Clywed lleisiau
Mae'r dudalen hon yn egluro sut beth yw clywed lleisiau, ble i fynd am help os oes ei angen arnoch, a beth all pobl eraill ei wneud i gefnogi rhywun sy'n cael trafferth gyda chlywed lleisiau.
Helpu rhywun sy'n clywed lleisiau
Os bydd rhywun sy’n bwysig i chi’n clywed lleisiau, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd deall yr hyn maen nhw'n ei brofi. Efallai nad ydych chi'n gwybod sut i helpu. Ond mae llawer o bethau cadarnhaol y gallwch eu gwneud i'w cefnogi.
- Derbyn bod eu profiad o'r lleisiau yn real. Bydd pawb yn cael profiad unigryw o glywed lleisiau. Gallwch helpu drwy dderbyn eu profiad fel rhywbeth go iawn - hyd yn oed os ydych yn ei chael hi'n anodd ei ddeall.
- Ceisiwch beidio â barnu'r hyn y mae clywed lleisiau yn ei olygu iddyn nhw. Nid yw rhai pobl yn siarad am eu lleisiau oherwydd eu bod yn poeni na fydd eu ffrindiau a'u teulu yn deall, neu byddant yn tybio eu bod yn ddifrifol sâl.
- Dysgwch am eu sbardunau. Gofynnwch a oes rhai sefyllfaoedd neu brofiadau sy'n sbarduno eu lleisiau.
- Cofiwch eu bod yn dal i fod yr un person. Dydy clywed lleisiau ddim yn newid pwy ydyn nhw.
Nid oedd fy nheulu a fy ffrindiau yn fy marnu, ac felly roedd hyn llawer yn haws i mi ddelio ag ef.
- Gofynnwch iddyn nhw beth fyddai'n helpu. Ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau am yr hyn sy’n anodd iddynt. Efallai y bydd pobl eisiau cefnogaeth wahanol ar adegau gwahanol. Weithiau mae'n well gofyn sut y gallwch chi helpu.
- Rhowch sicrwydd iddynt nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Nid yw llawer o bobl sy'n clywed lleisiau yn sylweddoli bod pobl eraill yn gwneud hefyd. Gall hefyd helpu i'w hatgoffa nad yw clywed lleisiau bob amser yn golygu eu bod yn sâl. Mae llawer o resymau pam mae pobl yn clywed lleisiau.
- Anogwch nhw i siarad am eu profiad. Gallai hyn olygu siarad â chi. Neu efallai yr hoffent siarad â meddyg, gweithiwr cymorth neu bobl eraill sy'n clywed lleisiau.
- Canolbwyntiwch ar deimladau. Gofynnwch iddyn nhw sut mae eu lleisiau'n gwneud iddyn nhw deimlo, yn hytrach na'r hyn maen nhw'n ei ddweud. Gall cynnwys lleisiau fod yn bersonol iawn, felly ceisiwch ddweud wrthynt i rannu’r hyn maen nhw’n gyfforddus i’w rannu yn unig.
Yn y diwedd, fe wnes i ymddiried yn un o fy ffrindiau agosaf. Dywedodd wrtha i heb unrhyw ddrama ei fod yn ymateb eithaf normal i sefyllfa llawn straen.
- Ceisiwch beidio â chymryd pethau'n bersonol. Gall fod yn anodd canolbwyntio ar sgyrsiau os ydych chi'n clywed lleisiau. Ceisiwch fod yn amyneddgar os oes rhywbeth yn tynnu eu sylw neu os ydynt yn dweud eu bod angen rhywfaint o amser ar eu pennau eu hunain.
- Helpwch i dynnu eu sylw. Ceisiwch awgrymu gweithgareddau neu dasgau, fel gwylio ffilm, mynd am dro neu goginio pryd o fwyd.
- Dysgwch ragor am y profiad o glywed lleisiau a helpwch i herio stigma. Dechreuwch gyda'n tudalennau am glywed lleisiau a phrofiadau o glywed lleisiau.
- Helpwch nhw i geisio triniaeth neu gefnogaeth os ydyn nhw ei eisiau. Gweler ein tudalen am sut i gefnogi rhywun i ofyn am help i gael rhagor o wybodaeth. Ond cofiwch na fydd pawb sy'n clywed lleisiau eisiau triniaeth neu gefnogaeth, neu ei angen.
- Gofalwch am eich hun. Gall gofalu am rywun arall effeithio ar eich lles eich hun. Darllenwch ragor am ofalu am eich hun yn ein tudalennau am ymdopi wrth gefnogi rhywun arall, rheoli straen a chynnal eich lles.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2022. Byddwn yn ei adolygu eto yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.