Beth yw eiriolaeth ar gyfer iechyd meddwl?
Efallai nad ydyn ni bob amser yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn gwrando ar ein meddyliau a'n barn, yn enwedig pan fyddwn yn cael triniaeth a chymorth ar gyfer ein hiechyd meddwl.
Weithiau mae angen i ni siarad â llawer o weithwyr proffesiynol, fel meddygon, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion. Mae hyn yn gallu teimlo’n annifyr iawn a pheri gofid. Yn enwedig os nad ydyn nhw bob amser yn gofyn beth yw ein barn ni, neu ddim yn ein cynnwys mewn penderfyniadau - dyma lle gall eiriolaeth helpu.
Ystyr eiriolaeth ydy cael cymorth gan rywun i’n helpu i fynegi ein barn a sefyll dros ein hawliau.
Beth sydd ar y dudalen hon?
Neidia i dudalennau gwybodaeth ar:
- Beth yw eiriolwr?
- Sut gall eiriolwr fy helpu i?
- Sut fathau o eiriolaeth sydd ar gael?
- Pryd mae gen i hawl gyfreithiol i eiriolaeth?
- Beth os nad oes gen i hawl gyfreithiol i eiriolaeth?
- Sut gallaf i ddod o hyd i eiriolwr?
- Beth os nad ydw i'n hapus gyda fy eiriolwr?
- Ydy teulu, ffrindiau neu bartneriaid yn gallu eiriol ar fy rhan?
- Sut ydw i’n gallu eiriol drosof fy hun?
Dydw i ddim yn meddwl bod llawer o bobl ifanc yn gwybod am eiriolaeth ac mae'n bwysig dy fod yn gwybod amdano.
Beth yw eiriolwr?
Mae eiriolwyr proffesiynol yn ein helpu i siarad am y pethau sy’n bwysig i ni. Mae gwahanol fathau o eiriolwyr yn gallu ein helpu mewn gwahanol ffyrdd.
Maen nhw’n annibynnol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gweithio i’r GIG, i gynghorau lleol nac i’r gwasanaethau cymdeithasol.
Fe wnaeth y bobl ifanc y buom yn siarad â nhw ddisgrifio eiriolwr fel rhywun sydd:
Yn gallu siarad ar dy ran ac yn lleisio dy farn pan fyddi’n teimlo na elli di wneud hynny dy hun.
Yn gallu dy gynrychioli a gwneud yn siŵr bod dy safbwyntiau’n glir.
Yn gallu dy arwain drwy sefyllfa drwy dy helpu i benderfynu beth i'w wneud.
Yn fwy cyfarwydd â’r system nag wyt ti, ac yn deall beth sy’n digwydd. Maen nhw’n deall iaith feddygol ac yn gwybod sut i egluro mewn ffordd y gelli di ei deall.
Yn dy helpu mewn sefyllfaoedd ac yn gallu siarad ar dy ran os wyt ti eisiau hynny. Gallai fod yn gymorth emosiynol er mwyn iddyn nhw dy helpu i fynegi sut wyt ti’n teimlo.
Fe wnaethom ofyn i eiriolwyr egluro sut y gallen nhw helpu pobl ifanc:
Gallwn dy helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a gweithio drwy'r holl opsiynau, ond ti sydd i benderfynu.
Byddwn ni yno’n wirioneddol 100% i'r unigolyn. I roi iddyn nhw y llais yna, i sefyll dros eu hawliau a symud ymlaen fel maen nhw eisiau.
Rwy'n gweld fy rôl fel un sy'n diogelu hawliau pobl. Gan nid yn unig eu helpu i ddeall eu hawliau, ond hefyd sut i arfer yr hawliau hynny. Rwy’n adleisio neu'n cryfhau eu llais ac yn codi materion gyda nhw neu ar eu rhan. Gan fagu eu hyder hefyd a rhoi iddynt strategaethau y gallan nhw wedyn eu defnyddio i eiriol drostynt eu hunain i’r dyfodol.
Sut gall eiriolwr fy helpu i?
Mae eiriolwr yn gallu rhoi gwahanol fathau o gefnogaeth yn dibynnu ar dy sefyllfa a gyda beth y mae gennyt ti angen help.
Mewn sefyllfaoedd sy'n ymwneud â dy driniaeth a dy gymorth iechyd meddwl, gall eiriolwyr wneud y canlynol:
- Gwrando arnat ti. Er enghraifft, gallant siarad â ti’n breifat am sut rwyt ti’n teimlo a beth sy'n mynd ymlaen i ti. Neu, os nad oes gennyt ti awydd siarad, fe allet ti ysgrifennu llythyr atyn nhw.
