Do you use social media?
We want to understand your experiences with social media and mental health.
Sut alla i gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?
Os wyt ti’n profi newidiadau yn dy iechyd meddwl a dy lesiant, mae llawer o ffyrdd y galli di gael cymorth. Mae’n gallu cymryd ychydig o amser i weld beth sy’n gweithio orau i ti, ond efallai bydd trio gwahanol opsiynau yn helpu.
Mae’n iawn os dwyt ti ddim yn siŵr pa fath o gymorth sydd ei angen arnat ti ar hyn o bryd. Does dim rhaid i ti benderfynu’n syth.
Mae’r dudalen yma’n awgrymu opsiynau ar gyfer pobl, gwasanaethau a llefydd sy’n gallu rhoi cymorth iechyd meddwl. Mi alli di ddod yn ôl i’r dudalen yma unrhyw bryd rwyt ti’n teimlo bod angen i ti drio math gwahanol o gymorth.
Dim ots sut rwyt ti’n teimlo na beth rwyt ti’n ei brofi, rwyt ti’n haeddu cael cymorth ar unrhyw adeg.
Beth sydd ar y dudalen hon?
Neidio i wybodaeth am:
Roedd gofyn am gymorth yn bendant yn un o’r pethau anoddaf wnes i erioed, ond roedd yn werth chweil.
Cefnogi dy hun
Mae dysgu sut mae gofalu amdanom ni ein hunain yn helpu unrhyw bryd, yn enwedig wrth i ni ddod o hyd i gymorth ar gyfer ein hiechyd meddwl.
Efallai y bydd hunanofal yn ddefnyddiol i ni os ydyn ni wedi cael trafferth cael cymorth yn rhywle arall. Er enghraifft, efallai ein bod ni wedi profi:
- Amseroedd aros hir
- Gwasanaethau preifat yn rhy ddrud
- Gwahaniaethu gan wasanaethau neu weithwyr iechyd proffesiynol
Os ydych chi wedi cael y mathau yma o broblemau, mi allwch ystyried hunan-eiriolaeth.
Rydyn ni i gyd yn wahanol, felly meddyliwch am beth rydych yn hoffi ei wneud a beth sy’n helpu i wella eich llesiant. Ond does dim rhaid i chi ddatrys popeth ar eich pen eich hun.
Mae gennym restr o awgrymiadau llesiant a hunanofal y gallwch eu trio yn y tymor byr a’r tymor hir. Mi allai'r awgrymiadau yma helpu wrth i chi edrych ar opsiynau eraill ar gyfer cymorth iechyd meddwl, neu aros amdanyn nhw.
Dod o hyd i ffyrdd o gefnogi dy hun
Os wyt ti eisiau rhoi cynnig ar gefnogi dy hun, edrycha ar ein tudalen o awgrymiadau llesiant.
Dwi’n credu ei bod yn llawer mwy defnyddiol adnabod y ffordd rwyt ti’n teimlo. Oherwydd wedyn, mi rwyt ti’n dechrau adnabod y sbardunau y tu ôl i’r teimladau yna - Grace, 17 oed
Cymorth gan bobl rwyt ti’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw
Efallai y bydd rhai ohonom yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn am gymorth iechyd meddwl gan bobl rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw, fel:
- Ffrindiau
- Partneriaid
- Aelodau o’r teulu
- Gofalwyr neu warchodwyr plant
- Hyfforddwyr chwaraeon
- Arweinwyr ffydd
- Staff yn yr ysgol, fel athrawon neu nyrsys ysgol
- Oedolion eraill rydych yn ymddiried ynddyn nhw
Mae pobl rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw yn gallu gwrando arnon ni a’n helpu ni i deimlo’n llai unig. Maen nhw’n gallu ein helpu hefyd gyda phethau ymarferol. Fel ein helpu i ddod o hyd i wasanaeth neu ddod i apwyntiadau gyda ni.
Ond efallai y bydd rhai ohonom ni’n ei chael yn anodd siarad â phobl sy’n agos atan ni. Efallai y byddwn yn poeni eu bod nhw ddim am wneud y canlynol:
- Deall sut rydym yn teimlo
- Gwybod sut i gynnig cymorth ar gyfer iechyd meddwl
- Ein trin yn yr un ffordd ag o’r blaen
Mae’n iawn os dydyn nhw ddim yn deall neu ddim yn sicr sut i’ch helpu. Edrychwch ar ein rhestr o bobl eto a thrïwch siarad efo rhywun arall. Does dim bai arnoch chi os dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod yn gallu eich cefnogi ar hyn o bryd.
