Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Clywed lleisiau

Mae'r dudalen hon yn egluro sut beth yw clywed lleisiau, ble i fynd am help os oes ei angen arnoch, a beth all pobl eraill ei wneud i gefnogi rhywun sy'n cael trafferth gyda chlywed lleisiau.

Beth yw lleisiau?

Ystyr 'clywed lleisiau' yw clywed llais (neu lawer o wahanol leisiau) pan nad oes neb yn bresennol gyda chi, neu leisiau na all pobl eraill gyda chi eu clywed.

Mae gan bobl lawer o brofiadau gwahanol o glywed lleisiau. Efallai na fydd eich lleisiau yn eich poeni, neu efallai byddan nhw hyd yn oed yn gysurus neu’n ddefnyddiol i chi. Efallai byddan nhw’n annifyr neu’n tynnu eich sylw. Neu efallai eu bod yn teimlo'n frawychus ac yn ymwthiol.

Gall eich teimladau am eich lleisiau fod yn wahanol ar adegau gwahanol. Gallai hyn ddibynnu ar sut rydych chi'n teimlo, beth sy'n digwydd yn eich bywyd neu pa fathau o leisiau rydych chi'n eu clywed.

Mae'n gyffredin meddwl, os ydych chi'n clywed lleisiau, bod yn rhaid bod gennych broblem iechyd meddwl. Ond mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl yn clywed lleisiau ac nad oes ganddynt broblem iechyd meddwl. Mae'n brofiad dynol cyffredin iawn.

Rwy'n clywed cannoedd o leisiau... perthnasau, ffrindiau a phobl yn y cyfryngau.

Pam ydw i'n clywed lleisiau?

Mae llawer o resymau pam y gallech chi glywed lleisiau. Dyma rai ohonynt:

  • Lleisiau wrth i chi gwympo i gysgu neu ddeffro - gallai'r rhain ddigwydd pan fyddwch chi'n hanner cysgu, oherwydd bod eich ymennydd yn dal i fod yn rhannol mewn cyflwr breuddwydiol. Efallai y bydd y llais yn galw eich enw neu’n dweud rhywbeth byr. Efallai y byddwch hefyd yn gweld pethau rhyfedd. Mae'r profiadau hyn fel arfer yn dod i ben pan fyddwch chi wedi deffro’n llawn.
  • Cwsg gwael –  gall problemau cysgu achosi i chi glywed lleisiau.
  • Bod yn llwglyd – efallai y byddwch chi'n clywed lleisiau os ydych chi'n llwglyd dros ben.
  • Salwch corfforol – os oes gennych dymheredd uchel iawn efallai y byddwch yn clywed lleisiau neu'n gweld pethau na all pobl eraill. Weithiau gall clywed lleisiau fod yn arwydd o afiechydon eraill. Os ydych chi'n poeni am hyn, mae'n bwysig siarad â'ch meddyg.
  • Cyffuriau – efallai y byddwch yn clywed neu'n gweld pethau ar ôl cymryd cyffuriau hamdden neu fel sgil-effaith rhai cyffuriau presgripsiwn. Efallai y byddwch hefyd yn cael y profiadau hyn pan fyddwch yn dod oddi ar gyffuriau.
  • Straen neu bryder – efallai y byddwch yn clywed lleisiau pan fyddwch dan straen mawr neu’n bryderus.
  • Profedigaeth – os ydych chi wedi colli rhywun agos iawn yn ddiweddar, efallai y byddwch chi'n eu clywed nhw'n siarad â chi neu'n teimlo eu bod nhw gyda chi. Mae'r profiad hwn yn gyffredin iawn ac mae hyn yn rhoi cysur i rai pobl.
  • Cam-drin neu fwlio – efallai y byddwch yn dechrau clywed lleisiau ar ôl cael eich cam-drin neu eich bwlio. Gall hyn gynnwys clywed llais rhywun wnaeth eich cam-drin. Efallai y byddwch yn eu clywed yn angharedig neu'n fygythiol, neu'n dweud wrthych am niweidio'ch hun.
  • Profiadau trawmatig eraill  – efallai y byddwch yn clywed lleisiau o ganlyniad i drawma arall, a all fod yn gysylltiedig ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac anhwylderau datgysylltiol.
  • Profiadau ysbrydol  – mae rhai pobl yn clywed llais fel rhan o brofiad ysbrydol. Gall hwn fod yn brofiad arbennig iawn sy’n eich helpu i wneud synnwyr o'ch bywyd. Neu efallai y byddwch yn teimlo fel pe baech yn clywed llais ysbryd aflan.
  • Problemau iechyd meddwl  – efallai y byddwch yn clywed lleisiau fel symptom o rai problemau iechyd meddwl, gan gynnwys seicosis, sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, anhwylder sgitsoffaffeithiol neu iselder difrifol.

