Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Beth fydd yn digwydd mewn apwyntiad meddyg teulu ar gyfer iechyd meddwl – i bobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc am beth i’w ddweud a beth i’w ddisgwyl mewn apwyntiad meddyg teulu i siarad am iechyd meddwl.

Paratoi ar gyfer dy apwyntiad i weld meddyg teulu

Os byddi di wedi trefnu apwyntiad i weld meddyg teulu i gael help gyda dy iechyd meddwl, efallai y byddi di’n meddwl tybed beth fydd yn digwydd a beth i’w ddweud.

Mae sôn am sut rydyn ni’n teimlo’n gallu bod yn anodd. Efallai y byddwn ni hefyd yn teimlo’n bryderus na fydd ein meddyg teulu yn deall, neu ddim yn cynnig y cymorth rydyn ni ei eisiau. Bydd llawer ohonon ni’n teimlo’n nerfus neu’n ansicr, yn enwedig os mai hwn ydy ein hapwyntiad cyntaf ni. Ond dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.

Bydd y canllaw hwn yn dy helpu i deimlo’n fwy parod, fel dy fod yn gwybod beth i’w ddisgwyl, sut i siarad â’r meddyg, a sut i fod yn fwy hyderus cyn dy apwyntiad. Mae’r canllaw hefyd yn esbonio beth i’w wneud os bydd gen ti broblem gyda dy feddyg teulu.

Dim ots sut rwyt ti’n teimlo neu beth rwyt ti’n ei wynebu, mae’n bosibl mai siarad gyda dy feddyg teulu fydd y cam cyntaf i gael cymorth proffesiynol.

Beth ydy meddyg teulu a sut ydw i’n gwneud apwyntiad?

Os bydd angen gwybodaeth arnat ti am sut bydd meddyg teulu yn gallu dy helpu, cer i’n canllaw am sut i drefnu apwyntiad i siarad am iechyd meddwl.

Fe benderfynodd fy mam a minnau gymryd y cam cyntaf a mynd i weld fy meddyg teulu. Fe wnaeth hynny fyd o wahaniaeth i fy ngobeithion a sut roeddwn i’n edrych ar fy salwch, wrth i ni wneud penderfyniadau gyda’n gilydd na allwn i fyth fod wedi’u gwneud ar fy mhen fy hun.

Sut alla i baratoi ar gyfer fy apwyntiad meddyg teulu?

Mae siarad gyda rhywun nad ydyn ni’n ei adnabod am ein teimladau’n gallu codi braw, ond bydd ein meddyg teulu yn gallu rhoi cymorth i ni gyda’n hiechyd meddwl.

Efallai y bydd yr apwyntiad yn teimlo’n fyr, ac efallai y byddi di’n anghofio beth yn union roeddet ti eisiau ei ddweud. Felly, gallai paratoi dy helpu i gael y profiad gorau wrth siarad gyda meddyg teulu.

Ddiwrnod neu ddau cyn dy apwyntiad, efallai y byddai gwneud y pethau hyn yn syniad da:

  • Ysgrifennu beth rwyt ti eisiau ei ddweud
  • Gwneud nodiadau am sut rwyt ti’n teimlo neu beth rwyt ti’n ei wynebu
  • Ymarfer beth hoffet ti ei ddweud yn dy ben, neu sôn wrth aelodau o’r teulu, ffrindiau, partneriaid neu rywun arall rwyt ti’n ymddiried ynddo
  • Siarad am bethau gyda rhywun nad wyt ti’n ei adnabod gyntaf, fel llinell gymorth neu linell destun
  • Siarad â phobl ifanc eraill ar fforymau cymorth i gyfoedion, fel The Mix Community a Byrddau Negeseuon Childline
  • Chwilio am wybodaeth sy’n helpu i esbonio sut rwyt ti’n teimlo
  • Dweud wrth rywun pryd mae dy apwyntiad, er mwyn iddyn nhw roi cymorth i ti cyn neu ar ôl yr apwyntiad
  • Gofyn i rywun ymlaen llaw os wyt ti eisiau iddyn nhw fod yn gefn i ti yn ystod yr apwyntiad
  • Meddwl am unrhyw gwestiynau y gallet ti fod eisiau eu gofyn i’r meddyg teulu
  • Paratoi pethau i fynd gyda ti, fel diod, rhywbeth bach i’w fwyta, neu rywbeth i helpu os byddi di’n nerfus, fel troellwr bach
  • Dod o hyd i le tawel lle rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad os bydd dy apwyntiad dros y ffôn neu dros fideo – gofala bod y cysylltiad rhyngrwyd neu’r cysylltiad ffôn yn gweithio

