Get help now Make a donation

Sut rydyn ni'n gweithio i wella gofal argyfwng yng Nghymru

Tuesday, 21 January 2020 Glenn Page, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd

Dyma Uwch Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Glenn Page yn esbonio pam mae mynediad at gefnogaeth cyn argyfwng iechyd meddwl yn hanfodol.

Y flwyddyn ddiwethaf, lansiodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol ymchwiliad i iechyd meddwl yn yr heddlu a chadw pobl yn y ddalfa. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar lwyddiant yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill sy'n gweithio gyda’i gilydd i atal y rheini ohonom sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl rhag cael ein cymryd mewn i’r ddalfa yn ystod argyfwng iechyd meddwl.

"Mae’r adroddiad sy’n cael ei drafod yn y Cynulliad heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith i drawsffurfio gofal argyfwng ac ataliol yng Nghymru."

Cynhaliwyd nifer o ymchwiliadau ac adroddiadau ar ofal argyfwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys atal hunanladdiad ac iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, gydag amrywiaeth o argymhellion yn cael eu hawgrymu.

Mae Mind Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth a briffiau i Aelodau Cynulliad, gan sicrhau fod lleisiau’r rheini rydym yn eu cynrychioli yn cael eu clywed er mwyn sicrhau newid parhaol. O ganlyniad i hyn, mae gwella cefnogaeth iechyd meddwl ac yn enwedig gofal argyfwng bellach ymysg rhai o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nawr yw’r amser i bob partner weithio gyda’i gilydd ar frys i wella profiadau a’r ymateb i’r argyfwng iechyd meddwl.

Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl a gafodd eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y pum mlynedd yn arwain i 2019, cododd nifer y bobl a gafodd eu cadw yn y ddalfa o dan Adran 136 y Ddeddf Iechyd meddwl o bron i draean. Cyrhaeddodd y ffigwr dros 2,220 yn 2018/19, gan gynnwys dros 100 o blant a phobl ifanc dan 18 oed.

Mae’r bobl rydym yn eu cynrychioli wedi dweud wrthym eu bod yn aml yn ei chael yn anodd cael mynediad at y gefnogaeth sydd angen arnynt, pan fo angen arnynt. Weithiau maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu pasio o un gwasanaeth i’r llall, heb fod yn gallu cael mynediad i dimoedd iechyd meddwl allan o oriau ond eto yn cael eu troi i ffwrdd o’r Uned Ddamweiniau – dim ond i gael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu yn ystod argyfwng. 

Ystyriodd y Pwyllgor pam y mae nifer y bobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn cynyddu, ac fe gyflwynodd adroddiad gydag 11 o argymhellion. Mae nifer ohonynt yn adlewyrchu ein tystiolaeth ni, sy’n mynd ymhellach na defnydd Adran 136. Maen nhw’n taflu golau ar gwestiwn hollbwysig: sut y gall gwasanaethau weithio gyda’i gilydd i atal argyfyngau iechyd meddwl?

Roedd y Concordat Gofal mewn Argyfwng Iechyd Meddwl yn ganolog i’r broses graffu. Mae'r Concordat, sy'n gytundeb ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, yr heddlu, byrddau iechyd, cynghorau ac eraill, yn bwriadu gwella’r gefnogaeth y mae pobl yn ei derbyn wrth iddynt ddioddef argyfwng iechyd meddwl. Arwyddwyd y Concordat yn 2015 gan brofi peth llwyddiannau yn syth, gan gynnwys lleihad cychwynnol yn nifer y bobl oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu ac annog deialog ehangach rhwng y prif  sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl mewn argyfwng. Fodd bynnag, mae llawer yn parhau i’w wneud i wireddu amcanion y Concordat.

Un o’r pedair prif egwyddor sy’n sail i’r Concordat yw cael mynediad i gefnogaeth cyn dioddef argyfwng. Mae’n cydnabod yr angen i sicrhau bod pobl yn gallu cael cefnogaeth brys pan fyddant yn dioddef argyfwng iechyd meddwl, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn gallu cael cefnogaeth yn bell cyn cyrraedd pwynt o argyfwng.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau mynediad gwell i wasanaethau ymyrraeth gynnar, gan wella cefnogaeth y tu allan i oriau. Yn ogystal â hyn, mae'r Pwyllgor yn galw am ystod ehangach o wasanaeth cefnogol, yn cynnwys mwy o wasanaethau Llochesi Argyfwng. Yn ffodus, bu peth cynnydd yn y maes hwn yn barod. Er enghraifft, mae'r Twilight Sanctuary yn Llanelli yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Mind Llanelli a Hafal. Dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'r gwasanaeth ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul o 6pm i 2pm.

"Mae'n cynnig lloches i bobl pan fyddo'u hiechyd meddwl yn dirywio, gan gynnig cefnogaeth tymor-byr i unrhyw un sydd ei hangen."

I'r rheini sy'n derbyn cefnogaeth, does dim cynllun effeithiol gan nifer ohonynt i wybod beth i'w wneud os yw eu hiechyd meddwl yn dechrau dirywio. Mewn cynlluniau gofal a thriniaeth, a gafodd eu cyflwyno gan Fesur Iechyd Meddwl 2010, mae adran arbennig yn sôn am gynllunio argyfwng, sy'n amlinellu beth ddylai rhywun wneud os ydyn nhw'n teimlo bod eu hiechyd meddwl yn dirywio i bwynt o argyfwng. Os yw'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol, mae cynllunio gofal a thriniaeth yn gyfle arbennig i atal argyfwng, gan rymuso pobl i adnabod arwyddion cynnar ac i wybod ble y gallant gael cefnogaeth ychwanegol. Fodd bynnag, yn rhy aml rydyn ni'n gwybod nad yw'r cynlluniau'n cael eu cwblhau, neu'n anfon pobl yn uniongyrchol at y gwasanaethau brys. Rydyn ni'n falch o weld argymhelliad y Pwyllgor yn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu defnyddio i'w llawn botensial.

"Yn dilyn yr adroddiad, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, yr heddlu, gwasanaethau iechyd a phartneriaid eraill i roi'r gwelliannau hyn ar waith yn syth."

Byddai gwneud hynny yn galw am weithio mewn partneriaeth, ymyrraeth gynnar effeithiol a chydnabod y rôl y mae pob sefydliad yn chwarae ond yn sicrhau bod y person yn ganolog i'r ymateb. Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain nid yn unig at lai o bobl yn cael eu cadw yn y ddalfa o dan Adran 136, ond bydd yn gam tuag at atal argyfyngau iechyd meddwl gan sicrhau bod pawb sy'n dioddef o broblem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth effeithiol a thosturiol. Byddwn yn parhau i graffu ar y Llywodraeth a phartneriaid ynghylch gwella ymatebion i argyfyngau iechyd meddwl, yn ogystal â chanolbwyntio ar gynnig cefnogaeth gyflym a hygyrch yn gynnar er mwyn atal argyfyngau.

Related Topics

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top