Sut i siarad â phobl rwyt ti’n eu hadnabod
Os wyt ti eisiau trio siarad â rhywun sy’n agos atat ti, mae gennym wybodaeth ac awgrymiadau i helpu.
Pan wnes i ofyn am help, roedd pawb mor gefnogol a byddai’n dda gen i pe bawn i wedi gwneud hynny’n gynt – roedd y syniad yn llawer mwy brawychus na’r realiti.
Cymorth gan bobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod
Weithiau mae’n teimlo’n haws siarad am iechyd meddwl â phobl sydd ddim yn ein hadnabod o gwbl. Mae siarad â phobl sydd ddim yn ein hadnabod yn gallu bod yn ddefnyddiol os:
- Rydyn ni’n poeni sut mae rhywun sy’n agos atom ni’n gallu ymateb
- Rydyn ni’n poeni am gael ein beirniadu gan rywun agos
- Nid yw’r cymorth rydyn ni’n ei gael gan eraill yn teimlo’n iawn neu nid yw’n ddigon
Os hoffech gael cymorth iechyd meddwl gan rywun dydych chi ddim yn ei adnabod, mae llawer o sefydliadau a gwasanaethau gyda:
- Llinellau cymorth
- Llinellau neges destun
- Fforymau a sgyrsiau ar-lein
- Cymorth dros e-bost
- Cymorth gan y cyfryngau cymdeithasol
Ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol, bydd sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer gwahanol hunaniaethau a chymunedau, fel os ydych chi’n LHDTCRhA+ neu os wyt ti’n Fwslim.
Mae rhai gwasanaethau’n rhoi cymorth 24/7 os oes angen help a chyngor arnat ti’n syth, neu os wyt ti’n aros am fath arall o gymorth.
Cael cymorth gan bobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod
Os wyt ti eisiau trio cael cymorth gan rywun dwyt ti ddim yn ei adnabod, edrycha ar ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer iechyd meddwl.
Cymorth gan dy feddyg
Mae meddyg neu feddyg teulu yn gallu ein helpu gydag iechyd meddwl gymaint ag iechyd corfforol. Mae’r dudalen yma’n defnyddio'r gair ‘meddyg’, ond mae’n golygu’r un peth â ‘meddyg teulu’.
Mi allwn ni ofyn i’n meddyg am gymorth iechyd meddwl ar unrhyw adeg. Hyd yn oed os dydyn ni ddim yn siŵr beth rydyn ni’n ei deimlo neu’n ei brofi.
Er bod mynd i weld meddyg yn gallu gwneud i chi deimlo’n ofnus, maen nhw’n gallu rhoi lle diogel i ni siarad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennym. Ond mae’n gallu bod yn anodd os oes rhaid i ni aros am ychydig am apwyntiad.
Ar ôl i ti siarad â meddyg, efallai y byddan nhw’n:
- Rhoi gwybodaeth i ti am iechyd meddwl a sut i ofalu am dy hun
- Cynnig triniaeth i ti, gan gynnwys therapïau siarad fel cwnsela, neu fath o feddyginiaeth
- Dy gyfeirio at wasanaeth arbenigol, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
Mi alli di fynd i weld meddyg ar ben dy hun dim ots faint oed wyt ti, ond efallai y byddan nhw’n dy annog i siarad â rhiant, gofalwr neu warcheidwad am beth sy’n digwydd. Rhaid i feddygon ddilyn rheolau llym ynghylch cyfrinachedd.
Sut mae cael cymorth gan dy feddyg
Os wyt ti eisiau ceisio cael cymorth gan dy feddyg, mae gennym wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i wneud hyn.
Yn ystod fy apwyntiad wyneb yn wyneb, roeddwn i’n teimlo’n ddigon cyfforddus gyda fy meddyg i ddweud beth oedd yn digwydd. Mi ges i fy atgyfeirio at wasanaethau CAMHS a chael gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol.
Cymorth gan CAMHS
Mae’r GIG yn rhoi gwasanaethau iechyd meddwl am ddim i bobl ifanc. Sef Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).
Bydd angen atgyfeiriad neu hunan-atgyfeiriad arnat ti i gael defnyddio CAMHS. Mae gwahanol bobl yn gallu atgyfeirio ar dy ran, fel:
- Dy feddyg
- Staff ysgol, fel nyrs ysgol neu athro
- Gweithiwr cymdeithasol
Mae sut rwyt ti’n cael cymorth gan CAMHS yn dibynnu ar dy anghenion a ble rwyt ti’n byw. Ond mae’n bosibl bydd rhestrau aros hir ar gyfer apwyntiad cyntaf. Mae’n bosibl y bydd amseroedd aros hefyd ar gyfer unrhyw driniaeth a chymorth mae CAMHS yn gallu eu cynnig.
