Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i fod yn agored gyda phobl rwyt ti’n eu hadnabod –
ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc ynglŷn â siarad gyda phobl rwyt ti’n eu hadnabod am iechyd meddwl, sut rwyt ti’n teimlo neu beth rwyt ti’n ei brofi.

Bod yn agored am iechyd meddwl gyda’r bobl rwyt ti’n eu hadnabod

Gall bod yn agored gyda rhywun am ein hiechyd meddwl deimlo'n anodd, yn enwedig os nad ydym erioed wedi gwneud hynny o'r blaen.

Efallai y byddwn yn ofni y gallai pobl ein barnu ni, peidio â'n cymryd o ddifri neu ddim yn deall. Nid yw rhai ohonom yn gwybod ble i ddechrau ac yn poeni y bydd rhannu ein teimladau yn gwneud pethau'n waeth. Ond gall siarad â phobl sy'n agos atom ein helpu i ymdopi'n well gyda sut rydyn ni’n teimlo.

Mae'r dudalen hon yn esbonio pam mae bod yn agored yn bwysig ac yn dy dywys drwy'r broses. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar sut i siarad â rhywun ynglŷn â sut rwyt ti’n teimlo, a beth i'w wneud os nad ydyn nhw'n deall.

Cofia: beth bynnag rwyt ti'n ei deimlo neu'n ei brofi, does dim rhaid i ti fynd trwyddo ar dy ben dy hun.

Efallai dy fod yn teimlo'n unig neu'n drist, felly mae'n bwysig siarad â phobl rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Mae'n bwysig peidio â phoeni am bethau oherwydd drwy siarad ag eraill, gallan nhw dy helpu i ddatrys y broblem. – Bear, 12

Pam ddylwn i siarad â rhywun rwy'n ei adnabod?

Mae'n iawn teimlo'n ansicr ynglŷn â siarad am ein hiechyd meddwl, ein teimladau a'n profiadau gyda rhywun rydyn ni'n ei adnabod. Ond weithiau, gall ceisio ymdopi â phethau ar dy ben dy hun wneud i ni deimlo'n waeth.

Os gallwn ni siarad â rhywun rydyn ni’n ei adnabod, gallai ein helpu i wneud y canlynol:

  • Teimlo nad ydym ar ein pen ein hunain
  • Teimlo ein bod yn cael ein cefnogi gan bobl o'n cwmpas
  • Helpu pobl eraill i ddeall yr hyn rydyn ni’n mynd drwyddo
  • Cael cymorth gyda phethau ymarferol, fel gwneud apwyntiadau neu helpu gydag eiriolaeth
  • Darganfod bod pobl eraill wedi cael profiadau tebyg
  • Chwilio am gymorth addas am sut rydyn ni'n teimlo neu'r hyn rydyn ni'n ei brofi
  • Stopio pethau rhag gwaethygu

Efallai nad wyt ti’n gwybod beth rwyt ti'n ei deimlo neu beth rwyt ti eisiau siarad amdano eto, ac mae hynny'n iawn. Am fwy o wybodaeth, gallai fod o gymorth darllen ein tudalen ar ddeall dy deimladau.

Roedd bod yn agored gyda phobl am fy llesiant yn frawychus ar y dechrau, ond fe wnaeth gwybod nad oeddwn i ar fy mhen fy hun dynnu cymaint o bwysau oddi arna i. Ac roedd yn golygu y gallai fy ffrindiau a'm teulu roi awgrymiadau a chymorth mwy personol er mwyn helpu gyda fy llesiant.

Pam rydw i’n poeni am fod yn agored?

Gall fod yn anodd siarad am ein hiechyd meddwl neu deimladau anodd. Os ydym yn teimlo'n bryderus ynglŷn â rhannu gyda phobl sy'n agos atom ni, mae hynny'n iawn. Gallai llawer o resymau ein hatal rhag gofyn am help.