Efallai na fyddi di’n teimlo’n hollol barod am dy apwyntiad cyntaf, ac mae hynny’n iawn. Y cyfan y galli di ei wneud yw gwneud dy orau.

Awgrymiadau ar gyfer apwyntiad wyneb yn wyneb

Os byddi di’n paratoi at apwyntiad wyneb yn wyneb, mae gennyn ni rai awgrymiadau a chyngor ymarferol:

Edrycha i weld ble mae’r practis a sut byddi di’n cyrraedd yno, fel cerdded, dal bws neu gael lifft. Ceisia adael mewn da bryd rhag ofn y bydd y daith yn cymryd mwy o amser nag rwyt ti’n ei ddisgwyl.

Gall cyrraedd yno tua 10 munud ymlaen llaw dy helpu i deimlo’n fwy cartrefol. Byddi di’n eistedd mewn lle aros tra byddi di’n aros i feddyg teulu alw dy enw

Gan amlaf, bydd angen i ti ddweud dy enw ac amser dy apwyntiad wrth y sawl sydd yn y dderbynfa, neu ddefnyddio sgrin gyffwrdd i ddweud dy fod wedi cyrraedd.

Weithiau, efallai y byddi di’n dal i aros ar ôl amser dy apwyntiad. Mae hyn yn normal, ond os wyt ti wedi bod yn aros am fwy nag 20 munud, rho wybod i staff y dderbynfa.

Os wyt ti’n bwriadu dod â ffrind neu oedolyn dibynadwy gyda ti, rho ddigon o rybudd iddyn nhw. Efallai y bydd angen iddyn nhw drefnu i fod i ffwrdd o’r gwaith neu’r ysgol neu’r coleg.

I gael rhagor o wybodaeth, edrycha ar ein gwybodaeth am gael cwmni mewn apwyntiad.

 Roedd ysgrifennu popeth roeddwn i eisiau ei fynegi yn help mawr, i wneud yn siŵr ein bod ni wedi trafod popeth yn yr apwyntiad.

A alla i ddod â rhywun yn gwmni i’r apwyntiad?

Os hoffet ti i rywun fod yn gefn i ti, mae croeso iddyn nhw ddod i’r apwyntiad hefyd. Gan amlaf, does dim angen dweud wrth y practis meddyg teulu ymlaen llaw am hyn.

Efallai y byddi di eisiau cwmni:

  • Rhiant, gofalwr neu warcheidwad
  • Oedolyn dibynadwy arall, gan amlaf rhywun dros 18 oed

Fe allen nhw ddod gyda ti pan fyddi di’n siarad gyda’r meddyg teulu, neu aros amdanat ti yn yr ystafell aros. Os yw’n apwyntiad dros y ffôn, fe allan nhw dy helpu di i baratoi, eistedd gyda ti, neu weld sut wyt ti wedyn.

Os wyt ti o dan 16 oed, efallai y bydd y practis yn gofyn i ti ddod ag oedolyn yn gwmni i apwyntiad wyneb yn wyneb. Ond gan amlaf, galli di gwrdd â meddyg teulu neu nyrs ar dy ben dy hun, beth bynnag yw dy oedran, os bydd staff y practis yn credu:

  • Dy fod yn deall beth sy’n digwydd
  • Dy fod yn gallu gwneud penderfyniadau am dy ofal

Os bydd y practis yn awgrymu dy fod yn dod ag oedolyn yn gwmni, fe alli di esbonio dy resymau dros fod eisiau gweld y meddyg teulu ar dy ben dy hun. Er enghraifft, os byddi di’n teimlo na fydd rhiant, gofalwr neu warcheidwad yn deall dy iechyd meddwl neu ddim yn gefn i ti.

Os byddi di’n siarad gyda’r meddyg teulu ar dy ben dy hun, efallai y bydd y meddyg yn dal i dy annog i ddweud wrth riant, gofalwr neu warcheidwad am beth sy’n digwydd.

I gael rhagor o wybodaeth, edrycha ar ein gwybodaeth am beth allai fod angen i feddygon teulu ei ddweud wrth bobl eraill.

Alla i ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw hi i ddal ati i chwilio am y cymorth iawn, hyd yn oed os yw’n dod o rywle arall. Oherwydd rwyt ti’n haeddu hynny.

Sut ydw i’n siarad gyda meddyg teulu am fy iechyd meddwl?

Mae siarad am dy iechyd meddwl gyda meddyg teulu am y tro cyntaf yn gallu teimlo’n beth anodd iawn i’w wneud. Ond maen nhw’n siarad gyda llawer o bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, a hynny bob dydd.

Efallai y bydd y meddyg yn dechrau drwy ofyn i ti gadarnhau dy fanylion, fel dy enw a dy ddyddiad geni. Yna bydd yn gofyn i ti am beth rwyt ti eisiau siarad, neu sut bydd yn gallu helpu.

I drafod dy iechyd meddwl, ceisia ddechrau gyda rhywbeth fel hyn:

  • “Dwi eisiau siarad am sut rydw i wedi bod yn teimlo / am fy iechyd meddwl / am rywbeth anodd sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol / gartref.”
  •  “Yn ddiweddar dwi wedi bod yn cael trafferthion gyda fy nheimladau a dwi eisiau rhywfaint o help.”
  •  “Dwi wedi bod yn teimlo’n bryderus / yn isel fy ysbryd / dan straen ac rydw i eisiau siarad am hyn.”
  •  “Dwi ddim yn siŵr sut i esbonio’r peth, ond dwi ddim yn teimlo’n iawn.”
  •  “Dwi eisiau siarad am ba gymorth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd meddwl.”
  •  “Dwi eisiau siarad am ____ (rhywbeth sydd wedi digwydd / teimladau penodol).”
decorative

Fe allet ti ysgrifennu rhai syniadau am sut i ddechrau’r sgwrs, a dod â’r papur gyda ti, neu deipio nodyn ar dy ffôn.

Fe alli di hefyd wneud nodiadau yn ystod yr apwyntiad i dy helpu i gofio’r sgwrs.

Fe alli di hefyd dweud wrth dy feddyg os oes gen ti unrhyw anghenion penodol ar gyfer yr apwyntiad. Er enghraifft:

  • “Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i fi ateb eich cwestiynau chi.”
  • “Efallai y bydd angen i chi esbonio pethau fwy nag unwaith, neu esbonio pethau mewn ffordd symlach er mwyn i mi ddeall.”
  • “Efallai y bydd angen i mi ysgrifennu hyn ar fy ffôn.”
  • “Fe fyddwn i’n hoffi cael amser i ofyn fy nghwestiynau fy hun.”
  • “Dwi ddim wedi dweud wrth neb o’r blaen, felly mae yna rai pethau fydd yn anodd i fi siarad amdanyn nhw.”
  • “Mae fy rhiant / gofalwr / gwarcheidwad / brawd neu chwaer yn yr ystafell aros. Efallai y gwna i ofyn iddyn nhw ddod i mewn os ydw i’n teimlo bod pethau’n mynd yn ormod.”

Efallai na fydd hi’n hawdd dweud wrth dy feddyg teulu am deimladau a phrofiadau anodd. Ond ceisia ddefnyddio geiriau sy’n teimlo’n naturiol i ti. Ceisia esbonio beth sydd wedi bod yn digwydd yn dy fywyd bob dydd – yn yr ysgol neu gartref, er enghraifft – a sôn am dy batrymau cysgu neu fwyta.