- Dy helpu i gael gwybodaeth i ddysgu am dy hawliau ac arfer yr hawliau hynny. Er enghraifft, fe allant dy helpu i ddeall dy hawliau os cei dy anfon i ysbyty meddwl neu os wyt ti’n glaf anffurfiol yn yr ysbyty.
- Trafod dy opsiynau gyda ti i dy helpu i deimlo dy fod yn gallu gwneud dy benderfyniadau dy hun. Er enghraifft, os wyt ti gyda’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), fe all eiriolwr egluro beth allai ddigwydd nesaf a sut i ddweud beth wyt ti eisiau ei gael o dy driniaeth a dy gefnogaeth.
- Dy helpu i fynegi dy farn. Er enghraifft, fe allent dy helpu i ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau, mynd i gyfarfodydd gyda ti neu egluro dy safbwyntiau wrth bobl eraill. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu helpu mewn ffyrdd llai uniongyrchol, fel dy helpu i sefydlu grŵp llais yr ifanc gyda phobl ifanc eraill.
- Sicrhau bod pobl yn clywed dy gwestiynau ac yn rhoi atebion iti. Er enghraifft, os oes gennyt ti bryder neu broblem, fe allant fynd ar drywydd y mater i gael ymateb neu gael rhywun i helpu gyda dy broblem.
Ni fydd eiriolwyr:
- Yn gwneud penderfyniadau drosta ti
- Yn dy farnu am yr hyn rwyt ti’n ei feddwl nac am sut wyt ti’n teimlo
Fyddan nhw ddim yn rhoi unrhyw bwysau arnat ti i wneud penderfyniadau rwyt ti’n anghyfforddus â nhw nac i wneud penderfyniadau'n gyflymach nag yr wyt ti’n gyfforddus yn ei wneud.
Cwestiynau i'w gofyn i eiriolwr
I dy helpu drwy ba sefyllfa bynnag rwyt ti’n ei hwynebu, fe allet ofyn cwestiynau fel:
- Beth allech chi ei wneud i fy helpu i?
- Oes unrhyw bethau na allwch chi fy helpu gyda nhw?
- Ydych chi'n gallu fy helpu gyda...?
- Pa mor aml alla i eich gweld?
- Sut allaf fi gysylltu â chi?
- Am ba hyd y byddwch chi'n gallu fy helpu?
- A fydd popeth a ddywedaf wrthych yn cael ei gadw'n gyfrinachol?
- A oes unrhyw eiriolwyr eraill y gallaf gael cymorth ganddynt?
Mi wnaeth fy eiriolwr fy helpu drwy gamau cyntaf cael triniaeth ar gyfer fy salwch meddwl gan CAMHS... Mi wnaeth hi hefyd fy helpu i rannu fy marn â'm teulu ac i wneud cynlluniau er mwyn i mi allu helpu fy hun yn well.
Sut fathau o eiriolaeth sydd ar gael?
Mae yna wahanol fathau o wasanaethau eiriol a ffyrdd o eiriol. Bydd y math yn dibynnu ar dy sefyllfa a pha fath o help sydd ei angen arnat.
Mewn lleoliadau gofal iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, bydd y math o eiriolaeth yn wahanol:
- Os oes gennyt hawl gyfreithiol i eiriolwr. Fel eiriolwyr statudol mewn ysbyty.
- Os nad oes gennyt hawl gyfreithiol i eiriolwr. Fel eiriolwyr cymunedol, cyffredinol neu eiriolwr cymheiriaid.
- Os nad wyt ti eisiau cymorth gan eiriolwr proffesiynol. Fel, pe byddai'n well gennyt ti gael help gan deulu, gofalwyr, ffrindiau neu bartneriaid.
- Os wyt ti eisiau eiriol drosot ti dy hun.‘Hunan-eirioli’ yw enw hyn.
Bydd deall beth mae eiriolwr yn gallu ei wneud, a sut maen nhw’n gweithio, yn dy helpu i benderfynu a wyt ti eisiau eu help. Ni fyddai eiriolwyr yn gwneud y math hwn o waith pe na baent eisiau eiriol ar ran pobl.
Dyma rai enghreifftiau o adegau pan fydd gennyt hawl gyfreithiol i eiriolwr:
Mae'r rhan fwyaf o eiriolwyr mewn ysbytai seiciatrig yn cael eu galw yn Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHAs). Dydyn nhw ddim yn rhan o staff y ward.
