Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder sgitsoaffeithiol

Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol, gan gynnwys ei symptomau a'i achosion. Mae'n rhoi cyngor ar sut y gallwch helpu eich hun a pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, yn ogystal â chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol?

Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn broblem iechyd meddwl lle rydych chi'n profi seicosis yn ogystal â symptomau hwyliau.

Mae dwy ran i'r gair sgitsoaffeithiol:

Mae rhai pobl wedi awgrymu bod anhwylder sgitsoaffeithiol yng nghanol sbectrwm, gyda sgitsoffrenia ar un pen ac anhwylder deubegynol ar y llall. Mae hyn oherwydd bod y diagnosis hwn yn rhannu llawer o symptomau tebyg. Ond mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn cael ei gydnabod fel diagnosis ar wahân.

Efallai y bydd gennych adegau pan fyddwch yn cael trafferth gofalu amdanoch eich hun. Neu pan fydd eich meddygon yn teimlo nad oes gennych ddealltwriaeth o'ch ymddygiad a sut rydych chi'n teimlo.

Gall symptomau ddechrau ar unrhyw oedran, ond fel arfer byddant yn dechrau pan fyddwch yn oedolyn ifanc. Dim ond unwaith yn eu bywyd y mae rhai pobl yn profi symptomau sgitsoaffeithiol.

Anhwylder sgitsoaffeithiol a fi

Dechreuodd pethau gael ystyron cyfrinachol ac roeddwn i'n credu fy mod yn gallu gweld i'r dyfodol.

Anhwylder sgitsoaffeithiol a stigma

Efallai na fydd rhai pobl yn deall nac wedi clywed am anhwylder sgitsoaffeithiol. Efallai y byddant yn cael camsyniadau amdanoch chi. Neu ddelwedd negyddol neu anghywir o anhwylder sgitsoaffeithiol.

Gall hyn deimlo'n anodd iawn. Yn enwedig os yw'r person sy'n credu fel hyn yn ffrind, cydweithiwr, aelod o'r teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn llai adnabyddus na rhai problemau iechyd meddwl eraill. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach dod o hyd i wybodaeth neu gefnogaeth. Neu i gysylltu ag eraill sydd â phrofiadau tebyg. Gall hyn deimlo'n unig ac yn rhwystredig weithiau.

Efallai y byddwch am feddwl am yr opsiynau canlynol:

  • Dangos y wybodaeth hon i bobl. Efallai y bydd yn eu helpu i ddeall beth yw ystyr eich diagnosis.
  • Cymryd mwy o ran yn eich triniaeth. Gallwch chi sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Gallwch hefyd gymryd camau os nad ydych yn fodlon â'ch gofal. I gael cyngor, gweler ein tudalennau am ofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl.
  • Gwybod eich hawliau. Gall y gyfraith eich helpu mewn rhai sefyllfaoedd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau am hawliau cyfreithiol.
  • Gweithredu gyda Mind. I gael manylion am ffyrdd y gallwch gymryd rhan mewn helpu i herio stigma, gweler ein tudalen ar ymgyrchu.

Cofiwch: dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Nid oes rhaid i chi ddioddef pobl sy'n eich trin yn wael. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen am stigma a chamsyniadau am iechyd meddwl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.  

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig