Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Clywed lleisiau

Mae'r dudalen hon yn egluro sut beth yw clywed lleisiau, ble i fynd am help os oes ei angen arnoch, a beth all pobl eraill ei wneud i gefnogi rhywun sy'n cael trafferth gyda chlywed lleisiau.

Ymdopi â chlywed lleisiau

Gall pethau gwahanol eich helpu i ymdopi â'ch lleisiau ar wahanol adegau. Efallai na fydd rhai o'r syniadau hyn yn ddefnyddiol neu'n bosibl i chi ar hyn o bryd. Rhowch gynnig ar ychydig o bethau gwahanol a gweld pa un sy'n gweithio orau i chi.

Ar y dudalen hon, rydym yn rhoi cyngor ar sut i:

Deall eich lleisiau

Gall deall mwy am eich lleisiau eich helpu i:

  • Teimlo fwy o reolaeth
  • Adnabod pan fydd eich lleisiau'n achosi problemau
  • Sefyll i fyny at eich lleisiau
  • Datblygu neu newid eich perthynas â'ch lleisiau fel nad ydynt yn ymyrryd â'ch bywyd, neu'n eich atal rhag gwneud eich dewisiadau eich hun

Nid yw bob amser yn hawdd gweithio allan beth mae eich lleisiau'n ei olygu. Weithiau efallai na fyddant yn golygu unrhyw beth. Ac mae hynny'n iawn hefyd.

Drwy wynebu arwyddocâd y llais hwn, a’r camau y gwnaeth fy nghymhell i'w cymryd, dwi’n dysgu ffordd newydd a chynaliadwy o fyw.

Lleisiau a'ch gorffennol

Gallai'r cwestiynau hyn eich helpu i feddwl am sut mae eich lleisiau'n ymwneud â'ch profiadau yn y gorffennol.

  • Beth oedd yn digwydd pan glywais i leisiau am y tro cyntaf?
  • Lle oeddwn i? Sut oeddwn i'n teimlo?
  • Beth ddywedon nhw?
  • Sut oedden nhw'n swnio? Pa oedran oedden nhw?
  • Ydyn nhw'n cynrychioli rhywun neu broblem?
  • Oes yna batrymau i'r lleisiau?

Efallai y byddwch yn adnabod lleisiau fel pobl o'ch gorffennol neu fel eich llais eich hun ar wahanol oedrannau. Gallant fod yn gysylltiedig â phrofiadau trawmatig neu boenus.

Lleisiau a'ch bywyd nawr

Efallai y bydd y cwestiynau hyn yn eich helpu i feddwl am leisiau yn eich bywyd nawr.

  • Ydw i'n clywed lleisiau ar amser neu leoliad penodol?
  • Beth sy'n digwydd pan fydda i'n clywed lleisiau?
  • Sut ydw i'n teimlo cyn clywed y lleisiau?
  • Beth mae'r lleisiau eisiau i mi ei wneud?
  • Beth ydw i eisiau ei wneud?

Efallai y byddwch chi'n dechrau adnabod pryd mae'ch lleisiau'n achosi problemau a beth sy'n eu gwneud yn waeth.

Gallai hyn eich helpu i nodi pryd mae angen i chi chwilio am gymorth neu ofalu am eich hun. Efallai y bydd hyn yn eich helpu i deimlo mwy o reolaeth.

Cadw dyddiadur

Mae rhai pobl yn gweld y gall cadw cofnod o’u lleisiau eu helpu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn. Gallech ysgrifennu mewn dyddiadur neu wneud nodiadau neu recordiadau ar eich ffôn.

Er enghraifft, gallech nodi pryd fyddwch chi'n clywed lleisiau ac ysgrifennu beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n eu clywed. Gallech chi hefyd nodi'r hyn maen nhw'n ei ddweud, tôn eu llais a sut roedden nhw'n gwneud i chi deimlo.

Gallai edrych yn ôl dros eich nodiadau eich helpu i weld unrhyw batrymau i'r lleisiau. Gall hyn eich helpu i ddeall sut maent yn effeithio arnoch dros gyfnod hirach. Efallai y byddwch hefyd yn sylwi os yw rhai pethau'n ymddangos eu bod yn sbarduno eich lleisiau.