Yng Nghymru, mae gennyt ti hawl i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol os wyt ti:
- Yn aros yn yr ysbyty am driniaeth a chymorth iechyd meddwl fel claf anffurfiol
- Dan adrannau penodol, ond nid ar gyfer adrannau 4, 5, 135 ac 136
- Yn byw yn y gymuned ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol
Yn Lloegr, mae gennyt ti hawl i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol os wyt ti:
- Dan adrannau penodol, ond nid ar gyfer adrannau 4, 5, 135 ac 136
- Yn byw yn y gymuned ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol
Yn Lloegr, efallai y bydd gan rai ysbytai eiriolwyr ar gyfer cleifion anffurfiol, er nad yw'n hawl gyfreithiol. Ond mae ffyrdd eraill o gael cymorth proffesiynol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran ar eiriolaeth heb hawl gyfreithiol.
Sut gall Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol fy helpu i?
Yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn, gall Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol dy helpu i ddeall:
- Dy hawliau dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
- Unrhyw driniaeth feddygol rwyt ti'n ei chael neu y gelli ei chael i’r dyfodol
Gallant dy helpu hefyd gyda phethau ymarferol fel:
- Dy gynrychioli mewn cyfarfodydd a phan ddaw’r tîm meddygol o amgylch y ward
- Dy helpu i rannu dy farn gyda staff y ward
- Dy helpu i gael gweld dy gofnodion a dy nodiadau meddygol
- Gwneud cwyn am dy driniaeth neu dy gefnogaeth
- Gwneud cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl
Sut gallaf fi ddod o hyd i Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol?
Os wyt ti yn yr ysbyty, dylai Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol ymweld â dy ward yn rheolaidd. Galli hefyd ofyn i aelod o staff y ward dy roi mewn cysylltiad â nhw. Cofia nad oes gan gleifion anffurfiol yn Lloegr hawl gyfreithiol i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.
Os wyt ti ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol, galli ofyn i dy gydlynydd gofal dy roi mewn cysylltiad ag Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.
Byddai'r eiriolwr yn cael ôl-drafodaeth gyda staff ar y ward i siarad am y pethau rydyn ni wedi'u trafod a beth roedden ni eisiau ei weld yn digwydd. Dwi'n meddwl bod staff y ward wir yn parchu'r farn a roesom ni i’r eiriolwr.
Os wyt ti eisiau cwyno am y driniaeth a'r gefnogaeth a gefaist ti gan y GIG, mae gennyt hawl gyfreithiol i eiriolwr.
Sut gall eiriolwr fy helpu i?
Fe all eiriolwr statudol dy helpu i gwyno am y bobl sy'n darparu dy ofal iechyd meddwl, fel meddygon, seiciatryddion neu therapyddion. Yn y sefyllfa hon, efallai y byddi hefyd yn eu clywed nhw’n cael eu galw'n 'eiriolwr cwynion y GIG'.
Fe allan nhw dy helpu i:
- Benderfynu ai gwneud cwyn ydy’r peth iawn i ti
- Ystyried beth wyt ti eisiau ei gael o dy gŵyn
- Ysgrifennu'r gŵyn a'i hanfon at y bobl iawn
- Deall yr ymateb ac esbonio dy ddewisiadau neu dy gamau nesaf
Sut gallaf i ddod o hyd i eiriolwr?
Yn Lloegr, cysyllta â dy Wasanaethau Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS) lleol.
Yng Nghymru, cysyllta â dy gangen Llais leol.
I gael mwy o wybodaeth am y mater hwn, cer i'n tudalen ar ddeall cwynion.
Fe wnes i siarad â'r eiriolwr yn rheolaidd ac fe fuon ni’n trafod problemau oedd gen i gyda'r staff ac a ddylwn i wneud cwyn ffurfiol ai peidio. Yn y pendraw, fe wnaethon ni hynny'n anffurfiol.
Fy nghydlynydd gofal oedd yr unigolyn a fu’n eiriol fwyaf ar fy rhan. Roedd hi'n dda iawn am fy helpu i eiriol drosof fy hun hefyd, oherwydd ar y pryd roeddwn i'n swil iawn ac yn osgoi siarad â neb yno - Kora, 18
Beth os nad oes gen i hawl gyfreithiol i eiriolaeth?
Os nad oes gennyt hawl gyfreithiol i eiriolwr, fe elli di’n dal gael cymorth i wneud yn siŵr bod dy lais yn cael gwrandawiad. Bydd y math o gymorth yn dibynnu ar dy sefyllfa a pha fath o help sydd ei angen arnat.