Efallai y byddwn yn poeni neu'n meddwl:

  • Efallai y bydd rhywun yn ein barnu, ein labelu neu’n ein camddeall
  • Efallai y bydd rhywun yn dweud ein bod ni'n 'chwilio am sylw' neu nad ydym yn haeddu cymorth
  • Efallai y byddwn ni'n rhoi straen ychwanegol ar bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw, neu ar wasanaethau iechyd meddwl
  • Efallai y bydd pobl sy'n agos atom ni'n teimlo ein bod ni'n 'faich'
  • Efallai y byddwn ni'n profi gwrywdod gwenwynig ac i 'fod yn ddyn'
  • Gallai dweud wrth rywun arall wneud pethau'n waeth i ni
  • Efallai na fydd pobl yn cymryd ein teimladau o ddifri, neu'n dweud wrthym nad ydyn nhw'n bwysig
  • Efallai y bydd pobl yn ymddwyn yn wahanol o'n cwmpas ar ôl i ni rannu sut rydyn ni'n teimlo
  • Efallai na fydd pobl yn ein cymryd ni o ddifri
  • Efallai na fydd cymorth ar gael neu'n teimlo'n iawn ar gyfer ein hanghenion
  • Gallai ein hiechyd meddwl newid neu ddifetha ein cyfeillgarwch

Beth yw stigma?

Mae nifer ohonom yn profi teimladau anodd a phroblemau iechyd meddwl. Ond nid pawb sy’n eu deall nhw.

Pan nad yw pobl yn deall, efallai y bydd ganddyn nhw gredoau, safbwyntiau ac agweddau negyddol. Efallai y byddan nhw hefyd yn gwneud neu'n dweud pethau am iechyd meddwl sy'n brifo neu'n ofidus. Mae hyn yn cael ei alw’n 'stigma'.

Gallwn ni hefyd gael stigma tuag at ein hunain, lle rydyn ni'n teimlo cywilydd am y problemau rydyn ni'n eu hwynebu. Mae hyn yn cael ei alw’n 'hunan-stigma'.

Gall profi stigma neu hunan-stigma yn erbyn iechyd meddwl ein stopio rhag:

  • Bod yn agored wrth bobl eraill
  • Chwilio am gymorth

Ond mae’n bwysig cofio nad wyt ti ar dy ben dy hun, ac nad oes rhaid i ti ddioddef pobl yn dy drin yn wael. Mae yna ffyrdd o ymdopi â stigma, ei herio a chael cymorth.

Mae gennym ni fwy o wybodaeth am beth i'w wneud os yw pobl sy’n agos atat ddim yn deall.

Roedd bod yn agored gyda fi fy hun yn gam cyntaf pwysig. Mae bod yn onest gyda fi fy hun am fy nheimladau a derbyn y teimladau hynny fel rhai dilys wedi gadael i fi deimlo'n fwy cyfforddus ynglŷn â siarad ag eraill.

Pan wnes i gysylltu, roedd pawb y dywedais wrthyn nhw mor gefnogol ac ro’n i wir yn dymuno fy mod i wedi'i wneud yn gynharach - roedd meddwl am wneud gymaint yn fwy brawychus na'r realiti.

Gyda phwy y gallwn i siarad am fy iechyd meddwl?

Efallai y bydd angen rhywfaint o amser arnat ti i benderfynu pwy rwyt ti eisiau bod yn agored â nhw. I ddechrau, efallai y byddi di’n credu nad oes neb o gwmpas rwyt ti'n teimlo y gallet ti rannu â nhw. Ond ceisia feddwl am rywun rwyt ti'n ei adnabod:

  • Sy’n garedig, yn oddefgar ac yn wrandäwr da
  • Rwyt ti'n teimlo'n ddiogel o’u cwmpas
  • sydd wedi mynd drwy brofiad tebyg o bosib
  • Sy’n agored i'r hyn sydd gen ti i'w ddweud
  • Rwyt ti'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â nhw
  • Sydd wedi dy gefnogi di neu bobl eraill yn y gorffennol

Efallai y bydd rhai ohonom yn ei chael hi'n ddefnyddiol siarad â'n rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid. Efallai y bydd rhai ohonom yn teimlo'n fwy cyfforddus yn rhannu gydag aelodau eraill o'r teulu. Fel brodyr a chwiorydd, cefndryd, modrybedd, ewythrod neu neiniau a theidiau. Neu efallai bod gennym ffrindiau neu bartneriaid a allai wrando arnom a’n deall.

