Get help now Make a donation

National Assembly for Wales Health, Social Care and Sport Committee publishes Everybody's Business - a report on suicide prevention in Wales

Wednesday, 05 December 2018 Mind

Scroll down for English

Heddiw, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ‘Busnes Pawb – Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru.’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Sara Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn. Wrth ymateb i’r ymchwiliad, ein bwriad oedd cael clywed wrth y rheini sydd wedi cael profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd ein tystiolaeth yn mynegi’n glir bod angen cymorth yn gynt ar bobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, yn ogystal â mynediad cynt at therapi siarad, a chefnogaeth ddilynol well ar ôl gadael yr ysbyty. Rydym yn falch o weld bod yr adroddiad yn mynd i’r afael â’r materion hyn, ynghyd ag argymhellion i wella hyfforddiant i feddygon teulu a sicrhau bod iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn cael eu hystyried i fod cyn bwysiced â’i gilydd.

“Mae’r adroddiad yn esbonio’n glir nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd â gwasanaethau iechyd corfforol a bod y ddarpariaeth yn aml yn anghyson ac yn annigonol. Rhaid rhoi blaenoriaeth i wella mynediad a rhoi adnoddau digonol i wasanaethau gofal ymyrraeth gynnar ac ymatal.

“Mae’r adroddiad hwn yn gam pwysig at wella atal hunanladdiad yng Nghymru, a sicrhau bod unrhyw un sy’n dioddef o broblem iechyd meddwl yn cael yr help a’r gefnogaeth sydd angen arnynt, pan fo’u hangen arnynt. Rydym yn eiddgar i gael clywed ymateb Llywodraeth Cymru.”

 

Today the National Assembly for Wales’ Health & Social Care Committee publishes ‘Everybody’s Business - A report on suicide prevention in Wales’.

Responding to the report, Sara Moseley, Director of Mind Cymru, said:

"We welcome this report. In responding to the inquiry we sought to draw upon the expertise of people with experience of using mental health services in Wales. Our submission made clear that those of us experiencing mental health problems need support earlier, quicker access to talking therapies and better follow-up support when leaving hospital. We are pleased to see the report addresses these issues alongside recommendations to improve GP training and ensure parity of esteem between physical and mental health.

"As the report makes clear, mental health services in Wales are still not prioritised in the same way as physical health services and provision is often patchy and inadequate. Improving access to crisis care services and providing better earlier-intervention and prevention must now be prioritised and properly resourced.

"This report is an important step to improving suicide prevention in Wales and ensuring that anyone experiencing a mental health problem gets the help and support they need, when they need it. We look forward to Welsh Government acting on these recommendations.” 

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top