Hunan-barch
Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw hunan-barch, gydag awgrymiadau ar gyfer gwella eich hunan-barch a ffyrdd o gael cymorth pellach.
Sut alla i wella fy hunan-barch?
Mae gan y dudalen hon awgrymiadau ar gyfer gwella eich hunan-barch, neu hunan-hyder.
Mae’r syniadau hyn yn ddefnyddiol i rai pobl, ond cofiwch fod gwahanol bethau'n gweithio i wahanol bobl ar wahanol adegau. Rhowch gynnig ar yr hyn rydych chi'n teimlo'n gyfforddus ag ef yn unig.

Under 18? We have resources for you on wellbeing, self-esteem and looking after yourself
Byddwch yn garedig i’ch hun
- Dewch i adnabod eich hun. Er enghraifft, beth sy'n eich gwneud chi'n hapus a'r hyn rydych chi'n ei werthfawrogi mewn bywyd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ysgrifennu hyn mewn dyddiadur.
- Ceisiwch herio meddyliau angharedig amdanoch chi'ch hun. Efallai eich bod yn angharedig i’ch hun yn awtomatig. Os ydych chi'n gwneud hyn, gall fod o gymorth i ofyn: "A fyddwn i'n siarad â ffrind fel hyn?"
- Dywedwch bethau cadarnhaol i’ch hun. Mae rhai pobl yn hoffi gwneud hyn o flaen drych. Gall deimlo'n rhyfedd ar y dechrau, ond efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy cyfforddus po fwyaf y byddwch chi'n ei wneud.
- Ymarferwch ddweud na. Gall bod yn bendant fod yn anodd os nad ydych wedi arfer ag ef. Ond gall cytuno i ormod o bethau i blesio eraill fod yn orlethol. Gallai helpu i gael saib, cymryd anadl a meddwl am sut rydych chi'n teimlo cyn cytuno i wneud rhywbeth nad ydych chi eisiau ei wneud.
- Ceisiwch osgoi cymharu eich hun ag eraill. Er enghraifft, gallai helpu i gyfyngu ar faint o amser rydych chi'n ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol neu gymunedau ar-lein. Nid yw’r hyn y mae pobl eraill yn dewis ei rannu am eu bywydau bob amser yn wir.
- Gwnewch rywbeth neis i’ch hun. Er enghraifft, coginio eich hoff bryd o fwyd neu chwarae gêm rydych chi'n ei mwynhau.
Dwi wedi sylweddoli bod pobl yn dewis yr hyn maen nhw'n ei gyflwyno am eu hunain ar-lein. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw un yn berffaith ac mae gan bawb bethau y maen nhw’n ansicr amdanynt.
Ceisiwch gydnabod y pethau cadarnhaol
- Dathlwch eich llwyddiannau. Waeth pa mor fach y gallant ymddangos, cymerwch amser i ganmol eich hun. Er enghraifft, mynd allan am dro neu wneud rhywfaint o dacluso.
- Derbyniwch ganmoliaeth. Gallech eu casglu ac edrych drostynt pan fyddwch chi'n teimlo'n isel neu'n amau eich hun.
- Gofynnwch i bobl beth maen nhw'n ei hoffi amdanoch chi, os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny. Efallai y byddant yn cydnabod pethau nad ydych chi'n meddwl amdanynt eich hun.
- Ysgrifennwch restr o bethau rydych chi'n eu hoffi amdanoch chi'ch hun. Er enghraifft, gallai hyn fod yn sgil rydych chi wedi'i dysgu, neu rywbeth rydych chi'n ei wneud i helpu pobl eraill.
Rwy'n defnyddio dyddiadur diolchgarwch, sy'n herio pethau'n uniongyrchol cyn i mi gyrraedd pwynt o deimlo wedi fy llethu a fel petai popeth yn drychineb.
Adeiladu rhwydwaith cymorth
- Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Mae cael rhywun i wrando arnoch chi a dangos eu bod yn poeni yn gallu helpu. Os na allwch fod yn agored gyda rhywun sy'n agos atoch chi, gallech ffonio llinell gymorth i siarad â rhywun yn ddienw. Er enghraifft, gallwch ffonio’r Samariaid ar 116 123.
- Canolbwyntiwch ar gysylltiadau cadarnhaol. Efallai y bydd yn anodd rheoli gyda phwy rydych yn treulio amser. Ond lle bo'n bosibl, gall helpu i dreulio mwy o amser gyda phobl sy'n gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch chi'ch hun.