Weithiau, efallai y bydd yn teimlo’n haws siarad â rhywun nad ydym mor agos atyn nhw, neu rywun sydd ddim yn perthyn i ni, fel:

  • Athrawon
  • Staff yr ysgol, fel cwnselwyr, nyrsys, arweinwyr bugeiliol neu gynorthwywyr addysgu
  • Meddyg neu feddyg teulu
  • Gweithwyr clybiau ieuenctid
  • Hyfforddwyr chwaraeon
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Arweinwyr crefyddol neu bobl o’n grŵp ffydd

Mae'n iawn os wyt ti'n teimlo'n anghyfforddus ar y dechrau. Gall gymryd amser i feithrin ymddiriedaeth gyda phobl rwyt ti'n eu hadnabod cyn rhannu sut rwyt ti'n teimlo.

Os nad yw rhywun yn deall, neu’n ansicr o ran sut i dy helpu di, ceisia siarad â rhywun arall. Mae pawb yn ymateb yn wahanol ac nid dy fai di yw hi os nad ydyn nhw’n deall.

Beth os nad oes gen i neb i siarad ag e?

Os nad wyt ti'n teimlo y gallet ti siarad am iechyd meddwl gydag unrhyw un rwyt ti'n ei adnabod, gallet ti chwilio am fath arall o gymorth.

Mae gen i ffrind rydw i wedi bod yn agored â nhw, ac er nad oedden nhw'n gallu uniaethu â'm profiad, roedden nhw yno i fi o hyd ac yn gwrando arna i.

Meddylia wyt ti eisiau rhywun arall i gymryd rhan

Efallai yr hoffet ti rannu gyda mwy nag 1 person. Er enghraifft, siarad â brodyr a chwiorydd neu ddweud wrth ffrindiau mewn gwahanol grwpiau.

Os wyt ti'n rhannu sut rwyt ti'n teimlo gyda mwy nag 1 person rwyt ti’n ei adnabod, gallai hyn:

  • Ehangu dy rwydwaith cymorth
  • Leihau'r pwysau ar 1 person yn unig i'th gefnogi
  • Dy helpu i ymarfer siarad am dy iechyd meddwl a'th anghenion cymorth

Neu efallai yr hoffet ti gynnwys gwahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, fel:

  • Gofyn iddyn nhw sut ddylet ti fod yn agored gyda rhywun arall
  • Gofyn iddyn nhw dy helpu i ysgrifennu dy deimladau ar bapur
  • Eu cael nhw i siarad ar dy ran, fel gofyn i athro siarad â dy rieni ynglŷn â sut rwyt ti'n teimlo. 

Os nad wyt ti'n teimlo'n barod i fod yn agored gyda mwy nag 1 person eto, mae hynny'n iawn. Gall deimlo'n flinedig yn emosiynol a chodi teimladau anodd. Efallai y byddi di hefyd yn poeni eu bod nhw yn mynd i ddweud wrth rywun arall.

decorative

Cofia: does dim ateb cywir nac anghywir o ran nifer y bobl y dylet ti  ddweud wrthyn nhw. Yr hyn sy'n bwysig yw teimlo'n ddiogel a chael cymorth i siarad pryd bynnag y byddi di’n barod.

Meddylia am ble rwyt ti’n rhannu

Os wyt ti’n siarad â rhywun ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig dy fod yn ymwybodol o’th wybodaeth yn cael ei rhannu heb dy ganiatâd.