Dyma rai enghreifftiau o gymorth eiriolaeth os nad oes gennyt hawl gyfreithiol. Ni fydd yn rhaid iti dalu am unrhyw un o'r gwasanaethau hyn:
Mae rhai gwasanaethau, elusennau a mudiadau'n cynnig 'eiriolaeth gymunedol' neu 'eiriolaeth gyffredinol'. Mae eiriolwyr cymunedol neu gyffredinol yn eiriolwyr proffesiynol sy’n helpu pobl nad oes ganddynt hawl gyfreithiol i eiriolaeth.
Er enghraifft, os wyt ti’n glaf anffurfiol yn Lloegr a dy fod angen help i rannu dy farn neu dy broblemau ar y ward. Os wyt ti’n cael problemau gyda dy ofal yn CAMHS.
Sut gallen nhw helpu?
Fe all eiriolwyr cymunedol neu gyffredinol wneud y canlynol:
- Dy helpu i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl
- Dy helpu i gael gwybod am wahanol ddewisiadau o ran meddyginiaeth neu driniaethau
- Dy helpu i fynegi dy farn am dy feddyginiaeth neu dy driniaeth
- Dy helpu i ysgrifennu llythyrau neu negeseuon e-bost at weithwyr proffesiynol eraill
- Mynd gyda ti i gyfarfodydd a dy helpu i baratoi ar eu cyfer
- Dy helpu gyda hunan-eiriolaeth
Ble gallaf i gael rhagor o wybodaeth?
Efallai y bydd gwahanol fathau o eiriolaeth gymunedol neu gyffredinol ar gael yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw.
Yn Lloegr, fe allet gysylltu â VoiceAbility, POhWER neu Barnardo's. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnig gwasanaethau eiriolaeth proffesiynol am ddim.
Yng Nghymru, fe allet gael cymorth eiriolaeth gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS). Ond byddai angen i weithiwr proffesiynol arall, fel gweithiwr cymdeithasol, dy gyfeirio di. Fe allet ti hefyd ofyn i dy feddyg am wasanaethau eiriolaeth lleol.
Mae eiriolwyr-gymheiriaid yn bobl sydd o bosibl:
- Wedi bod drwy rywbeth tebyg i ti yn y gorffennol
- Yn delio â phroblem iechyd meddwl debyg i ti
Sut gallen nhw helpu?
Fe all eiriolwyr-gymheiriaid ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i dy helpu gydag unrhyw broblemau rwyt ti'n eu hwynebu. Er enghraifft, os ydyn nhw wedi cael problem debyg i ti, fe allant drafod sut gwnaethon nhw ddelio â phethau.
Mae’n gallu bod yn braf siarad â phobl sy'n dy ddeall di. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i ti rannu dy brofiadau gyda nhw, hefyd.
Ble gallaf i gael rhagor o wybodaeth?
Fe elli gael gwybodaeth am eiriolwyr-gymheiriaid i bobl ifanc yn dy ardal drwy gysylltu â POhWER neu dy gangen Mind leol.
Mae’n braf cael rhywun sydd wedi bod drwy'r un pethau â ti.
Mae rhai elusennau sy'n cefnogi grwpiau penodol hefyd yn cynnig gwasanaethau eiriolaeth neu gymorth cyfreithiol. Efallai na fydd eu cymorth bob amser yn ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd meddwl.
Yn Lloegr:
- Mae pobl ifanc sy’n ddigartref yn gallu cael cyngor cyfreithiol drwy gysylltu â Centrepoint
- Fe all pobl ifanc mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal gael eiriolaeth gan Coram Voice
Yng Nghymru:
- Fe all pobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd wedi gadael gofal gael eiriolaeth gan NYAS Cymru
- Fe all pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael eiriolaeth gan SNAP Cymru
Dydy’r ffaith nad oes gen ti hawl gyfreithiol i rywbeth ddim yn golygu nad yw dy anghenion mor fawr neu nad yw dy brofiad mor wael.
Beth gallaf fi ddisgwyl ei gael o'r gwasanaethau hyn?
Yn dibynnu ar lle rwyt ti’n byw, fe allai rhai mathau o wasanaethau eiriolaeth, y ffordd maen nhw'n gweithio a'r cymorth maen nhw'n gallu ei gynnig fod yn wahanol.
Pan fyddi’n defnyddio gwasanaethau nad oes gennyt ti hawl gyfreithiol iddynt, efallai y gweli bod gan rai ohonynt:
- Reolau penodol ynghylch pwy y gallant eu helpu. Os nad wyt ti’n siŵr, mae’n werth cysylltu i weld a allan nhw dy helpu. Os na allant, efallai y byddan nhw'n gallu dweud wrthyt ti pwy sy'n gallu helpu.
