Iselder ôl-enedigol a chwedl y fam 'berffaith'
Dyma Sara’n blogio am ei phrofiad hi o Iselder ôl-enedigol a’r pwysau i fod yn fam “berffaith”:
Nid oedd dod yn fam yn hawdd i mi. Cymerodd dros 18 mis i mi feichiogi. A phan welais y llinell las ar y prawf beichiogrwydd o'r diwedd, yn lle teimlo hapusrwydd llwyr, roeddwn yn bryderus iawn. Roeddwn wedi camesgor o'r blaen. Beth os byddai hynny'n digwydd eto? Roeddwn yn siŵr y byddai rhywbeth yn mynd o'i le, ac ni chysgais am bythefnos cyn rhoi genedigaeth.
Ychydig ddiwrnodau cyn y dyddiad esgor, torrodd fy nŵr. Rhuthron ni i'r ysbyty ac aeth pethau'n waeth ar ôl hynny. Roedd y cyfnod esgor yn anodd, ac yn y diwedd bu'n rhaid i mi gael toriad Cesaraidd ar frys a dau drallwysiad gwaed. Roeddwn wir yn credu fy mod yn mynd i farw.
"Pan roddwyd fy mab yn fy mreichiau, roedd rhywbeth o'i le. Doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw beth."
O'r diwedd, ganwyd fy mab, Steffan. Pan roddwyd fy mab yn fy mreichiau, roedd rhywbeth o'i le. Doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw beth. Doeddwn i ddim eisiau ei ddal. Gadewais i'm mam ofalu amdano ar y diwrnod cyntaf hwnnw.
Ar ôl pedwar diwrnod a phedair noson heb gwsg, gwnes i ryddhau fy hun o'r ysbyty. Nid oedd bwydo'n llwyddiannus gartref, ac roedd fy ngorbryder yn gwaethygu. Doeddwn i ddim yn gallu goddef bod ar ben fy hun gyda'm maban.
Tra bod y rhan fwyaf o famau newydd yn teimlo'n hapus, er yn flinedig, wrth groesawu teulu a ffrindiau, doeddwn i ddim eisiau gweld neb. Roedd y syniad yn gwneud i mi deimlo dan hyd yn oed fwy o straen.
Nid oedd cyfarfod â mamau eraill yn llawer o gymorth ychwaith. Es i grŵp mamau newydd, ond roedd eu gweld fel petaen nhw'n ymdopi'n iawn yn gwneud i mi deimlo'n annigonol. Roeddwn yn benderfynol o lynu wrth batrwm cysgu a bwydo i Steff - roeddwn wedi darllen am batrwm o'r fath mewn llyfr babanod ac yn benderfynol o wneud iddo weithio. Pan na fyddai Steff yn dilyn y patrwm, roeddwn yn teimlo fy ngorbryder yn gwaethygu eto.
Baswn yn gobeithio y byddai fy mam yn cynnig mabwysiadu fy mab - doeddwn i ddim eisiau bod yn fam.
"Roeddwn yn teimlo bod angen rhoi'r argraff fy mod yn fam berffaith."
Ni fyddai'r bydwragedd na'r ymwelwyr iechyd wedi gwybod beth roeddwn yn ei brofi - roedd y tŷ fel pin mewn papur a Steff yn cysgu'n sownd bob tro y byddent yn galw. Roeddwn yn teimlo bod angen rhoi'r argraff fy mod yn fam berffaith.
Ond ni allwn ymdopi rhagor. Un diwrnod, dechreuais grio o flaen fy mam a dywedais bopeth wrthi. Cytunodd i edrych ar ôl Steff er mwyn i mi weld y meddyg teulu. Yn y diwedd, cefais fy atgyfeirio at y tîm iechyd meddwl cymunedol lleol a chefais ddiagnosis o iselder ôl-enedigol. Dechreuodd o ganlyniad i'r straen wedi trawma'r enedigaeth anodd.
Cefais Nyrs Seiciatrig Gymunedol arbennig a oedd yn canolbwyntio ar therapi siarad. Roedd hi'n fam newydd hefyd, ac roedd yn gallu cydymdeimlo â'r hyn roeddwn yn ei deimlo - yn arbennig y pwysau hynny o fod yn fam berffaith a gwneud popeth yn 'iawn'. Dyma oedd fy ngham cyntaf tuag at wella. Doedd neb erioed wedi dweud wrthyf y gallai deimlo fel hyn, neu ei fod yn iawn i deimlo'n wael. Roedd clywed hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Bu cyfnodau da a drwg ers hynny. Rwyf weddi gorfod delio â gorbryder ac iselder eto, a hyd yn oed roi'r gorau i weithio am ychydig. Ond rydw i yma o hyd, yn rhannol oherwydd cefais swydd newydd yn gweithio i Amser i Newid Cymru lle'r oedd fy mhrofiad o broblemau iechyd meddwl o fantais.
Yn gynharach eleni, penderfynais wireddu un o'm mreuddwydion ac agor fy nghaffi fy hun yng Nghaerdydd. Ni fyddwn erioed wedi dychmygu rai blynyddoedd yn ôl y byddwn yn y sefyllfa hon; yn rhedeg fy musnes fy hun ac yn fam i fachgen 12 oed hyfryd, ac rwy'n ei garu yn fwy na dim.
Rwy'n gobeithio y bydd rhannu fy stori yn helpu mamau eraill yn yr un sefyllfa i sylweddoli nad oes rhaid iddynt fod yn berffaith ac nad oes angen iddynt ddioddef yn dawel.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.