I dy helpu di i ddisgrifio dy deimladau neu dy brofiadau, cer i’n tudalennau am y canlynol:

Os bydd fy nerfau’n ormod, neu os bydda i’n cael trafferth gyda fy ngorbryder, dwi’n gallu rhoi fy nodiadau yn syth i fy meddyg teulu a thrafod y problemau. Mae hynny’n aml wedi fy helpu i ymdopi gyda’r gorbryder cychwynnol yna.

Pa gwestiynau allwn i eu gofyn am iechyd meddwl?

Nid dim ond dweud wrth dy feddyg teulu sut rwyt ti’n teimlo a beth rwyt ti wedi bod yn ei wynebu ydy pwrpas yr apwyntiad. Fe alli di hefyd ofyn cwestiynau i’r meddyg am broblemau iechyd meddwl, am driniaethau, ac am beth allai ddigwydd nesaf.

Does dim cwestiynau cywir nac anghywir i’w gofyn. Bydd dy feddyg teulu wedi hen arfer ateb pob math o gwestiynau am iechyd corfforol a meddyliol.

Ar ôl esbonio ychydig am sut rwyt ti’n teimlo, efallai yr hoffet ti ofyn pethau fel:

  •  “Pam ydw i’n teimlo fel hyn?”
  •  “Oes llawer o bobl yn wynebu hyn?”
  •  “Sut ydych chi’n gwybod beth sydd efallai’n broblem iechyd meddwl?”
  •  “A fydd hyn yn gwella?”
  •  “Pa fath o help sydd ar gael?”

Dydy problemau iechyd meddwl ddim yn dy ddiffinio di nac yn dy wneud yn llai o berson, waeth beth mae pobl eraill yn ei feddwl – Aisha, 18

Cyn i’r apwyntiad ddod i ben, efallai y byddai’n syniad da gofyn cwestiynau fel:

  • “Beth sy’n digwydd nesaf? Allwch chi ddweud wrtha i beth ydy’r camau nesaf?”
  • “Pam ydych chi’n meddwl y bydd y driniaeth hon yn gweithio?”
  • “Pam na allwch chi roi unrhyw beth i fy helpu?”
  • “Oes yna unrhyw beth y galla i ei wneud i fy helpu fy hun?”
  • “Ydych chi’n gwybod pa mor hir y bydd hi’n ei gymryd i gael y driniaeth / yr atgyfeiriad y gwnaethon ni ei drafod?”
  • “Oes yna unrhyw gymorth lleol neu ar-lein y galla i ei ddefnyddio?”
  • Oes angen i mi drefnu ail apwyntiad? Pryd ddylwn i drefnu hwnnw?”
  • “Ydy’r pethau y gwnaethon ni eu trafod yn gyfrinachol? Fydd angen i chi ddweud wrth rywun?”
  • “Gyda phwy ddylwn i gysylltu os bydd pethau’n gwaethygu neu os bydd gen i gwestiynau?”

Gall apwyntiad weithiau deimlo’n eithaf cyflym. Maen nhw gan amlaf yn para tua 10 munud. Mae’n iawn treulio amser yn gofyn y cwestiynau sy’n bwysig i ti. Os na fydd digon o amser, bydd modd i ti ofyn am gael trefnu apwyntiad arall.

Dwyt ti ddim yn gwastraffu amser neb yn gofyn am help neu’n gofyn cwestiynau. Hyd yn oed os nad wyt ti’n gadael gydag atebion clir neu’n cael y cymorth roeddet ti wedi gobeithio’i gael.

Mae gen ti’r hawl i gael gwybod yn uniongyrchol am y cymorth sydd ar gael a’r hyn y dylet ti ei ddisgwyl. Bydd yn fwy uniongyrchol, a phaid â bod ofn gofyn cwestiynau.

