Ymateb Mind Cymru i gyllideb Llywodraeth Cymru
Mae Sue O'Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru, yn ymateb i gyllideb Llywodraeth Cymru
"Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad heddiw o fuddsoddiad o £100 miliwn mewn iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl yng Nghymru, gyda rhai ohonom yn profi effaith mwy nag eraill, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Rydyn ni’n gwybod mae gwasanaethau iechyd meddwl dan straen cynyddol, yn rhannol oherwydd y pandemig, ac mae amseroedd aros sylweddol ledled y wlad.
"Mae’r buddsoddiad yma angen gyrru newid go iawn mewn pa mor gyflym mae pobl yn cael mynediad at gefnogaeth ar bob lefel. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion ynglŷn â sut fydd y buddsoddiad ychwanegol yma yn cael ei defnyddio, yn enwedig mewn darparu cefnogaeth gynharach, taclo stigma, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mynediad a phrofiadau sy'n bresennol yn y system iechyd meddwl yng Nghymru."