Efallai yr hoffet ti ofyn cwestiynau i ti dy hun fel:

  • Ydw i eisiau rhannu mewn sgwrs grŵp neu anfon neges uniongyrchol at rywun?
  • A fyddai'r person rwy'n siarad ag ef yn tynnu sgrinlun o fy neges neu'n ei hanfon at bobl eraill?
  • Os ydw i'n postio ar-lein, a yw gosodiadau fy nghyfrif yn gyhoeddus neu'n breifat? A yw fy nghyfrif yn ddiogel?

Meddylia bob amser am yr hyn rwyt ti'n teimlo'n gyfforddus yn ei rannu cyn i ti ei wneud. Galli di ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gadw’n ddiogel ar-lein ar wefan Childline.

Pryd ddylwn i fod yn agored wrth rywun rwy'n ei adnabod?

Does dim amser cywir nac anghywir i siarad am iechyd meddwl. Gallwn rannu sut rydyn ni’n teimlo unrhyw bryd -  does dim rhaid i ni aros iddo waethygu. Y cynharaf y byddwn ni’n agored, y cynharaf y gallwn ni gael cymorth.

  • Efallai yr hoffet ti feddwl am fod yn agored gyda rhywun os wyt ti’n:
  • Cael trafferth ymdopi â sut rwyt ti'n teimlo
  • Mynd trwy rywbeth anodd neu wedi bod trwy rywbeth anodd
  • Ddim yn teimlo fel ti dy hun
  • Cael trafferth ymdopi â bywyd bob dydd, fel gwneud y pethau arferol neu reoli gwaith ysgol
  • Sylwi ar wahaniaethau yn dy gwsg a lefelau egni
  • Sylwi ar wahaniaethau o ran dy ymddygiad bwyta neu chwant bwyd
  • Gweld bod y ffordd rwyt ti'n teimlo yn dechrau effeithio ar dy berthnasoedd

Beth bynnag rwyt ti’n mynd drwyddo, does dim rhaid i ti ymdopi ar dy ben dy hun. Os wyt ti’n teimlo’n barod i siarad, mae gennym awgrymiadau i dy helpu er mwyn dechrau’r sgwrs.

Does dim angen i ti deimlo bod gen ti broblem iechyd meddwl i gysylltu, dylet ti gysylltu unrhyw bryd rwyt ti'n teimlo'n isel.

Penderfynu ar y ffordd rwyt ti eisiau bod yn agored

Efallai y byddi di eisiau siarad wyneb yn wyneb os galli di. Ond os yw hyn teimlo’n rhy anodd, gallet ti hefyd drio:

  • Siarad ar y ffôn
  • Siarad dros alwad fideo
  • Anfon neges llais

Os nad wyt ti eisiau siarad, neu ddim yn teimlo fel siarad ag unrhyw un ar hyn o bryd, mae hynny'n iawn. Mae yna ffyrdd eraill o fynegi sut rwyt ti’n teimlo. Gallet ti drio:

  • Anfon neges destun neu e-bost
  • Ysgrifennu llythyr
  • Tynnu llun neu ddarlun i ddangos sut rwyt ti’n teimlo
  • Anfon gwybodaeth am sut rwyt ti’n teimlo, fel fideo ar TikTok neu YouTube

Dod o hyd i amser da i siarad

Efallai na fydd byth yn teimlo fel yr amser iawn i fod yn agored, ond y peth pwysicaf yw dy fod yn teimlo'n barod. Efallai yr hoffet ti ddewis amser pan fyddwch chi'ch dau yn rhydd am ychydig ac na fydd neb yn tarfu arnoch chi.

Os wyt ti’n penderfynu siarad â rhywun wyneb yn wyneb, dewisa leoliad lle mae’r ddau ohonoch chi’n teimlo'n gyfforddus. Gallet ti hefyd siarad â nhw wrth wneud rhywbeth gyda'ch gilydd, fel bwyta, tacluso neu wylio'r teledu.

Os nad wyt ti'n teimlo'n barod i siarad wyneb yn wyneb, cymera amser i ysgrifennu pethau ar bapur neu deipio neges. Dechreua pan fyddi di'n teimlo wedi ymlacio ac yn gallu meddwl am bethau. Gallet ti ddod nôl ato’n hwyrach neu ddarllen trwyddo sawl gwaith cyn trefnu i siarad â rhywun rwyt ti’n ei adnabod.