Beth allai’r meddyg teulu ei ofyn i mi?

Efallai y bydd dy feddyg yn gofyn llawer o gwestiynau i ddod o hyd i’r ffordd orau i dy helpu. Efallai y bydd hefyd yn gofyn i ti lenwi holiadur am dy feddyliau a dy deimladau. Mae hyn yn gyffredin iawn ac fe allai helpu’r meddyg i feddwl am ddiagnosis posibl.

Ceisia fod yn onest am dy iechyd meddwl, hyd yn oed os ydy hyn yn codi ofn arnat ti. Mae’r meddyg yno i wrando ac i fod yn gefn i ti.

Rho gymaint o fanylion ag rwyt ti’n gyfforddus yn eu rhannu – bydd hyn yn helpu’r meddyg i ddeall mwy am sut rwyt ti’n teimlo. Po fwyaf agored y galli di fod, y gorau, ond fe gei di wrthod ateb unrhyw gwestiynau nad wyt ti eisiau eu hateb.

decorative

Mae’n iawn rhoi gwybod i dy feddyg teulu os yw’r sgwrs yn mynd yn rhy anghyfforddus a dy fod eisiau stopio.

Fydd fy meddyg teulu yn trafod beth rydw i wedi’i ddweud gyda rhywun arall?

Dylai’r hyn y byddi di’n ei ddweud mewn apwyntiad fod yn breifat rhyngot ti a dy feddyg teulu. Does dim gwahaniaeth ai trafod dy iechyd corfforol neu dy iechyd meddwl wnaethoch chi – fydd y meddyg ddim yn rhannu beth rwyt ti wedi’i ddweud gyda neb arall gan amlaf.

Ond efallai y bydd meddyg teulu yn rhannu gwybodaeth os bydd yn poeni am dy ddiogelwch di neu ddiogelwch rhywun arall. Er enghraifft, os wyt ti’n cael dy gam-drin neu os wyt ti mewn perygl o gael dy gam-drin. Os bydd angen i’r meddyg rannu rhywbeth, bydd gan amlaf yn esbonio pam.

Os nad wyt ti eisiau i dy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid wybod am rai pethau, dyweda hynny wrth dy feddyg teulu. Bydd y meddyg yn gallu esbonio pa wybodaeth sy’n gallu aros yn breifat a beth allai fod angen i’r meddyg ei rannu.

Os nad wyt ti eisiau i dy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid wybod am rai pethau, dyweda hynny wrth dy feddyg teulu. Bydd y meddyg yn gallu esbonio pa wybodaeth sy’n gallu aros yn breifat a beth allai fod angen i’r meddyg ei rannu.

Efallai y bydd dy feddyg hefyd yn gofyn am gael rhannu gwybodaeth mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, efallai y bydd angen i’r meddyg rannu beth rwyt ti wedi’i ddweud er mwyn dy atgyfeirio at wasanaeth arall, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

Efallai y bydd y meddyg yn dy annog i rannu beth sy’n digwydd gyda phwy bynnag sy’n byw gyda ti. Yn enwedig os byddi di’n cael dy anfon at CAMHS neu os byddwch chi’n trafod meddyginiaeth. Os hoffet ti gael help i ddweud wrth riant, gofalwr, gwarcheidwad neu oedolyn dibynadwy, bydd dy feddyg teulu yn gallu rhoi cymorth i ti wneud hyn.

Deall cyfrinachedd ac iechyd meddwl

Gwybodaeth am sut a phryd ddylid cadw gwybodaeth am dy iechyd meddwl yn breifat.

Beth os oes gen i broblem gyda fy meddyg teulu?

Mae llawer ohonon ni’n cael profiadau cadarnhaol o siarad â’n meddyg teulu am iechyd meddwl. Ond weithiau, efallai na fydd pethau’n teimlo’n iawn – nid dy fai di fydd hyn. Mae rhai ohonon ni’n ei chael hi’n anodd cael help oherwydd pethau fel embaras, stigma neu gael ein trin yn annheg.

