Cerddoriaeth a fy iechyd meddwl
Mae Laura yn siarad am y ffordd mae gwrando a chwarae cerddoriaeth wedi helpu ei hiechyd meddwl
Mae Laura yn siarad am y ffordd mae gwrando a chwarae cerddoriaeth wedi helpu ei hiechyd meddwl. Mae Laura’n gobeithio mynd ymlaen i astudio therapi cerdd.
Mae cerddoriaeth bob amser wedi cael effaith anferth ar fy iechyd meddwl. P’un ai'n chwarae neu wrando ar gerddoriaeth, rydw i bob amser wedi teimlo cysylltiad cryf â cherddoriaeth.
Ar adegau, pan oeddwn i’n teimlo’n erchyll, ac roeddwn i’n niweidio fy hunan, cefais fy achub gan gerddoriaeth - mae bob amser wedi gwneud hynny i fi. Rydw i wedi cael profiadau di-ri o drawma, sy’n cynnwys cael fy nghamdrin, ac mae cerddoriaeth wedi bod o gymorth i fi trwy’r adegau anodd hynny. Cerddoriaeth yw fy mywyd, a heblaw amdani, mae’n bosib na fyddwn i yma heddiw.
"Mae cerddoriaeth yn fy rhyddhau o’r carchar sydd yn fy mhen."
Gallwn i fod yn drist, a byddai cerddoriaeth bob amser yn fy ngwneud i yn hapus. Pan rydw i’n hapus, mae cerddoriaeth yn fy ngwneud i deimlo hyd yn oed yn gryfach. Wrth ysgrifennu hwn, rwy’n gwrando ar gân Evanescence ‘My Immortal’, ac er ei bod yn gân drist, mae’n cadw fi i fynd.
Rwy’ bob amser wedi dwlu ar gerddoriaeth. Rwy’n cofio mai fy hoff gân, yn blentyn, oedd ‘I’m not a Girl’ gan Britney Spears. Doeddwn I erioed yn gallu deall pam roedd gen i’r fath gysylltiad â’r gân ond roedd gwrando arni yn fy nghryfhau, hyd yn oed pan oeddwn i’n ifanc iawn.
Wrth i fi dyfu, roeddwn i wedi dwlu ar y band McFly. Trwy fy nhaith yn brwydro gyda fy iechyd meddwl, mae McFly wedi bod yn arwyr i fi. Os oeddwn i’n teimlo’n isel, byddai gwrando ar eu caneuon yn fy ngwneud i i ddod at fy nghoed eto - caneuon fel ‘I’ll be okay’ a ‘Not Alone’.
Diolch iddyn nhw, doeddwn i ddim yn teimlo'n unig rhagor, ac roeddwn i'n teimlo'n gryfach. Doedd y caneuon ddim yn ymwneud ag iechyd meddwl (dyna sut roeddwn i'n eu gweld, beth bynnag) ond roedden nhw bob amser yn fy achub i.
"Roeddwn i’n teimlo nad oedd neb yn gallu fy neall fel roedd cerddoriaeth yn gwneud. Dyna’r peth gyda cherddoriaeth, mae fel petai cerddoriaeth yn deall yr hyn rwyt ti’n mynd drwyddo."
Pan gollais fy nghwningen pan oeddwn yn blentyn, byddwn i’n gwrando ar y gân ‘There’s gotta be more to life’ gan Stacie Orrico. Pan rwy’n cael pethau’n anodd, a sefyllfaoedd yn gwneud i fi deimlo’n wan, yn gorfforol ac yn feddyliol, rwy’n gwrando ar gân Kelly Clarkson, ‘What doesn’t kill you makes you stronger.’ Rwy’n taeru bod y gân honno yn fy ngwneud i i deimlo´n well.
Gallwn i ysgrifennu drwy’r dydd am y modd y mae cerddoriaeth wedi helpu fy iechyd meddwl. Nid gwrando ar gerddoriaeth, mewn rhyw fodd, achubodd fi (neu sy’n parhau i fy achub). Mae chwarae cerddoriaeth hefyd yn fy helpu mewn mwy o ffyrdd nag y gall unrhyw un ddychmygu.
Rwy’n cofio pan oeddwn tua phedair neu bump oed, a fy Mam-gu yn dangos i fi sut oedd chwarae Twinkle Twinkle Little star ar y piano gydag un bys! Hyd yn oed yr adeg honno, roeddwn i’n teimlo’n hapus wrth chwarae’r piano
Pan oeddwn i ychydig yn hŷn, siŵr o fod tua wyth neu naw oed, darganfyddais fy ngwir gariad tuag at gerddoriaeth. Dysgais ganu’r organ gyda fy nhad, dyma oedd yr offeryn cyntaf y dysgais i ei chanu. Roeddwn i wrth fy modd yn canu’r organ, yr unig broblem oedd gen i oedd nad oeddwn i’n ddigon tal i gyrraedd y pedalau! Diolch byth, rwy’ nawr yn dalach nag oeddwn i yn 10, er, ddim cymaint â hynny!
