Get help now Make a donation

Ymateb Mind Cymru i adroddiad Comisiynydd Plant Cymru

Friday, 12 February 2021 Mind

Wrth ymateb i adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, dywedodd Nia Evans, Rheolwr Plant a Phobl Ifanc yn Mind Cymru:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr effaith ddifrifol mae'r cyfnod clo wedi’i chael ar iechyd meddwl ein plant. Mae'r arolwg hwn o bron i 20,000 o leisiau ifanc yn cryfhau ein galwad ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynediad at gymorth iechyd meddwl o ansawdd da i bob person ifanc ledled Cymru. Bydd angen i’n brwydr yn erbyn y Coronafeirws datblygu i fod yn frwydr i atal y flwyddyn ddiwethaf cael effaith barhaol ar iechyd meddwl ein plant a phobl ifanc.

“Dim ond yn ystod y misoedd nesaf y bydd effeithiau’r trawma a brofir gan ein pobl ifanc yn dod yn amlwg, a bydd ei natur yn dibynnu ar nifer o ffactorau wedi'u hamlygu yn yr adroddiad hwn. Ar hyn o bryd, mae angen i ni gydnabod eu profiadau, dilysu eu teimladau a sicrhau pryd mae nhw a'u teuluoedd angen cefnogaeth, bod hyn yn cael ei gyflawni'n gyflym ac yn effeithiol, ac yn cwrdd eu hanghenion.

“Mae’n gwbl hanfodol bod cefnogaeth ar gael i bawb cyn gynted â phryd mae nhw'n ei angen.”

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top