Efallai dy fod wedi cael profiad anodd yn siarad gyda dy feddyg teulu am iechyd meddwl. Er enghraifft:

  • Os oeddet ti’n teimlo nad oedd y meddyg teulu yn gwrando arnat ti nac yn dy gymryd o ddifrif
  • Os nad oeddet ti’n deall beth ddywedodd y meddyg teulu, neu os nad oedden nhw’n esbonio pethau’n glir
  • Os oeddet ti’n teimlo dy fod yn cael dy farnu neu’n cael dy ddiystyru gan y meddyg teulu, neu ei fod wedi dy gamddeall
  • Os nad oedd hi’n ymddangos bod y meddyg teulu yn deall dy gefndir, diwylliant, hunaniaeth neu brofiadau
  • Os nad oedd y meddyg teulu yn cynnig dewis o opsiynau i ti, nac yn egluro’r opsiynau hyn yn glir
  • Os oeddet ti’n teimlo na allet ti ofyn am y cymorth sydd ei angen arnat ti, yn seiliedig ar brofiadau yn y gorffennol neu bethau rwyt ti wedi’u gweld neu eu clywed, gan gynnwys gwahaniaethu

Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad gyda meddyg teulu am dy iechyd meddwl, nid dy fai di ydy hynny. Mae’n iawn hefyd os nad wyt ti’n cytuno â beth mae dy feddyg teulu wedi’i ddweud. Beth bynnag rwyt ti’n ei deimlo, mae’n deimlad dilys.

Os na fydd dy apwyntiad yn mynd fel roeddet ti wedi’i obeithio, mae yna ffyrdd eraill o gael cymorth.

Weithiau mae’r ffordd mae gweithwyr proffesiynol meddygol yn siarad gyda ti ychydig yn nawddoglyd. Os bydd hynny’n digwydd neu os byddi di’n teimlo nad wyt ti’n cael dy gymryd o ddifrif, paid â gadael i hynny dy ddigalonni.

Beth alla i ei wneud os oes gen i broblem?

Mae gen ti hawl i fod yn rhan o dy ofal ac i deimlo bod dy feddyg teulu yn dy barchu. Os bydd gen ti broblem gyda rhywbeth yn dy apwyntiad, galli di wneud y canlynol:

  • Gofyn cwestiynau neu ddweud wrth y meddyg nad wyt ti’n deall rhywbeth
  • Dweud ‘na’ i driniaethau penodol neu ofyn am fathau eraill o gymorth
  • Gofyn am fath gwahanol o apwyntiad
  • Gofyn am gael gweld meddyg gwahanol
  • Dod ag oedolyn dibynadwy yn gwmni i ti, neu i siarad gyda’r meddyg ar wahân
  • Gofyn am gael dod â rhywun yn gwmni, i fod yn eiriolwr i ti.
  • Gofyn i’r meddyg dy helpu i egluro pethau wrth riant, gofalwr, gwarcheidwad neu oedolyn arall
  • Gwneud cwyn am y meddyg teulu

Sut ydw i’n gwneud cwyn am feddyg teulu?

Os wyt ti’n teimlo bod gweithiwr proffesiynol yn y GIG wedi dy drin yn annheg neu wedi gwahaniaethu yn dy erbyn, mae gen ti hawl i wneud cwyn.

Fe alli di ofyn i dy bractis meddyg teulu sut i wneud cwyn ac at bwy y dylet ti ei hanfon. Mae gan bob gwasanaeth ei ffordd ei hun o ymdrin â chwynion.

I gael rhagor o wybodaeth, cer i’n tudalennau am ddeall cwynion a gwneud cwyn.

Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd apwyntiad?

Bydd yr hyn sy’n digwydd ar y diwedd yn dibynnu ar beth rwyt ti wedi’i rannu am dy iechyd meddwl a beth mae’r meddyg teulu yn meddwl allai helpu. Mae hefyd yn dibynnu ar y cymorth sydd ar gael lle rwyt ti’n byw.

