Byd natur ac iechyd meddwl
Mae’r dudalen hon yn egluro sut y gall byd natur helpu eich iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau a syniadau i roi cynnig arnynt, ac yn awgrymu ble i fynd am ragor o wybodaeth.
Sut alla i ddechrau?
Weithiau gall fod yn anodd gwybod sut i gysylltu â byd natur. Gall fod yn anodd dechrau arni. Ac mae llawer ohonom sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu rhwystrau a allai ein hatal rhag cysylltu â byd natur.
Nid oes angen i chi feddu ar sgiliau na gwybodaeth am arddio i gymryd rhan mewn prosiectau gardd/garddwriaeth. Dim ond parodrwydd i gael eich dwylo’n frwnt. Rwyf wrth fy modd â chwynnu a phalu compost!
Cymryd y cam cyntaf
Pan fyddwn yn teimlo'n isel neu'n sâl, gall fod yn anodd dod o hyd i'r egni i fynd allan neu roi cynnig ar bethau newydd. Hyd yn oed os ydym yn gwybod y gallai rhywbeth wneud i ni deimlo'n well, gall o hyd fod yn anodd dod o hyd i'r cymhelliant i ddechrau arni.
Efallai y byddwch yn teimlo'n nerfus am fynd allan, yn enwedig os ydych wedi arfer treulio llawer o amser dan do. Efallai eich bod yn ansicr ai dyma'r amser i ddechrau rhywbeth newydd. Neu efallai eich bod yn poeni na fydd yn gweithio i chi.
Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnynt:
- Dechreuwch yn fach. Gall hyd yn oed ychydig bach o amser ym myd natur helpu ein hwyliau. Ceisiwch dreulio pum munud yn rhoi sylw i fyd natur. Gallwch wneud hyn y tu allan neu yn eich cartref.
- Gwnewch yr hyn sy'n gweithio i chi. Rhowch gynnig ar wahanol weithgareddau natur i ddod o hyd i bethau rydych chi'n eu mwynhau ac y gallwch eu ffitio i mewn i'ch bywyd bob dydd. Peidiwch â phoeni os nad yw rhywbeth yn gweithio i chi.
- Gwnewch bethau sy’n ymlaciol i chi. Efallai yr hoffech chi eistedd o dan goeden, edrych ar y sêr neu wneud gweithgareddau celf mewn mannau naturiol. Gweler ein tudalennau ar ymlacio, meddwlgarwch a syniadau i roi cynnig arnynt ym myd natur am ragor o awgrymiadau.
- Gweithiwch gyda'ch uchafbwyntiau a'ch isafbwyntiau. Meddyliwch am ba adegau o'r dydd rydych chi'n teimlo'n fwyaf egnïol, a phryd fyddwch chi'n gweld pethau'n anoddach. Er enghraifft, os yw sgil-effeithiau meddyginiaeth yn eich gwneud yn flinedig yn y boreau, cynlluniwch eich gweithgareddau yn nes ymlaen yn y dydd.
- Atgoffwch eich hun o’r hyn sy'n gweithio. Bob tro y cewch brofiad da ym myd natur, ysgrifennwch sut rydych chi'n teimlo neu cymerwch lun. Cadwch eich nodiadau neu luniau ar eich ffôn neu mewn dyddiadur. Yna gallwch geisio eu defnyddio fel cymhelliant ar gyfer y tro nesaf.
- Ceisiwch beidio â barnu eich teimladau. Pan fyddwn yn poeni am ein meddyliau a'n teimladau, gall fod yn anoddach cymryd sylw o’r hyn sydd o’n hamgylch. Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei weld, clywed, arogli, cyffwrdd neu deimlo. Ceisiwch beidio â phoeni os nad ydych chi'n teimlo'n well ar unwaith.
- Gosodwch heriau bach. Gall hyn roi uchelgais i chi ganolbwyntio arno. Gall hefyd eich helpu i gysylltu'n rheolaidd â byd natur. Er enghraifft, gallech geisio sylwi ar dri pheth ym myd natur bob dydd.
Byddwn i’n gosod fy amserydd ffôn am bum munud, cerdded ar hyd gerddi Bournemouth, a thynnu lluniau. Yna, pan aeth yr amserydd i ffwrdd, byddwn i'n mynd adref ac yn ysgrifennu am sut roeddwn i'n teimlo yn fy nyddiadur.
Cael mynediad i fyd natur
Gall fod yn anodd gwybod ble i ddod o hyd i fyd natur. Does gan lawer ohonom ni ddim gardd. Ac efallai na fydd y rhai ohonom sy'n byw mewn dinasoedd neu drefi yn byw ger parc neu fan gwyrdd.
Efallai eich bod yn poeni am gost cludiant, planhigion neu offer garddio. Efallai y byddwch chi'n blino'n hawdd neu'n cael trafferth gwneud gweithgareddau corfforol. Ac nid yw mannau gwyrdd bob amser yn hygyrch i bawb.
Dyma rai awgrymiadau i chi eu hystyried:
- Chwiliwch am natur lle bynnag yr ydych chi. Mae natur ym mhobman, hyd yn oed mewn trefi a dinasoedd prysur. Cerddwch o gwmpas eich ardal leol neu edrychwch allan o'ch ffenest a chymryd sylw o goed, adar, pryfed, yr awyr neu'r tywydd. Mae gwefan The Wildlife Trusts yn cynnig gwybodaeth am ble i adnabod bywyd gwyllt trefol.