Wrth i ti aros, mi alli di edrych ar yr opsiynau cymorth eraill ar y dudalen yma. Mi alli di hefyd drio hunanofal drwy ddefnyddio ein hawgrymiadau llesiant.
Sut mae cael gafael ar gymorth CAMHS
Os wyt ti eisiau dysgu mwy am gael cymorth gan CAMHS, mae gennym lawer o wybodaeth ac awgrymiadau.
Roeddwn i’n teimlo bod yna ddim byd arall a fyddai’n helpu ar wahân i CAMHS. Mewn gwirionedd, elusennau lleol a chymorth gan yr ysgol sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Cymorth gan yr ysgol neu’r coleg
Efallai y byddwn am gysylltu ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo yn yr ysgol neu’r coleg i ofyn am gymorth iechyd meddwl. Mi allem siarad ag:
- Athro neu diwtor
- Nyrs ysgol
- Arweinydd iechyd meddwl
- Aelod o’r tîm bugeiliol
Mae rhai ysgolion yn rhoi:
- Gwasanaethau cwnsela
- Timau Cymorth Iechyd Meddwl (MHST)
Fe wnes i siarad â chwnselydd a oedd yn mynd i’r ysgol bob wythnos ac a wnaeth fy helpu i deimlo’n ddigon cyfforddus i siarad am beth roeddwn i’n cael trafferth gydag ef, a sut i ddelio â’r peth yn well.
Os dwyt ti ddim yn siŵr pa gymorth sydd ar gael, mi alli di ofyn i aelod o staff rwyt ti’n ymddiried ynddo. Mi all dy helpu i ystyried dy opsiynau. Efallai y bydd yn gallu dy atgyfeirio at gwnselydd ysgol neu CAMHS.
Fe wnes i ffrindiau rydw i wir yn ymddiried ynddyn nhw ac sy’n fy neall i. Mae gan yr athrawon well dealltwriaeth o beth yw PTSD a sut i ddelio ag ef - Scarlett, 15 oed
Cymorth gan dy weithle
Os oes gennym swydd, mae gan ein cyflogwr gyfrifoldeb i gefnogi ein llesiant. Os yw ein cyflogwr yn gwybod bod gennym broblem iechyd meddwl, mae hefyd yn erbyn y gyfraith iddyn nhw wahaniaethu yn ein herbyn.
I gael gwybod am gymorth iechyd meddwl yn y gwaith, gofynnwch i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich:
- Goruchwyliwr
- Rheolwr
- Mentor
- Cydweithwyr
Mae gan rai gweithleoedd ‘rwydweithiau’ cymorth gan gymheiriaid i gysylltu cydweithwyr sy’n rhannu profiadau tebyg. Er enghraifft, rhwydweithiau LHDTRhC+, rhwydweithiau aml-ethnig neu rwydweithiau staff ifanc.
Bydd y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnom ni yn y gwaith yn edrych yn wahanol i bob un ohonom. Ond efallai y bydd rhai gweithleoedd yn gwneud y canlynol:
- Gwneud newidiadau yn y gwaith i helpu i reoli beth sy’n anodd i chi.
- Dod o hyd i gyrsiau hyfforddi i’ch helpu yn eich rôl neu i wella eich llesiant.
- Rhoi Rhaglen Cymorth i Weithwyr, sy’n gallu rhoi mynediad i chi at gwnsela am ddim neu atgyfeiriad at wasanaeth preifat.
- Gadael i chi gael ‘addasiadau rhesymol’ os yw eich problem iechyd meddwl yn cyfrif fel anabledd.
- Creu cynllun gweithredu llesiant gyda chi er mwyn deall eich llesiant yn y gwaith yn well.
Cael cynllun gweithredu llesiant
Os wyt ti eisiau rhoi cynnig ar ddefnyddio cynllun gweithredu llesiant neu ei rannu efo dy reolwr, llwytha ein templed i lawr.
Mae hwn yn PDF Saesneg, sy’n mynd i agor mewn ffenestr newydd.
