Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrthseicotig

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.

Pa ddos o gyffuriau gwrthseicotig y dylwn i ei gymryd?

Mae eich dos yn golygu faint o'ch meddyginiaeth gwrthseicotig y dylech ei gymryd (eich dos), a pha mor aml y dylech ei gymryd.

Bydd dod o hyd i'r dos gorau i chi yn dibynnu ar lawer o ffactorau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y cyffur penodol a roddwyd i chi ar bresgripsiwn. Gall dosau diogel ar gyfer gwahanol gyffuriau gwrthseicotig amrywio'n fawr.
  • P'un a ydych chi'n cymryd meddyginiaeth arall. Gall rhai cyffuriau ryngweithio â chyffuriau gwrthseicotig os byddwch yn eu cymryd ar yr un pryd neu o gwmpas yr un pryd.
  • Yr hyn rydych sy'n gweithio i chi. Mae meddyginiaeth yn gweithio'n wahanol i bawb. Gall ei heffeithiau ddibynnu ar ffactorau fel eich oedran, pwysau, genynnau, iechyd cyffredinol, gweithrediad yr iau a'r arennau, a ph'un a allwch chi gymryd y cyffur fel yr argymhellir.

Gallwch chi a'ch meddyg neu seiciatrydd weithio gyda'ch gilydd i weld a yw eich cyffur gwrthseicotig yn eich helpu a ph’un a yw'n gwbl addas i chi. Dylent allu dweud wrthych sut y gallai'r cyffur eich helpu, a phryd y byddwch yn debygol o deimlo effeithiau'r cyffur. Y nod yw dod o hyd i ddos lle mae'r buddion yn gorbwyso unrhyw sgil-effeithiau negyddol.

Cofiwch: mae gennych hawl i wybod pa ddos a ragnodwyd i chi, a pham.

Sut alla i weithio allan y dos gorau i fi?

  • Dylech ddechrau ar ddos isel bob amser. I lawer o bobl, mae cynnal dosau isel yr un mor effeithiol â dosau uwch. Dylai'r dos fod yn ddigon i'r feddyginiaeth gael effaith.
  • Dylech geisio cymryd y dos a roddwyd i chi ar bresgripsiwn i chi am bedair i chwe wythnos i weld sut mae'n gweithio.
  • Efallai y bydd eich meddyg neu seiciatrydd wedyn yn addasu eich dos yn raddol. Ond dylent ond wneud hyn os yw'r ddau ohonoch yn cytuno ei fod yn angenrheidiol.
  • Efallai y gwelwch nad yw eich meddyginiaeth yn gweithio, hyd yn oed os yw'r dos yn cael ei gynyddu i'r dos mwyaf a argymhellir. Neu efallai y gwelwch fod eich meddyginiaeth yn achosi sgil-effeithiau annymunol sy'n anodd byw gyda nhw. Yn yr achos hwn, dylai eich meddyg neu seiciatrydd ystyried cynnig cyffur gwrthseicotig gwahanol i chi.
  • Dylai eich meddyg neu seiciatrydd gofnodi unrhyw benderfyniadau am eich meddyginiaeth yn eich nodiadau meddygol yn glir. Mae hyn yn cynnwys a ddylid dechrau, parhau, stopio neu newid i gyffur arall. Mae'n arbennig o bwysig os yw eich meddyg neu seiciatrydd yn rhoi presgripsiwn am ddos sydd y tu allan i'r ystod arferol a argymhellir ar gyfer y cyffur hwnnw.

Beth yw effeithiau cymryd dos uwch?

Po uchaf yw eich dos, y mwyaf tebygol ydych chi o gael problemau gyda sgil-effeithiau. Er enghraifft, gall rhai cyffuriau gwrthseicotig achosi sgil-effeithiau sy’n effeithio ar eich gallu i wneud y canlynol:

  • codi yn y bore
  • symud eich cyhyrau yn naturiol
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd.

