Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder sgitsoaffeithiol

Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol, gan gynnwys ei symptomau a'i achosion. Mae'n rhoi cyngor ar sut y gallwch helpu eich hun a pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, yn ogystal â chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r adran hon ar gyfer ffrindiau a theulu rhywun sydd wedi cael diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol.

Gall cefnogaeth gan deulu a ffrindiau chwarae rhan bwysig wrth helpu rhywun i wella ar ôl pwl o anhwylder sgitsoaffeithiol. Gall leihau'r tebygolrwydd y byddant yn cael episodau pellach.

Gall hefyd fod yn straen i ofalu am rywun neu eu cefnogi. Efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch chi hefyd.

Bydd y dudalen hon yn cynnig awgrymiadau ar sut y gallwch chi helpu eraill a’ch hun:

Deall y diagnosis

Gall dysgu mwy am anhwylder sgitsoaffeithiol eich helpu i:

  • Adnabod symptomau neu sbardunau cynnar
  • Rhoi hyder i chi drafod problemau a chynnig help
  • Ymateb yn bwyllog mewn sefyllfaoedd anodd a gweithio tuag at ganlyniad cadarnhaol

Os yw rhywun yn profi symptomau seicosis, fel clywed lleisiau, gallai fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n gwneud y canlynol:

  • Derbyn bod y lleisiau'n real iddyn nhw, hyd yn oed os na allwch chi eu clywed nhw
  • Canolbwyntio ar sut maen nhw'n teimlo, yn hytrach na'r hyn maen nhw'n ei brofi
  • Helpu nhw i reoli eu symptomau. Er enghraifft, gallech awgrymu pethau i dynnu eu sylw

Gofyn sut y gallwch chi ac eraill helpu

Gofynnwch iddyn nhw'n uniongyrchol sut y gallwch chi fod fwyaf defnyddiol. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu:

  • Eu cefnogi i gael triniaeth neu gael mynediad at wasanaeth penodol
  • Cadw cwmni iddynt os ydynt yn teimlo'n bryderus am fynd i rywbeth newydd, fel apwyntiad neu weithgaredd
  • Cysylltu â nhw'n rheolaidd am sgwrs os nad ydych chi'n byw’n agos
  • Eu cefnogi i wneud penderfyniadau. Hyd yn oed os byddant yn gofyn i chi weithredu ar eu rhan, ceisiwch eu hannog i wneud eu penderfyniadau eu hunain
  • Parchu’r dewisiadau maen nhw'n eu gwneud, hyd yn oed os na fyddech chi’n eu dewis drosoch chi’ch hun
  • Bod yn glir ynghylch beth yw eich terfynau eich hun o ran yr hyn y gallwch chi helpu ag ef
  • Eu helpu i gael cymorth arall os oes angen. Er enghraifft, efallai y bydd yn bosibl dod o hyd i eiriolwr annibynnol i'w helpu.

Pan fyddant yn teimlo'n dda, efallai y byddai'n ddefnyddiol trafod sut y gallwch eu helpu mewn argyfwng. Neu os ydyn nhw ar ddechrau episod arall. Efallai y byddwch yn:

  • Eu hannog i ysgrifennu cynllun argyfwng
  • Trafod a chadw llygad am symptomau
  • Bod yn ymwybodol o’u sbardunau neu eu cofnodi

Gall hyn eu helpu i osgoi argyfyngau neu eu rheoli'n wahanol yn y dyfodol lle bo hynny'n bosibl.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau am gefnogi rhywun i geisio cymorth, eiriolaeth a chynllunio ar gyfer argyfwng.

Nid yw fy nyweddi yn ofn siarad â mi os yw hi'n meddwl fy mod i'n gwaethygu. Mae hyn wedi fy helpu i sylwi ar newidiadau fy hun.

Cael help mewn argyfwng

Os ydych chi'n credu y gallai eich ffrind neu aelod o'r teulu fod mewn perygl o frifo eu hunain neu eraill, efallai y bydd angen ystyried asesiad Deddf Iechyd Meddwl ar eu cyfer.

Gall y berthynas agosaf, fel y'i diffinnir o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ofyn i'r person sydd mewn perygl gael asesiad iechyd meddwl gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy. Mae'r asesiad hwn yn cynnwys ystyried opsiynau triniaeth. Gall hyn gynnwys penderfynu a ddylai'r person gael ei dderbyn i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ar y Ddeddf Iechyd Meddwl, gwasanaethau argyfwng, cael eich derbyn i’r ysbyty a'r berthynas agosaf.

Cael cefnogaeth i’ch hun

Gall fod yn ofidus iawn pan fydd rhywun rydych chi'n agos ato yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael cymorth wrth ymdopi â'ch teimladau eich hun, naill ai drwy therapi siarad neu gefnogaeth gan gymheiriaid, lle gallwch siarad â phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg. Gall y cymorth hwn fod ar gael mewn cangen Mind lleol neu grwpiau gofalwyr eraill, fel Carers UK.

Mae gan ofalwyr hawl hefyd i gael asesiad o'u hanghenion eu hunain am gymorth ymarferol ac emosiynol gan y gwasanaethau cymdeithasol. Gelwir hyn yn asesiad gofalwr. Mae nifer o sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar y pynciau hyn.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau am sut i ymdopi wrth gefnogi rhywun arall, rheoli straen a chynnal eich lles.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.  

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig