudiad
Efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd symud a gall eich cyhyrau deimlo'n wan iawn.
Mae lefelau isel o egni i symud hefyd yn symptom o iselder, felly os ydych chi'n profi hyn efallai y bydd eich meddyg neu seiciatrydd yn gofyn a ydych chi'n teimlo'n isel.
Akathisia (aflonyddwch)
Mae akathisia yn deimlad o aflonyddwch a all effeithio ar eich corff a'ch emosiynau. Er enghraifft, efallai'ch bod chi'n gwneud y canlynol:
- teimlo'n aflonydd iawn ac yn methu eistedd yn llonydd
- siglo o droed i droed, siffrwd eich coesau, croeswch neu siglo eich coesau dro ar ôl tro, neu'n cerdded ar hyd ac ar led ystafell yn barhaus
- teimlo'n llawn straen emosiynol ac yn anesmwyth.
Efallai y bydd meddygon yn drysu'r symptomau hyn ac yn meddwl eich bod yn orbryderus neu'n gynhyrfus. Os nad ydynt yn gwybod bod gennych akathisia, efallai y byddant yn awgrymu cymryd dos uwch o'ch cyffuriau gwrthseicotig, i'ch helpu i deimlo'n dawelach.
Ond os oes gennych akathisia, ni fydd cynyddu eich dos o gyffuriau gwrthseicotig yn helpu. Felly os cewch ddiagnosis o akathisia, efallai y bydd eich meddyg neu seiciatrydd yn awgrymu cymryd meddyginiaeth arall i leihau ei heffeithiau, yn ogystal â'ch cyffur gwrthseicotig.
Gwingiadau cyhyrau
Gwingiadau cyhyrau yw pan fydd cyhyr yn eich corff yn cyfangu yn erbyn eich rheolaeth, ac ni allwch ymlacio'r cyhyr. Gallant fod yn boenus a gallant gael effeithiau difrifol. Er enghraifft:
- Os bydd gwingiad yn effeithio ar gyhyrau eich laryncs (blwch llais), efallai y byddwch yn cael problemau gyda'ch llais. Gelwir hyn yn ddysffonia. Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd siarad yn normal, a gall pobl ei chael hi'n anodd eich deall.
- Os yw gwingiad yn effeithio ar y cyhyrau sy'n rheoli symudiadau eich llygaid, gall wneud i'ch llygaid droi'n sydyn. Gall olygu na allwch reoli lle rydych chi'n edrych. Gelwir hyn yn argyfwng oculogyric. Gall hyn deimlo'n annymunol iawn. Gallai fod yn beryglus hefyd, er enghraifft os yw'n digwydd tra'ch bod chi'n croesi'r ffordd neu'n arllwys dŵr berwedig o degell.
Cefais brofiad o wingo, baglu a lleferydd aneglur.
Tawelyddu (teimlo’n gysglyd)
Mae tawelyddu, neu awydd cwsg, yn sgil-effaith gyffredin i lawer o gyffuriau gwrthseicotig. Mae'n fwy cyffredin gyda rhai cyffuriau gwrthseicotig nag eraill, fel clorpromazine ac olanzapine.
Gall tawelyddu ddigwydd yn ystod y dydd yn ogystal â'r nos. Felly os ydych chi'n profi hyn efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd iawn codi yn y bore. Neu fe allai deimlo’n anodd ysgogi eich hun i fod yn actif yn ystod y dydd.
Mae cyffuriau gwrthseicotig yn fy llorio ac yn ei gwneud hi'n anodd iawn gweithredu'n normal.
Problemau rhywiol a hormonaidd
Mae problemau rhywiol yn un o sgil-effaith posibl ar gyfer rhai cyffuriau gwrthseicotig. Mae'r symptomau'n amrywio i bawb, a gallant gynnwys:
- acne (cyflwr sy'n achosi smotiau a chroen olewog)
- mwy o flew yn tyfu ar draws yr wyneb a'r corff
- osteoporosis (clefyd lle mae'ch esgyrn yn gwanhau ac yn fwy tebygol o dorri)
- llai o ddyhead rhywiol, anhawster i gael eich cyffroi ac anallu i gael orgasm
- bronnau'n datblygu a llaeth y fron yn cael ei gynhyrchu. Gall hyn effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys os cawsoch eich nodi'n wryw adeg eich geni.
Os oes gennych chi bidyn, efallai y byddwch chi'n bwrw had yn ddigymell neu'n cael priapaeth (codiad poenus sy'n para am sawl awr). Os cewch chi briapaeth, mae angen sylw meddygol brys. Cysylltwch â'ch meddyg teulu am apwyntiad brys neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys (A&E).
Os oes gennych wain, efallai y byddwch yn profi sychder yn y wain. Ac os byddech fel arfer yn cael mislif, efallai y byddant yn dod i ben neu'n mynd yn afreolaidd. Ond gall y newidiadau hyn fod yn anrhagweladwy. Efallai y bydd eich mislif yn dychwelyd, felly gallech feichiogi os ydych chi'n cael rhyw heb ddiogelwch.
