Get help now Make a donation

Ymchwil Mind Cymru yn datgelu mai pobl ifanc Cymru sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw

Tuesday, 10 October 2023 Mind
  • Mae’r elusen iechyd meddwl fwyaf yng Nghymru yn defnyddio Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc, wrth i ymchwil ddangos bod rhai pobl ifanc yn troi at fanciau bwyd i arbed arian

Mae Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl, yn galw ar bobl ifanc i ofyn am gymorth emosiynol gan fod gwaith ymchwil diweddar wedi datgelu bod dros draean o bobl ifanc rhwng 16 a 34 oed (34 y cant) wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gydag 84 y cant yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl.*

Mae Mind Cymru yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau mae’n eu cynnig i bobl ifanc, a hynny ar ôl i ddata, a gasglwyd drwy arolwg Censuswide, dynnu sylw hefyd at y ffaith bod un o bob pump o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Roedd y bobl ifanc rhwng 16 a 24 wedi nodi ystod eang o symptomau, gan gynnwys y canlynol: roedd dwy ran o dair a mwy wedi nodi eu bod dan straen cynyddol (42 y cant) ac yn teimlo’n fwy pryderus (41 y cant), roedd traean a mwy wedi nodi eu bod nhw’n teimlo’n fwy isel (36 y cant) ac yn cael nosweithiau gwael o gwsg (39 y cant), roedd tua thraean ohonynt hefyd wedi nodi eu bod yn teimlo’n fwy unig (30 y cant), ac roedd bron i chwarter ohonynt wedi nodi bod ganddynt broblemau bwyta (24 y cant).

Ar gyfartaledd, cafodd y symptomau hyn eu nodi gan fwy o bobl ifanc na phobl hŷn a gymerodd ran yn yr ymchwil.

Roedd y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed wedi nodi hefyd eu bod yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd y ffigyrau’n dangos bod:

  • 40 y cant yn llai abl i fforddio cludiant personol

  • 32 y cant yn llai abl i fforddio ffôn symudol neu ffôn llinell dir

  • 29 y cant yn llai abl i fforddio eu bil rhyngrwyd

  • 30 y cant yn dweud eu bod yn llai abl i fforddio gweithgareddau corfforol

  • 50 y cant yn llai abl i fforddio cymdeithasu a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.

  • Dywedodd un o bob chwech (16 y cant) o’r grŵp oedran hwn eu bod yn llai abl i fforddio therapi siarad, er bod 17 y cant wedi dweud eu bod wedi ystyried cael cwnsela/therapïau siarad gan y GIG.  

Rhannodd Mel Rose, 24 oed o Wrecsam, ei phrofiadau o’r argyfwng costau byw, a’r effaith mae hyn wedi’i chael ar ei hiechyd meddwl. Dywedodd:

“Mae gen i anhwylder bwyta, iselder, gorbryder ac anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD). Mae therapi wastad wedi bod yn ffordd i mi allu deall fy mhrofiadau. 

“Cafodd nifer y sesiynau therapi roeddwn i’n eu cael gan y GIG eu cwtogi, ac roeddwn i’n gweld eisiau’r cymorth, felly dechreuais therapi preifat. Roeddwn i’n teimlo fy hun yn gwella, a dechreuais weithio’n rhan amser. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio fy nghyflog i dalu am y therapi, sy’n golygu nad oedd gen i ddigon o arian i wneud pethau eraill, fel mynd allan gyda ffrindiau. Ond, fe ddaeth y pwynt lle nad oeddwn i’n gallu ei fforddio, felly roedd yn rhaid i mi roi’r gorau iddi – dyma pryd y gwnaeth pethau waethygu, a phan ddechreuodd fy iechyd meddwl ddirywio unwaith eto. 

“Erbyn hyn, rwy’n treulio llawer o amser yn y tŷ. Rwyf wedi colli’r hyder i fynd allan gyda ffrindiau, a dydy hynny ddim yn helpu fy iechyd yn gorfforol, nac yn feddyliol. Mae fy anhwylder bwyta yn parhau i fod yn broblem i mi, a chredaf mai’r unig ffordd i mi wella’n llwyr fyddai mynd i glinig anhwylder bwyta preifat, ond maent yn costio miloedd. Mae’r argyfwng costau byw, a’r cynnydd mewn prisiau, wedi ei gwneud hi’n amhosibl i mi allu cynilo i fynd.

“Mae popeth wedi codi, gan gynnwys costau teithio a gwres. Dydw i ddim yn gallu gyrru oherwydd fy ffitiau, ac mae byw yng nghanol nunlla yn golygu bod rhaid i mi ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio arna i, a fy iechyd meddwl.”

Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

“Mae ein hymchwil yn cynnig cipolwg trawiadol ar iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru, a’r ffordd y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd yn gwybod bod y genhedlaeth hon mewn sefyllfa fregus yn ariannol. Felly, yn erbyn cefndir o benawdau economaidd negyddol a chostau cynyddol, mae lefelau straen, pryder ac iselder yn bryder gwirioneddol.

“Iechyd meddwl plant ac oedolion iau yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru heddiw, ond mewn llawer o achosion, dydy’r unigolion hyn ddim yn gofyn - neu’n methu gofyn - am gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl.

“Dyna pam, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ein bod ni’n ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt i’w helpu gyda’u hiechyd meddwl. Mae Mind yma i’ch helpu chi, felly cysylltwch â ni.”

*Cyfuniad o’r atebion “Wedi cael effaith fawr ar fy iechyd meddwl” ac “Wedi cael rhywfaint o effaith ar y fy iechyd meddwl” a gafwyd ar gyfer y cwestiwn “Sut, os o gwbl, y gwnaeth clywed am neu brofi unrhyw un o'r materion cenedlaethol canlynol effeithio ar eich iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?” Cafodd yr ymatebwyr eu holi am 13 o wahanol faterion, gan gynnwys yr argyfwng costau byw.

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top