Yn bersonol, wrth wneud rhywbeth y mae’r amser gorau i siarad, fel cerdded, i leddfu'r pwysau o edrych ar rywun wyneb yn wyneb.

Meddylia sut i ddechrau’r sgwrs

I gael sgwrs am iechyd meddwl a theimladau anodd, efallai y byddi di’n teimlo’n fwy hyderus os wyt ti’n gwybod sut i ddechrau.

I ddechrau’r sgwrs gyda rhywun rwyt ti’n ei adnabod, gallet ti ddweud:

  • “Mae hyn yn anodd i fi siarad amdano, ond mae angen i fi ddweud rhywbeth wrthot ti.”
  • “Mae gen i bethau ar fy meddwl, allwn ni siarad rywbryd?”
  • “Rydw i wedi bod yn teimlo’n ____ yn ddiweddar, ac rydw i'n meddwl tybed a alla i siarad a ti amdano__”.
  • “Rydw i wedi bod yn poeni am ____ yn ddiweddar ac wedi meddwl tybed a allwn i siarad â ti amdano?”
  • “Rydw i wedi bod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â ____ ar hyn o bryd. Allwn ni siarad amdano?”
  • “Rwy’n gwybod bod pethau'n edrych yn iawn, ond dydyn nhw ddim ac rydw i eisiau siarad â ti amdano.”

Neu os oes rhywun rwyt ti'n ei adnabod wedi bod yn mynd drwy rywbeth tebyg, gallet ti siarad amdanyn nhw gyntaf i helpu i esbonio sut rwyt ti’n teimlo.

Ceisia ymarfer yr hyn rwyt ti eisiau ei ddweud yn dy ben, ei ysgrifennu neu anfon nodyn llais atat ti dy hun.

Beth gallwn i rannu gyda nhw?

Mae'n dibynnu arnom ni beth rydyn ni eisiau ei rannu gyda phobl rydyn ni'n eu hadnabod. Does dim angen i ni ddweud popeth wrthyn nhw ynglŷn â sut rydyn ni'n teimlo os nad ydyn ni eisiau. Yn enwedig os oes gennym ni lawer yn digwydd.

Efallai yr hoffet ti siarad â nhw am:

Efallai na fyddi di'n teimlo'n barod i rannu popeth y tro cyntaf i chi siarad. Ac efallai y bydd angen i chi gymryd amser rhwng sgyrsiau. Yn enwedig os nad ydyn nhw’n deall ar unwaith.

Dwed wrthyn nhw beth allen nhw ei wneud i helpu

Ar ôl i ti rannu sut rwyt ti’n teimlo, gallen nhw helpu gyda dy iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd. Gallet ti ofyn y canlynol iddyn nhw:

  • Cynnig cymorth emosiynol, fel gwrando arno ti a rhoi sicrwydd i ti
  • Cadw golwg mwy rheolaidd ar sut rwyt ti’n teimlo
  • Siarad gyda dy ysgol, coleg neu weithle am dy anghenion
  • Dy helpu i chwilio am gymorth iechyd meddwl, fel siarad gyda llinell gymorth neu feddyg
  • Gwneud apwyntiadau neu ddod gyda ti i apwyntiadau, neu eistedd yn yr ystafell aros i fod yno ar ôl dy apwyntiad

Pan fyddi di’n agored am y tro cyntaf, efallai na fyddi di’n  gwybod sut gallai rhywun dy helpu di, ac mae hynny'n iawn. Galli di ofyn iddyn nhw ddysgu mwy am y mathau o broblemau rwyt ti’n eu hwynebu. Gallai hyn dy helpu i feddwl am ffyrdd y gallen nhw dy gefnogi di.

