Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Byd natur ac iechyd meddwl

Mae’r dudalen hon yn egluro sut y gall byd natur helpu eich iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau a syniadau i roi cynnig arnynt, ac yn awgrymu ble i fynd am ragor o wybodaeth.

Pa syniadau natur y gallwn i roi cynnig arnynt?

Mae gan y dudalen hon awgrymiadau ar gyfer mwynhau byd natur. Peidiwch â phoeni os nad yw rhai syniadau'n teimlo'n iawn i chi. Edrychwch i weld a allwch chi ddod o hyd i rai sy'n apelio, neu gallwch addasu un at eich dant chi.

Garddio, iechyd meddwl a fy mhrofiad cadarnhaol yn y gweithle

Rwyf wrth fy modd yn gweld yr ardd yn newid. Y gwahaniaeth rwy'n ei wneud pan fyddaf yn palu gwely, yn plannu rhywbeth neu hyd yn oed yn torri'r gwair. A bod yn onest, dydw i ddim yn arddwr! Ffordd hawdd i bawb gysylltu â'r awyr agored yw gwylio'r adar. Rhowch fwyd allan i’r adar er mwyn eu denu. Fel arall, ewch allan i gael awyr iach, anadlwch yn ddwfn. Perffaith.

Tyfu neu gynaeafu bwyd

  • Creu man i dyfu. Os nad oes gennych fynediad i ardd, gallech blannu dail salad neu berlysiau mewn blwch ffenestr neu bot planhigion.
  • Plannu llysiau yn eich gardd. Mae gan wefan Thrive wybodaeth i'ch helpu i ddechrau arni.
  • Tyfu bwyd gydag eraill. Gwnewch gais i rannu rhandir, neu chwiliwch am erddi cymunedol neu brosiectau tyfu bwyd yn eich ardal leol. Gweler National Allotment Society, Social Farms & Gardens neu wefan eich cyngor lleol am ragor o wybodaeth.
  • Ewch i gynaeafu ffrwythau. Chwiliwch am ffermydd neu berllannau lleol sy'n gadael i chi gynaeafu ffrwythau i'w prynu. Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i ffrwythau yn tyfu mewn mannau trefol, er enghraifft mwyar duon gwyllt.
  • Dysgwch sut i ddod o hyd i blanhigion bwytadwy, a elwir yn fforio bwyd. Gallech weld a oes grŵp fforio yn cwrdd yn eich ardal leol. Mae gan wefan Coed Cadw ragor o wybodaeth am fforio.

Awgrym cyflym: os ydych chi'n mynd i gasglu ffrwythau neu fforio, byddwch yn ymwybodol nad yw pob planhigyn gwyllt yn ddiogel i'w fwyta. Cyn bwyta rhywbeth rydych chi wedi'i ddewis eich hun, sicrhewch eich bod chi'n gwybod yn union beth ydyw.

Rwy'n mwynhau bod yn rhan o ardd gymunedol. Mae'n rhoi amser wythnosol rheolaidd i mi fod yn yr awyr agored, i weithio ochr yn ochr â phobl o lawer o wahanol oedrannau a chenhedloedd. Mae'n dysgu sgiliau a thechnegau newydd i mi. Mae'n wych gweithio fel rhan o grŵp mwy, i weld canlyniadau cadarnhaol o ran twf hadau a phlanhigion. Ac i gynaeafu a theimlo'n rhan o gylch naturiol bywyd. I weld bioamrywiaeth ar waith.

Dod â byd natur dan do

  • Prynwch flodau neu blanhigion wedi'u potio ar gyfer eich cartref.
  • Casglwch ddeunyddiau naturiol. Er enghraifft, dail, blodau, plu, rhisgl coed neu hadau. Defnyddiwch nhw i addurno'ch cartref neu mewn prosiectau celf.
  • Trefnwch le cyfforddus i eistedd. Er enghraifft, trwy ffenestr lle gallwch edrych allan dros olygfa o goed neu’r awyr.
  • Tyfwch blanhigion neu flodau ar silffoedd ffenestri. Gweler gwefan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol i gael awgrymiadau ar blannu hadau dan do.
  • Tynnwch luniau o'ch hoff lefydd ym myd natur. Defnyddiwch nhw fel cefndiroedd ar ffôn symudol neu sgrin cyfrifiadur. Neu argraffwch nhw a'u rhoi ar eich waliau.
  • Gwrandewch ar synau naturiol. Gallech ddefnyddio recordiadau neu apiau sy'n chwarae sŵn adar, tonnau neu law.
  • Gwyliwch fideos o fyd natur. Gallech roi cynnig ar deithiau cerdded rhithiol neu ffrydiau byw o fywyd gwyllt.