- Angen iti gael oedolyn i dy helpu gyda dy atgyfeiriad. Er enghraifft, efallai y bydd angen i oedolyn lenwi neu lofnodi ffurflen. Gallai hwn fod yn rhywun fel rhiant, gofalwr, gwarcheidwad neu feddyg.
- Amseroedd aros hir cyn gei di gymorth. Tra byddi’n aros, fe elli gael help gan deulu, ffrindiau neu bartneriaid. Gallet hefyd roi cynnig ar eiriol drosot ti dy hun.
Dydw i ddim yn gallu dod o hyd i eiriolwr cymunedol, elusennol nac eiriolwyr-gymheiriaid
Os wyt ti’n ei chael yn anodd cael cymorth gan eiriolwr proffesiynol, mae ffyrdd eraill o gael help.
Sut gallaf i ddod o hyd i eiriolwr?
Mae eiriolwyr fel arfer yn gweithio i 'asiantaeth eiriolaeth’ leol neu genedlaethol. P’un a oes gennyt ti hawl gyfreithiol i gael cymorth ganddynt ai peidio, fe elli ddod o hyd i eiriolwyr yn dy ardal drwy:
- Ofyn i dy gyngor am restr o asiantaethau eiriolaeth lle’r wyt ti’n byw
- Chwilio ar-lein am asiantaethau eiriolaeth gerllaw
- Defnyddio'r allweddair 'eiriolaeth' yn adnodd chwilio am wasanaethau Barnardo's
- Cysylltu â dy gangen Mind leol
- Defnyddio adnodd chwilio NYAS
- Gweld beth sydd ar gael mewn gwahanol rannau o Loegr ar wefan POhWER
Yn dibynnu ar dy sefyllfa, fe allet ti hefyd ofyn am help yn fwy uniongyrchol:
- Efallai y bydd dy ysgol neu dy goleg yn gallu rhoi gwybodaeth i ti neu dy gyfeirio at eiriolwr. Siarada gyda dy dîm gofal bugeiliol neu dy wasanaethau lles myfyrwyr i gael rhagor o gyngor.
- Efallai fod gan dy feddyg wybodaeth am wasanaethau eirioli lleol ar gyfer iechyd meddwl.
- Dylai dy dîm gofal allu helpu os wyt ti yn yr ysbyty oherwydd dy iechyd meddwl neu’n cael triniaeth a chymorth drwy CAMHS.
Fy nghyngor i bobl ifanc eraill sy'n gweithio gydag eiriolwr fyddai gwir ymroi i unrhyw weithgareddau neu dasgau y mae dy eiriolwr yn eu rhoi iti eu gwneud. Hyd yn oed os yw'n ymddangos na fydd y gweithgareddau hyn yn helpu.
Beth os nad ydw i'n hapus gyda fy eiriolwr?
P’un a oes gennyt ti hawl gyfreithiol i gael cymorth ganddynt ai peidio, efallai:
- Nad wyt ti’n teimlo'n hapus gyda dy eiriolwr
- Dy fod yn teimlo nad wyt ti’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnat ti ganddyn nhw
Fe allet ti i ddechrau roi cynnig ar siarad â nhw a dweud wrthynt sut rwyt ti’n teimlo. Os nad yw hynny'n gweithio, fe allet ti wneud y canlynol:
- Gwneud cwyn i’r gwasanaethau eiriolaeth. Galli ofyn i’r gwasanaeth sut mae gwneud hyn. Efallai y byddan nhw’n gofyn i ti ysgrifennu llythyr neu e-bost, neu lenwi ffurflen. I gael rhagor o wybodaeth, cer i’n tudalennau ar ddeall cwynion a gwneud cwynion.
- Gofyn i’r gwasanaeth a allet ti weld eiriolwr gwahanol. Efallai na fyddant yn gallu dod o hyd i eiriolwr newydd i ti - mae’n dibynnu ar ba mor brysur ydynt neu faint o bobl sy’n gweithio yno. Ond fe ddylen nhw wrando ar sut rwyt ti’n teimlo a cheisio gweithio gyda ti i ddatrys y broblem.
Ydy teulu, ffrindiau neu bartneriaid yn gallu eiriol ar fy rhan?
Fe all aelodau o dy deulu, gofalwyr, gwarcheidwaid, ffrindiau neu bartneriaid helpu i sicrhau bod dy lais yn cael gwrandawiad mewn rhai sefyllfaoedd. Ond mae'n bwysig cofio nad ydyn nhw'r un fath ag eiriolwyr proffesiynol.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am y gwahaniaethau rhwng y cymorth y gall eiriolwyr proffesiynol ei gynnig, o’i gymharu â'r bobl sy'n agos atat.
