Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gadael CAMHS – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i helpu pobl ifanc i ddeall y rhesymau pam y gallech adael CAMHS a beth i'w ddisgwyl.

Gadael CAMHS

Mae’n bosibl y byddwn ni’n symud ymlaen o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru). Neu mae'n bosibl y byddwn ni’n symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS), neu gymorth iechyd meddwl arall. 

Gall gadael CAMHS neu gael dy ryddhau o CAMHS fod yn gyfnod ansicr iawn. Yn enwedig os ydyn ni’n mynd drwy bethau eraill, fel:

  • Gadael yr ysgol neu fynd yn ôl i’r ysgol
  • Astudio neu straen arholiadau
  • Problemau perthynas
  • Symud i rywle newydd, fel mynd i’r brifysgol

Dylai’r dudalen hon helpu i ateb dy gwestiynau am beth allai ddigwydd pan fyddi di’n gadael CAMHS. 

Mwy o wybodaeth am CAMHS

Mae gennym ragor o wybodaeth yn ein hwb CAMHS, gan gynnwys beth yw CAMHS a beth i'w ddisgwyl. Mae gennym hefyd wybodaeth am restrau aros a dy hawliau.

Pryd fydda i’n gadael CAMHS?

Gall CAMHS fel arfer dy helpu tan byddi di'n 18 oed. Ond mae’n bosibl y bydd CAMHS yn dy ryddhau ar unrhyw oedran, yn dibynnu ar dy sefyllfa. Er enghraifft:

  • Rwyt ti wedi gorffen dy driniaeth, fel therapi. Mae’n bosibl dy fod ti wedi cael nifer penodol o apwyntiadau. Dylai dy dîm CAMHS siarad â ti am sut rwyt ti’n teimlo ac os wyt ti’n barod iddyn nhw dy ryddhau di.
  • Rwyt ti’n ddigon hen i ddefnyddio AMHS, neu bron â chyrraedd yr oedran hwnnw.
  • Rwyt ti’n dewis gadael. Mae’n debyg y bydd dy dîm am drafod hyn gydat chi yn gyntaf.
  • Rwyt ti’n symud i ffwrdd. Fel symud tŷ neu fynd i’r brifysgol.

Mae’n bosibl y bydd rhai elfennau o CAMHS yn dy helpu nes dy fod ti’n 25 oed neu’n hŷn. Bydd hyn yn dibynnu ar dy anghenion a ble rwyt ti’n byw.

Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a ddywedodd wrthym am eu profiad o gael eu rhyddhau:

Mae gen i ffrindiau sy’n 18 oed sy’n dal gyda CAMHS ac mae eu triniaeth yn well. Rydw i’n meddwl ei fod hefyd yn dibynnu ar yr ardal rydych chi ynddi.

Mae fy nyrs yn CAMHS wedi rhoi gwybod i mi pan fyddaf yn 18, y byddaf yn symud i wasanaethau oedolion os byddaf yn teimlo bod angen gwneud hynny. Rhoddodd sicrwydd i mi eu bod nhw yr un mor barod i helpu ac yr un mor gefnogol.

Roedden nhw’n fy nghadw i cyhyd ag y gallen nhw fy nghadw i yn CAMHS. Roedd elfennau anodd yn perthyn i hynny oherwydd hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod amdano, mae’n dal yn newid eithaf sydyn ac mae angen mynd ati yn ofalus – Katie, 18 oed

Beth allai ddigwydd pan fyddaf yn gadael CAMHS?

Mae CAMHS fel arfer yn helpu pobl ifanc hyd at 18 oed. Ond pan fyddi di’n gadael CAMHS, dylai dy dîm gofal gynnig o leiaf 1 o’r dewisiadau hyn i ti.

Dy ryddhau

Gall rhyddhau fod yn frawychus, yn enwedig os nad ydym yn gwybod pa help y byddwn ni’n ei gael nesaf. Ond gallai hefyd olygu dy fod ti a dy dîm gofal yn cytuno bod pethau wedi gwella.