Awgrym cyflym: cadwch jariau gwydr a'u defnyddio i wneud gerddi bach (a elwir hefyd yn terariwm). Defnyddiwch blanhigion, pridd, cerrig ac unrhyw beth arall yr hoffech ei gynnwys. Mae rhai pobl yn hoffi ychwanegu cregyn môr, neu deganau bach neu ffigurynnau.

Dechreuais drwy ddod o hyd i le gwag yn yr ardd y tu allan i’r ffenest a gofalu amdano.

Gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored

  • Ewch am dro mewn mannau gwyrdd. Er enghraifft, parc lleol.
  • Byddwch yn greadigol. Tynnwch lun neu baentiwch anifeiliaid neu olygfeydd natur, neu gadewch iddyn nhw ysbrydoli cerdd neu eiriau cân. Os ydych chi'n mwynhau ysgrifennu mewn dyddiadur, ceisiwch wneud hyn y tu allan.
  • Bwyta bwyd yn yr awyr agored. Ewch ar bicnic mewn parc lleol, neu eisteddwch mewn gardd os oes gennych un. Gallai hyn fod yn rhywbeth y gallech chi fwynhau ei wneud gyda phobl eraill.
  • Gwyliwch y sêr. Defnyddiwch wefan, ap neu lyfr syllu ar y sêr i'ch helpu i adnabod gwahanol sêr, neu yn syml, edrychwch ar yr awyr gyda’r nos. Rhowch amser i'ch llygaid addasu, gan y gall gymryd tua 20 munud cyn y gallwch weld sêr yn y tywyllwch yn llawn.
  • Gwnewch ymarfer corff yn yr awyr agored. Gallech redeg neu loncian trwy barc lleol, neu wneud ioga yn yr awyr agored. Gallech roi cynnig arni ar eich pen eich hun, neu chwilio am ddosbarthiadau yn eich ardal leol.
  • Ymunwch â grŵp cerdded neu grwydro lleol. Mae llawer o wahanol grwpiau cerdded wedi'u trefnu. Er enghraifft, Y Cerddwyr neu Black Girls Hike.
  • Dilynwch lwybr coedwig. Gweler gwefannau Forestry Commission England a Cyfoeth Naturiol Cymru i chwilio am goetir yn eich ardal chi.
  • Ewch i chwilota ar y traeth. Ewch i lan y môr a chwilio'r draethlin am bethau diddorol.
  • Rhowch gynnig ar geogelcio. Mae geogelcio yn golygu chwilio am eitemau mewn lleoliadau awyr agored cudd, gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled. Am ragor o wybodaeth am geogelcio ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol darganfod a yw'ch ardal leol yn cynnal unrhyw raglenni ecotherapi.

Mae cerdded bryniau a gwersylla yn helpu lledfu iselder a gorbryder fy mhartner, fel y mae mynydda a cherdded bryniau i mi. Pan fyddwch chi ym myd natur, mae eich meddwl yn rhydd o'r straen dyddiol a gallwch dreulio eich amser yn y foment yn lle.

Awgrym cyflym: os ydych chi'n mynd allan ar eich pen eich hun am fwy o amser nag y byddech chi fel arfer, neu'n cerdded rhywle nad ydych chi'n ei adnabod yn dda, cynlluniwch ymlaen llaw a chofiwch gadw eich diogelwch mewn cof. Gall fod yn ddefnyddiol mynd â'ch ffôn gyda chi rhag ofn y byddwch yn mynd ar goll neu os oes angen i chi wirio'ch llwybr.

Rwy'n defnyddio ffotograffiaeth fel ffordd greadigol o fynegi fy hun a chefnogi fy iechyd. Mae'n eich helpu i fod yn feddylgar yn y foment ac ailddarganfod yr harddwch yn eich amgylchedd eich hun. Fel sylwi ar wytnwch blodyn yn tyfu trwy grac yn y concrid, neu harddwch patrymau diferion glaw. Mae'r broses o arsylwi ar y byd y tu allan yn torri'r cylch o ddeialog fewnol negyddol.

Helpu'r amgylchedd

Dechreuais wirfoddoli ar ddydd Sadwrn pan oeddwn i mewn meddylfryd isel iawn, ac fe wnaeth fy helpu i wella'n gyflymach. Rwy'n gweithio'n llawn amser mewn swyddfa yn ystod yr wythnos felly mae gwneud rhywbeth mor actif mewn amgylchedd mor wahanol yn gyferbyniad hyfryd.