Gyda phobl sy'n agos atat ti, efallai y gweli ei bod yn haws:
- Siarad â rhywun rwyt ti’n ei adnabod neu sydd eisoes yn deall beth rwyt ti’n mynd drwyddo.
- Trefnwch i gael cymorth yn syth oddi wrth aelod o’r teulu neu ofalwr, yn hytrach nag oddi wrth eiriolwr proffesiynol. Er enghraifft, os nad oes gennyt hawl gyfreithiol i eiriolwr neu os na elli ddod o hyd i gymorth gan fathau eraill o eiriolwyr.
Cyn gofyn iddyn nhw eiriol ar dy ran
Efallai y bydd rhai pethau'n ymddangos yn haws gydag aelod o'r teulu, gofalwr, gwarcheidwad, ffrind neu bartner yn eiriolwr i ti. Ond efallai y bydd pethau eraill yn teimlo'n anoddach.
Cyn penderfynu gofyn iddynt, ceisia gofio’r canlynol:
- Dydyn nhw ddim yn annibynnol, yn wahanol i eiriolwyr proffesiynol. Efallai bod ganddyn nhw eu barn eu hunain am yr hyn sydd orau i ti - gallai’r farn hon fod yn wahanol i dy farn di.
- Nid oes raid iddynt gadw'r hyn rwyt ti’n ei ddweud wrthynt yn gyfrinachol, yn wahanol i eiriolwyr proffesiynol. Fe elli di wastad ofyn iddynt ei gadw'n breifat, ond nid oes rhaid iddynt gytuno i hyn.
- Efallai na fydd ganddynt brofiad na hyder i ddelio â'r sefyllfaoedd neu'r penderfyniadau rwyt ti’n eu hwynebu. Bydd gan eiriolwyr proffesiynol brofiad o gefnogi pobl ifanc mewn sefyllfaoedd tebyg. Ac os nad ydy’r wybodaeth sydd ei hangen arnat ti ganddynt, dylen nhw wybod sut mae cael gafael arni.
- Byddai angen i ti rhannu popeth am dy broblem iechyd meddwl a dy driniaeth, ac efallai nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
- Efallai na fyddant yn gallu cynnig y cymorth sydd ei angen arnat, neu efallai na fyddi eisiau iddyn nhw dy helpu fel hyn.
- Efallai na fyddant yn teimlo eu bod yn deall digon i allu helpu gyda dy sefyllfa, hyd yn oed os ydynt wedi bod drwy rywbeth tebyg.
Os hoffet gael eu cefnogaeth fel eiriolwr, gofynna iddynt sut maen nhw'n teimlo am hynny. Ceisia barchu pa bynnag ateb maen nhw'n ei roi i ti.
Gall cael cymorth gan rywun arall fod yn fuddiol iawn, hyd yn oed os nad yw’n eiriolwr proffesiynol.
Sut ydw i’n gallu eiriol drosof fy hun?
Mae eiriol drosot dy hun yn golygu codi dy lais am y pethau sy’n bwysig i ti. Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘hunan-eiriol’.
Mae gallu siarad drosot ti dy hun yn bwysig iawn. Ond, dydy hyn ddim bob amser yn hawdd. Er enghraifft:
- Efallai dy fod yn teimlo nad wyt ti'n gwybod digon am dy broblem iechyd meddwl, am dy hawliau a sut i eiriol drosot ti dy hun.
- Efallai nad wyt ti’n teimlo'n ddigon cyfforddus neu iach i leisio dy farn a gofyn cwestiynau ar dy ben dy hun. Yn enwedig gyda gweithwyr proffesiynol fel therapyddion neu weithwyr cymdeithasol.
Buom yn siarad â phobl ifanc am beth mae hunan-eiriolaeth yn ei olygu iddyn nhw:
Gallu siarad drosot ti dy hun yn hytrach na dibynnu ar rywun arall - bod â'r hyder i ddweud pan rwyt ti’n meddwl bod rhywbeth ddim yn iawn.
Mae’n ymwneud â lleisio dy farn yn hytrach nag eistedd yn ôl a gadael i weithwyr proffesiynol wneud y penderfyniadau drosot ti.
Mae’n ymwneud â gallu egluro beth rwyt ti'n ei deimlo a beth rwyt ti dy hun yn ei feddwl. A bod yn gallu gweithio drwy'r hyn rwyt ti’n ei feddwl ac yn ei deimlo am benderfyniadau penodol.