Efallai y bydd dy feddyg teulu yn cynnig mwy nag un math o driniaeth neu gymorth i ti, ond does dim rhaid i ti benderfynu’n syth bin. Dyweda wrth y meddyg os wyt ti angen mwy o amser neu apwyntiad arall cyn penderfynu beth sy’n digwydd nesaf.

Ar ddiwedd dy apwyntiad, efallai y bydd dy feddyg teulu:

  • Yn siarad gyda ti am beth allai fod o’i le ac yn awgrymu diagnosis posibl – ond i wneud diagnosis swyddogol, byddai angen dy atgyfeirio i gael asesiad
  • Yn dy anfon am asesiad neu gymorth gan wasanaeth iechyd meddwl i bobl ifanc, fel CAMHS
  • Yn trefnu apwyntiad arall cyn penderfynu ar y camau nesaf
  • Yn gwneud cynllun i gadw golwg ar dy iechyd corfforol a dy iechyd meddwl dros gyfnod o amser
  • Yn dy helpu di i gael cymorth fel cwnsela yn yr ysgol, yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw a dy oedran
  • Yn awgrymu cymorth lleol neu ar-lein, fel gwasanaethau ieuenctid, llinellau cymorth neu elusennau
  • Yn trafod triniaethau posibl y galli di roi cynnig arnyn nhw dy hun, fel hunan-ofal neu newid dy ffordd o fyw
  • Yn dy helpu i siarad gyda rhiant, gofalwr, gwarcheidwad neu oedolyn dibynadwy
  • Yn trafod opsiynau meddyginiaeth

Fydd fy meddyg teulu yn gallu rhoi meddyginiaeth i mi?

Efallai y bydd dy feddyg yn siarad gyda ti am feddyginiaeth, ac yn trafod a allai hynny helpu dy iechyd meddwl. Ond fydd meddyg ddim yn rhoi meddyginiaeth yn aml heb i ti gael asesiad a diagnosis. Yn enwedig os wyt ti o dan 18 oed.

Gan amlaf, bydd angen i ti gael asesiad gydag arbenigwr, fel seiciatrydd. Os bydd y meddyg yn penderfynu cynnig meddyginiaeth i ti, dylai bresgripsiynu’r feddyginiaeth ochr yn ochr â therapi neu fathau eraill o gymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am feddyginiaeth, cer i wefan YoungMinds.

Beth os na fydd fy meddyg teulu yn cynnig unrhyw gymorth?

Weithiau, efallai y byddi di’n gadael dy apwyntiad heb gynllun clir ar gyfer triniaeth, neu heb gael dy atgyfeirio. Gall hyn deimlo’n ddryslyd ac yn rhwystredig, yn enwedig pan fyddi di’n ceisio ymdopi â dy iechyd meddwl. Fyddi di ddim ar dy ben dy hun yn teimlo fel hyn.

Bydd rhai ohonon ni’n cael help yn yr apwyntiad, ond efallai y bydd angen i bobl eraill fynd yn ôl eto neu aros yn hirach i gael help.

Os byddi di’n gadael dy apwyntiad cyntaf heb gael dy atgyfeirio neu heb gael triniaeth, dydy hynny ddim yn golygu nad ydy dy deimladau di’n bwysig. A dydy hynny ddim yn golygu na ddylet ti gael cymorth. Os bydd hyn yn digwydd, fe allet ti wneud y canlynol:

Ble arall alla i ddod o hyd i gymorth?

Dim siarad gyda dy feddyg ydy’r unig ffordd o gael cymorth gyda dy iechyd meddwl. Rho gynnig ar fath arall o gymorth os nad wyt ti’n teimlo dy fod di’n cael digon o help.

Mae’n cymryd llawer o ddyfalbarhad i ymladd drosot ti dy hun a dod o hyd i rywun sy’n deall, ond mae yna bobl sy’n gallu helpu.

Cyhoeddwyd: Ebrill 2026

Adolygiad nesaf: Ebrill 2029

Siaradwyd â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

Back To Top arrow_upward