Cymorth ac apiau ar-lein
Mae cysylltu â phobl fel ni ein hunain yn gallu ein helpu i deimlo ein bod yn cael cefnogaeth ac yn llai unig. Mi allwn rannu sut rydyn ni’n teimlo a chwilio am gyngor gan bobl eraill ar sut i ymdopi â phrofiadau anodd.
Efallai y byddwn yn gweld ei bod yn ddefnyddiol siarad â phobl ifanc eraill sy’n mynd drwy rywbeth tebyg i ni.
Gallwch siarad â phobl eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein, fel:
Cadw’n ddiogel ar-lein wrth chwilio am gymorth
Mae rhannu dy deimladau yn gallu helpu yn ystod cyfnod anodd. Ond mae’n bwysig cadw’n ddiogel ar-lein wrth siarad â phobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod.
Ar fyrddau negeseuon, apiau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau cymorth iechyd meddwl, efallai y gweli di negeseuon, delweddau neu sylwadau sy’n dy ypsetio.
Ceisia wneud yn siŵr dy fod yn defnyddio safleoedd ac apiau sy’n gwneud y canlynol yn unig:
- Gyda chanllawiau ar beth rwyt ti’n gallu postio a beth sy’n annerbyniol
- Gyda chymedrolwyr sy’n gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn dilyn y canllawiau
- Yn addas ar gyfer dy grŵp oedran
- Ddim yn dy annog i wneud unrhyw beth peryglus neu niweidiol i dy hun
- Ddim yn gofyn am wybodaeth sy’n gallu dangos pwy wyt ti, fel dolenni cyfryngau cymdeithasol neu’r ardal lle rwyt ti’n byw
- Ddim yn gofyn i ti rannu dy gyfeiriad na dy rif ffôn
Mi alli di gael arweiniad ar gadw’n ddiogel ar-lein gan Childline, NSPCC ac Young Minds.
Apiau ar gyfer iechyd meddwl
Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.
I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.
O’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael drwy wefannau a chleifion allanol, mae fel fy mod i’n gweld pethau o safbwynt llawer mwy.
Cymorth yn dy ardal leol
Mae llawer o gymunedau lleol yn cynnig gwahanol fathau o gymorth iechyd meddwl am ddim. I ddod o hyd i dy wasanaeth Mind lleol agosaf ar gyfer pobl ifanc, defnyddia ein map ar-lein.
Yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw, efallai y bydd dy gyngor lleol hefyd yn rhoi cymorth, fel:
- Hybiau cymorth cynnar i bobl ifanc
- Clybiau ieuenctid
- Cymorth mewn ysgolion
- Lle diogel i aros
- Help gydag arian
Sut i ddod o hyd i gymorth lleol
Ar wefan llywodraeth y DU, mi alli di chwilio am dy gyngor lleol i weld beth maen nhw’n ei gynnig yn dy ardal.
Mi alli di hefyd anfon e-bost atyn nhw neu eu ffonio i gael mwy o wybodaeth. Mae oedolyn dibynadwy yn gallu dy helpu gyda hyn.
Roedd grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid lleol yn hanfodol oherwydd, yn wahanol i’r rhan fwyaf o wasanaethau, does dim angen i chi gael diagnosis i fynd.
Talu am therapi preifat
Mae therapi preifat yn fath o gymorth iechyd meddwl sy’n costio arian i'w ddefnyddio.
Efallai y byddi di’n penderfynu talu am therapi preifat os wyt ti’n:
- Cael trafferth cael cymorth drwy CAMHS oherwydd rhestrau aros hir
- Angen cymorth ychwanegol os wyt ti newydd adael CAMHS
- Ddim yn gallu parhau i weithio gyda dy therapydd presennol am unrhyw reswm
Os wyt ti’n gallu ei fforddio, mae talu am therapi preifat yn gallu bod yn ddefnyddiol oherwydd:
- Mi alli di gael apwyntiad cyntaf yn llawer cynt na CAMHS
- Mae’r therapydd yn gallu dy helpu i gael ail farn am dy ddiagnosis
- Fel arfer, bydd gennyt lawer mwy o lais o ran pryd a pha mor aml galli di wneud apwyntiadau
Os wyt ti’n gallu, efallai byddi di’n hoffi gofyn i dy riant, gofalwr neu warcheidwad a allan nhw dy helpu i ddod o hyd i therapydd neu gwnselydd.
Cofia: mae therapi preifat yn gallu bod yn ddrud. Mae costau’n gallu bod yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw, ac mae’r gost yn debygol o fod yn barhaus.