Clywed lleisiau gydag anhwylder deubegynol

 

Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n meddwl bod cael rhywun yn siarad â mi yn fy mhen yn normal.

Siarad gyda phobl eraill

Gall fod yn anodd siarad am glywed lleisiau. Gall y ffordd y mae pobl eraill yn ymateb wneud gwahaniaeth mawr i'ch profiad.

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn gallu ymdopi â'ch lleisiau ond yn gweld bod ymatebion pobl eraill yn fwy o broblem. Efallai y byddwch yn teimlo bod angen i chi guddio'r hyn y mae eich lleisiau'n ei ddweud neu pa mor aml rydych chi'n eu clywed.

Gall fod yn anodd bod o gwmpas eraill os yw'ch lleisiau'n tynnu eich sylw. Neu efallai y bydd eich lleisiau'n anoddach i'w rheoli mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol.

Efallai y bydd pobl eraill yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi ystyron i'ch lleisiau neu’n tybio fod eich lleisiau'n golygu eich bod yn ddifrifol sâl
  • Ddim yn poeni am eich lleisiau ac yn eu derbyn fel rhan o bwy ydych chi
  • Ddim yn deall sut beth yw clywed lleisiau, a all fod yn rhwystredig
  • Teimlo'n rhwystredig os yw'ch lleisiau'n tynnu eich sylw

Gallai siarad am eich lleisiau gyda rhywun rydych wir yn ymddiried ynddynt eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus. Os ydych chi'n poeni am eu hymateb, gallech chi ddangos y wybodaeth hon iddyn nhw.

Doeddwn i ddim eisiau siarad amdano oherwydd byddai hynny'n ei wneud yn fwy real rywsut.

Wynebu stigma a chamsyniadau

Yn anffodus, mae gan rai pobl gamsyniadau am yr hyn y mae'n ei olygu i glywed lleisiau. Efallai eu bod yn meddwl bod clywed lleisiau yn golygu eich bod yn beryglus neu'n sâl iawn. Gall hyn beri gofid, yn enwedig os yw'r bobl sy'n teimlo fel hyn yn deulu, ffrindiau neu’n gydweithwyr.

Gall ein diwylliant neu grefydd effeithio ar y ffordd rydym yn profi neu'n disgrifio ein lleisiau. Efallai na fydd rhai gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol o wahaniaethau diwylliannol o ran deall lleisiau. Gall hyn ei gwneud yn anoddach dod o hyd i gymorth sy'n adlewyrchu eich dealltwriaeth eich hun o'ch profiadau. Mae gan ein gwybodaeth am hiliaeth ac iechyd meddwl ragor o fanylion am anghydraddoldeb yn y system iechyd meddwl, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer goresgyn rhwystrau i gymorth.

Os oes gan eich ffrindiau, teulu neu gymuned ehangach farn negyddol am yr hyn y mae'n ei olygu i glywed lleisiau, efallai y byddwch yn ofni dweud wrth unrhyw un amdano neu ofyn am help. Gallai hyn gynyddu eich lefelau straen a gwneud y lleisiau'n fwy gofidus i chi.

Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun. Nid oes rhaid i chi oddef pobl sy'n eich trin yn wael.

Edrychwch ar ein tudalennau ar stigma a chamsyniadau i gael syniadau am ddelio â stigma.  

Doedd fy nhaith i adferiad ddim yn hawdd. Roeddwn i'n wynebu stigma a gwahaniaethu gan gymaint o bobl.

Clywed lleisiau a rhithweledigaethau

Gwyliwch Juno yn siarad am ei brofiad o glywed lleisiau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig