Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Beth yw pigiad depo?
Mae pigiad depo yn fath o feddyginiaeth sy'n rhyddhau'n araf. Mae'r pigiad yn defnyddio hylif sy'n rhyddhau'r feddyginiaeth yn araf, felly mae'n para llawer hirach.
Gellir defnyddio pigiadau depo ar gyfer gwahanol fathau o gyffuriau, gan gynnwys rhai cyffuriau gwrthseicotig. Mae'r feddyginiaeth a ddefnyddir mewn pigiadau depo yr un peth â mathau eraill o'r cyffur, fel tabledi neu hylif.
Pam fyddwn i'n dewis cael pigiad depo?
Gallai pigiad depo fod yn opsiwn da i chi:
- os ydych chi'n ei chael hi'n anodd llyncu meddyginiaeth
- os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cofio cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd
- os yw'n well gennych beidio â gorfod meddwl am gymryd meddyginiaeth bob dydd.
Efallai y byddwch hefyd yn cael pigiad depo os yw'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal yn cytuno bod angen y cyffur arnoch, ond yn meddwl y gallech ei chael hi'n anodd ei gymryd yn rheolaidd ar ffurf wahanol.
Ond fel arfer byddwch ond yn cael cynnig pigiad depo:
- os ydych chi eisoes wedi bod yn cymryd eich meddyginiaeth ers tro
- os ydych chi'n gwybod ei bod yn gweithio'n dda i chi
- os ydych chi'n disgwyl parhau i'w chymryd am amser hir.
Nid yw pob cyffur gwrthseicotig ar gael fel pigiadau depo. Gweler ein rhestr A-Z o gyffuriau gwrthseicotig neu ein tudalen ar gymharu cyffuriau gwrthseicotig i gael gwybodaeth am y gwahanol ffurfiau sydd ar gael ar gyfer pob cyffur.
Sut mae pigiadau depo yn cael eu rhoi?
- Fel arfer rhoddir pigiadau bob dwy, tair neu bedair wythnos, yn dibynnu ar y cyffur. Gall rhai cyffuriau gwrthseicotig bara am gyfnodau hirach pan gânt eu rhoi fel pigiad depo.
- Fel arfer bydd eich pigiad yn cael ei roi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn lleoliad cymunedol. Er enghraifft, gall hyn fod mewn clinig, canolfan feddygol neu yn eich cartref eich hun. Ni fyddwch yn cael pigiad depo i'w ddefnyddio gartref ar eich pen eich hun.
- Mae'r pigiad yn cael ei wneud mewn cyhyr mawr. Mae'n debygol mai eich pen-ôl neu gyhyr mwyaf eich ysgwydd, fydd hyn. Efallai y bydd angen rhoi rhai mathau o gyffuriau gwrthseicotig i mewn i gyhyr penodol. Dylai pwy bynnag sy'n rhoi eich pigiad ddilyn y canllawiau ar gyfer eich meddyginiaeth benodol, a ddylai fod yn y daflen gwybodaeth i gleifion (PIL) ar gyfer eich meddyginiaeth.
- Efallai y byddwch yn gallu newid rhwng gwahanol gyhyrau ac ochrau eich corff. Mae hyn er mwyn helpu i atal unrhyw broblemau ar safle'r pigiad.
Taflen Gwybodaeth i Gleifion (PIL)
Os ydych yn cael pigiadau depo, efallai na fyddwch yn codi eich presgripsiwn eich hun ar gyfer eich meddyginiaeth. Gall hyn olygu na fyddwch yn cael y Daflen Gwybodaeth i Gleifion (PIL) sydd fel arfer yn dod yn y pecyn cyffuriau.
Mae bob amser yn syniad da darllen y daflen yn ofalus cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth. Felly os na fyddwch yn ei chael gallwch ofyn am gopi gan y sawl sy'n rhoi'r pigiad, neu eich meddyg neu fferyllydd. Neu gallwch edrych ar ein rhestr A-Z o gyffuriau gwrthseicotig i weld dolenni i'r Daflen Gwybodaeth i Gleifion ar gyfer y gwahanol fathau o gyffuriau gwrthseicotig, gan gynnwys pigiadau depo.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.