Hunan-barch
Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw hunan-barch, gydag awgrymiadau ar gyfer gwella eich hunan-barch a ffyrdd o gael cymorth pellach.
Beth yw hunan-barch?
Hunan-barch yw'r ffordd rydym yn rhoi gwerth ar ein hunain ac yn gweld ein hunain. Mae'n seiliedig ar ein barn a'n credoau amdanom ni ein hunain, a all deimlo'n anodd eu newid. Efallai y byddwn hefyd yn meddwl am hyn fel hunan-hyder.
Gall eich hunan-barch effeithio ar p'un a ydych yn:
- Hoffi a gwerthfawrogi eich hun fel person
- Gallu gwneud penderfyniadau a mynnu cydnabyddiaeth
- Adnabod eich cryfderau
- Gallu rhoi cynnig ar bethau newydd neu anodd
- Dangos caredigrwydd tuag at eich hun
- Symud ymlaen o gamgymeriadau heb feio'ch hun yn annheg
- Cymryd yr amser sydd ei angen arnoch i chi eich hun
- Credu eich bod yn bwysig ac yn ddigon da
- Credu eich bod yn haeddu hapusrwydd
Dan 18 oed? Mae gennym adnoddau i chi ar les, hunan-barch a gofalu amdanoch chi eich hun
I mi, hunan-barch isel yw'r llais bach yn fy mhen sy'n dweud 'ti’n rybish, ti’n dew, beth yw'r pwynt, nid yw hyn i ti’ ac yn y blaen...
Sut brofiad yw cael hunan-barch isel?
Gwyliwch Nathan, Hannah, Helen, Rishi a Georgina yn siarad am eu profiadau o hunan-barch isel, gan gynnwys sut mae'n teimlo, beth sydd wedi eu helpu a sut y gall eu ffrindiau a'u teulu helpu.
Beth all achosi hunan-barch isel?
Mae'r pethau sy'n effeithio ar ein hunan-barch yn wahanol i bawb. Gall eich hunan-barch newid yn sydyn. Neu efallai eich bod wedi cael hunan-barch isel ers tro.
Mae llawer o bethau mewn bywyd a all gyfrannu at hunan-barch isel. Er enghraifft:
- Cael eich bwlio neu eich cam-drin
- Profi rhagfarn, gwahaniaethu neu stigma, gan gynnwys hiliaeth
- Colli eich swydd neu drafferth dod o hyd i waith
- Problemau yn y gwaith neu wrth astudio
- Problemau iechyd corfforol
- Problemau iechyd meddwl
- Problemau perthynas, gwahanu neu ysgaru
- Problemau gydag arian neu dai
- Pryderon am eich ymddangosiad a delwedd y corff
- Teimlo dan bwysau i fodloni disgwyliadau afrealistig, er enghraifft trwy'r cyfryngau cymdeithasol
Efallai eich bod wedi cael rhai o'r profiadau hyn. Efallai eich bod wedi cael anawsterau nad ydynt wedi'u rhestru yma. Neu efallai nad oes un rheswm penodol.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda hunan-barch isel, gallai deimlo fel petai gwneud newidiadau yn anodd. Ond mae yna bethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw. Edrychwch ar ein cynghorion i wella eich hunan-barch am rai awgrymiadau.
Darllenwch ragor am hiliaeth ac iechyd meddwl
Roeddwn i'n meddwl bod hunan-gasineb yn normal. Mae pawb yn deffro bob dydd ac yn edrych yn y drych ac yn meddwl 'ie, dwi'n casáu'r rhan yna ohonof i’, iawn?
A yw hunan-barch isel yn broblem iechyd meddwl?
Nid yw hunan-barch isel yn broblem iechyd meddwl ynddo'i hun. Ond gall iechyd meddwl a hunan-barch fod yn gysylltiedig.
Gall rhai arwyddion o hunan-barch isel fod yn arwyddion o broblem iechyd meddwl. Mae hyn yn arbennig o wir os ydynt yn para am amser hir neu'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Er enghraifft:
- Teimlo'n ddi-obaith neu'n ddi-werth
- Beio'ch hun yn annheg
- Casáu eich hun
- Poeni am fethu â gwneud pethau
Gallai cael problem iechyd meddwl hefyd achosi i chi gael hunan-barch isel. Ac efallai y bydd yn teimlo'n anoddach ymdopi neu gymryd camau i wella eich hunan-barch os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl.
Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl, mae ein tudalennau am geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael cymorth.
Bob tro roeddwn i’n ceisio rhoi canmoliaeth i fy hun, byddai gen i’r ymdeimlad yna o hunan-amheuaeth a hunan-chasineb sydd wedi bod yno am fy mywyd cyfan. Dyna pryd y sylweddolais efallai fy mod angen help.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.