Mae'n bosibl y bydd rhai cyffuriau gwrthseicotig ail genhedlaeth yn llai tebygol o achosi'r sgil-effeithiau rhywiol hyn. Gallwch siarad â'ch meddyg, seiciatrydd neu fferyllydd os ydych yn pryderu am yr effeithiau hyn.
Mae amisulpride wedi gwneud i'm bronnau dyfu a llaetha. Ar ôl cael profion gwaed, mae'n debyg bod fy lefelau prolactin wedi cynyddu'n sylweddol, a dyna pam y cefais i'r sgil-effeithiau hynny. Dwi hefyd nawr mewn perygl o gael osteoporosis yn y dyfodol.
Problemau croen
Gall cyffuriau gwrthseicotig achosi problemau croen amrywiol, er enghraifft:
- Brechau wedi'u hachosi gan alergedd Mae hyn fel arfer yn digwydd o fewn y ddau fis cyntaf o ddechrau'r driniaeth. Maent fel arfer yn diflannu pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd y cyffur. Os cewch frech, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu ar unwaith er mwyn iddynt ei gweld.
- Mwy o sensitifrwydd i olau'r haul, yn enwedig ar ddosau uchel. Os ydych chi'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig, efallai y bydd angen i chi gymryd gofal arbennig i amddiffyn eich hun rhag yr haul.
Ymddygiad neu deimladau am ladd eich hun
Bydd rhai pobl yn cael meddyliau a theimladau am hunanladdiad pan fyddant yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Gall hyn ddigwydd yn enwedig yn ystod camau cynnar cymryd y feddyginiaeth hon.
Os ydych chi'n pryderu am gael teimladau am hunanladdiad wrth gymryd cyffuriau gwrthseicotig, siaradwch â'ch meddyg neu seiciatrydd.
Dyscinesia cam-symud araf (TD)
Mae dyscinesia cam-symud araf (TD) yn un o sgil-effeithiau rhai meddyginiaethau, cyffuriau gwrthseicotig yn bennaf. Mae'n golygu profi symudiadau troellog sydyn, herciog neu araf yn eich wyneb neu'ch corff.
Gweler ein tudalennau ar dyscinesia cam-symud araf i ddarllen mwy. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am beth yw TD, pa driniaethau a chymorth sydd ar gael, a ffyrdd o helpu eich hun i ymdopi.
Seicosis araf
Mae seicosis araf yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio symptomau seicotig newydd sy'n dechrau ar ôl i chi fod yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig am gyfnod. Mae rhai gwyddonwyr yn credu y gall y symptomau hyn gael eu hachosi gan eich meddyginiaeth, nid eich salwch gwreiddiol yn dychwelyd. Mae'r gair 'araf' (tardive) yn golygu ei fod yn effaith sydd wedi'i gohirio ers cymryd y feddyginiaeth.
Mae'r risg hon o gael seicosis araf yn un rheswm ei bod yn syniad da rhoi'r gorau i feddyginiaeth yn araf, os byddwch yn penderfynu rhoi'r gorau i'w chymryd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych wedi bod yn ei chymryd ers amser maith, gan fod rhoi'r gorau i'r feddyginiaeth yn araf yn rhoi amser i'ch ymennydd ail-addasu.
Magu pwysau
Mae magu pwysau yn sgil-effaith gyffredin iawn i lawer o gyffuriau gwrthseicotig, yn enwedig rhai o’r cyffuriau ail genhedlaeth (mwy newydd). Gall hyn fod oherwydd bod cyffuriau gwrthseicotig yn cynyddu eich awydd am fwyd, felly rydych chi eisiau bwyta mwy nag arfer. Gallant hefyd achosi i chi ddod yn llai actif, er enghraifft os ydynt yn gwneud i chi deimlo'n flinedig iawn.
Os ydych chi'n magu llawer o bwysau, gall hyn gynyddu eich risg o ddatblygu diabetes a phroblemau iechyd corfforol eraill. Mae hefyd yn ddealladwy os ydych chi'n teimlo'n ofidus neu'n rhwystredig am y newidiadau hyn i'ch corff.
Os byddwch yn magu pwysau, efallai y bydd eich meddyg neu seiciatrydd yn awgrymu newid i feddyginiaeth wrthseicotig arall. Gallant hefyd awgrymu eich bod yn ceisio bwyta diet iach a chynyddu lefel eich gweithgarwch corfforol.
Gweler ein tudalennau ar fwyd a hwyliau am awgrymiadau ar fwyta'n iach, ac ymarfer corff a'ch iechyd meddwl am lawer o ffyrdd i fod yn fwy actif. Os oes gennych chi berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, efallai y bydd ein tudalennau ar broblemau bwyta yn eich helpu.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.