Clywed lleisiau
Mae'r dudalen hon yn egluro sut beth yw clywed lleisiau, ble i fynd am help os oes ei angen arnoch, a beth all pobl eraill ei wneud i gefnogi rhywun sy'n cael trafferth gyda chlywed lleisiau.
Triniaethau ar gyfer clywed lleisiau
Os yw eich lleisiau'n peri gofid i chi neu'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, efallai y byddwch am geisio triniaeth. Mae'r dudalen hon yn trafod:
Sut alla i gael triniaeth?
Y lle cyntaf i fynd yw eich meddyg teulu fel arfer. Efallai y byddant yn eich cyfeirio at seiciatrydd a allai roi diagnosis a thriniaeth i chi.
Dylai eich meddyg teulu bob amser wirio a allech chi fod yn clywed lleisiau am reswm corfforol. Dylent wneud hyn cyn iddynt roi unrhyw feddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn neu eich cyfeirio at seiciatrydd. Er enghraifft, dylent wirio:
- Nad oes gennych dymheredd uchel ac nad ydych wedi drysu
- Os yw'n sgil-effaith unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd
Efallai y bydd gan wahanol feddygon wahanol ddulliau. Mae ein tudalennau ar geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl yn cynnwys gwybodaeth ar sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. A beth allwch chi ei wneud os nad ydych chi'n hapus gyda'ch meddyg.
Efallai y byddwch yn gweld bod cael diagnosis yn brofiad cadarnhaol oherwydd:
- Mae diagnosis yn eich helpu i wneud synnwyr o'ch profiadau
- Rydych yn teimlo bod gennych gefnogaeth ar waith i'ch helpu pan fydd pethau'n anodd
Fodd bynnag, efallai y bydd y math hwn o gefnogaeth yn fwy heriol oherwydd:
- Gall gweld eich lleisiau fel rhywbeth i'w 'drin' wneud i chi deimlo'n ddi-rym i reoli eich lleisiau eich hun
- Gall cael diagnosis o broblem iechyd meddwl wneud i chi deimlo'n bryderus, fel petaech chi byth yn gallu gwella
Therapïau siarad
Mae gwahanol fathau o therapïau siarad. Maent i gyd wedi'u cynllunio i roi lle i chi archwilio teimladau a phrofiadau anodd gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig.
Efallai y bydd therapydd yn gallu eich helpu i:
- Archwilio pam mae'r lleisiau'n dweud yr hyn maen nhw'n ei ddweud
- Meddwl am yr hyn a allai sbarduno'ch lleisiau neu eu gwneud yn anoddach ymdopi â nhw
- Dod o hyd i ffyrdd gwell o ymdopi â nhw
- Dysgu sut i reoli eich lleisiau
Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)
Bydd CBT yn canolbwyntio llai ar pam rydych chi'n clywed lleisiau. Bydd yn canolbwyntio mwy ar sut mae'r lleisiau'n gwneud i chi deimlo neu feddwl am eich hun, a sut maen nhw'n effeithio ar eich bywyd. Gall CBT eich helpu i:
- Lleihau eich gofid am y lleisiau
- Lleihau'r effaith y mae'r lleisiau yn ei chael ar eich bywyd bob dydd
- Adnabod pethau a allai sbarduno eich lleisiau
- Eich helpu i ennill mwy o rym neu reolaeth dros eich lleisiau
Gweler ein tudalennau am CBT am ragor o wybodaeth.
Efallai y cynigir math o CBT i chi ar gyfer seicosis o'r enw CBTp - er bod hyn yn llai tebygol o gael ei ddefnyddio i drin clywed lleisiau yn benodol. Gall CBTp eich helpu i feddwl am y credoau sydd gennych am eich lleisiau a sut mae'r credoau hyn yn effeithio ar eich profiad o glywed lleisiau.
Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT) a Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi (CFT)
Mae ACT yn fath o therapi sy'n defnyddio meddwlgarwch a sgiliau derbyn i'ch helpu i ddelio â phrofiadau anodd. Efallai y bydd yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd mwy defnyddiol o ymateb i'ch lleisiau.
Mae CFT yn fath o therapi sy'n cyfuno meddwlgarwch a sgiliau hunandosturi i wella lles. Efallai y bydd yn eich helpu i ddeall eich lleisiau a sut maen nhw'n gysylltiedig â phethau sydd wedi digwydd i chi.