Ond os wyt ti ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n fyfyriwr, mae rhai therapyddion yn cynnig ‘cyfradd consesiwn’ rhatach. Weithiau mae’r apwyntiad cyntaf am ddim. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r ddau ohonoch ddarganfod beth yw dy anghenion ac archwilio’r berthynas.
Sut i ddod o hyd i therapi preifat
I ddod o hyd i therapydd preifat, chwilia yng Nghyfeiriadur Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).
Trusted adult
A trusted adult is someone older than you who:
- Makes you feel safe
- Listens to you
- Treats you with respect, understanding and care
They will have clear boundaries but will support you when they can. They should know when to look for more help if you need it.
You can decide who you feel is a trusted adult to you. You might know them from somewhere like school, your family, places of worship or clubs for young people.
Trusted adults don't have to be the same people as nearest relatives.
Visit our full treatment and support glossaryConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that can support you with your mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same thing:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS).
- In England and Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS).
Find out more in our CAMHS information hub.
Counselling
This is a type of talking therapy with a trained counsellor. Counselling can help you:
- Talk through a problem or situation that is negatively affecting your mental health
- Recognise how it affects you
- Work out positive coping strategies or ways to make the situation better
It may be face-to-face, over the phone or over video call.
Visit our full treatment and support glossaryLocal authority
This is the local government for where you live. They provide services such as health services, social services, schools, transport and housing.
Each local government decides how services are run. This means that some services in different areas may have different rules.
Visit our full treatment and support glossaryReferral
This is a request to a service which asks them to review:
- How you’re feeling
- What support you need
The referral helps explain to the new service why they should see you and what the best way to help you might be.
Sometimes referrals can be made by yourself, a family member or social worker. But they’re often made by your doctor as they understand your medical history.
Psychiatrist
This is a medical doctor that specialises in mental health. Psychiatrists can:
- Carry out assessments of your mental health
- Decide with you which treatments to try, including medication
- Be your therapist for a treatment, like group therapy
Psychologist
Psychologists can assess your mental health and help you to explore how you’re thinking, feeling and behaving.
There are different types of psychologists, like clinical psychologists or occupational psychologists.
Visit our full treatment and support glossaryTalking therapies
These involve talking with a professional about your thoughts, feelings and behaviours. There are many types of talking therapies, such as counselling or cognitive behavioural therapy (CBT). You usually take part for an agreed length of time or number of sessions.
Visit our full treatment and support glossaryCounsellor
Counsellors listen to you and give you a safe space to explore how you’re thinking, feeling and behaving.
They can help you talk through problems or situations that are affecting you, and help you find ways to cope.
You may hear the terms counsellor or therapist used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryDiscrimination
Discrimination is when someone treats you differently or unfairly because of:
- Your age
- Your disability
- Your gender
- Your gender identity
- Your sexuality
- Your relationship status
- Your religion or beliefs
- Your race, skin colour or where you were born
- Being pregnant or having a child
In the UK, a law called the Equality Act protects you from discrimination.
Visit our full treatment and support glossary
Social worker
A social worker can support you and your family to work through different problems together. Their job is to keep you safe from harm. Some focus on different areas, like mental health or safeguarding.
Visit our full treatment and support glossaryAdvocate
Advocates can help you speak up about things that are important to you. And help make sure your voice is heard.
In some situations, you will have a legal right to have an advocate. This is called statutory advocacy.
Even if you don’t have a right to an advocate, there are other types of advocacy that can help you get your voice heard.
See our page on advocacy for more information.
Therapy
This is treatment that aims to help improve your mental health and wellbeing. There are lots of different types of therapies. Here are some common ones you might have heard of:
- Talking therapies
- Creative therapies
- Ecotherapy
- Medication
Self-referral
Self-referral is when you, a parent, carer or guardian asks a mental health service, like CAMHS, to give you treatment and support. But normally, a health professional would make a referral for you.
Not all mental health services accept self-referrals, or might have strict rules on what a self-referral involves. Check your local service's website to see if you can do this.
Visit our full treatment and support glossaryCouncil
Or local council. This is the group of people responsible for certain services in your area, like social care and education.
Visit our full treatment and support glossaryMental Health Support Team (MHST)
In some schools or colleges, a Mental Health Support Team will be available to offer you help with mental health and wellbeing.
They offer different types of support to students, like courses or counselling, and can make referrals to CAMHS.
You might also be able to get support from your school's pastoral team.
Visit our full treatment and support glossaryCyhoeddwyd: Ionawr 2026
Adolygiad nesaf: Ionawr 2029
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.