Efallai nad wyt ti’n teimlo’n gwbl barod i adael, ac mae hynny’n iawn hefyd.

Dylai dy dîm gofal ddweud wrthyt ti am y mathau eraill o gymorth sydd ar gael a beth i’w wneud os oes angen mwy o help arno ti.

Mae'n bosibl na fyddi di’n cytuno â’r penderfyniad i dy ryddhau di. Gallet ti gofyn i dy dîm gofal am ragor o wybodaeth am y camau nesaf. Mae gennym ragor o wybodaeth am ble i chwilio am gymorth ag iechyd meddwl.

Dylai CAMHS ddweud wrth dy feddyg teulu pan fyddi di wedi dy rhyddhau. Dylent egluro pa driniaeth neu gymorth rwyt ti wedi cael, gan gynnwys os wyt ti wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl.

Dim ond ar ôl i mi deimlo’n barod y cefais fy rhyddhau, ac roedd yn benderfyniad a drafodwyd gyda mi. Roeddwn i’n teimlo’n hapus iawn nad oedd angen y gefnogaeth arna i mwyach – roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi goresgyn llawer!

Dydi pobl ddim wir yn siarad am ba mor anodd yw hi i adael therapydd. Maen nhw’n lle diogel i chi, maen nhw’n brwydro ar eich rhan ac mae peidio byth â siarad â nhw eto yn anodd iawn – Chloe, 17

decorative

Os wyt ti o dan 18 oed, mae’n bosibl y byddi di’n gallu mynd yn ôl i CAMHS ar ôl i ti gadael. Mae’n bosibl y bydd hyn yn dibynnu ar pryd ges di dy ryddhau.

Ond mae’n bosibl y bydd gweithiwr proffesiynol arall yn dy gyfeirio’n ôl at CAMHS yn nes ymlaen.

Dy gyfeirio at wasanaethau eraill

Mae'n bosibl y bydd CAMHS yn awgrymu gwasanaethau eraill a allai helpu, fel AMHS. Ond ni fydd pawb sy’n cael cymorth gan CAMHS yn symud i AMHS.

Mae'n bosibl y bydd CAMHS hefyd yn awgrymu llefydd sy’n gallu helpu os ydyn ni ar restr aros ar gyfer AMHS.

Mae'n bosibl y byddwn ni’n siomedig os bydd CAMHS yn ein cyfeirio at wasanaethau eraill, yn enwedig os yw hynny’n digwydd gan nad yw CAMHS yn gallu ein helpu. Ond mae’n bosibl y bydd gwasanaethau eraill yn gallu ein helpu mewn ffordd fwy defnyddiol ar yr adeg hon.

Weithiau, yn seiliedig ar dy atgyfeiriad ac wrth ddarganfod pa gymorth sydd ei angen arno ti, mae’n bosibl y bydd y gwasanaeth newydd yn dweud na all gynnig y math cywir o gymorth i ti. Os yw hyn yn digwydd, dylent esbonio pam a dweud wrthyt lle arall gallet ti cael cymorth.

Os wyt ti o dan 18 oed, gallet ti edrych ar ein gwybodaeth am fathau o gymorth neu ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.

Os wyt ti’n 18 oed neu’n hŷn, mae gennym dudalennau gwybodaeth gwahanol ar gyfer oedolion:

Mae gennym hefyd wasanaethau i helpu oedolion, fel:

A fydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw’n breifat?

Os wyt ti’n cael dy atgyfeirio at wasanaeth arall, dylai CAMHS ofyn am ganiatâd i rannu dy wybodaeth bersonol.

Pontio i AMHS

Mae AMHS yn enghraifft o wasanaeth i oedolion. Ni ddylai CAMHS dy gyfeirio at AMHS oni bai dy fod yn ddigon hen.

Dylai dy dîm CAMHS ddechrau cynllunio dy symud i wasanaethau oedolion o leiaf 6 mis cyn i ti gadael. Yr enw ar hyn fel arfer yw pontio. 