Roedd fy lleisiau’n gyffredin iawn yn ystod amser bwyd ac ar adegau lle nad oeddwn yn gwneud dim.

Cyfathrebu â'ch lleisiau

Gallai newid sut rydych chi'n cyfathrebu â'ch lleisiau eich helpu i wneud y canlynol:

  • Teimlo bod gennych fwy o reolaeth drostynt
  • Creu perthynas fwy cadarnhaol gyda nhw
  • Eu hatal rhag cael cymaint o rym dros eich bywyd

Nid yw bob amser yn hawdd cyfathrebu â'ch lleisiau, yn enwedig os ydyn nhw'n eich rheoli neu'n ymosodol. Mae gwahanol ddulliau y gallwch roi cynnig arnynt, yn dibynnu ar y math o lais a sut rydych chi'n teimlo.

Herio eich lleisiau

Gall herio eich lleisiau eich helpu i deimlo mwy o reolaeth. Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:

  • Sefyll i fyny atynt. Dywedwch wrthyn nhw nad oes ganddyn nhw unrhyw bŵer drosoch chi.
  • Anwybyddu eu gorchmynion neu fygythiadau. Dywedwch wrthyn nhw na fyddwch chi'n gwrando arnyn nhw nac yn gwneud yr hyn maen nhw'n ei ddweud.
  • Bod yn bendant. Dychmygwch yr hyn y byddech chi'n ei ddweud neu'n ei wneud pe na baech chi'n ofni eich lleisiau. Ceisiwch ymarfer gweithredu fel hyn nes ei fod yn teimlo'n fwy naturiol.

Bod yn garedig wrth eich lleisiau

Weithiau mae'n fwy defnyddiol i drin eich lleisiau gyda charedigrwydd a thrugaredd. Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:

  • Gofynnwch iddyn nhw, 'Beth sydd ei angen arnoch chi?' Gall ceisio eu deall eich helpu i deimlo mwy o reolaeth.
  • Cofiwch o ble mae'r lleisiau'n dod. Er enghraifft, gall lleisiau dig neu ofnus ddod o le ofn, poen neu drawma.
  • Dywedwch diolch iddynt am geisio eich cadw'n ddiogel trwy eich atgoffa o'ch ofnau. Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi'n deall, ond dydych chi ddim yn mynd i wrando arnyn nhw ar hyn o bryd.
  • Ceisiwch ymarfer trin eich llais yn garedig iawn. Efallai y bydd yn teimlo'n anodd ar y dechrau, ond ar ôl amser gall ddod yn fwy naturiol.
  • Byddwch yn garedig â’ch hun. Ceisiwch beidio â barnu'ch hun os yw'ch lleisiau'n dweud pethau sy'n ffiaidd neu'n sarhaus yn eich barn chi. Nid yw'r hyn maen nhw'n ei ddweud yn adlewyrchiad o bwy ydych chi.

Ymateb yn niwtral i'ch lleisiau

Weithiau, ymateb yn niwtral i leisiau yw'r ffordd fwyaf defnyddiol o gyfathrebu â nhw. Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:

  • Cydnabod yr hyn y mae'r lleisiau'n ei ddweud heb gytuno nac anghytuno â nhw.
  • Defnyddiwch eiriau niwtral i ymateb iddynt. Er enghraifft, gallech ddweud 'iawn' neu 'ydy hynny'n iawn?'
  • Cadwch eich atebion yn fyr ac yn syml.
  • Ar ôl i chi ymateb, ceisiwch dynnu eich sylw a bwrw ymlaen â'ch diwrnod.

Trafod gyda'ch lleisiau

Efallai y bydd yn helpu i osod ffiniau gyda'ch lleisiau. Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:

  • Rhowch adegau iddynt pan fyddwch chi'n talu sylw iddyn nhw - a phryd na fyddwch chi'n gwneud hynny.
  • Dywedwch wrthyn nhw yr hoffech chi aros cyn i chi wneud yr hyn maen nhw'n ei ddweud.
  • Ceisiwch dreulio llai o amser yn raddol ar eich lleisiau, gan adeiladu hyn yn fwy bob dydd.
  • Gosodwch larymau neu amseryddion i gyfyngu ac olrhain yr amser rydych chi'n ei dreulio ar eich lleisiau.

