Un o actorion Pobol y Cwm yn cymryd rhan mewn taith feicio elusennol ar gyfer Mind Cymru adeg Cwpan y Byd yn Ffrainc
Mae Rhys ap William yn siarad am sut roedd ei brofiadau ei hun o iselder wedi helpu i lywio stori bwerus Pobol y Cwm oedd yn archwilio teimladau hunanladdol, a sut yr oedd hyn wedi ei ysgogi i gymryd rhan mewn taith feicio epig ar gyfer Mind.
Bydd actor, darlledwr chwaraeon a phersonoliaeth cyfryngau o Gymru yn cymryd rhan mewn taith feicio pedwar diwrnod, 300km o hyd yr wythnos hon yn Ffrainc i godi arian ar gyfer yr elusen iechyd meddwl flaenllaw Mind Cymru.
Bydd Rhys ap William, sy’n chwarae rhan Cai yn yr opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm, yn teithio i Ffrainc o Harbwr Portsmouth, drwy Gaerdydd, cyn anelu am Saint Malo ar fferi. Yna, bydd yn teithio tua’r de i Nantes ar hyd y llwybr velo i gyd-fynd â gêm grŵp olaf Cymru yn erbyn Georgia ar 07 Hydref 2023.
Cafodd yr actor ganmoliaeth eang yn ddiweddar am ei bortread o frwydr iechyd meddwl barhaus ei gymeriad a’i syniadau am ladd ei hun yn ddiweddarach.
Bu cynulleidfaoedd yn dyst i frwydr hir Cai â dibyniaeth ar alcohol a gorbryder, a ddatblygodd i fod yn iselder dwys, gan adael Cai yn teimlo’n hunanladdol. Mewn pennod arbennig i nodi Mis Atal Hunanladdiad ym mis Medi, gwelsom Cai yn ystyried lladd ei hun, a chyffyrddwyd y gynulleidfa wrth weld D.I Delyth Fielding (sy’n cael ei chwarae gan Carys Eleri) yn cefnogi Cai yn ystod y cyfnod hwn.
Cafodd y stori dderbyniad da gan gynulleidfaoedd ac mae Cai bellach yn glaf mewnol sy’n cael y cymorth sydd ei angen arno. Bu Gwasanaeth Cynghori’r Cyfryngau Mind yn gweithio ar y stori a bu Rhys a chynhyrchwyr y rhaglen hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Samariaid a’r ymgyrchydd iechyd meddwl Tom Dunning – a elwir y Negesydd Iechyd Meddwl – i lywio’r stori.
Roedd brwydr bersonol Rhys ag iselder, oedd wedi para am fwy na degawd cyn iddo, o’r diwedd, ofyn am gymorth, hefyd wedi sbarduno ei awydd i godi arian i Mind.
Eglurodd: “Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun, ac o'r gwaith ymchwil ar gyfer y sioe, bod dim ond bod yn barod i siarad yn gallu bod yn fan cychwyn pwerus ar gyfer goresgyn heriau iechyd meddwl.
“Roedd iselder yn rhan fawr iawn o fy mywyd nes i mi, o’r diwedd, ofyn am help ar ffurf therapi siarad. Roedd hynny’n newid byd i mi. O’r diwedd roeddwn i’n deall beth oedd yn digwydd i mi ac roedd gen i strategaethau ymdopi ar gyfer pethau fel patrymau meddwl negyddol neu bryderus.
“Er na wnes i erioed gyrraedd y pwynt y cyrhaeddodd Cai yn y sioe, byddwn i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud nad oedd y meddyliau hynny wedi croesi fy meddwl ar adegau. Roedd gallu bwydo fy mhrofiadau fy hun o deimlo fel hyn i mewn i’r stori, ond heb ddweud wrth neb amdanynt, yn ddefnyddiol iawn o ran dod â rhywfaint o brofiad bywyd i'r sgrin.
“Rydyn ni wedi mabwysiadu'r arwyddair ‘newid diwedd y stori’ yn anffurfiol ar gyfer y stori. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn am y syniad nad oes yn rhaid i’r stori orffen mewn ffordd benodol, BOD cefnogaeth ar gael, ac mai’r cam cyntaf bob amser ydy siarad.”
Nid yw cymryd rhan mewn ymdrechion elusennol ym maes chwaraeon yn beth dieithr i Rhys. Mae fel arfer yn gwneud hynny gydag aelodau eraill ei dîm yng Nghlwb Rygbi Cymry Caerdydd. Ond, y tro hwn, bydd yn rhoi cynnig ar y daith feicio ar ei ben ei hun.
Ychwanegodd: “Mae hynny’n bwysig i mi hefyd, y syniad yma bod dynion yn benodol – yn enwedig y rheini ym maes chwaraeon a rygbi – yn aml yn brwydro’n dawel â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n gobeithio y bydd y daith feicio hon, fy mhrofiadau fy hun a’r stori ehangach, i gyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hyn ac yn helpu eraill i ofyn am gymorth os bydd ei angen arnynt.”
Wrth siarad am ei gysylltiadau â Ffrainc a’i awydd i gysylltu’r daith feicio â Chwpan y Byd, dywedodd: “Rydw i wedi treulio mwy o amser yn Ffrainc yn ysgrifennu am Gwpan y Byd ar gyfer y cylchgrawn chwaraeon Cymraeg, Chwys, nag yr ydw i wedi’i wneud yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, felly roedd yn gwneud synnwyr bod y daith feicio yn cyd-fynd â hynny!
“Mae gen i ddigon o gysylltiadau yn Ffrainc – yn enwedig hen ffrind llythyru fy mam yr oedd hi’n ysgrifennu ato yn yr ysgol yn ôl yn y 50au – felly byddaf yn stopio yma ac acw am wydraid o win a phryd bach blasus neu ddau!”
Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru: “Mae hi’n bwysicach nag erioed bod darlledwyr yn creu straeon sensitif a chywir am iechyd meddwl. Gall y straeon hyn helpu pobl i sylweddoli pryd y gallent fod â phroblem iechyd meddwl eu hunain a’u hannog i ofyn am help.
“Mae hyn yn cael ei bwysleisio gan ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd gan Mind ac ITV a oedd yn dangos bod un o bob pedwar ohonom wedi dysgu am ein problemau iechyd meddwl drwy wylio taith iechyd meddwl cymeriad ffuglennol ar y sgrin.
“Rydyn ni’n dymuno’r gorau i Rhys ar ei daith feicio elusennol.”