Mae’n bosibl dy fod ti ar restr aros cyn i AMHS eich asesu am gymorth.

Yn yr adran hon, get ti dod o hyd i wybodaeth am:

  • Beth sy'n digwydd pan rwyt ti’n cael dy gyfeirio at AMHS
  • Y gwahaniaeth rhwng CAMHS ac AMHS
  • Problemau ac atebion wrth bontio i AMHS

Beth ddylai ddigwydd os caf fy nghyfeirio at AMHS?

Os bydd CAMHS yn ein cyfeirio at AMHS, dylent wneud y canlynol:

  • Paratoi cynllun o ba gymorth sydd ei angen arnom gan AMHS
  • Dweud wrthym pwy fydd yn rheoli ein proses bontio, fel arfer gweithiwr pontio yng Nghymru neu gydlynydd gofal yn Lloegr.
  • Gofyn am ein caniatâd i rannu ein gwybodaeth bersonol

Mae’n bosibl y bydd CAMHS yn rheoli’r broses bontio’n wahanol, yn dibynnu ar ble rydyn ni’n byw. Ond dim ots lle rydyn ni’n byw, dylai rhywun ddweud wrthym bob amser beth i’w ddisgwyl a gwrando ar ein barn.

Pan fydd AMHS yn cael dy atgyfeiriad, bydd eisiau gwybod beth rwyt ti’n ei brofi a pha gymorth sydd ei angen arno ti. Mae'n bosibl y bydd hefyd yn gwneud y canlynol:

  • Edrych ar dy nodiadau. Mae’n bosibl y bydd dy feddyg a dy dîm CAMHS yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth sydd ganddynt amdano ti ag AMHS.
  • Siarad â dy dîm CAMHS. Mae’n bosibl y bydd yn gwneud hyn i siarad am dy anghenion a’u deall.
  • Siarad â dy rieni neu ofalwyr. Mae'n bosibl y bydd yn gofyn am gael siarad â nhw gyda dy ganiatâd ti. 
  • Cwrdd â ti a gwrando ar ba gymorth sydd ei angen arno ti. Gallet ti siarad â nhw am sut rwyt ti’n teimlo, a beth rwyt ti’n meddwl sydd ei angen arno ti. Gallai hyn fod yn rhan o asesiad.

Os yw AMHS o’r farn bod ei wasanaeth yn addas i ti, bydd yn cysylltu â ti i wneud apwyntiad.

Rydw i’n meddwl bod sgwrs wedi bod ar ryw adeg am yr hyn y byddwn i ei eisiau gan wasanaethau oedolion. Gofynnais am ‘waith trawma’, ac fe ddywedon nhw ‘iawn’. Yna fe gawson ni’r atgyfeiriad. Meddyliais ‘iawn, mae hynny’n dda, maen nhw’n fy nghymryd o ddifri.

Felly 6 mis cyn i chi fod yn 18 oed, dyna pryd maen nhw i fod i ddechrau paratoi’r cyfan. Fe wnes i ddweud yn benodol nad oeddwn i eisiau seiciatrydd penodol pan wnes i drosglwyddo. I fod yn deg, fe wnaethon nhw hynny felly doedd dim rhaid i mi eu gweld nhw. Roedd yn eithaf poenus teimlo eich bod chi’n cael eich cyfeirio oddi wrth CAMHS ar ôl bod gyda nhw am dros bedair blynedd.

Sut mae AMHS yn wahanol i CAMHS?