- Rhowch gynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid. Gall gwneud cysylltiadau â phobl sydd â phrofiadau tebyg neu gyffredin helpu. Er enghraifft, gall cymunedau ar-lein fel Side by Side Mind fod yn ffynhonnell dda o gefnogaeth. Edrychwch ar ein tudalennau cymorth cymheiriaid i ddysgu rhagor.
Am y tro cyntaf roeddwn i'n meddwl na all yr holl bethau negyddol hyn fod yn wir gyda chymaint o bobl yn fy mywyd sy'n fy ngharu i am bwy ydw i.
Rhowch gynnig ar therapi siarad
Gall therapïau siarad helpu meithrin hunan-barch. Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â phrofiadau sy'n effeithio ar sut rydych chi'n teimlo amdanoch chi'ch hun.
Edrychwch ar ein tudalennau am therapïau siarad a chwnsela am ragor o wybodaeth.
Mae crefftau ymladd wedi rhoi hwb mawr i fy hunan-barch. Roeddwn i'n ofnadwy pan ddechreuais i, ond dwi wedi bod yn ei wneud ers blwyddyn bellach. Er bod gen i lawer i’w gyflawni nes fy mod ar lefel uwch, rwy'n dal i deimlo fy mod i wir wedi cyflawni rhywbeth.
Gosodwch her i'ch hun
- Rhowch gynnig ar wirfoddoli. Efallai y byddwch yn penderfynu gwirfoddoli eich amser ar gyfer rhywbeth rydych yn teimlo'n angerddol drosto. Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli, gweler gwefan Volunteer by Do-IT.
- Gosodwch nodau bach. Gallai hyn helpu pethau i deimlo'n haws i'w rheoli, a rhoi mwy o ymdeimlad o gyflawniad i chi.
- Dysgwch rywbeth newydd. Er enghraifft, gallai hyn fod trwy roi cynnig ar ddiddordeb neu weithgaredd creadigol newydd. Neu gymryd amser i ddarllen llyfr am bwnc newydd.
Gofalwch amdanoch eich hun
- Ceisiwch gael digon o gwsg. Gall cael dim digon neu ormod o gwsg gael effaith negyddol ar sut rydych chi'n teimlo. Edrychwch ar ein tudalennau am ymdopi â phroblemau cysgu am ragor o wybodaeth.
- Meddyliwch am eich diet. Gall bwyta'n rheolaidd a chadw eich siwgr gwaed yn sefydlog wneud gwahaniaeth i'ch hwyliau a'ch lefelau egni. Edrychwch ar ein tudalennau am fwyd a hwyliau am ragor o wybodaeth.
- Ceisiwch wneud rhywfaint o weithgarwch corfforol. Gall bod yn actif helpu eich lles meddyliol. Gall hyn gynnwys helpu gwella eich hunan-barch. Edrychwch ar ein tudalennau am weithgarwch corfforol am ragor o wybodaeth.
- Treuliwch amser yn yr awyr agored. Mae bod mewn mannau gwyrdd yn aml yn gallu helpu sut rydych chi'n teimlo. Edrychwch ar ein tudalennau am fyd natur ac iechyd meddwl am ragor o wybodaeth.
- Ceisiwch ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod. Er enghraifft, gallech roi cynnig ar gwrs myfyrdod Headspace ar gyfer hunan-barch.
- Ceisiwch osgoi cyffuriau ac alcohol. Efallai y byddwch am ddefnyddio cyffuriau hamdden neu alcohol i ymdopi â theimladau anodd amdanoch chi'ch hun. Ond yn yr hirdymor gallant wneud i chi deimlo'n waeth a gallant eich atal rhag delio â phroblemau sylfaenol. Edrychwch ar ein tudalennau am gyffuriau hamdden ac alcohol am ragor o wybodaeth.
- Cofrestrwch ar raglen hunan-gymorth. Er enghraifft, gallech roi cynnig ar ein rhaglen hunan-gymorth â chefnogaeth os ydych yng Nghymru. Neu gallech ddefnyddio'r cynllun llyfrau Darllen yn Well i ddod o hyd i lyfrau i helpu gyda'ch hunan-barch.
Gweler ein tudalen am wella eich lles am ragor o awgrymiadau i helpu gofalu amdanoch chi’ch hun.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.