Pan ddysgais i I ganu'r organ, dysgais ganeuon fel “Every Breath You Take” gan The Police, “Sing” gan the Carpenters, “Blowing in the Wind” gan Bob Dylan, “Eidelweiss” gan Richard Rogers a llawer mwy.
Ac yn wir, dysgais i fy hun i chwarae ‘Yellow Submarine’ gan yr anfarwol Beatles! Roeddwn i hefyd yn gallu chwarae o fy nghlyw, felly roeddwn i bob amser yn barod dysgu can y byddwn yn ei chlywed ar CD, ac yn fwy diweddar, YouTube.
"Roedd cerddoriaeth yn tynnu fy sylw oddi ar bethau eraill ac yn fy ngwneud i fi ymlacio. Roeddwn i’n dwlu cael bod yn greadigol a gadael fy nheimladau ddod allan mewn i gân."
Pan oeddwn tua 11 neu 12, roeddwn i eisiau ffeindio hobi newydd; cymerodd e ddim yn hir i fi benderfynu ar y sacsoffon. Rwy’n dal i gofio ymateb fy rhieni pan ddywedais i ‘mod i am ddysgu’r sacsoffon. Roedden nhw’n siŵr mai offeryn swnllyd iawn oedd e. Rwy’ hyd yn oed yn cofio fy mam yn gofyn ‘Oni fyddai hi’n well 'da ti chwarae’r ffliwt neu’r clarinét yn lle?'
Unwaith eto, roedd chwarae'r sacsoffon wedi fy achub o le nad oeddwn i'n hoffi bod, sef y teimlad negyddol hwnnw o gaethiwed. Os ydw i'n gweld bod pethau'n anodd, rwy'n chwarae cerddoriaeth ac yn troi fy nheimladau'n ganeuon. Mae hefyd yn tawelu fy iechyd meddwl llawer mwy na fyddai pobl yn disgwyl.
"Chwarae cerddoriaeth yw fy therapi, mae'n hwyl, ac mae'n rhywbeth rwy' wir yn ei argymell. Mae cerddoriaeth wedi fy ngwneud i'n fwy hyderus ac yn gryfach."
Er ei fod yn brofiad a hanner, rydw i wedi cyflawni cymaint diolch i fy ngherddoriaeth. Rydw i wedi llwyddo mewn dau arholiad ABRSM (gradd un a phump), wedi llwytho fersiynau o ganeuon ar i YouTube (sydd wedi cael eu gweld dros 1,300 o weithiau), wedi ymuno â'r coleg ac wedi llwyddo gyda graddau uchel, ac wedi perfformio mewn nifer o sioeau yn y coleg ac mewn un sioe yn Theatr Glanyrafon yng Nghasnewydd. Os ydw i'n meddwl nôl ar beth rydw i wedi ei gyflawni, dyw e ddim yn teimlo'n bosib. Byddai'r ferch roeddwn i arfer bod erioed wedi gallu gwneud unrhyw beth fel hyn. Fodd bynnag, gyda fy sacsoffon, roedd bywyd yn teimlo'n wahanol; ro'n i'n wahanol. Dim ond fi a fy ngherddoriaeth oedd yn bodoli, a doedd dim ots am unrhyw beth o fy amgylch.
Rwy'n falch fy mod i wedi newid fel person diolch i gerddoriaeth. Rwy'n dwlu ar y dyfyniad hwn:
'Mae cerddoriaeth yn siarad pan mae geiriau yn methu'. Siaradodd cerddoriaeth gyda fi pan nad oeddwn i'n gallu rhoi mewn i eiriau sut oeddwn i'n teimlo.'
Rwy'n lwcus bod gyda fi'r ddawn i chwarae cerddoriaeth. I unrhyw un sy'n edrych am strategaeth ymdopi, ystyriwch gerddoriaeth. Roedd cerddoriaeth wedi helpu fy ngwneud i y person roeddwn i eisiau bod; hapus, mwy hyderus, ddim mor bryderus ac ofnus, ac yn bwysicach fyth, yn teimlo'n gadarnhaol am fy iechyd meddwl.
I gloi, hoffwn i ofyn i chi - beth sy'n helpu eich lles meddyliol? Rhowch eich sylwadau isod a rhannwch nhw gyda fi!
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.