Mae’n bosibl y bydd ein profiad yn AMHS yn wahanol i’r hyn a gawsom yn CAMHS. Dyma rai gwahaniaethau cyffredin:

  • Gallai dy berthynas â dy dîm gofal fod yn wahanol. Mae’n bosibl y bydd yn dy weld ti yn fwy neu’n llai aml nag o’r blaen. Byddi ti yn gweld gweithwyr proffesiynol newydd hefyd.
  • Mae’n bosibl y bydd gwahanol fathau o driniaeth a chymorth ar gael, fel therapi neu feddyginiaeth unigol.
  • Byddi di mewn ystafelloedd aros neu’n cael therapi grŵp gydag oedolion o wahanol oedran, nid dim ond pobl ifanc.
  • Mae'n bosibl y bydd AMHS yn cynnwys dy rieni neu ofalwyr yn llai na CAMHS. Mae gennym ragor o wybodaeth am faint o ran y gallai dy rieni neu ofalwyr ei chwarae yn dy ofal.
  • Mae'n bosibl y bydd AMHS yn canolbwyntio ar dy ddiagnosis iechyd meddwl yn fwy na CAMHS, os oes gennyt ti un.

Dywedodd rhai pobl ifanc y buom yn siarad â nhw:

Gyda CAMHS, rwyt ti’n cael apwyntiadau mwy rheolaidd, yn enwedig yng nghamau cyntaf y driniaeth. Ond, gydag AMHS, roedd gen i apwyntiadau’n llai aml ac roedden nhw dros y ffôn.

Mae gwasanaethau oedolion yn dibynnu llawer mwy ar dy farn a dy benderfyniadau. Mae’r therapi, y cwnsela a’r broses o wneud penderfyniadau yn cael eu cyfarwyddo gennyt ti, yn wahanol i CAMHS lle maen nhw’n cynnig syniadau neu gyngor i ti cyflawni dy nodau.

Cefais sesiynau CBT gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yn ddiweddar. Cefais bum sesiwn ond penderfynais beidio parhau â’m triniaeth ar ôl hyn. Roedd y gwasanaethau oedolion yn cynnwys llawer o ‘waith cartref’ a rhoi arferion da ar waith yn fy mywyd o ddydd i ddydd.

Pa broblemau allwn i eu hwynebu wrth bontio i AMHS?

Gall symud o CAMHS i AMHS fod yn ddidrafferth, neu fe allai problemau godi. Dyma rai o’r problemau mwyaf cyffredin y gallet ti eu hwynebu:

Gallet ti gofyn i dy dîm CAMHS pwy ddylai reoli dy symudiad i AMHS. Gallet ti hefyd ofyn am gael cwrdd â rhywun o dîm AMHS cyn i ti symud.

Gofynna i dy dîm CAMHS am gopi o dy gynllun gofal. Os oes unrhyw beth nad wyt ti’n ei ddeall, gallet ti hefyd ofyn iddynt ei egluro.

Gallet ti siarad â dy dîm gofal i egluro pam nad wyt ti’n cytuno a beth hoffet ti ei newid.

Mae’n bosibl y cei di dy roi ar restr aros cyn i AMHS ystyried dy atgyfeiriad. Ac os wyt ti’n cael dy dderbyn i AMHS, mae’n bosibl bydd yn dal yn rhaid i ti aros cyn i ti cael help. 

Efallai dy fod wedi cael problemau tebyg gydag amseroedd aros hir yn CAMHS. Gall aros deimlo’n rhwystredig a pheri gofid, yn enwedig os wyt ti wedi bod yn cael cymorth gan CAMHS. Gallet ti dod o hyd i wybodaeth am sut i ofalu amdano dy hun wrth aros am gymorth.

Dywedodd pobl ifanc y buom yn siarad â nhw:

Cefais lythyr yn y post yn dweud fy mod wedi cael fy nerbyn ar DBT i oedolion* ond byddai’n rhaid aros 8 mis.

Wnaeth pethau ddim gwaethygu, ond yn yr amser aros hwnnw, dwyt ti ddim yn siŵr os wyt ti’n mynd i gael y cymorth sydd ei angen arno ti.

Cofia ei bod yn debygol y bydd yn rhaid aros yn hir wrth drosglwyddo i wasanaethau oedolion, ond dydi hynny ddim yn golygu nad wyt ti’n cyfri.

*Mae DBT yn golygu therapi ymddygiad dilechdidol.