Os wyt ti eisiau eiriol drosot ti dy hun, fe elli’n dal gael cymorth gan eiriolwr proffesiynol. Fe allant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennyt ti am hunan-eiriolaeth a dy helpu gyda sefyllfaoedd sy'n anodd i ti.
Fe elli hefyd gael cymorth gan deulu, ffrindiau neu bartneriaid. Cofia: Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.
Erbyn hyn, rydw i'n teimlo fy mod i'n gallu bod yn eiriolwr i fi fy hun gan fy mod i'n teimlo'n llawer mwy hyderus ac annibynnol. Fodd bynnag, pan wyt ti’n teimlo'n fwy bregus, mae’n gallu bod yn anodd gwneud hyn.
Dod o hyd i wybodaeth
Bydd y wybodaeth sydd ei hangen arnat yn dibynnu ar dy sefyllfa a beth sy'n digwydd i ti.
Fe elli chwilio am wybodaeth dy hun drwy wneud y canlynol:
- Mynd i’n tudalennau ar hawliau iechyd meddwl a mathau o broblemau iechyd meddwl
- Dysgu geiriau ac ymadroddion y galli eu clywed pan fyddi’n cael triniaeth a chymorth iechyd meddwl yn ein geirfa
- Mynd i dudalen feddyginiaeth YoungMinds
Mae’n ymwneud â pheidio â bod ofn dweud wrth bwy bynnag rydw i'n siarad gyda nhw ‘dwi wedi darllen am hyn a dwi’n gwybod am beth rydw i'n siarad’. Mae’n ymwneud â bod yn hyderus dy fod yn gwybod.
Paratoi am apwyntiadau a chyfarfodydd
Mae’n hawdd iawn anghofio’r pethau rydyn ni eisiau eu dweud mewn apwyntiadau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu weithwyr cymdeithasol.
Yn gyntaf, ceisia ysgrifennu rhestr o'r bobl y mae angen iti siarad â nhw am yr hyn sy'n digwydd i ti.
Os nad wyt ti’n siŵr pwy ydyn nhw, fe allet ti ofyn i:
- Dy gydlynydd gofal, os wyt ti’n cael triniaeth a chymorth drwy CAMHS
- A nyrs, os wyt ti yn yr ysbyty
I deimlo'n fwy parod am apwyntiad neu gyfarfod, fe allet:
- Ysgrifennu beth rwyt ti am ei ddweud ymlaen llaw
- Ymarfer beth rwyt ti am ei ddweud yn dy ben, neu gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo neu ffrind
- Mynd ag unrhyw wybodaeth sy'n esbonio beth rwyt ti eisiau ei ddweud gyda ti
- Ysgrifennu rhestr o gwestiynau i fynd gyda ti
- Ysgrifennu sut aeth pethau a sut roeddet ti’n teimlo wedyn
Magu hyder
Fe all eiriol drosot ti dy hun deimlo'n dipyn o her, yn enwedig wrth siarad â gweithwyr proffesiynol sydd o bosibl yn anghytuno â ti. Ond fe all magu dy hyder a dy hunan-barch helpu.
Os wyt ti’n teimlo'n ddigon da, fe alli roi cynnig ar y canlynol:
- Gofalu am dy les a dy iechyd corfforol
- Canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol
- Treulio amser gyda phobl sy'n dy gefnogi di
- Dysgu i fod yn bendant
I gael rhagor o wybodaeth, cer i’n tudalen ar hyder a hunan-barch.
Dyma rai awgrymiadau am hunan-eiriol gan bobl ifanc y buom yn siarad â nhw:
Bod â ffydd ynot ti dy hun. Ti sy’n adnabod dy feddwl a dy gorff orau.
Dal ati a mynd ar drywydd y mater i wneud yn siŵr bod cynnydd yn cael ei wneud.
Bod â diddordeb yn fy ngofal, rydw i'n hoffi cael cymaint o wybodaeth ag y gallaf.
Cadw dyddiadur neu ysgrifennu i roi trefn ar dy feddyliau.
Cadw’n gryf a dal ati i ymladd! Efallai y cei dy fwrw i lawr ar hyd y ffordd, ond paid ag anghofio beth rwyt ti’n brwydro drosto.
Statutory advocate
In some situations, you have a legal right to support from an advocate. This is called statutory advocacy.
For example, if you’re sectioned in hospital, you have the right to an Independent Mental Health Advocate (IMHA).
See our page on advocacy for more information about statutory advocacy.
Visit our full treatment and support glossarySocial worker
A social worker can support you and your family to work through different problems together. Their job is to keep you safe from harm. Some focus on different areas, like mental health or safeguarding.
