Anhwylder sgitsoaffeithiol
Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol, gan gynnwys ei symptomau a'i achosion. Mae'n rhoi cyngor ar sut y gallwch helpu eich hun a pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, yn ogystal â chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Beth yw symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol?
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol symptomau a'r mathau o anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae'n cynnwys:
Symptomau seicosis
Mae'r symptomau hyn yn debyg i'r rhai a brofir mewn sgitsoffrenia, gan gynnwys:
- Rhithweledigaethau - lle gallwch brofi pethau nad yw eraill o'ch cwmpas yn eu gwneud. Er enghraifft, clywed lleisiau, gweld rhithweledigaethau gweledol a theimladau anesboniadwy eraill.
- Rhithdybiau - lle gallech gael credoau cryf nad oes neb arall yn eu rhannu. Er enghraifft, ofn y gall pawb glywed eich meddyliau neu y gallwch reoli'r tywydd.
Efallai y byddwch hefyd yn profi:
- Eich meddyliau yn mynd yn ddryslyd iawn
- Teimlo'n ddryslyd neu'n ofnus
- Teimlo wedi'ch datgysylltu oddi wrth eich emosiynau
- Anhawster canolbwyntio
- Diffyg cymhelliant neu ddiddordeb mewn pethau
Gellir rheoli'r teimladau hyn gyda'r cyfuniad cywir o driniaeth, cefnogaeth a hunanofal.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar seicosis. Gallwch hefyd ymweld ag Intervoice neu The Hearing Voices Network.
Un o'r meddyliau rhyfedd a brofais oedd fod cwmni eisiau i mi wneud swydd. Doedd hyn ddim wedi digwydd yn bendant, dim ond syniad yn fy mhen yr oeddwn yn ei gredu i fod yn wir.
Symptomau hwyliau
Mae symptomau hwyliau anhwylder sgitsoaffeithiol yn debyg i'r rhai a brofir mewn anhwylder deubegynol. Gallant gynnwys symptomau manig a iselder:
- Symptomau manig - efallai y byddwch chi'n teimlo'n gyffrous neu'n ddig iawn. Neu’n gwneud cynlluniau afrealistig ac yn ymddwyn mewn ffyrdd a allai eich rhoi mewn perygl.
- Symptomau iselder - efallai y byddwch chi'n teimlo'n drist ac yn isel neu'n profi problemau cysgu. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo wedi'ch datgysylltu oddi wrth eraill neu’n cael teimladau hunanladdol.
Weithiau gelwir y cyfnodau lle rydych chi'n profi symptomau hwyliau yn 'episodau'. Efallai y byddwch chi'n profi episodau iselder, manig, neu'r ddau. Efallai y byddwch hefyd yn profi 'episodau cymysg'. Dyma pryd y bydd gennych symptomau mania ac iselder ar yr un pryd, neu'n gyflym iawn ar ôl ei gilydd.
Gall cyfnodau amrywio o ran hyd. Mae rhai pobl yn cael episodau ailadroddus, ond nid yw hyn yn digwydd i bawb.
Edrychwch ar ein tudalennau ar anhwylder deubegynol, mania a hypomania ac iselder i gael rhagor o wybodaeth.
Ar fy nyddiau gwael, roeddwn i'n teimlo’n pathetig ac nad oeddwn yn haeddu anadlu, ac ar fy nyddiau da roeddwn i'n credu fy mod i'n dduw.
Sut mae sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol yn wahanol?
Anhwylder sgitsoaffeithiol yw ei ddiagnosis ei hun. Ond gall anhwylder sgitsoaffeithiol, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol gynnwys symptomau a phrofiadau tebyg.
Gall rhoi diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol fod yn gymhleth. Nid yw pob gweithiwr proffesiynol yn cytuno ar y ffordd orau o wneud diagnosis neu ei ddisgrifio. Gellir ystyried diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol os ydych wedi profi:
- Symptomau sydd wedi para am fis neu fwy
- Symptomau seicosis a symptomau hwyliau ar yr un pryd
- Symptomau hwyliau am y rhan fwyaf o'r amser rydych wedi teimlo'n sâl
- Cyfnod o amser (o leiaf pythefnos fel arfer) o symptomau seicosis heb symptomau hwyliau
- Episodau iselder sy'n cynnwys hwyliau isel
Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn aml yn cael ei ystyried yn anhwylder seicotig gyda nodweddion hwyliau sylweddol, yn hytrach nag anhwylder hwyliau gyda seicosis.
Ni chafodd fy mhroblemau eu hadnabod pan oeddwn yn fy arddegau, a arweiniodd at argyfwng yn fy 20au cynnar. Cefais fy nerbyn i’r ysbyty ac roeddwn i’n sâl iawn yn feddyliol. Roedd yn ymddangos bod diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol yn cyd-fynd â fy mhrofiad yn well nag unrhyw 'label' neu ddiagnosis arall.
Rhoi diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol
I wneud diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol, bydd seiciatrydd yn asesu eich symptomau ac yn gofyn pa mor hir rydych chi wedi'u cael. Byddant yn ystyried sut mae seicosis a symptomau hwyliau yn digwydd i chi (naill ai gyda’i gilydd neu ar wahân) yn ystod episodau. Byddant hefyd yn ystyried sut mae eich symptomau'n effeithio ar eich bywyd bob dydd neu eich perthnasoedd.
Gall y seiciatrydd wirio am unrhyw broblemau corfforol a allai fod yn achosi eich symptomau. Gall cyffuriau hamdden hefyd achosi symptomau tebyg. Felly gallai fod yn ddefnyddiol i'ch seiciatrydd wybod a ydych chi'n defnyddio unrhyw gyffuriau (neu wedi gwneud yn y gorffennol).
Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau diagnosis yn fach. Efallai y cewch ddiagnosis gwahanol gan wahanol seiciatryddion. Efallai y bydd yn teimlo'n rhwystredig os bydd eich diagnosis yn newid.
Efallai eich bod yn teimlo eich bod wedi arfer ag un diagnosis, a nawr mae angen i chi ddod i arfer ag un newydd. Neu efallai y byddwch yn teimlo rhyddhad a bod y diagnosis newydd yn fwy addas i chi. Efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen diagnosis arnoch o gwbl. Nid oes ffordd gywir nac anghywir o deimlo am hyn.
Ar y dechrau cefais ddiagnosis o iselder, seicosis ôl-enedigol, ac yna anhwylder sgitsoaffeithiol. Roedd yn rhaid i mi wneud llawer o ymchwil fy hun i ddeall beth oeddwn i'n mynd drwyddo'n well, a oedd yn anodd.
Beth allaf ei wneud os ydw i'n anghytuno â fy niagnosis?
Os nad yw eich diagnosis yn cyd-fynd â'r ffordd rydych chi'n teimlo, mae'n bwysig trafod hyn gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael y driniaeth gywir i'ch helpu.
Edrychwch ar ein tudalennau ceisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl i gael gwybodaeth am sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. A beth allwch chi ei wneud os nad ydych chi'n hapus gyda'ch meddyg.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.