Get help now Make a donation

Canfod fy hun unwaith eto ar ôl colli gobaith

Friday, 13 March 2020 Sam

Roedd Sam, 30 oed o Aberhonddu, yn teimlo'n unig iawn ar ôl dioddef gorbryder ac iselder, ond, drwy'n prosiect rhagnodi cymdeithasol, mae wedi cael nerth i daclo heriau newydd.


Ar ddechrau 2019, roeddwn i ar fy isaf. Dros y tair blynedd diwethaf, roeddwn wedi dioddef yn ddrwg iawn o newidiadau ffiaidd yn fy hwyliau ar ôl cael lawdriniaeth oedd wedi chwalu fy hormonau. Pob tro y byddwn yn dioddef hwyliau isel, byddai'n cymryd wythnosau i godi'n ôl ac yna ddisgyn i lawr i'r dyfnderau unwaith eto. Roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i'n gallu sôn wrth unrhyw un am fy mhroblemau iechyd ac roedd hynny'n gwneud i mi deimlo'n andros o unig.


Roeddwn i'n sylweddoli fy mod i angen help, ond roeddwn i mor nerfus ac yn colli fy nerf i fynd at fy meddyg teulu.

Roedd hyd yn oed meddwl am fynd at y meddyg yn gallu codi panig arnaf i ac roedd gwneud y peth lleiaf yn ymdrech. Roeddwn i'n teimlo'n anobeithiol.

Erbyn mis Mai 2019, roeddwn i wedi magu digon o hyder i fynd at fy meddyg, diolch i gefnogaeth fy Mam, a chefais fy nghyfeirio at Rhiannon, fy ngweithiwr cyswllt yn Mind Aberhonddu. Cymerodd ychydig o wythnosau i mi gysylltu â hi, ond pan wnes i, fe wnaeth i mi deimlo'n gyfforddus ar unwaith.

I ddechrau, roeddwn i'n trafod fy nghefndir gyda Rhiannon ac yn gallu siarad yn agored am fy nheimladau, fy mhroblemau iechyd a'm lles. Roeddwn i'n teimlo cywilydd am fod mor emosiynol am fy mhryderon, ond roedd hi'n eithriadol o empathig a chydymdeimladol. Roedd y ffaith ei bod mor gefnogol yn fy sicrhau ei bod hi ar fy ochr i.

Fy nod oedd adennill yr hyder roeddwn wedi'i golli yn y blynyddoedd diwethaf.

Roeddwn i'n amheus ar y dechrau a fyddai'r prosiect yn fy helpu ac, o ran hunan-gred, roeddwn i'n cychwyn o'r dechrau un. Roedd Rhiannon a fi'n cwrdd bob rhyw gwpl o wythnosau i drafod fy nyheadau, fy niddordebau a sut roeddwn yn teimlo. Roeddwn i'n ceisio gwneud popeth i helpu fy hunan, ond doeddwn i ddim yn cymdeithasu. Roeddwn i'n colli gallu cysylltu gyda phobl heb deimlo fel rhywun o'r tu allan.

Y gweithgaredd gyntaf i mi ei brofi fel rhan o'r prosiect rhagnodi cymdeithasol oedd ymuno â grŵp myfyrdod lleol. Cyn i mi ddechrau dioddef gyda fy iechyd meddwl, roeddwn i'n mynd yn rheolaidd i sesiynau ffitrwydd, myfyrdod a ioga ac roedd yn wych cael bod yn rhan o hynny eto. Mae'n debyg mai myfyrdod oedd y peth gorau i'w brofi gyntaf gan i mi ddod allan o'r sesiwn yn dawel iawn ac wedi ymlacio!

Roeddwn i'n gweithio i adeiladu fy hyder drwy gymysgu gyda phobl eraill ac roeddwn i'n gobeithio mynd yn ôl i wirfoddoli. Daeth Rhiannon o hyd i nifer o wahanol opsiynau i mi ac erbyn hyn ryw'n gwirfoddoli mewn banc bwyd lleol.

Mae'n deimlad braf bod yn ôl yn gwneud y pethau roeddwn i'n arfer eu caru ac mae wedi fy helpu gymaint yn feddyliol.

Rwy'n cymryd gofal o'm corff a'm meddwl. Mae dosbarthiadau ffitrwydd a hefyd wirfoddoli'n rhoi synnwyr da o drefn i mi. Mae gen i rywbeth i godi o'r gwely ar ei gyfer.

Er bod fy mywyd wedi gwella, heb y prosiect rhagnodi cymdeithasol, rwy'n meddwl y byddai wedi cymryd llawer hwy. Rwy'n dal i gysylltu'n rheolaidd gyda Rhiannon ac mae hi wedi bod yn gefnogwr enfawr i mi.

Yn ddiweddar, rwyf wedi cyrraedd un o fy nodau mwy arwyddocaol sef, ymgeisio am le mewn prifysgol. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai hynny'n bosibilrwydd gwirioneddol i mi, ond rwyf wedi cael dau gynnig hyd yn hyn i astudio Seicoleg a Chymdeithaseg, ble rwy'n gobeithio defnyddio fy mhrofiadau fy hunan i helpu eraill. Rwyf hyd yn oed wedi cael swydd, sy'n gamp enfawr i mi.

Mae'r prosiect hefyd wedi fy helpu i fod yn llawer mwy agored gyda phobl eraill.

Rwy'n fwy bodlon yn ddiweddar i drafod fy mhroblemau iechyd, does gen i ddim cywilydd sôn am y pethau rwyf wedi bod trwyddyn nhw. Mae llawer o'r embaras roeddwn i'n ei deimlo ar y dechrau wedi diflannu ac o'r diwedd rwyf wedi cael diagnosis o Anhwylder Disfforig Difrifol Cyn Mislif (PMDD), sydd wedi fy helpu lawer iawn i ganfod y driniaeth cywir.
Er fy mod yn dal i frwydo'r brwydrau mwy mewn bywyd, rwy'n hapus nad wyf i bellach yn cael fy llorio gan y pwysau lleiaf.

Mae'n fendigedig teimlo fy mod yn gallu rheoli a chynllunio fy mywyd fy hun unwaith eto, ac rwy'n llawn sylweddoli fy mod yn gorfod cymryd gofal o'm hiechyd meddwl er mwyn cadw i fynd.
Rwy'n teimlo'n gan mil gwell nad oeddwn i flwyddyn yn ôl ac rwy'n gobeithio dal ati i wella - rwy'n obeithiol nawr am fy nyfodol.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top