Rwy'n deall nad oes rhaid i mi ildio i'w gofynion. Gallaf drafod ac aros cyn gweithredu ar gyfarwyddiadau a rhoi cynnig ar dechnegau daearu i dynnu fy sylw.

Cyfathrebu yn eich ffordd eich hun

Nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o gyfathrebu â'ch lleisiau. Dyma rai pethau y gallech feddwl amdanynt:

  • Ceisiwch anwybyddu'r lleisiau nad ydych yn eu hoffi a chanolbwyntio ar y rhai sy'n haws gwrando arnynt.
  • Efallai yr hoffech chi siarad yn uchel â'ch lleisiau. Neu efallai y byddwch yn ei chael hi'n haws ysgrifennu pethau.
  • Dechreuwch yn araf a chymerwch eich amser.
  • Gall lleisiau gwahanol ofyn am wahanol ymatebion. Efallai y bydd rhai yn haws i'w herio, ac efallai y bydd rhai yn well i'w hanwybyddu.
  • Gallai fod o gymorth defnyddio dulliau creadigol i archwilio eich lleisiau, fel ysgrifennu dyddiadur. Gall creu celf neu gerddoriaeth hefyd eich helpu i fynegi eich lleisiau mewn ffordd sy'n teimlo ar wahân i’ch hun.

Tynnu eich sylw oddi ar eich lleisiau

Weithiau, efallai y byddwch am anwybyddu neu atal eich lleisiau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os nad ydych eisiau cyfathrebu â nhw. Neu os nad oes gennych amser i wrando arnynt.

Dyma rai pethau gwahanol y gallech roi cynnig arnynt:

  • Canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o'ch cwmpas. Ceisiwch restru 5 peth y gallwch eu gweld, 4 peth y gallwch eu cyffwrdd, 3 pheth y gallwch eu clywed, 2 beth y gallwch eu harogli ac 1 peth y gallwch ei flasu.
  • Canolbwyntiwch ar eich anadl. Anadlwch yn araf ac yn ddwfn. Ceisiwch anadlu i mewn trwy'ch trwyn ac allan trwy'ch ceg. Mae’n ddefnyddiol i rai pobl gyfri wrth wneud hyn.
  • Gwnewch weithgareddau neu dasgau i dynnu eich sylw. Er enghraifft, gallech roi cynnig ar ymarfer corff, coginio neu wau. Efallai y bydd yn rhaid i chi roi cynnig ar ychydig o wahanol weithgareddau i ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi. 
  • Gwrandewch ar bethau eraill. Mae gwrando ar gerddoriaeth, llyfrau sain neu bodlediadau yn ffordd ddefnyddiol o dynnu sylw oddi wrth leisiau. Gall helpu i ddefnyddio clustffonau.
  • Defnyddiwch wrthrych daearu. Cadwch wrthrych bach gyda chi i’w ddal a chanolbwyntio arno pan fyddwch chi'n teimlo eich bod yn cael eich poeni gan eich lleisiau. Er enghraifft, gallech ddefnyddio carreg, tegan neu ddarn o ffabrig.

Mae cerddoriaeth hefyd wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd... Roedd bob amser yn fy helpu i beidio â chynhyrfu, a thynnu fy sylw, p'un a oeddwn yn gwrando arno, neu'n ei chwarae.

Siarad â phobl eraill sy'n clywed lleisiau

Gall lle diogel i siarad â phobl eraill sy'n clywed lleisiau eich helpu i deimlo eich bod yn cael eich clywed a'ch deall.

Gall grwpiau cymorth cymheiriaid ar gyfer pobl sy'n clywed lleisiau:

  • Eich helpu i deimlo'n llai unig - efallai y byddwch yn falch o glywed bod pobl eraill yn cael profiadau tebyg
  • Eich helpu i siarad am glywed lleisiau mewn lle diogel, anfeirniadol
  • Eich helpu i gael safbwyntiau newydd ar eich lleisiau
  • Rhoi cyfle i chi gefnogi eraill - gall helpu pobl eraill wella'ch hwyliau neu helpu i leihau straen
  • Eich helpu i deimlo eich bod yn cael eich derbyn a'ch clywed
  • Helpu’n fawr gyda’ch hunan-barch
  • Eich annog i wneud eich penderfyniadau eich hun ynglŷn â sut rydych chi am ddelio â'ch lleisiau


Mae gan Hearing Voices Network dros 180 o grwpiau ledled y DU. Efallai y bydd eich cangen Mind lleol hefyd yn cynnal grwpiau lleisiau. Gweler ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid am ragor o wybodaeth.

