Anhwylder sgitsoaffeithiol
Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol, gan gynnwys ei symptomau a'i achosion. Mae'n rhoi cyngor ar sut y gallwch helpu eich hun a pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, yn ogystal â chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Triniaeth ar gyfer anhwylder sgitsoaffeithiol
Bydd profiad pob person o anhwylder sgitsoaffeithiol yn amrywio, yn ogystal â'r triniaethau sy'n gweithio orau iddynt.
Gall triniaethau gwahanol fod yn ddefnyddiol ar gyfer symptomau seicosis, mania neu iselder. Os ydych chi'n profi cyfuniad o symptomau, efallai y bydd angen cyfuniad o driniaethau arnoch chi. Neu efallai y bydd angen gwahanol fathau o driniaeth arnoch ar wahanol adegau.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am:
Daw'r rhain o ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar drin sgitsoffrenia, sydd hefyd yn ymdrin ag anhwylder sgitsoaffeithiol.
Therapïau siarad
Efallai y bydd rhyw fath o gwnsela neu seicotherapi yn cael ei gynnig i chi, a elwir hefyd yn therapïau siarad.
Y prif fath o therapi a awgrymir gan NICE wrth drin anhwylder sgitsoaffeithiol yw therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Gall CBT eich helpu i gysylltu eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad â'ch symptomau. Gall hefyd eich helpu i ddatblygu ffyrdd o ymdopi â phrofiadau anodd.
Gall rhai mathau eraill o driniaeth fod yn ddefnyddiol, gan gynnwys therapïau meddwlgarwch neu therapi seicodynamig.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ar therapïau siarad.
Mae therapïau siarad wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac yn ffordd o ddysgu sut i ymdopi â digwyddiadau llawn straen a gofalu am fy hun yn well.
Therapïau celfyddydol
Gall therapïau celf, cerddoriaeth, dawns neu ddrama eich helpu i fynegi sut rydych chi'n teimlo, yn enwedig os yw'n anodd siarad am bethau. Gall therapïau o'r fath eich helpu i ddod i delerau â digwyddiadau trawmatig y gallech fod wedi'u profi yn y gorffennol.
Efallai y gwelwch fod therapïau celfyddydol yn ddigon i reoli eich symptomau ar eu pennau eu hunain. Neu efallai y byddant yn gweithio orau ochr yn ochr â thriniaeth arall, fel meddyginiaeth. Nid oes unrhyw ddull 'cywir'. Yr hyn sy'n gweithio i chi fel unigolyn yw'r dull cywir.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ar therapïau celfyddydol a chreadigol.
Ymyrraeth deuluol
Mae hon yn fath o driniaeth sy'n ceisio darparu cefnogaeth i'r teulu cyfan. Gall helpu eich teulu, neu'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw, i ddeall:
- Beth rydych chi'n mynd drwyddo
- Sut y gall eu hymatebion helpu neu wneud pethau'n waeth i chi, yn ogystal ag i’ch gilydd
- Beth sy'n ddefnyddiol i chi a pheidio
Er enghraifft, os ydych chi'n ofidus iawn ac mae aelodau eich teulu’n poeni'n fawr amdanoch chi, efallai y byddan nhw'n canolbwyntio gormod o sylw arnoch chi heb fwriadu gwneud hynny. Efallai y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo'n fwy pryderus.
Gall ymyrraeth deuluol eich helpu i:
- Deall sut mae eich profiad a'ch symptomau'n effeithio ar y rhai sy'n byw gyda chi
- Rheoli eich symptomau a meddwl am ffyrdd o ymdopi â phroblemau
- Cyfleu eich anghenion i’r bobl o'ch cwmpas
Am ragor o wybodaeth, siaradwch â'ch tîm iechyd meddwl cymunedol neu seiciatrydd.
Os ydych chi'n ffrind neu'n aelod o deulu rhywun ag anhwylder sgitsoaffeithiol, gweler ein tudalen ar sut y gall ffrindiau a theulu helpu.
Meddyginiaeth
Yn dibynnu ar eich symptomau a'ch anghenion, efallai y byddwch yn cael cynnig meddyginiaeth.
Efallai y byddwch yn cael y meddyginiaethau canlynol ar bresgripsiwn:
- Cyffur gwrthseicotig, i helpu gyda symptomau seicosis neu mania
- Sefydlogwr hwyliau, i helpu atal neu leihau symptomau episodau hwyliau
- Cyffur gwrth-iselder, i helpu trin symptomau iselder. Os ydych hefyd yn profi symptomau mania, mae'n annhebygol y byddwch yn cael cyffuriau gwrth-iselder yn unig. Mae hyn oherwydd bod perygl iddynt sbarduno episodau manig.
Yn dibynnu ar eich symptomau, efallai mai dim ond un math o gyffur y cewch ei gynnig i chi. Ond gellir cynnig cyfuniad o gyffuriau i helpu gyda gwahanol symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol.
Cofiwch: gwiriwch â'ch meddyg neu fferyllydd bob amser cyn cymryd unrhyw feddyginiaethau gyda'i gilydd. Gall y meddyginiaethau ryngweithio â'i gilydd yn wael.
Gall meddyginiaeth (yn enwedig cyffuriau gwrthseicotig) gael effaith ar eich iechyd corfforol. Dylech gael gwiriadau rheolaidd gan eich meddyg teulu o’ch pwysau, pwysedd gwaed, lefelau siwgr yn y gwaed, colesterol a swyddogaethau’r galon.
Gall ysmygu effeithio ar y math o sgîl-effeithiau y gallech eu cael o feddyginiaeth. Os ydych chi'n ysmygu, efallai y byddwch yn cael cynnig cymorth i stopio.
Edrychwch ar ein tudalennau ar bethau i'w hystyried cyn cymryd meddyginiaeth a’ch hawl i wrthod meddyginiaeth am ragor o wybodaeth. Mae ein tudalennau ar ddod oddi ar feddyginiaeth yn rhoi canllawiau ar sut i ddod oddi ar feddyginiaeth yn ddiogel.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ar feddyginiaeth, cyffuriau gwrthseicotig, lithium a sefydlogwyr hwyliau eraill a chyffuriau gwrth-iselder.
Profiadau o gyffuriau gwrthseicotig
Gwyliwch Laura, Joe, Ziaul a Steve yn siarad am eu profiad o gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn y fideo hwn:
Dwi’n credu y gall meddyginiaeth helpu gyda problemau seicotig tymor byr, ond mae'r problemau sylfaenol ac ochr iselder pethau wedi cael eu trin yn well trwy therapi a newidiadau i fy ffordd o fyw.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.