Anhwylder sgitsoaffeithiol
Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol, gan gynnwys ei symptomau a'i achosion. Mae'n rhoi cyngor ar sut y gallwch helpu eich hun a pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, yn ogystal â chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Hunan-ofal ar gyfer anhwylder sgitsoaffeithiol
Mae llawer o bobl sy'n cael diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol yn gallu byw bywydau hapus a llawn. Gall hunan-ofal helpu gyda hyn.
Hunan-ofal yw’r ffordd rydych chi'n gofalu am eich trefn ddyddiol a'r pethau sy'n effeithio ar sut rydych chi'n teimlo. Er enghraifft, ymarfer corff, perthnasoedd a diet. Gall yr hyn sy'n eich helpu chi fod yn wahanol i rywun arall. Mae'n werth rhoi cynnig ar bethau gwahanol nes i chi ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi.
Efallai y gwelwch y gall gwneud newidiadau bach mewn rhai agweddau helpu atal rhai problemau rhag datblygu.
Gall helpu i wneud y canlynol:
Meddwl am eich sbardunau
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gadw cofnod o’ch profiadau dros gyfnod o amser. Gallech roi cynnig ar wneud hyn am ychydig wythnosau i ddechrau, gan nodi pethau mewn dyddiadur neu ar eich ffôn. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i gofnodi:
Gall gwneud hyn eich helpu i sylwi ar batrymau yn eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad. Gall hefyd eich helpu i feddwl am sefyllfaoedd sy'n anodd i chi, yn ogystal â'r rhai sydd wedi bod o gymorth.
Mae llawer o ddyddiaduron hwyliau ar-lein a allai fod o gymorth i chi. Mae gan Bipolar UK raddfa hwyliau, dyddiadur hwyliau ac ap cofnodi hwyliau, sydd am ddim i’w defnyddio.
Efallai yr hoffech chi rannu eich sylwadau gyda'ch teulu, ffrindiau neu dîm gofal agos. Efallai y byddai'n ddefnyddiol iddyn nhw wrando arnoch chi pan fyddwch chi'n cael diwrnod gwael. Neu i'ch helpu i gadw ar ben eich ymrwymiadau a bod yn ymwybodol o'ch sbardunau.
Mae cael meddyliau ar bapur yn ei gwneud hi'n haws rhoi strwythur iddyn nhw a dod o hyd i atebion.
Creu cynllun argyfwng
Yn ystod argyfwng, efallai na fyddwch bob amser yn gallu dweud wrth bobl beth sy'n eich helpu. Tra eich bod yn teimlo'n dda, gall fod yn syniad da siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo am yr hyn yr hoffech ei wneud os ydych mewn argyfwng.
Gweler ein tudalen am gynllunio ar gyfer argyfwng am ragor o wybodaeth.
Rhoi cynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid
Efallai y byddai'n ddefnyddiol iawn i chi siarad â phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg i chi. Gall cefnogaeth gan gymheiriaid fod yn ffordd wych o wneud hyn.
Gall cefnogaeth gan gymheiriaid eich helpu i:
- Teimlo'n fwy cadarnhaol am y dyfodol
- Cynyddu eich hunan-barch
- Dod o hyd i ffrindiau
- Adnabod patrymau yn eich profiadau
- Datblygu a thrafod ffyrdd o ymdopi
- Adnabod arwyddion cynnar o argyfwng
Mae nifer o sefydliadau'n cynnal grwpiau neu raglenni. Mae The Hearing Voices Network yn cynnal grwpiau ledled y wlad ar gyfer pobl sy'n clywed, gweld neu synhwyro pethau nad yw eraill yn eu gwneud.