Ar ôl i fi ddweud wrth fy mam, ro’n i'n teimlo cymaint gwell, do’n i ddim ar fy mhen fy hun gyda fy salwch mwyach. Yn lle hynny, roedden ni'n dîm, ac roedd gen i rywun i wynebu pethau gyda nhw. Roedd hyn yn cynnwys gwneud cynllun gweithredu pan fyddwn yn cael problemau gartref, a beth i'w wneud pan oeddwn i allan, yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill.

Dwed wrthyn nhw beth sy'n teimlo'n dda i ddim

Alli di ddim rheoli sut bydd pobl yn ymateb pan fyddi di'n agored am iechyd meddwl. Mae'n anodd gwybod sut bydd rhywun yn ymateb, hyd yn oed rhywun sy'n agos atat ti.

Ond galli di awgrymu pethau wrthyn nhw na fyddet ti'n eu hystyried yn ddefnyddiol, fel:

  • Torri ar draws wrth i ti rannu. Gofynna iddyn nhw fod yn amyneddgar ac i roi amser i ti esbonio sut rwyt ti’n teimlo.
  • Dweud wrth bobl eraill. Os oes angen iddyn nhw ddweud wrth rywun arall, gofynna iddyn nhw fod yn glir ynglŷn â phwy y byddan nhw'n dweud wrtho, pryd a pham.
  • Dy drin yn wahanol oherwydd dy iechyd meddwl, neu osgoi siarad â ti amdano.
  • Gofyn yn rhy aml am dy deimladau neu bethau rwyt ti wedi'u rhannu. Ceisia fod yn glir pryd rwyt ti eisiau siarad â nhw eto am dy iechyd meddwl.
  • Gofyn cwestiynau sy’n dy wneud yn anghyfforddus, yn enwedig os nad ydyn nhw’n gwybod llawer am iechyd meddwl neu os oes ganddyn nhw safbwyntiau gwahanol.

Nid yw'r ffaith bod yr un person hwn wedi ymateb yn negyddol yn golygu y bydd pawb yn gwneud hynny. Nid yw hyn chwaith yn golygu nad wyt ti’n haeddu'r cymorth sydd ei angen arnat ti.

Beth os ydyn nhw’n dweud wrth bobl eraill?

Ar ôl siarad â rhywun rwyt ti'n ei adnabod am dy iechyd meddwl, mae'n debyg y byddi di eisiau iddyn nhw gadw hyn yn breifat. Ond efallai y bydd angen iddyn nhw ddweud wrth rywun arall os ydyn nhw:

  • Yn poeni am dy ddiogelwch. Efallai y byddan nhw eisiau dweud wrth dy riant, gofalwr, gwarcheidwad, athro neu feddyg i wneud yn siŵr dy fod yn ddiogel.
  • Eisiau dy helpu i ddod o hyd i gymorth proffesiynol. Gallai’r cymorth hwn ddod wrth dy feddyg neu atgyfeiriad at wasanaeth fel CAMHS.
  • Angen cymorth arnyn nhw eu hunain. Efallai y bydd angen rhywfaint o help ychwanegol arnyn nhw i ymdopi â'r hyn rwyt ti wedi'i ddweud wrthyn nhw.

Gallai fod o gymorth esbonio pam nad wyt ti eisiau i bobl eraill wybod. Gofynna iddyn nhw roi gwybod i ti os ydyn nhw'n bwriadu dweud wrth rhywun arall.

decorative

Gall roi llawer o bwysau ar rywun os wyt ti’n rhannu ac yna'n gofyn iddyn nhw addo ei gadw'n gyfrinach.

Os ydyn nhw'n poeni amdanot ti a ddim yn siŵr beth ddylen nhw ei wneud, efallai y bydd angen iddyn nhw siarad â rhywun arall am gymorth.

Cofia y galli di ofyn iddyn nhw os oes angen iddyn nhw ddweud a'u rhesymau dros wneud hynny.

Pryd gallai rhywun rannu'r hyn rydw i wedi'i ddweud wrthyn nhw?

Os ydyn ni’n rhannu sut rydyn ni’n teimlo gyda phobl benodol, mewn rhai sefyllfaoedd efallai y bydd angen iddyn nhw ddweud wrth bobl eraill.

