Get help now Make a donation

Sut mae rhedeg yn fy helpu i ddygymod â’m hiselder

Friday, 28 February 2020 Menna

Mae Menna, o Sir Gaerfyrddin, yn rhannu sut mae rhedeg wedi'i helpu drwy rai adegau anodd a pham ei bod nawr yn ceisio creu record byd, y cyfan er budd Mind.

Er bod yna berygl y bydda i’n datgelu fy holl gyfrinachau, rwy eisiau sôn wrthych chi sut mae rhedeg wedi newid fy mywyd ac wedi fy helpu gymaint i ddygymod â’m hiselder.

Mae’r blynyddoedd diweddaf wedi bod yn rhai anoddaf fy mywyd, torrodd fy mhriodas, collais fy musnes, cefais sawl profedigaeth, gan gynnwys colli fy nhad, fy nhad-cu, ewythr, cefnder (a laddodd ei hun) a, dim ond ychydig yn ôl, fy mrawd. Dyw bywyd ddim i’w weld yn mynd ddim haws, ond, erbyn hyn, rwy wedi dysgu mai sut ydych chi'n dygymod â phrofiadau anodd sy'n cyfrif, ac mae fy hoffter newydd o redeg wedi fy helpu bob cam o'r ffordd.

Mae rhedeg wedi dod i deimlo fel hen ffrind y galla i ymestyn allan ato.

Rydyn ni wedi cael rhai amseroedd da a rhai amseroedd gwael, anturiaethau a heriau, ac rwy wedi cyfarfod rhai pobl hollol ryfeddol oherwydd hynny. Mae rhedeg yn fy nghadw'n gytbwys, yn lladd y sŵn gwyn ac yn gadael i mi ymlacio a myfyrio.

Fis Mai 2015, gadawodd fy ngŵr i. Er bod ganddo ei resymau, roeddwn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun ac yn dorcalonnus. Plymiodd fy myd i le tywyll iawn, eto roedd yn rhaid i mi gael y nerth i ddeffro bob bore i ofalu ar ôl fy mab hyfryd, 18 mis oed, a’m hanifeiliaid rhyfeddol. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, oni bai amdanyn nhw, wn i ble byddwn i erbyn hyn. Ar ôl colli’r busnes, roedd yn rhaid i mi ddechrau o’r newydd. Dyw iselder ddim yn eich ysgogi chi, mae’n eich bwyta chi. Mae pob syniad – heb sôn am symudiad – yn eich blino’n lân. Fe fyddwn ni’n edrych arna i fy hun yn y drych ambell i ddiwrnod heb adnabod fy hunan. Roeddwn i’n edrych yn hen, yn welw ac yn hagr. Ond roedd rhaid i mi gael incwm i allu talu’r biliau.

Roedd yn broses hynod, hynod araf, ond fe gyrhaeddais yno a chychwyn busnes newydd (salon trin cŵn, perffaith, a finnau mor hoff o anifeiliaid). Bron bob dydd, roeddwn i eisiau cael fy nghloi yn rhywle a throchi fy hun mewn hunan dosturi. Ond allwn i ddim bod yn hunanol, roedd yn rhaid i mi fynd allan – er mwyn fy mab. Dyna pryd y sylweddolais i mor ffodus oeddwn i, cael cymaint o bobl wych o’m cwmpas yn fy nghymuned. Ond fe fydda i mewn dyled am byth i ddwy ferch sydd, erbyn hyn, fy ffrindiau gorau, a ofynnodd i mi ymuno â nhw ac na fyddai byth yn peidio â gofyn i mi, hyd yn oed pan fyddwn i, yn aml, yn gwrthod am fy mod i ‘wedi cau’r llenni’r diwrnod hwnnw’. Doedden nhw byth yn beirniadu, dim ond dangos amynedd, cariad a chefnogaeth.

Mi wn ei fod yn ystrydeb, ond mae amser yn gwella.

I geisio gwella, roeddwn i’n rhoi cynnig ar un math o gyffur gwrth-iselder ar ôl y llall ond doedd yr un yn gweithio i mi. Ac rwy’n cyfaddef hefyd fy mod i wedi troi at wydraid mawr o win bron bob nos. Fe hoffwn i allu dweud i mi ddeffro un bore ar ôl noson wych o gwsg wedi’m gwella, ond mae'n broses araf. Mae fel adeiladu blociau, rydych chi’n dal i adeiladu. Llenwi'ch dyddiadau gyda phethau positif, ymladd y cythraul sy'n dweud wrthych chi am roi'r gorau iddi.

Erbyn mis Ionawr 2016, roeddwn i’n dechrau cyrraedd. Cyflwynodd fy mhartner newydd fi i feicio mynydd a hwylio, ac i sawl antur arall. Roeddwn i yn ôl unwaith eto yn yr awyr agored yn mwynhau'r mynyddoedd a chefn gwlad.