Mae llawer o ffyrdd i ddod o hyd i gefnogaeth gan gymheiriaid:
- Gweler ein rhestr o gysylltiadau defnyddiol
- Gweler ein cyfeirlyfr cymorth cymheiriaid
- Gofynnwch i'ch cangen Mind lleol am gefnogaeth gan gymheiriaid
- Rhowch gynnig ar gymuned cymorth cymheiriaid ar-lein fel Side by Side Mind
Ceisio ffonio llinell gymorth
Os oes angen i chi siarad â rhywun ond nad ydych yn teimlo'n barod i roi cynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid, mae llinellau cymorth y gallwch eu ffonio pan fyddwch yn teimlo'n ofidus. Er enghraifft, y Samariaid neu SANEline. Gallai siarad â gwrandawr hyfforddedig eich helpu i deimlo eich bod yn cael eich cefnogi a gwneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd i chi.
Rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o ymlacio
Gall fod yn ddefnyddiol rhoi cynnig ar dechnegau ymlacio, fel:
- Ioga, myfyrdod neu feddwlgarwch
- Cymryd bath neu gawod
- Ceisio anadlu i mewn ac allan yn araf – mae’n ddefnyddiol i rai pobl gyfri wrth wneud hyn
- Cerdded ym myd natur
Gweler ein tudalen am ymarferion ymlacio am ragor o wybodaeth.
Gweithgareddau eraill
Gall gweithgareddau ymarferol helpu tynnu eich sylw. Gallant hefyd eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'r presennol. Gall gweithgareddau gynnwys pethau fel:
- Garddio
- Glanhau neu dacluso
- Coginio
- Crefft
Gall y celfyddydau fod o gymorth i fynegi eich teimladau, fel:
- Paentio
- Cerddoriaeth
- Ysgrifennu
Gwnewch amser yn eich diwrnod ar gyfer gweithgareddau eraill rydych chi'n eu mwynhau, fel:
- Chwarae gemau
- Darllen
- Gwylio ffilmiau
Am ragor o syniadau, gweler ein tudalennau am therapïau celfyddydol a chreadigol, byd natur ac iechyd meddwl, problemau cysgu, straen, ymlacio a meddwlgarwch.
Meddwl am eich diet
Gall fod yn anodd cynnal diet iach pan fyddwn yn cael trafferth gyda'n hiechyd meddwl. Ond gall bwyta'n rheolaidd gadw eich siwgr gwaed yn sefydlog a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch hwyliau a'ch lefelau egni.
Am ragor o awgrymiadau, gweler ein tudalennau ar fwyd a hwyliau.
Dwi wedi magu pwysau ers i mi ddechrau meddyginiaeth felly dwi wedi dechrau bwyta'n iach iawn. Dwi’n credu bod hyn wedi helpu fy iselder hefyd.
Rhoi cynnig ar weithgarwch corfforol
Gall gweithgarwch corfforol gael effaith gadarnhaol ar ein hwyliau. Gall fod yn ddefnyddiol iawn canolbwyntio ar eich corff a'ch amgylchedd ffisegol. Gall symud eich corff hefyd eich helpu i gysgu'n well. Gall gweithgareddau gynnwys:
- Cerdded yn rheolaidd yn yr awyr agored
- Nofio
- Ioga neu fyfyrdod
Trefnir teithiau cerdded iechyd yn lleol mewn rhai ardaloedd. Efallai y bydd eich meddygfa yn trefnu grŵp cerdded wythnosol. Bydd rhai meddygon hefyd yn rhoi presgripsiwn o raglen ymarfer corff. Edrychwch ar ein tudalennau ar weithgarwch corfforol a byd natur ac iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth.
Mae ymarfer corff yn bwysig iawn. Os ydw i'n teimlo bod gen i ormod o egni, gall nofio neu fynd am dro cyflym a hir fy ymlacio a fy helpu i gysgu. Ar ddiwrnod isel efallai na fyddaf yn gallu mynd nofio, ond mae cerdded i'r dref yn help mawr i mi ddod â fy meddwl a fy nghorff at ei gilydd.
Ymweld â choleg adfer
Efallai y bydd yn ddefnyddiol hefyd i chi ddod o hyd i goleg adfer. Maent yn cynnig cyrsiau am iechyd meddwl ac adferiad mewn amgylchedd cefnogol. Gallwch ddod o hyd i ddarparwyr lleol ar wefan Mind Recovery Net.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.