Clywed lleisiau
Mae'r dudalen hon yn egluro sut beth yw clywed lleisiau, ble i fynd am help os oes ei angen arnoch, a beth all pobl eraill ei wneud i gefnogi rhywun sy'n cael trafferth gyda chlywed lleisiau.
Profiadau o glywed lleisiau
Mae eich profiad o fyw gyda lleisiau yn unigryw i chi. Ond mae'r dudalen hon yn trafod sefyllfaoedd, cwestiynau a theimladau y gallent fod yn gyfarwydd i chi.
O ble maen nhw’n dod?
Efallai y byddwch yn:
- Profi’r lleisiau fel rhai sy'n dod o du fewn i’ch pen
- Teimlo bod lleisiau'n dod o'r tu allan ac yn cael eu clywed trwy'ch clustiau fel synau eraill
- Gwrando ar y lleisiau fel petaen nhw wrth ymyl eich clust
- Clywed y lleisiau'n dod o wrthrych neu anifail
- Teimlo fel pe baech chi'n clywed meddyliau pobl eraill, neu fel petai pobl eraill yn gallu clywed eich meddyliau
Pryd fyddaf yn eu clywed?
Efallai y byddwch yn:
- Clywed eich enw pan nad oes unrhyw un gyda chi
- Gweld neu glywed pethau wrth i chi gwympo i gysgu
- Clywed lleisiau pan fyddwch yn teimlo dan straen neu'n ofidus
Mae'n digwydd yn aml pan fyddaf yn y gwely ac yn methu cysgu, ond mae wedi digwydd yn ystod y dydd hefyd.
Beth allan nhw ei ddweud?
Efallai y byddwch yn:
- Profi lleisiau cas neu fygythiol sy'n dweud wrthych am wneud pethau peryglus, neu sy’n ceisio eich rheoli
- Clywed llais sy'n teimlo'n gyfeillgar ond sy'n eich annog i wneud pethau nad ydynt efallai'n dda i chi
- Clywed llais cefnogol, caredig neu lais sy'n eich helpu
- Clywed llawer o leisiau'n siarad amdanoch neu'n dadlau â'i gilydd
- Clywed llais sy’n disgrifio'r hyn rydych chi'n ei wneud wrth i chi ei wneud
- Clywed lleisiau'n siarad am bethau brawychus neu ofidus, fel dweud wrthych chi y bydd rhywbeth gwael yn digwydd i chi neu rywun rydych chi'n ei garu
- Clywed lleisiau sy'n gwneud hwyl amdanoch neu'n eich beirniadu
Sut maen nhw'n swnio?
Efallai y byddwch yn:
- Clywed lleisiau gyda gwahanol gyflymder neu lefel sain
- Clywed lleisiau pobl rydych chi'n eu hadnabod, fel ffrindiau, aelodau o'r teulu neu bobl enwog
- Clywed lleisiau dieithriaid
Gallwch chi hefyd:
- Clywed synau eraill, fel synau anifeiliaid neu gerddoriaeth
- Gweld, clywed neu arogli pethau na all eraill tra byddwch yn clywed lleisiau. Weithiau gelwir y rhain yn rhithweledigaethau synhwyraidd
- Teimlo cynhesrwydd, poen, pwysau neu deimladau yn eich pen neu rannau eraill o'ch corff wrth glywed lleisiau
- Profi lleisiau drwy weld dwylo yn arwyddo geiriau neu drwy weld symudiadau gwefusau. Efallai y byddwch yn fwy tebygol o brofi lleisiau fel hyn os ydych chi'n fyddar.
Dwi'n cofio clywed sibrwd maleisus yr oeddwn yn tybio oedd yn dod gan deithwyr eraill ar y trên... Roedd fel petai fy mod yn gallu clywed meddyliau pobl ac yn fy nghyflwr o baranoia, roedd y rhain bob amser yn faleisus ac yn feirniadol.
Eich perthynas â'ch lleisiau
Efallai bod gennych chi deimladau gwahanol am eich lleisiau ar wahanol adegau yn eich bywyd – neu hyd yn oed ar adegau gwahanol o'r dydd neu'r wythnos. Efallai byddwch chi:
- Yn ystyried eich lleisiau'n gysurus, yn ddefnyddiol neu'n ddoniol
- Yn ystyried bod eich lleisiau'n codi ofn, yn tynnu sylw neu'n peri gofid
- Eisiau i'ch lleisiau stopio
- Yn clywed rhai lleisiau rydych chi'n eu hoffi a lleisiau eraill sy'n achosi problemau i chi
- Yn poeni mai chi yw'r unig un sy'n clywed lleisiau, neu nad oes neb arall yn clywed y mathau o leisiau rydych chi'n eu clywed
Yn aml, mae lleisiau yn broblem oherwydd eich perthynas â nhw, yn hytrach nag oherwydd eich bod chi'n eu clywed. Gall meddwl am eich perthynas â'ch lleisiau eich helpu i weithio allan beth (os o gwbl) rydych chi eisiau ei wneud amdanynt.
Gweler ein tudalennau ar ymdopi â chlywed lleisiau a thriniaethau i gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Beth os ydw i'n hoffi fy lleisiau?
Mae rhai pobl yn gweld bod clywed lleisiau yn brofiad cadarnhaol. Efallai y bydd eich llais yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Efallai y byddwch yn eu croesawu neu eu colli os byddant yn stopio. Efallai y byddan nhw'n gwneud i chi deimlo'n well neu'n eich annog yn ystod cyfnodau anodd.
A allaf ymddiried yn fy lleisiau?
Efallai y bydd yn anodd gweithio allan a yw'ch lleisiau eisiau'r gorau i chi ai peidio. Efallai eu bod yn teimlo'n gyfeillgar ond yn dweud wrthych am wneud pethau sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi ofalu am eich hun. Neu’n eich stopio rhag gwneud yr hyn rydych chi eisiau ei wneud. Os yw'ch llais yn teimlo'n gysurus, gall fod yn anodd cydnabod ei fod yn dweud pethau ystrywus neu niweidiol.
Dysgu sut i reoli fy lleisiau
Gwyliwch Lilith yn siarad am sut wnaeth clywed lleisiau eu harwain at gynnau tân bwriadol. A sut wnaeth datgeliad y papur newydd lleol o’u problemau iechyd meddwl wneud iddynt wynebu eu problemau ar adeg anodd iawn.
Mae'n anoddach delio â fy lleisiau ar adegau penodol
- Efallai mai dim ond ar adegau penodol o'r dydd y byddwch yn clywed lleisiau (er enghraifft, yn ystod amser bwyd). Neu hyd yn oed ar adegau penodol o'r flwyddyn (er enghraifft, ar ben-blwydd digwyddiad neu brofiad penodol).
- Efallai y byddwch ond yn clywed lleisiau mewn rhai llefydd. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n clywed lleisiau pan fyddwch chi'n gadael y tŷ neu pan fyddwch chi'n mynd i le rydych chi'n ei gysylltu â straen neu drawma.
- Efallai y gwelwch fod eich lleisiau'n uwch ac yn amlach pan fyddwch chi'n teimlo dan straen.
Gall hyn olygu eich bod yn osgoi rhai llefydd neu brofiadau – neu'n eu cael yn anodd iawn.
Dydw i ddim yn teimlo fy mod yn gallu rheoli fy llais
- Efallai eich bod yn teimlo bod eich lleisiau'n eich rheoli neu'n eich atal rhag gwneud pethau yr hoffech chi eu gwneud.
- Efallai y bydd eich lleisiau'n torri ar draws eich meddyliau a'i gwneud hi'n anodd iawn canolbwyntio neu gynnal sgwrs.
- Efallai y bydd eich lleisiau yn dweud pethau sy'n sarhaus neu sy'n mynd yn groes i'ch gwerthoedd. Gall hyn deimlo'n gywilyddus, gan ei gwneud hi'n anoddach dweud wrth eraill am yr hyn rydych chi'n ei brofi.
Roedd cyfweliad gen i ... Gadewais y tŷ a dechreuodd y sibrwd, gan fynd yn uwch yn raddol nes i mi ffoi adref yn y pen draw yn chwysu ac yn llawn ofn.
Rwy'n teimlo dan fygythiad neu'n ofidus oherwydd fy lleisiau
Efallai y bydd eich lleisiau’n:
- Angharedig i chi, yn eich beirniadu, ac yn amharchus
- Dweud wrthych am wneud pethau sy'n anghywir
- Mynnu eich bod yn brifo'ch hun
Mae'r profiadau hyn yn debygol o wneud i chi deimlo'n ofidus, yn ofnus neu'n ddig. Efallai eich bod yn teimlo eich bod yn haeddu cael eich gweiddi arnoch, neu ei bod yn anodd sefyll i fyny i unrhyw un.
Bydden nhw'n dweud wrthyf yn gyson bod pethau gwael yn mynd i ddigwydd, y byddai fy anwyliaid yn cael eu lladd, neu y byddwn yn cael fy ymosod arnaf.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.