Beth os nad yw’r bobl sy’n agos ata i yn deall?

Weithiau dydyn ni ddim yn cael yr ymateb rydyn ni ei eisiau wrth ddweud wrth bobl eraill sut rydyn ni'n teimlo. Mae gennym ni i gyd ddealltwriaeth wahanol o iechyd meddwl, oherwydd pethau fel:

  • Diwylliant
  • Crefydd
  • Profiadau personol a digwyddiadau bywyd
  • Profiadau gyda gofal iechyd, yn enwedig os ydyn ni wedi profi gwahaniaethu
  • Safbwyntiau ac agweddau pobl o’n cwmpas ni

Weithiau, mae gan bobl yn ein cymuned safbwyntiau neu farn am iechyd meddwl sy'n teimlo'n wahanol iawn i'n rhai ni. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach siarad am sut rydyn ni’n teimlo.

Nid dy waith di yw dysgu pobl o dy gwmpas am iechyd meddwl, ond gallet ti ddefnyddio ein gwybodaeth er mwyn dy helpu i esbonio. Galli di ddangos neu anfon ein tudalennau atyn nhw am:

Os ydyn nhw'n parhau i beidio â dy ddeall di neu dy gefnogi, galli di ddod o hyd i nifer o opsiynau eraill ar ein tudalen mathau o gymorth.

Dim ond oherwydd nad yw rhywun yn deall o ble mae dy deimladau'n dod, nid yw hynny'n golygu nad yw dy deimladau yn rhai dilys. Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bawb, beth bynnag fo'u cefndir.

Nid pawb fydd yn deall ac ni alli di orfodi pobl i feddwl mewn ffordd benodol, ond nid dy gyfrifoldeb di yw gwneud i bobl ddeall hefyd. Dy waith di yw rheoli dy hun gymaint ag y galli di.

Rho amser iddyn nhw

Os nad ydyn nhw'n deall neu ddim yn dy gymryd o ddifri, nid dy fai di yw hynny. I ddechrau, efallai y bydd angen amser arnyn nhw i feddwl am yr hyn rwyt ti wedi'i ddweud wrthyn nhw.

Efallai na fydd angen iddyn nhw glywed pob manylyn nawr, neu na fyddan nhw eisiau clywed pob manylyn, ond ymhen amser, efallai y byddi di’n gallu bod yn fwy agored gyda nhw. Cofia nad oes rhaid i'r tro cyntaf i ti rannu gyda nhw fod y tro olaf.

Os wyt ti’n teimlo dy fod wedi dy frifo, gallai fod o gymorth ceisio siarad â rhywun arall. Os yn bosib, ceisia ddod nôl i'r sgwrs gyda nhw eto pan fyddan nhw'n teimlo'n barod. Neu gallet ti drio ffyrdd gwahanol o fod yn agored.

decorative

Cofia: gall fod yn agored am dy iechyd meddwl fod yn broses hir, nid 1 sgwrs yw hi bob amser. A gall yr hyn sydd ei angen arnom wrth bobl sy'n agos atom newid dros amser.

Nid dy fai di yw hi os nad oes rhywun yn deall. – Jumi, 17

Cynnig gwybodaeth neu enghreifftiau defnyddiol

Efallai dy fod wedi gweld rhywbeth ar y teledu, cyfryngau cymdeithasol neu mewn llyfr sy'n teimlo fel yr hyn rwyt ti’n ei brofi. Gallai dangos hyn iddyn nhw helpu i esbonio sut rwyt ti'n teimlo.

Er enghraifft, gallet ti ddweud “wyt ti wedi bod yn gwylio'r gyfres deledu am ____”, neu “beth yw dy farn di am y cymeriad sy'n wynebu ____”. Neu gallet ti rannu cynnwys gyda nhw ar gyfryngau cymdeithasol sy'n ymwneud â'r hyn rwyt ti'n mynd drwyddo.

