Anhwylder sgitsoaffeithiol
Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol, gan gynnwys ei symptomau a'i achosion. Mae'n rhoi cyngor ar sut y gallwch helpu eich hun a pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, yn ogystal â chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Beth sy'n achosi anhwylder sgitsoaffeithiol?
Nid yw ymchwilwyr yn gwybod yn union beth sy'n achosi anhwylder sgitsoaffeithiol. Ond mae'n debygol o gael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau, fel:
- Digwyddiadau bywyd trawmatig neu sy’n peri straen
- Trawma yn ystod plentyndod
- Cemeg yr ymennydd
- Geneteg
Digwyddiadau bywyd trawmatig neu sy’n peri straen
I rai pobl, gall profiadau trawmatig neu sy’n peri straen sbarduno episod hwyliau neu seicosis. Gall straen hefyd wneud i'ch symptomau deimlo'n ddwys neu'n anodd eu rheoli.
Efallai y byddwch yn gallu cysylltu dechrau eich symptomau â chyfnod llawn straen yn eich bywyd, fel:
- Cam-drin neu esgeuluso
- Profi colled trawmatig
- Bod yn ddi-waith
- Cael eich bwlio neu eich aflonyddu, gan gynnwys hiliaeth
- Teimlo'n unig neu'n ynysig
- Problemau perthynas neu berthynas yn chwalu
- Colli rhywun sy’n agos atoch chi
- Cael problemau tai neu ddod yn ddigartref
- Cael problemau ariannol
Gweler ein tudalennau am reoli straen am ragor o wybodaeth am y cysylltiadau rhwng straen ac iechyd meddwl.
Trawma yn ystod plentyndod
Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gallai profi llawer iawn o ofid emosiynol fel plentyn gynyddu'r risg o ddatblygu anhwylder sgitsoaffeithiol. Gall hyn gynnwys profiadau fel:
- Cam-drin rhywiol neu gorfforol
- Esgeuluso
- Digwyddiadau trawmatig
- Colli rhywun sy’n agos iawn atoch chi, fel rhiant neu ofalwr
Gall profi trawma a gofid fel plentyn gael effaith barhaol. Er enghraifft, ar sut y gallwch reoli eich emosiynau fel oedolyn. Edrychwch ar ein tudalennau am drawma i gael rhagor o wybodaeth.
Cemeg yr ymennydd
Mae'r ffordd y mae problemau iechyd meddwl a chemeg yr ymennydd yn gysylltiedig yn dal yn aneglur ac yn cael eu trafod. Mae'r ymennydd dynol yn gymhleth iawn. Ac mae'r ymchwil a'r dadleuon yn y maes hwn yn gymhleth.
Weithiau gellir helpu symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol trwy gymryd rhai meddyginiaethau seiciatrig. Credir bod rhai o'r meddyginiaethau hyn yn gweithredu ar eich niwrodrosglwyddwyr, fel dopamin. Mae niwrodrosglwyddwyr yn gemegau sy'n cyfathrebu gwybodaeth trwy'ch ymennydd a'ch corff.
Mae ymchwil yn awgrymu y gall anhwylder sgitsoaffeithiol ymwneud â phroblemau gyda sut mae'r niwrodrosglwyddwyr hyn yn gweithio, ond does neb yn gwybod yn sicr.
Geneteg
Os ydych chi'n profi anhwylder sgitsoaffeithiol, rydych chi'n fwy tebygol o gael aelod o'r teulu sydd hefyd yn profi symptomau sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol (hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiagnosis).
Fodd bynnag, mae ymchwil i achosion genetig yn gyfyngedig. Nid yw ymchwil wedi dod o hyd i un genyn sy'n gyfrifol am anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae cysylltiadau teuluol yn fwy cymhleth.
Mae ymchwilwyr yn credu y gallai ffactorau amgylcheddol esbonio pam mae rhai pobl yn profi symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. A gall aelodau o'r teulu fod yn rhan ddylanwadol iawn o'ch amgylchedd wrth i chi dyfu i fyny.
Nid ydym yn gwybod pam y gallai rhywun ddatblygu symptomau sgitsoaffeithiol yn hytrach na sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol.
Mae gen i hanes teuluol hir o broblemau iechyd meddwl, cafodd fy Nhad a'i efaill ddiagnosis o sgitsoffrenia a chafodd fy Mam a'i Mam hi ddiagnosis o anhwylder deubegynol.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.