Awgrymiadau ar gyfer gadael CAMHS

Os wyt ti’n parhau i gael cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl, neu’n cael dy ryddhau, gall ein hawgrymiadau dy helpu i deimlo’n well am adael CAMHS.

Gofyn cwestiynau i dy dîm CAMHS

Nid oes cwestiynau cywir nac anghywir. Ond po gyntaf y byddi di’n gofyn cwestiynau, y mwyaf parod y byddi di’n teimlo. Gallet ti hefyd ofyn i oedolyn neu eiriolwr rwyt ti’n ymddiried ynddo dyeich helpu i ofyn cwestiynau. Gall deall yr hyn sy’n digwydd dy helpu i deimlo bod gennyt ti mwy o reolaeth.

Dyma rai syniadau am bethau y galleti ti bod eisiau eu gofyn:

  • Pa wasanaethau neu gymorth iechyd meddwl arall sydd ar gael yn fy ardal?
  • Alla i gael copi o fy nghynllun gofal, neu grynodeb o’r gofal rydw i wedi ei gael?
  • Gyda phwy alla i siarad os oes gen i ragor o gwestiynau?
  • Gyda phwy alla i siarad os ydw i’n teimlo bod fy iechyd meddwl yn gwaethygu ar ôl cael fy rhyddhau?
  • Alla i gael fy ailasesu gan CAMHS os bydd angen i mi wneud hynny? Sut mae hyn yn gweithio?
  • Alla i gael fy nghyfeirio at wasanaethau oedolion yn y dyfodol? Sut ydw i’n cael fy atgyfeirio?
  • Pa fathau eraill o gymorth sydd ar gael?
  • Pwy fydd yn rheoli’r broses o’m symud i AHMS? Pa mor aml fydda i’n cwrdd â nhw?
  • Oes gen i gynllun pontio? Ga'i ei weld?
  • Pa fathau o driniaeth a chymorth allwn i eu cael?
  • Alla i weld eich polisi ar gyfer trosglwyddo o CAMHS i AMHS?

Llenwi ‘Pasbort’

Cyn i ti gadael CAMHS, mae llenwi pasbort yn dy helpu i rannu’r hyn rwyt ti eisiau i’r bobl sy’n dy helpu ti nesaf ei wybod. Gallet ti ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • Ysgrifennu beth yw dy anghenion
  • Rhannu dy brofiadau
  • Dweud beth sy’n bwysig i ti

Mae gennym ddau fath o dempledi pasbort:

Gallet ti ei rannu â’ch meddyg, oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, neu weithiwr proffesiynol arall sy’n dy helpu ti.

Lawrlwytho dy basbort symud ymlaen o CAMHS (mae'r dogfen Word yn agor mewn tab newydd)

Os wyt ti yng Nghymru, mae’n bosibl y bydd SCAMHS yn rhoi rhywbeth i ti fel y Pasbort Pontio Pobl Ifanc hwn. Ond os nad yw hynny’n digwydd, neu os wyt ti yn Lloegr, mae’r GIG yn argymell pasbortau pontio yn gryf. Fe allet ti defnyddio ein templed i dy helpu.

Lawrlwytho dy basbort ‘pontio i AMHS’ (mae'r dogfen Word yn agor mewn tab newydd)

Gallet ti gofyn i dy dîm CAMHS gadw copi o dy basbort ar dy gofnodion a’i anfon at dy dîm AMHS newydd. Gallet ti hefyd gadw copi a dod ag ef gyda ti.

Edrych ar opsiynau eraill ar gyfer cymorth

Gall helpu i gael amrywiaeth o opsiynau cymorth gan gynnwys gwasanaethau neu weithwyr proffesiynol, fel dy feddyg teulu. Neu gymorth cymdeithasol fel ffrindiau, partneriaid neu oedolion dibynadwy.

Mae gennym rai syniadau i dy helpu i ddatblygu a chynnal dy rwydwaith cymorth:

  • Mynd ati i siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo ynghylch sut rwyt ti’n teimlo. Gallet ti siarad â nhw wyneb yn wyneb neu recordio nodyn llais. Mae gennym ragor o wybodaeth am fynd ati i siarad.
  • Siarad â phobl ifanc eraill sy'n deall beth rwyt ti’n mynd drwyddo. Gallet ti gwneud hyn ar fyrddau negeseuon fel The Mix a Childline.
  • Siarad â dy feddyg. Gall sôn wrthyt ti am ffyrdd eraill o gael help. Mae gennym ragor o wybodaeth am siarad â dy feddyg.
  • Edrycha ar ba help sydd ar gael yn dy ardal di. Er enghraifft, gan dy ysgol, elusennau lleol a gwasanaethau cymunedol. Am wasanaethau ar-lein lle gallet ti chwilio am wybodaeth a chymorth lleol, rho gynnig ar Hub of Hope a Youth Access.
  • Ystyria chwilio am therapi preifat. Mae therapi preifat yn fath o gymorth rwyt ti, neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, yn dewis talu amdano. I ddod o hyd i therapydd neu gwnselydd, gallet ti chwilio yng Nghyfeirlyfr Cwnsela BACP. Neu gofynna i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo dy helpu. Mae therapi preifat yn gallu bod yn ddrud. Mae rhai therapyddion preifat yn cynnig gostyngiadau os wyt ti’n fyfyriwr neu ar incwm isel, sy’n gallu helpu.

I gael rhagor o wybodaeth os wyt ti dan 18 oed, darllena am ble i chwilio am gymorth iechyd meddwl

Am ragor o wybodaeth os wyt ti dros 18 oed, darllena ein gwybodaeth i oedolion am chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl.

Sut i ofalu am dy lesiant dy hun

Mae gennym lawer o awgrymiadau a syniadau ar sut i ofalu amdano ti dy hun.

Mae’n help os gallet ti sicrhau bod gennyt ti rhwydwaith cymorth o dy gwmpas sy’n cynnwys pobl y gallet ti ymddiried ynddynt. Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod sut i fod yno i ti dy hun pan fydd dy iechyd meddwl yn mynd yn anodd. Sefydla strategaethau sy’n gweithio i ti cyn i ti gadael CAMHS.

Clywed gan bobl a adawodd CAMHS

Gall clywed gan bobl eraill sydd wedi bod drwy bethau tebyg dy helpu i deimlo’n llai unig. Gallet ti siarad â phobl ifanc eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein:

 

decorative

Os wyt ti'n chwilio am gymorth ar-lein, meddylia am yr hyn rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu a beth rwyt ti eisiau ei gadw’n breifat. Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar-lein ar wefan Childline.

Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a rannodd eu profiadau wrth adael CAMHS:

Roedd gadael CAMHS yn gam mawr i mi. Roedd yn rhaid i mi ddysgu gofalu am fy iechyd meddwl fy hun a dod yn gwnselydd i mi fy hun. Roedd yn anodd i ddechrau, ond roedd yn fy helpu i fod yn fwy gwydn ac yn llai dibynnol ar eraill i dawelu fy meddwl pan oeddwn i dan straen.

Fe wnes i adael CAMHS pan oeddwn i’n 18 oed a chael fy symud i sefydliad cymorth lleol arall. Roedd y broses hon yn eithaf anodd i mi, yn enwedig oherwydd bod y ddau a oedd yn gofalu amdanaf, ac a oedd yn gyfrifol am fy ngofal, i ffwrdd o’u gwaith.

Roedd yr holl broses yn llethol ond rydw i’n ddiolchgar am y ffordd y llwyddodd fy nhîm i’w rheoli. Roedden nhw wir yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i mi.

Rydw i’n dal i feddwl am fy hen therapydd hyd heddiw, byddai hi’n falch o ba mor bell rydw i wedi dod, ac mae gwybod hynny’n gysur ynddo’i hun – Chloe, 17

Cyhoeddwyd: Mawrth 2026
Adolygiad nesaf: Mawrth 2029

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

For more information

Back To Top arrow_upward