Os yw'n teimlo'n ddefnyddiol, gallet ti ddangos neu anfon ein tudalennau gwybodaeth atyn nhw:

Er nad fy ngwaith i yw addysgu pobl, rydw i wedi gweld bod rhai pobl yn fwy tebygol o ddeall yr hyn rwy'n ei ddweud os byddaf yn rhoi rhai ffeithiau neu adnoddau iddyn nhw sy'n gysylltiedig â'r mater.

Meddylia beth allai dy helpu i ymdopi

Gall rhannu dy deimladau gyda phobl rwyt ti'n eu hadnabod deimlo'n anodd iawn os nad ydyn nhw'n deall. Cyn, yn ystod neu ar ôl i ti fod yn agored, galli di drio gwahanol syniadau er mwyn dy helpu i ymdopi.

Os wyt ti'n teimlo’r canlynol:

Rho gynnig ar ymarfer anadlu lle rwyt ti'n anadlu i mewn am 4, dal am 2, ac anadlu allan am 7.

Edrycha ar lun neu gwranda ar gân sy'n gwneud i ti deimlo'n llonydd. 

Chwarae gyda thegan ‘fidget’, diffodda oleuadau neu defnyddia glustffonau i rwystro sŵn. 

Ceisia dawelu dy hun a gwna rhywbeth rwyt ti'n ei fwynhau i dynnu dy sylw.

Chwilia am ffyrdd eraill o gael cymorth, fel cymorth gan gyfoedion ar-lein.

Canolbwyntia ar yr hyn o dy gwmpas a cheisia ddweud 1 peth ar gyfer pob un o'r 5 synhwyrau – gweld, clywed, cyffwrdd, arogli a blasu.

Ysgrifenna restr o'r hyn sy'n gwneud i ti deimlo’r straen, yna tynna sylw at bethau sydd o fewn dy reolaeth.

Gwna gynlluniau i ofalu amdanat ti dy hun ar ôl bod yn agored

Gall siarad am dy iechyd meddwl deimlo'n ofidus ac yn flinedig weithiau. Yn enwedig os oedd y sgwrs yn anodd a doeddet ti ddim yn teimlo dy fod wedi cael dy ddeall.

Cyn bod yn agored, cynllunia weithgaredd hunan-ofal ymlaen llaw. Efallai y bydd hyn yn helpu os nad yw’r sgwrs yn mynd yn ôl y disgwyl. Gallet ti drefnu i wneud y canlynol:

  • Gwneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau. Fel gwylio dy hoff raglen deledu neu fynd am dro i rywle rwyt ti'n ei hoffi.
  • Teimlo’n llonydd. Os oes llawer yn digwydd, ceisia gymryd eiliad i stopio a chanolbwyntio ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Gall treulio amser yn yr awyr agored ym myd natur helpu dy lesiant meddyliol a chorfforol.
  • Cadwa olwg ar sut rwyt ti'n teimlo. Gofynna i ti dy hun beth yw dy anghenion ar hyn o bryd, neu rho gynnig ar ein gweithgaredd olwyn emosiynau. Bydd y PDF hwn yn agor mewn tab newydd.
  • Ymlacia. Chwilia am weithgareddau meddwlgarwch i roi cynnig arnyn nhw, neu fyfyrio, gweddïo neu ysgrifennu dyddiadur.
  • Cysyllta ag eraill. Galli di gael cymorth wrth gyfoedion ar-lein o fforymau fel The Mix Community a Byrddau Negeseuon Childline.

Am fwy o syniadau ar sut i ofalu amdanot ti dy hun ac i ymdopi â theimladau anodd, darllena ein hawgrymiadau lles.

Oes mathau eraill o gymorth iechyd meddwl?

Os nad yw bod yn agored gyda rhywun rwyt ti’n ei adnabod yn teimlo'n iawn, mae yna ffyrdd eraill o gael cymorth ynglŷn â sut rwyt ti'n teimlo.

Cyhoeddwyd: Mawrth 2026

Adolygiad nesaf: Mawrth 2029

Siaradwyd â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

Back To Top arrow_upward