- Chwiliwch am fannau gwyrdd lleol. Efallai y bydd gan eich cyngor lleol wybodaeth am barciau neu warchodfeydd natur yn agos atoch chi. Gallwch ddod o hyd i'ch parc lleol ar wefan GOV.UK. Neu gallech ddefnyddio ap cerdded fel Go Jauntly i ddod o hyd i deithiau cerdded gerllaw.
- Gofynnwch i'ch cangen Mind lleol. Efallai y bydd eich cangen Mind lleol yn gallu darparu manylion am brosiectau lleol neu ffyrdd o gysylltu â byd natur yn eich ardal, gan gynnwys grwpiau wedi'u trefnu fel y gallwch gwrdd â phobl eraill.
- Chwiliwch am fannau neu weithgareddau gwyrdd hygyrch. Mae gan The Wildlife Trusts wybodaeth am warchodfeydd natur hygyrch. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a The Outdoor Guide wybodaeth am deithiau cerdded hygyrch. Mae gan Euan's Guide adolygiadau mynediad i'r anabl ar gyfer llefydd ledled y DU, gan gynnwys parciau a mannau gwyrdd. Mae Thrive yn darparu gwybodaeth ac awgrymiadau i arddwyr anabl.
- Dewch â byd natur i’r tu mewn. Os nad yw mynd allan yn bosibl neu'n teimlo'n anodd ar hyn o bryd, gallech roi cynnig ar ffyrdd o ddod â byd natur dan do.
- Chwiliwch am wobrau neu gyfleoedd i gyfnewid pethau ag eraill. Er enghraifft, efallai y gallwch gyfnewid hadau sbâr gyda garddwyr eraill mewn digwyddiad cyfnewid hadau.
Gall fod yn anodd cael mynediad at rai mathau o weithgareddau natur os nad oes gennych yr arian i dalu amdanynt. Gweler ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i gael rhestr o sefydliadau sy'n darparu gwahanol weithgareddau sy'n seiliedig ar natur. Gallai fod yn werth edrych trwy'r rhain am weithgareddau am ddim.
Os ydych chi'n poeni am arian, efallai y bydd ein gwybodaeth am arian ac iechyd meddwl yn ddefnyddiol hefyd.
Byddwn yn annog pawb i ofalu am fywyd gwyllt yn eu hamgylchedd lleol eu hunain. Hyd yn oed mewn dinas brysur gall fod yn syndod faint o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd yno os byddwch yn cymryd yr amser i edrych o gwmpas.
Paratoi i dreulio amser ym myd natur
Efallai y bydd materion ymarferol eraill i'w hystyried. Efallai eich bod yn poeni am ddiogelwch. Efallai y bydd rhai parciau neu fannau gwyrdd yn teimlo'n anniogel. Efallai eich bod yn poeni am drosedd, aflonyddu neu gamdrin, yn enwedig os ydych wedi cael profiadau gwael yn y gorffennol.
Efallai y byddwch chi'n teimlo nad yw treulio amser ym myd natur yn addas i chi. Neu efallai y byddwch yn teimlo'n ddigroeso yng nghefn gwlad neu fannau gwyrdd eraill. Efallai na fydd gennych yr amser os ydych yn brysur gyda gwaith, astudio, gofal plant neu gyfrifoldebau eraill.
Dyma awgrymiadau i chi eu hystyried:
- Gofynnwch am gefnogaeth. Er enghraifft, os ydych chi'n teimlo'n bryderus mewn llefydd newydd neu sefyllfaoedd cymdeithasol, gallech ofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i fynd gyda chi ar y dechrau.
- Cynlluniwch ymlaen llaw. Edrychwch ar ragolygon y tywydd a meddyliwch am y pethau y gallai fod eu hangen arnoch. Gallai hyn gynnwys dillad cynnes neu wrth-ddŵr, eli haul, potel ddŵr neu fap.
- Ffitiwch natur i mewn i'ch trefn arferol. Treuliwch amser ym myd natur yn gwneud pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud. Er enghraifft, gallech wneud galwad ffôn wrth fynd am dro ym myd natur. Neu gallech astudio, gweithio neu ymarfer corff yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do.
- Meddyliwch am amseru. Os ydych yn byw mewn ardal brysur, efallai y byddwch am fynd allan pan fydd yn dawelach. Neu efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy diogel wrth fynd allan pan fydd mwy o bobl o gwmpas.
Rwy'n gwirfoddoli gyda fferm ddinesig leol. Ar y dechrau roeddwn yn nerfus iawn ac roedd fy ngorbryder yn uchel ond fe wnes i fagu hyder yn araf. Fe wnes i ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a mwynhau bod yn actif ac yn yr awyr agored. Roedd mynychu’n rheolaidd yn rhoi strwythur i fy wythnos a daeth yn rhywbeth i edrych ymlaen ato.
Beth os nad yw'n gweithio i mi?
Ceisiwch beidio â beio'ch hun os nad yw rhywbeth rydych chi wedi rhoi cynnig arno yn gweithio i chi. Gall rheoli problem iechyd meddwl fod yn anodd iawn, yn enwedig pan nad ydych yn teimlo'n dda. Mae gwahanol bethau'n gweithio i wahanol bobl.
Mae yna lawer o syniadau natur eraill y gallech roi cynnig arnynt, ac opsiynau eraill ar gyfer triniaeth a chefnogaeth. Gallai ein tudalennau ar geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl eich helpu i archwilio mwy o opsiynau.
Mae gwirfoddoli yn rhoi pwrpas ac ystyr i fy mywyd sydd (er nad wyf yn ddigon iach i weithio ar hyn o bryd) yn hanfodol bwysig ar gyfer fy adferiad. Mae'n helpu creu ymdeimlad o obaith ar gyfer y dyfodol.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.