Aeth rhai misoedd heibio ac, fis Medi 2016, symudodd fy rhieni o Gaerdydd i ymuno â mi a'm mab, ond dim ond am ychydig. Dirywiodd iechyd fy nhad yn ddramatig ac, ar ôl mynd yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty sawl gwaith, bu farw fis Mawrth 2017. Fe oedd fy nghraig.

Gofynnodd fy nhad i mi sawl blwyddyn yn ôl oeddwn i awydd cerdded gyda fe o John O’Groats i Land’s End. Er nad oeddwn i wedi sylweddoli fod hynny’n ‘rhywbeth’, fe neidiais at y cyfle ar unwaith! Ond roedd y dirywiad amlwg yn ei iechyd yn golygu na fyddai fyth yn cael cyfle i wneud hynny. Wrth ddarllen llythyr iddo yn ei angladd, gwneuthum addewid ar y diwedd y byddwn yn RHEDEG o John O’Groats i Land’s End er cof amdano.

Gorffennaf / Awst 2018, rhedais o un pen o Brydain i’r llall, 1050 o filltiroedd. Roeddwn i ar ben y byd!

Rwy'n dal yn methu â chredu go iawn fod fy nghoesau bach i wedi fy nghario'r holl ffordd. Pwy fyddai’n meddwl, 18 mis cyn yr her, y gallai gwraig trin cŵn o bentref bach yng Nghymru (nad oedd ganddi hyd yn oed bâr o esgidiau rhedeg) redeg o un pen o Brydain i’r llall. Roeddwn i’n gwthio fy nghorff i’r eithaf, yn rhedeg rhwng 26 a 34 milltir y dydd, ond fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth. Roedd pob diwrnod yn wahanol a doeddwn i byth yn gwybod beth oedd o’m blaen nes i mi gyrraedd yno.

Fe brofais garedigrwydd dieithriaid a chyfarfod rhai pobl ryfeddol ar hyd y daith. Roeddwn i’n gwneud hyn er cof am Dad ac roeddwn i’n teimlo ei fod gyda mi bob cam o’r ffordd. Aeth ei freuddwyd i’w cherdded yn freuddwyd i mi ei rhedeg. Rwy’n gwybod y byddai wedi bob yn falch o’i ferch fach wrth iddi groesi 'llinell derfyn' Land’s End.

Nawr, ar ôl gwneud hynny, roeddwn i’n barod am fy her nesaf... ymgais ar Record Guinness y Byd.

Fe fydda i’n rhedeg o un pen i Seland Newydd i’r llall, o naill ben y ddwy ynys i’r llall. Mae’n gyfanswm o tua 1,400 milltir ac fe fydda i’n rhedeg tua 34 milltir bob bydd am 42 diwrnod i gwblhau’r her. Dechreuais i ar 1 Ionawr 2020.

Mae’r her hon er cof am fy niweddar gefnder, Ian. Roedd yn cael trafferthion mawr gyda’i iechyd meddwl ac, yn hynod drist, lladdodd ei hun fis Tachwedd diwethaf. Roeddwn i eisiau gwneud hyn iddo fe ac i bawb arall o’m teulu gwych. Allwn i ddim meddwl felly am elusen mwy priodol i godi arian iddi na Mind, ac ryw’n gobeithio codi mwy o arian ac o ymwybyddiaeth nag erioed o’r blaen.

Roedd fy amser yn Seland Newydd yn gyfan gwbl anhygoel. Roedd y gefnogaeth gan bawb o'm cwmpas yn aruthrol ac yn fy ngyrru ymlaen ar yr adegau gwaethaf. Roedd yn tywydd braidd yn gyfnewidiol ar adegau ac roedd yn ras yn fwy anodd nag a allwn i erioed wedi'i ddychmygu. Roeddwn i’n colli fy nheulu yn fwy na dim byd arall ond yn eu defnyddio hefyd i annog fy hunan fwy nag erioed i gyflawni fy her.

Roeddwn i wedi torri Record Guinness y Byd mewn dim ond 36 diwrnod, gan orffen y ras dan haul gogoneddus yn Bluff, Seland Newydd. Roeddwn i wedi gwthio fy nghorff a’m meddwl i’r eithaf ond, deffro y diwrnod ar ôl i mi orffen fy her a thorri record y byd, gyda negeseuon yn llifo gan ffrindiau, teulu a chefnogwyr o bob rhan o'r byd, dyna oedd y teimlad gorau.


Pe gallwn i roi gair o gyngor i rywun, y cyngor hwnnw fyddai dechrau gwneud yr un peth rydych chi wastad eisiau ei wneud.

Mae rhedeg wedi fy helpu drwy rai o adegau anoddaf fy mywyd ac wedi rhoi i mi brofiadau anhygoel na allwn i ond breuddwydio amdanyn nhw, felly beth bynnag ydych chi’n feddwl am ei wneud – ewch amdani!

Related Topics

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top