Mae ACT a CFT ar gael ar y GIG. Ond dim ond mewn rhai rhannau o'r wlad y maen nhw ar gael a gallant fod yn anodd cael mynediad atynt. Mae'r ddau hefyd ar gael yn breifat, ond gall hyn fod yn ddrud.
Mae gan Understanding Voices ragor o wybodaeth am ACT a CFT.
Therapi gwybyddol sy'n seiliedig ar feddwlgarwch (MBCT)
Mae MBCT yn fath o therapi sy'n cyfuno meddwlgarwch a CBT. Efallai y bydd yn eich helpu i:
- Canolbwyntio ar bethau eraill yn hytrach na'ch lleisiau
- Gwahanu eich hun oddi wrth eich lleisiau
- Cymryd sylw o’ch lleisiau a’u henwi
- Rheoli'r ffordd rydych chi'n teimlo am eich lleisiau
- Derbyn eich lleisiau
- Treulio llai o amser yn poeni am yr hyn y mae eich lleisiau yn ei olygu
Efallai y bydd rhai therapïau sy'n seiliedig ar feddwlgarwch ar gael ar y GIG, ond mae hyn yn amrywio ledled y wlad a gall rhestrau aros fod yn hir.
Edrychwch ar ein tudalennau am feddwlgarwch am ragor o wybodaeth.
Therapïau eraill
Efallai y cynigir triniaethau eraill i chi hefyd, gan gynnwys therapïau celfyddydol a chreadigol.
Mae ymchwil yn cael ei gynnal i fathau newydd o therapi ar gyfer clywed lleisiau. Mae gan Understanding Voices ragor o wybodaeth am therapïau newydd, fel therapi avatar.
Am ragor o wybodaeth am driniaethau ar gyfer problemau iechyd meddwl penodol, gweler ein tudalennau am driniaethau ar gyfer seicosis, sgitsoffrenia, iselder ac anhwylder deubegynol.
Mae therapïau siarad yn gweithio'n dda i mi ac maent yn hanfodol ar gyfer gwella fy nulliau ymdopi.
Meddyginiaeth
Os yw eich lleisiau'n eich poeni’n fawr a'ch bod wedi cael eich cyfeirio at seiciatrydd, efallai y byddan nhw'n rhoi cyffur gwrthseicotig i chi ar bresgripsiwn. Gallai'r cyffuriau hyn:
- Stopio'r lleisiau neu leihau pa mor aml rydych chi'n eu clywed
- Gwneud y lleisiau'n llai brawychus ac yn haws eu rheoli
- Helpu sicrhau nad yw’r lleisiau yn eich poeni cymaint, er y gallwch chi eu clywed o hyd
- Gwneud y lleisiau'n dawelach ac yn llai ymwthiol fel eich bod yn teimlo'n fwy ymlaciedig ac nad yw eich sylw’n cael ei dynnu cymaint
Gall meddyginiaeth fod yn rhywbeth sydd ei angen arnoch yn y tymor byr yn unig, wrth i chi ddysgu ffyrdd eraill o ymdopi â'r lleisiau.
Gweler ein tudalennau am gyffuriau gwrthseicotig i gael gwybodaeth gyffredinol am y math hwn o feddyginiaeth, a manylion am gyffuriau penodol.
Pa driniaeth allai fy helpu mewn argyfwng?
Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaethau argyfwng:
- Os ydych chi'n dechrau teimlo'n sâl iawn
- Os nad ydych yn teimlo y gallwch gadw eich hun yn ddiogel
- Os yw eich lleisiau'n mynd yn ofidus iawn ac yn anodd ymdopi â nhw
- Os nad yw eich triniaeth arferol yn helpu
Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n gallu cadw eich hun yn ddiogel, mae'n bwysig eich bod chi'n gofyn am help yn gyflym.
Gall gwasanaethau argyfwng gynnwys:
- Cymorth brys, fel mynd i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys
- Cefnogaeth gan dîm datrys argyfwng a thriniaeth gartref (CRHT)
- Cael eich derbyn i’r ysbyty
Am ragor o wybodaeth am eich opsiynau mewn argyfwng, gweler ein tudalennau am wasanaethau argyfwng.
Clywed lleisiau a’r carchar
Gwyliwch David yn siarad am ei brofiad o gael help ar gyfer clywed lleisiau.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.