Visit our full treatment and support glossaryCouncil
Or local council. This is the group of people responsible for certain services in your area, like social care and education.
Visit our full treatment and support glossarySectioned
Being sectioned means that you’re kept in hospital under the Mental Health Act 1983.
There are different types of sections, that have different rules to keep you safe.
The length of time that you can be kept in hospital depends on which section you are on.
See our page on being sectioned for more information.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that can support you with your mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same thing:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS).
- In England and Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS).
Find out more in our CAMHS information hub.
Voluntary patient
You're a voluntary patient when you, or someone who looks after you, agree for you to stay in hospital to get treatment and support for your mental health. This is sometimes called being an informal patient.
See our page on being an informal patient for more information.
Visit our full treatment and support glossaryReferral
This is a request to a service which asks them to review:
- How you’re feeling
- What support you need
The referral helps explain to the new service why they should see you and what the best way to help you might be.
Sometimes referrals can be made by yourself, a family member or social worker. But they’re often made by your doctor as they understand your medical history.
Psychiatric hospital
This is a hospital where you go to get treatment and support for your mental health.
Visit our full treatment and support glossaryIndependent Mental Health Advocate (IMHA)
An IMHA can help you:
- Understand your rights under the Mental Health Act 1983
- Understand any medical treatment you’re having or might have
- With practical things, like attending meetings or seeing your medical records
See our page on advocacy for more information about IMHAs.
Visit our full treatment and support glossaryWard
This describes the area of the hospital you're staying in. You may also hear it called a unit.
Visit our full treatment and support glossaryMental Health Tribunal (MHT)
This is a special court that you can apply to when you’re sectioned. The tribunal decides whether your section can end. They can also give advice about things like hospital leave, hospital transfers and Community Treatment Order (CTO)s.
In England, the tribunal is called the Mental Health Tribunal. In Wales, the tribunal is called the Mental Health Review Tribunal for Wales.
When you have a tribunal hearing, three people make the decisions. These include:
- A judge
- A doctor
- Someone with experience and expertise in that area of mental health, usually a social worker or nurse
Community Treatment Order (CTO)
This is when you’ve been discharged from hospital but you still need to follow certain rules. For example, taking medication or seeing your doctor. If you become unwell or don’t follow these rules, you could be brought back to hospital.
You can only be put on a CTO if you’ve been on certain sections, like 3 or 37.
See our page on being sectioned for information about the different sections.
Visit our full treatment and support glossaryMental Health Act 1983
This is a law in England and Wales. It means that you can be sectioned if you have a mental health problem and need treatment in hospital to keep you safe.
Visit our full treatment and support glossaryCare co-ordinator
This is your main point of contact if you’re having ongoing treatment and support for your mental health. They should keep in close contact with you and answer any questions you have.
Visit our full treatment and support glossaryCare team
These people look after you when you're getting treatment and support for a mental health problem. Your care team might include nurses, doctors and therapists.
They may look after you in hospital, at home or support you through Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS).
Visit our full treatment and support glossary
Psychiatrist
This is a medical doctor that specialises in mental health. Psychiatrists can:
- Carry out assessments of your mental health
- Decide with you which treatments to try, including medication
- Be your therapist for a treatment, like group therapy
Trusted adult
A trusted adult is someone older than you who:
- Makes you feel safe
- Listens to you
- Treats you with respect, understanding and care
They will have clear boundaries but will support you when they can. They should know when to look for more help if you need it.
You can decide who you feel is a trusted adult to you. You might know them from somewhere like school, your family, places of worship or clubs for young people.
Trusted adults don't have to be the same people as nearest relatives.
Visit our full treatment and support glossaryTherapist
This is a trained professional who runs or supervises your therapy. Therapists help you explore how you’re thinking, feeling and behaving, and what can help you in the future.
You may hear the terms therapist or counsellor used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryRights
Rights generally exist to protect and help us. If you have a right or the rights to something in everyday life, it means you're entitled to have it or do it.
Our rights are often set out in laws, like the Equality Act 2010. Sometimes, rights might be set out in other policies and guidelines.
Some rights can never lawfully be taken away from us. However, sometimes another law can interfere with or restrict our rights. For example, if we are arrested or sectioned.
For more information, see our page on your rights.
Visit our full treatment and support glossaryInformal patient
You may also hear this being called voluntary patient. It means that you, or someone who looks after you, agree for you to stay in hospital to get treatment and support for your mental health.
See our page on being an informal patient for more information.
Visit our full treatment and support glossaryConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryCafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.