Gall dosau cymedrol i uchel o gyffuriau gwrthseicotig hefyd gynyddu'r risg o dyscinesia cam-symud araf. Mae hwn yn sgil-effaith ddifrifol sy'n achosi symudiadau yn eich wyneb neu'ch corff na allwch eu rheoli.

Rhoi presgripsiwn am PRN

Mae rhoi presgripsiwn am PRN yn golygu rhoi dosau ychwanegol o'ch meddyginiaeth i chi, yn ogystal â'ch dos dyddiol rheolaidd. Mae 'PRN' yn sefyll am 'pro re nata', sy'n golygu 'yn ôl yr amgylchiadau' yn Lladin. Felly bydd hyn ond yn digwydd mewn rhai amgylchiadau.

Rydych chi fwyaf tebygol o gael dos PRN os ydych chi'n aros yn yr ysbyty, oherwydd:

  • bod y staff meddygol yn meddwl bod angen ychydig mwy o feddyginiaeth arnoch mewn rhai sefyllfaoedd, neu
  • rydych chi wedi gofyn am ychydig mwy o feddyginiaeth mewn rhai sefyllfaoedd.

Dylid cofnodi unrhyw ddosau PRN yn ofalus yn eich nodiadau meddygol. Dylai eich meddyg neu seiciatrydd hefyd eich monitro i wneud yn siŵr nad ydych yn cael dos dyddiol sy'n rhy uchel.

 

Ydy fy nos dyddiol yn rhy uchel?

Mae Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain yn argymell uchafswm dosau ar gyfer llawer o feddyginiaethau sydd wedi'u trwyddedu yn y DU, gan gynnwys cyffuriau gwrthseicotig. Gallwch chwilio ar restr A-Z o gyffuriau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain i ddod o hyd i wybodaeth am unrhyw feddyginiaeth a roddwyd i chi drwy bresgripsiwn, gan gynnwys manylion y dosau a argymhellir.

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw cyffuriau gwrthseicotig wedi'u trwyddedu i'w defnyddio uwchlaw'r uchafswm dos a argymhellir fel y cyhoeddir gan Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain. Ond mae rhai sefyllfaoedd lle y gallech gael dos dyddiol uwch na'r uchafswm a argymhellir. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Os yw eich meddyg neu seiciatrydd yn rhoi presgripsiwn am ddos uwch i chi na'r dos dyddiol a argymhellir. Gallant ddewis gwneud hyn yn ôl eu disgresiwn, ond ni ddylai fod yn gyffredin.
  • Os ydych yn cymryd mwy nag un cyffur gwrthseicotig ar yr un pryd.
  • Os ydych yn yr ysbyty ac yn derbyn presgripsiwn PRN. Dyma'r sefyllfa fwyaf tebygol lle gallai eich dos dyddiol fod yn uwch na'r terfyn a argymhellir.

Mae gennych hawl i wybod faint o feddyginiaeth rydych yn ei chymryd i gyd, gan gynnwys dosau PRN. Os nad ydych yn hyderus ynghylch cyfrifo hyn, dylai eich meddyg, seiciatrydd neu fferyllydd allu ei esbonio i chi.

Efallai y bydd gan eich fferyllydd hefyd siart penodol wedi'i chyhoeddi gan POMH-UK (Prescribing Observatory for Mental Health UK) i gyfrifo dosau cyffuriau gwrthseicotig. Gallant ddefnyddio hon fel canllaw i'ch helpu i gyfrifo'ch dos cyffredinol yn haws.

Os cewch bresgripsiwn am fwy na'r terfyn dyddiol a argymhellir, mae gan eich meddyg neu seiciatrydd ddyletswydd i adolygu hyn bob dydd. Ond gallwch chi bob amser siarad â'ch meddyg neu seiciatrydd os ydych chi'n teimlo bod eich dos dyddiol yn rhy uchel. Gallwch ofyn iddynt adolygu eich dos ar unrhyw adeg, hyd yn oed os yw o fewn yr ystod a argymhellir.

Gweler ein tudalennau ar roi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig a dewisiadau amgen i gyffuriau gwrthseicotig am wybodaeth am opsiynau eraill.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig