Byd natur ac iechyd meddwl
Mae’r dudalen hon yn egluro sut y gall byd natur helpu eich iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau a syniadau i roi cynnig arnynt, ac yn awgrymu ble i fynd am ragor o wybodaeth.
Sut y gall byd natur fod o fudd i fy iechyd meddwl?
Gall treulio amser mewn mannau gwyrdd neu ddod â byd natur i'ch bywyd bob dydd fod o fudd i'ch lles meddyliol a chorfforol. Er enghraifft, gall gwneud pethau fel tyfu bwyd neu flodau, ymarfer corff yn yr awyr agored neu fod o gwmpas anifeiliaid gael llawer o effeithiau cadarnhaol. Mae'n gallu:
- gwella eich hwyliau
- lleihau teimladau o straen neu ddicter
- eich helpu i gymryd amser allan a theimlo'n fwy ymlaciedig
- gwella eich iechyd corfforol
- gwella eich hyder a'ch hunan-barch
- eich helpu i fod yn fwy heini
- eich helpu i gwrdd a dod i adnabod pobl newydd
- eich cysylltu â'ch cymuned leol
- lleihau unigrwydd
- eich helpu i deimlo'n fwy cysylltiedig â byd natur
- darparu cefnogaeth gan gymheiriaid.
Mae gofalu am rywbeth arall i fyw wedi helpu fy lles yn fawr. Roedd hyn wedi fy helpu i ddysgu i ofalu am fy hun.
Mae gan bob un ohonom brofiadau gwahanol o fyd natur, a rhesymau gwahanol dros eisiau gysylltu ag ef yn fwy. Efallai y byddwch chi'n cael budd hollol wahanol o un gweithgaredd o'i gymharu â rhywun arall.
Mae ein tudalennau am syniadau i roi cynnig arnynt ym myd natur a dechrau arni yn rhoi llawer o awgrymiadau ar sut i ddod â rhai buddion o fyd natur i'ch bywyd, beth bynnag fo'ch sefyllfa bersonol.
Rydw i wedi bod yn mynd allan i fyd natur a cherdded, naill ai ar fy mhen fy hun neu gyda chŵn, i reoli fy anhwylder deubegwn ers blynyddoedd. Mae'n helpu fy nghadw’n ymlaciedig ac yn iach yn gorfforol, ac rwyf wrth fy modd yn cymryd yr amser i fod yn ymwybodol o'r holl fannau gwyrdd hardd o fy nghwmpas, hyd yn oed yn byw mewn dinas.
Mae gwylio'r adar a'r gwiwerod bob amser yn cael effaith ymlaciol ac yn fy nhynnu allan o fy mhen fy hun.
Gall pryderon am newid hinsawdd hefyd gael effaith fawr ar ein lles. Os yw newid hinsawdd yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gallai treulio amser yn cysylltu â byd natur fod yn ddefnyddiol. Gallech hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth neu ymgyrchoedd i ddiogelu'r amgylchedd.
Edrychwch ar ein gwybodaeth am helpu'r amgylchedd i gael awgrymiadau, ac edrychwch ar wefannau The Wildlife Trusts, Groundwork a The Conservation Volunteers am ragor o awgrymiadau a syniadau.
Rwyf wedi cael problemau cymedrol gyda gorbryder, iselder ac OCD ar hyd fy oes. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwirfoddoli ar fy fferm ddinesig leol yw’r peth mwyaf therapiwtig i mi ei wneud, ar wahân i therapi siarad da.
Stori Jill: Ecominds a Wellbeing Comes Naturally
Gwyliwch Jill yn siarad am sut mae hi wedi cynyddu ei lles corfforol a dysgu sgiliau newydd trwy wirfoddoli mewn Green Gym TCV ym Mharc Regent:
Mae'n anodd egluro grym byd natur i leddfu fy straen corfforol a meddyliol. Does dim llawer mwy ymlaciol nag eistedd gyda phaned o de yn edrych ar fryn drwy ffenest a chlywed y nant gyfagos yn diferu. Mae rhywbeth am dawelwch byd natur sy'n heintus, gan adael tawelwch yn fy meddwl.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.