Mae'r adran hon yn egluro unigrwydd, gan gynnwys beth sy'n achosi unigrwydd a sut mae hynny'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau ymarferol i helpu i reoli teimladau o unigrwydd, a lle arall gallwch chi fynd i gael cymorth.
Mae pawb yn teimlo'n unig o dro i dro. Mae teimlo'n unig yn rhywbeth sy'n bersonol i chi, felly bydd profiad pawb o unigrwydd yn wahanol.
Un ffordd o ddisgrifio unigrwydd ydy'r teimlad rydyn ni'n ei gael pan nad ydy ein hangen ni am berthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol gwerth chweil yn cael ei ddiwallu. Ond dydy unigrwydd ddim bob amser yn golygu'r un peth â bod ar eich pen eich hun.
Gallwch chi ddewis bod ar eich pen eich hun a byw'n hapus heb fawr o gysylltiad â phobl eraill, tra byddai pobl eraill yn teimlo bod hyn yn brofiad unig.
Neu efallai eich bod yn cael llawer o gyswllt cymdeithasol, neu mewn perthynas neu'n rhan o deulu, ac yn dal i deimlo'n unig – yn enwedig os nad ydych chi'n teimlo bod y bobl o'ch cwmpas yn eich deall nac yn gofalu amdanoch chi (edrychwch ar ein gwybodaeth beth sy'n achosi unigrwydd).
"Un peth rydw i wedi'i ddysgu ydy'r gwahaniaeth rhwng teimlo ar fy mhen fy hun a theimlo'n unig - a sut gallwch chi deimlo'n unig mewn criw o bobl, ond yn braf ac yn fodlon pan fyddwch ar eich pen eich hun."
Dydy teimlo'n unig ddim yn broblem iechyd meddwl ynddi'i hun, ond mae cysylltiad cryf rhwng y ddau beth. Gall problemau iechyd meddwl gynyddu eich siawns o deimlo'n unig.
Er enghraifft, efallai bod gan rai pobl gamsyniadau am beth mae rhai problemau iechyd meddwl yn eu golygu, felly fe allech chi ei chael hi'n anodd siarad â nhw am eich problemau (edrychwch ar ein tudalennau awgrymiadau ar gyfer delio â stigma).
Neu efallai y byddwch chi'n profi ffobia cymdeithasol – sydd hefyd yn cael ei alw'n orbryder cymdeithasol – ac yn ei chael hi'n anodd cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd sy'n cynnwys pobl eraill. Gallai hyn arwain at ddiffyg cyswllt cymdeithasol ystyrlon a gwneud i chi deimlo'n unig.
"Rydw i'n dymuno gallu ymwneud â phobl a gwneud cysylltiadau newydd ond mae fy ngorbryder yn teimlo fel rhwystr anweledig a dydw i ddim yn gallu torri drwyddo."
Mae teimlo'n unig yn gallu cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl hefyd, yn arbennig os ydy'r teimladau hyn wedi para'n hir. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu bod cysylltiad rhwng unigrwydd â mathau penodol o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, gorbryder, hunan-barch isel, problemau cysgu a mwy o straen.
"Mae fy ngorbryder a'm hiselder yn fy ynysu oddi wrth bobl, yn fy atal rhag gallu gwneud y pethau yr hoffwn eu gwneud, felly mae'n golygu fy mod i'n cael fy natgysylltu'n gymdeithasol."
Mae nifer o wahanol bethau'n achosi unigrwydd, ac mae'r rhain yn amrywio o un unigolyn i'r llall. Dydyn ni ddim bob amser yn deall pam mae profiad penodol yn gwneud i ni deimlo'n unig.
I rai pobl, gall digwyddiadau penodol mewn bywyd olygu eu bod yn teimlo'n unig, fel:
Mae pobl eraill yn teimlo'n unig ar adegau penodol o'r flwyddyn, er enghraifft o gwmpas y Nadolig.
Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu bod pobl sy'n byw mewn amgylchiadau penodol, neu'n perthyn i grwpiau penodol, yn fwy agored i unigrwydd. Er enghraifft:
"Pan oeddwn i'n dioddef o anorecsia, roedd yn effeithio ar gynifer o bethau yn fy mywyd. Roedd yn cymryd drosodd. Un o'r pethau hynny oedd unigrwydd. Roedd yn rhywbeth roeddwn i'n ei deimlo am amser maith."
Mae rhai pobl yn cael teimladau dwfn a chyson o unigrwydd oddi mewn a dydyn nhw ddim yn diflannu, dim ots beth ydy eu sefyllfa gymdeithasol na faint o ffrindiau sydd ganddyn nhw.
Mae nifer o resymau pam mae pobl yn profi'r math yma o unigrwydd. Efallai y byddwch yn teimlo nad ydych chi'n gallu hoffi eich hun ac na fydd pobl eraill yn eich hoffi chi, neu efallai nad oes gennych chi lawer o hunanhyder.
Gall meddwl am yr hyn sy'n gwneud i chi deimlo'n unig eich helpu chi i ddod o hyd i ffordd i deimlo'n well. Edrychwch ar ein tudalen awgrymiadau ar gyfer rheoli unigrwydd i gael rhagor o wybodaeth.
This information was published in July 2019. We will revise it in 2022.
References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.