Gallech hefyd feddwl am chwilio am gefnogaeth ar-lein. Mae hwn yn opsiwn da os nad ydych am fynychu grŵp cymorth neu os na allwch ddod o hyd i un yn lleol. Efallai yr hoffech roi cynnig ar Side by Side, cymuned ar-lein gefnogol sy'n cael ei chynnal gan Mind.

Neu fe allech chi edrych ar y cyfryngau cymdeithasol am bobl neu grwpiau sydd â phrofiadau tebyg i chi. Edrychwch ar ein tudalennau cymorth ar-lein ac aros yn ddiogel ar-lein am ragor o wybodaeth.

Cyn gynted ag y dechreuais siarad, des i o hyd i fy llais eto ac fe ddiflannodd yr ofn yn araf.

Gofalu am eich hun

  • Ceisiwch wella eich cwsg. Gall cwsg roi'r egni i chi ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd. Gall clywed lleisiau ei gwneud hi'n anodd i chi gael digon o gwsg. Ac os nad ydych chi'n cysgu'n dda, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anoddach rheoli eich lleisiau. Mae gan ein tudalennau ar broblemau cysgu ragor o wybodaeth.
  • Meddyliwch am eich diet. Gall bwyta'n rheolaidd a chadw eich siwgr gwaed yn sefydlog wneud gwahaniaeth i'ch hwyliau a'ch lefelau egni.
  • Dysgwch sut i ymlacio. Gall dysgu sut i ymlacio eich helpu i ofalu am eich lles os ydych yn teimlo dan straen neu'n bryderus. Mae gan ein tudalennau ar ymlacio awgrymiadau y gallech roi cynnig arnynt.
  • Treuliwch amser ym myd natur. Gall bod allan mewn mannau gwyrdd wella eich lles a'ch helpu i deimlo'n fwy cysylltiedig â'ch amgylchedd. Mae gan ein tudalennau ar fyd natur ac iechyd meddwl ragor o wybodaeth.
  • Ceisiwch wneud ymarfer corff. Gall ymarfer corff fod yn ddefnyddiol iawn i'ch lles meddyliol. Mae gan ein tudalennau ar weithgarwch corfforol ragor o wybodaeth.

Dod o hyd i help ysbrydol

Os ydych chi'n teimlo bod eich lleisiau'n brofiad ysbrydol, efallai yr hoffech siarad â rhywun o'ch ffydd. Efallai y gallwch ddod o hyd i gymorth drwy addoldai, canolfannau cymunedol neu grwpiau cymorth lleol.

Neu efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gysylltu â phobl ar-lein neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae gan ein gwybodaeth am iechyd meddwl ar-lein ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn ddiogel.  

Yn anffodus, ni fydd pawb yn deall eich profiadau. Gall fod yn anodd dod o hyd i rywun sy'n deall eich anghenion ysbrydol yn ogystal â'ch anghenion iechyd meddwl.

Efallai y bydd rhai seiciatryddion yn gallu awgrymu rhywun a all helpu. Mae gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ragor o wybodaeth am ysbrydolrwydd ac iechyd meddwl.

A fyddaf byth yn stopio clywed lleisiau?

Mae rhai pobl yn stopio clywed lleisiau. Ond mae llawer o bobl yn canfod nad ydyn nhw byth yn mynd yn llwyr. Mae llawer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt a allai eich helpu i ymdopi a rheoli eich lleisiau. Gall dod o hyd i ddull sy'n gweithio orau i chi eich helpu i ddatblygu gwell perthynas â nhw. Mae llawer o bobl yn gwneud hyn ac yn byw bywydau hapus a llawn.

Clywed lleisiau a diddordebau

Mae James wedi cael profiad o glywed lleisiau ac iselder. Gwyliwch ef yn siarad am sut mae ei ddiddordebau wedi ei helpu i reoli ei iechyd meddwl. Rhybudd cynnwys: mae'r fideo hwn yn trafod dulliau hunan-niweidio.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig