Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder

Dysgwch am iselder, ei symptomau ac achosion posibl, a sut allwch chi gyrchu triniaeth a chefnogaeth. Dewch o hyd i awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Roeddwn i mewn hwyliau isel yn gyson, roeddwn i’n ddiobaith, yn rhwystredig gyda fi fy hun, yn teimlo fel petawn i’n gallu llefain ar unrhyw adeg.

Arwyddion a symptomau cyffredin iselder

Dyma arwyddion cyffredin iselder y gallech eu profi:

Sut allech chi deimlo

  • Isel, gofidus neu’n ddagreuol
  • Aflonydd neu’n anniddig
  • Euog, di-werth ac yn isel amdanoch chi eich hun
  • Gwag a dideimlad
  • Ynysig ac yn methu â chysylltu ag eraill
  • Methu â chael pleser ym mywyd neu’r pethau yr ydych chi fel arfer yn eu mwynhau
  • Yn grac neu’n rhwystredig dros bethau bach
  • Ymdeimlad o afrealiti
  • Dim hunanhyder neu hunan-barch
  • Diobaith a digalon
  • Wedi blino drwy’r amser

Sut allech chi ymddwyn

  • Osgoi digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau yr ydych chi fel arfer yn eu mwynhau
  • Ymddygiad hunan-niweidiol neu hunan-laddol
  • Trafferth siarad, meddwl yn eglur neu wneud penderfyniadau
  • Colli diddordeb mewn rhyw
  • Anawsterau wrth gofio neu ganolbwyntio ar bethau
  • Defnyddio mwy o dybaco, alcohol neu gyffuriau eraill nag arfer
  • Anawsterau cysgu, neu gysgu’n ormodol
  • Dim awydd bwyd a cholli pwysau, neu fwyta’n fwy nag arfer a magu pwysau
  • Poen corfforol heb achos corfforol amlwg
  • Symud yn araf iawn, neu bod yn aflonydd ac yn anniddig

Roeddwn i’n teimlo wedi blino, drwy’r amser. Doedd dim egni nac emosiwn gen i am unrhyw beth.

Gorbryder

Mae’n gyffredin iawn i brofi iselder a gorbryder gyda’i gilydd. Mae rhai symptomau o iselder yn gallu bod yn symptomau o orbryder hefyd, er enghraifft:

  • Teimlo’n aflonydd
  • Anawsterau canolbwyntio
  • Trafferth cysgu

Gweler ein tudalennau am orbryder i gael rhagor o wybodaeth.

Dwi’n symud rhwng gorbryder ac iselder. Ar adegau, maen nhw’n bwydo ei gilydd.

Hunan-niweidio a theimladau hunanladdol

Os ydych chi’n teimlo’n isel, efallai byddwch chi’n hunan-niweidio er mwyn ymdopi â theimladau anodd. Er y gallai hyn eich helpu i deimlo’n well yn y tymor byr, mae hunan-niweidio’n gallu bod yn beryglus iawn.

Pan fyddwch chi’n teimlo’n isel iawn ac yn ddiobaith, efallai byddwch chi hefyd yn meddwl am hunanladdiad. Gallai hyn fod trwy feddwl am y syniad o hunanladdiad, neu ystyried cynllun i ddod â’ch bywyd i ben. Mae’r meddyliau hyn yn gallu teimlo’n anodd eu rheoli, a gallan nhw beri ofn.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Symptomau seicotig

Os ydych chi’n profi iselder, efallai byddwch chi’n profi symptomau seicotig hefyd. Gall y rhain gynnwys camdybiaethau, megis paranoia. Neu gallan nhw fod yn rhithweledigaethau, megis clywed lleisiau

Os ydych chi’n profi symptomau seicotig fel rhan o iselder, maen nhw’n debygol o fod yn gysylltiedig â’ch meddyliau a theimladau isel. Gall hyn gynnwys profi camdybiaethau sy’n ymwneud â theimladau o euogrwydd. Er enghraifft, efallai byddwch chi’n credu eich bod wedi cyflawni trosedd.

Mae’r mathau hyn o brofiadau’n gallu teimlo’n real iawn ar y pryd. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd deall bod y profiadau hyn hefyd yn symptomau o’ch iselder. A gallan nhw beri ofn neu ofid, felly mae’n bwysig ceisio triniaeth a chefnogaeth.

Efallai byddwch chi’n poeni y gallai profi symptomau seicotig olygu eich bod yn derbyn diagnosis nad yw’n teimlo’n iawn i chi. Ond mae trafod eich symptomau i gyd gyda’ch meddyg yn gallu eich helpu i gael y gefnogaeth a’r driniaeth gywir.

Gweler ein tudalennau am seicosis i gael rhagor o wybodaeth.

Sut allai iselder effeithio ar fy mywyd o ddydd i ddydd?

Os oes iselder gyda chi, efallai bydd hyn yn effeithio ar wahanol agweddau o’ch bywyd. Er enghraifft, gall effeithio ar eich gallu i weithio, eich perthnasoedd neu reoli eich materion ariannol. Gall hyn ychwanegu straen ychwanegol at brofiad sy’n anodd yn barod.

Gall hefyd deimlo’n anodd egluro eich meddyliau a’ch teimladau i eraill. Efallai byddwch chi am ynysu eich hun o bobl eraill. Gall hyn arwain at deimlo’n ynysig ac unig.

Os yw iselder yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae cymorth ar gael. Gweler ein tudalennau am driniaeth a chefnogaeth i gael rhagor o wybodaeth. Efallai bydd ein tudalennau am gael cefnogaeth yn y gweithle a threfnu eich materion ariannol hefyd yn helpu.

Mae’n teimlo fel petawn i’n sownd o dan gwmwl llwyd-ddu enfawr. Mae’n dywyll ac yn ynysig, yn fy mygu pob cyfle a gaiff.

A yw iselder yn gallu bod yn symptom o broblemau iechyd meddwl eraill?

Mae symptomau iselder hefyd yn gallu bod yn rhan o broblemau iechyd meddwl eraill, megis:

Os ydych chi’n profi hwyliau isel neu feddyliau hunanladdol, efallai dyma’r rheswm y byddwch chi’n siarad â’ch meddyg am eich iechyd meddwl am y tro cyntaf. Ac efallai bydd eich meddyg yn cynnig triniaeth iselder i chi heb sylweddoli eich bod chi hefyd yn profi symptomau eraill.

Os ydych chi’n credu eich bod chi’n profi symptomau eraill, gallwch siarad â’ch meddyg am hyn er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael y driniaeth gywir.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ebrill 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig