Get help now Make a donation

Welsh directory for refugees and asylum seekers launches

Monday, 03 June 2013 Mind

Mind Cymru publishes the Directory of Mental Health Services for Refugees and Asylum Seekers, the first resource of its kind in Wales.

Mind Cymru has today published the Directory of Mental Health Services for Refugees and Asylum Seekers, the first resource of its kind in Wales.

Julie Morgan, Assembly Member for Cardiff North, is the keynote speaker at an event to mark the launch of the publication today in Cardiff.

The directory gives information on organisations and projects throughout Wales which can give support to refugees and asylum seekers who experience any kind of mental health problem, including practical details about how to access services which can often be difficult to find out for yourself, such as whether you can take your children with you or whether there are translators.

To ensure the information in the directory is relevant and accessible to refugees and asylum seekers in Wales, Mind Cymru worked closely with staff and clients at Diverse Cymru, which provides specialist mental health support to people from Black and Minority Ethnic (BME) communities, and with the Welsh Refugee Council.

When asked what sources of support refugees and asylum seekers had found to help them cope, we were very encouraged to find how many organisations and community groups in Wales are reaching out to them. But what we heard time and time again was people’s sense of frustration that it had taken them months or even years to find out about sources of support which are available. This directory has been produced so that people know what services are available, where they are and how to access them.

The publication has been translated into Farsi, Arabic, and Kurdish, and these versions will be available on the Mind Cymru website from 17 June 2013. The English language version will be available online within the next week, so please check back.

For further information please email Ginny Scarlett

Cyfeirlyfr ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn lansio
Mae Mind Cymru heddiw wedi cyhoeddi'r cyfeirlyfr 'Directory of Mental Health Services for Refugees and Asylum Seekers', yr adnodd cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, yw'r prif siaradwr yn y digwyddiad i ddathlu lansio'r cyhoeddiad heddiw yng Nghaerdydd.

Mae'r cyfeirlyfr yn rhoi gwybodaeth am sefydliadau a phrosiectau ledled Cymru a allai roi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n cael unrhyw fath o broblem iechyd meddwl, yn cynnwys manylion ymarferol am sut i gael mynediad i wasanaethau a allai fod yn anodd yn aml i'w canfod eich hun, er enghraifft p'un a allwch fynd â'ch plant gyda chi neu a oes cyfieithwyr.

Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn y cyfeirlyfr yn berthnasol ac yn hygyrch i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, mae Mind Cymru wedi cydweithio'n agos â staff a chleientiaid yn Diverse Cymru, sy'n darparu cymorth iechyd meddwl arbeniol i bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig (BME), a chyda Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Pan ofynnom pa ffynonellau cymorth yr oedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi dod o hyd iddynt i'w helpu i ymdopi, roeddem yn falch o glywed am nifer y sefydliadau a grwpiau cymunedol yng Nghymru oedd yn ymestyn allan iddynt. Ond yr hyn yr oeddem yn ei glywed dro ar ôl tro oedd y rhwystredigaeth a deimlai pobl ei bod wedi cymryd misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd iddynt ddod i wybod am y ffynonellau cymorth sydd ar gael. Cynhyrchwyd y cyfeirlyfr hwn er mwyn rhoi gwybod i bobl pa wasanaethau sydd ar gael, lle mae'r gwasanaethau hynny a sut y gallant gael mynediad iddynt.

Mae'r cyhoeddiad wedi'i gyfieithu i Ffarsi, Arabeg a Cwrdeg, a bydd y fersiynau hyn ar gael ar wefan Mind Cymru o 17 Mehefin 2013 www.mind.org.uk/mind_cymru

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ginny Scarlett:[email protected]

 

 

 

arrow_upwardBack to Top