Cymryd sylw o fyd natur

  • Dewch o hyd i bethau y gallwch eu gweld, clywed, blasu, arogli neu gyffwrdd. Er enghraifft, gwair o dan eich traed neu deimlad y gwynt a golau'r haul.
  • Cadwch gofnod o'r hyn rydych chi'n sylwi arno. Tynnwch luniau neu gwnewch nodiadau mewn dyddiadur neu ar eich ffôn.
  • Gosodwch heriau i’ch hun. Er enghraifft, gallech geisio sylwi ar dri pheth ym myd natur bob dydd.
  • Gwrandewch ar recordiadau o ymarferion meddwlgarwch. Mae gan ein gwybodaeth am feddwlgarwch a chymryd eiliad ystyriol ym myd natur ragor o awgrymiadau.
  • Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ddiolchgar amdano. Gall fod yn hawdd cymryd byd natur yn ganiataol. Gallwch nodi eich meddyliau mewn dyddiadur diolchgarwch neu dynnu lluniau.
  • Ceisiwch leihau pethau sy’n tynnu eich sylw. Er enghraifft, gallech wrando ar y synau o'ch cwmpas yn hytrach na rhoi clustffonau i mewn.

Plygu lawr yn yr ardd, cael gwlith a phridd ar fy nwylo ac arogli'r arogleuon hyfryd, daearol yw un o'r unig weithiau y gallaf deimlo'n ymlaciedig heb fod eisiau clustffonau i ganslo sŵn fy ymennydd prysur.

Cysylltu ag anifeiliaid

  • Edrychwch am fywyd gwyllt. Os nad ydych yn byw ger cefn gwlad agored, ceisiwch ymweld â pharc lleol i chwilio am wiwerod, pysgod, pryfed, hwyaid ac adar eraill.
  • Ewch i fferm gymunedol neu ddinesig leol. Efallai y gallwch chi helpu drwy wirfoddoli. Gweler gwefan Social Farms & Gardens am ragor o wybodaeth.
  • Rhowch fwyd i’r adar y tu allan i ffenestr. Os oes lle, gallech adeiladu blwch nythu pren bach ar goeden neu o dan silff ffenestr.
  • Rhowch gynnig ar wylio adar. Does dim angen unrhyw offer arbennig arnoch. Ewch i wefan RSPB am ragor o wybodaeth am fwydo adar, eu gwylio a rhoi lloches iddynt.
  • Rhowch gynnig ar ofalu am gŵn neu eu cerdded. Cynigiwch ofalu am anifeiliaid anwes yn eich cymdogaeth leol, gwirfoddolwch i gerdded cŵn ar gyfer elusen anifeiliaid, neu gofynnwch i ffrind i fenthyg eu ci i fynd â nhw am dro yn awr ac yn y man.
  • Cymerwch ran mewn arolwg natur. Gallai hyn gynnwys cyfrif adar, anifeiliaid neu bryfed mewn amser a lle penodol, neu roi gwybod am weld bywyd gwyllt unigol. Gweler Big Garden BirdwatchBumblebee Conservation TrustBig Butterfly Count i gael enghreifftiau o arolygon natur.

Bod yn yr awyr agored, bwydo cwningod, siarad â'r asynnod a gofalu am ŵyn sâl. Mae'n fy naearu, beth bynnag yw fy nghyflwr meddyliol. Mynd yn fwdlyd ym mhob tywydd, anadlu awyr iach. Siarad yn falch ag ymwelwyr am yr anifeiliaid a bod yn rhan o gylch tymhorol fferm. Mae wedi bod yn drawsnewidiol.

Sut mae cael ci wedi achub fy mywyd

Mae'r cerdded dyddiol yn fy helpu i drefnu fy meddyliau, a dod yn fwy ymwybodol o fy amgylchedd.

Dylech bob amser ystyried eich sefyllfa bersonol, byw ac ariannol yn ofalus cyn cael anifail anwes. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan RSPCA.

Meddwlgarwch cŵn

Gwyliwch Clare yn siarad am sut mae ei chi, Watson, yn ei hatgoffa o egwyddorion pwysig meddwlgarwch:

Mae'n rhoi persbectif i chi ac yn gwneud i chi deimlo cysylltiad â rhywbeth llawer mwy na chi eich hun, sy’n rhoi cysur mawr i mi.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig