Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dicter

Mae’r dudalen hon yn egluro dicter, achosion posibl a sut mae’n gallu gwneud i chi deimlo ac ymddwyn. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud ac i le allwch chi fynd i gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys cyngor i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pam ydw i'n teimlo'n ddig? 

Gallwn deimlo’n ddig am nifer o wahanol resymau. Gallai fod oherwydd sefyllfa anodd yr ydym yn ei phrofi, neu rywbeth sydd wedi digwydd i ni yn y gorffennol. Weithiau, efallai byddwn ni’n teimlo dicter oherwydd y ffordd yr ydym ni’n dehongli ac yn ymateb i sefyllfaoedd penodol.

Gall pobl ddehongli sefyllfaoedd yn wahanol. Efallai na fydd rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n ddig iawn yn gwneud i rywun arall deimlo’n ddig o gwbl. Ond oherwydd ein bod ni’n gallu dehongli pethau’n wahanol, nid yw’n golygu eich bod yn dehongli pethau’n ‘anghywir’ os ydych chi’n teimlo’n ddig.

Mae’r ffordd yr ydych chi’n teimlo dicter a phryd, a’r ffordd yr ydych chi’n ymateb i ddicter, yn gallu dibynnu ar nifer o wahanol ffactorau yn eich bywyd, gan gynnwys eich:

Boed yw eich dicter yn ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol neu rywbeth sy’n digwydd nawr, mae meddwl am sut a pham yr ydym ni’n dehongli ac yn ymateb i sefyllfaoedd yn gallu helpu. Gallwn ddysgu sut i ymdopi â’n hemosiynau’n well a dod o hyd i ffyrdd i reoli ein dicter. Gweler ein tudalen am reoli eich dicter i gael rhagor o wybodaeth.

Young People Chatting In Bathroom

Under 18? Read our tips on anger for young people

Plentyndod a magwraeth

Mae’r ffordd yr ydym ni’n dysgu ymdopi â theimladau dig yn aml wedi’i dylanwadu gan ein magwraeth. Mae nifer o bobl yn derbyn negeseuon am ddicter fel plant. Gall y negeseuon hyn ei gwneud hi’n anoddach i reoli dicter fel oedolyn. Er enghraifft:

  • Efallai eich bod wedi cael eich magu i feddwl ei bod hi bob amser yn iawn i fynegi eich dicter mewn ffordd ymosodol neu dreisgar. Felly ni wnaethoch chi ddysgu sut i ddeall a rheoli eich teimladau o ddicter. Gallai hyn olygu eich bod chi’n cael pyliau o ddicter pan na fyddwch chi’n hoffi’r ffordd y mae rhywun yn ymddwyn, neu os ydych chi mewn sefyllfa nad ydych chi’n ei hoffi.
  • Efallai eich bod wedi cael eich magu i gredu na ddylech chi gwyno. Efallai roeddech chi’n cael eich cosbi am fynegi dicter fel plentyn. Gallai hyn olygu eich bod yn tueddu cuddio eich dicter. Os nad ydych chi’n teimlo y gallwch chi ryddhau eich dicter mewn ffordd iach, gall hyn ddod yn broblem hirdymor. Os nad ydych chi’n gyfforddus â sefyllfaoedd newydd, efallai bydd eich ymateb iddynt yn amhriodol neu’n anaddas. Neu efallai byddwch chi’n troi’r dicter i mewn ar eich hun.
  • Efallai eich bod wedi gweld dicter eich rhieni neu oedolion eraill pan oedd allan o reolaeth. Ac wedi dysgu i feddwl am ddicter fel rhywbeth sydd bob amser yn ddinistriol ac yn peri ofn. Gallai hyn olygu eich bod chi bellach yn ofn dicter eich hun, ac nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel i fynegi eich teimladau pan fydd rhywbeth yn eich gwneud chi’n grac. Yna efallai bydd y teimladau hyn yn ymddangos yn ystod adeg anghysylltiedig arall. Gall hyn deimlo’n anodd ei egluro.

Profiadau yn y gorffennol

Weithiau gall y dicter rydym ni'n ei deimlo ar hyn o bryd fod yn gysylltiedig â'n profiadau yn y gorffennol. Gallai hyn olygu ein bod yn ymateb yn gryfach i sefyllfa yr ydym yn ei phrofi yn y presennol, oherwydd ein dicter am yr hyn a ddigwyddodd i ni yn y gorffennol.

Os ydych chi wedi profi sefyllfaoedd yn y gorffennol a wnaeth i chi deimlo'n ddig, efallai eich bod chi'n dal i ymdopi â'r teimladau dig hynny nawr. Yn enwedig os nad oeddech yn gallu mynegi eich dicter yn ddiogel ar y pryd. Gallai’r sefyllfaoedd hynny gynnwys cam-drin, trawma, hiliaeth neu fwlio (naill ai fel plentyn neu’n fwy diweddar fel oedolyn).

Gallai hyn olygu eich bod bellach yn gweld rhai sefyllfaoedd yn anodd iawn, ac yn fwy tebygol o'ch gwneud yn grac.

Gall dod yn ymwybodol o hyn ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd i ymateb i amgylchiadau presennol mewn ffordd fwy diogel neu fwy defnyddiol.

Amgylchiadau presennol

Efallai byddwn ni’n teimlo’n grac am bethau sy’n digwydd yn ein bywydau ar hyn o bryd, neu gall ein hamgylchiadau presennol ei gwneud hi’n anoddach ymdopi neu reoli ein hemosiynau. Efallai bydd sefyllfaoedd sy’n eich gwneud chi’n grac, ond rydych chi’n cael trafferth mynegi neu ddatrys eich dicter ar y pryd. Felly mae’n bosibl y byddwch chi’n mynegi eich dicter ar adegau eraill.

Mae rhai profiadau a allai fod yn anodd yn cynnwys:

  • Straen. Os ydych chi’n ymdopi â llawer o broblemau eraill yn eich bywyd ar hyn o bryd, efallai byddwch chi’n teimlo’n grac yn haws nag arfer. Neu efallai byddwch chi’n grac am bethau nad ydynt yn gysylltiedig. Gweler ein tudalen am straen i gael rhagor o wybodaeth.
  • Profedigaeth. Mae dicter yn gallu bod yn rhan o alar. Os ydych chi wedi colli rhywun sy’n bwysig i chi, gall fod yn hynod anodd ymdopi â’r holl bethau gwrthdrawiadol y gallech fod yn eu teimlo. Gweler ein tudalennau am brofedigaeth i gael rhagor o wybodaeth. Mae Cymorth Profedigaeth Cruse hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth a gwybodaeth os ydych wedi cael profedigaeth.
  • Mae gwahaniaethu neu anghyfiawnder, fel profiadau o hiliaeth, yn gallu gwneud i ni deimlo’n ddig. Yn enwedig os ydych wedi cael eich trin yn annheg, os ydych chi’n teimlo’n ddi-rym i wneud unrhyw beth amdano, neu os nad yw pobl o’ch amgylch yn deall. Mae gwybodaeth gennym sy’n gallu helpu os ydych chi’n profi gwahaniaethu ar sail eich hil neu ethnigrwydd, neu eich hunaniaeth rywiol neu rywedd.
  • Digwyddiadau sy’n peri gofid neu bryder. Efallai byddwn ni’n teimlo’n grac am y pethau sy’n digwydd yn y byd ar hyn o bryd. Efallai byddwn ni’n gweld pethau yr ydym ni’n gwybod sy’n anghywir ond rydym ni’n teimlo na allwn eu stopio. Neu efallai byddwn ni’n teimlo’n ddig am y penderfyniadau a wneir gan bobl bwerus, neu gan agweddau eraill am faterion sy’n bwysig i ni. Gweler ein tudalennau am ymdopi â digwyddiadau sy’n peri gofid yn y newyddion i gael rhagor o wybodaeth.

Yn dilyn blwyddyn a hanner o’r cyfnodau clo...Roedd cymaint o bwysau yn y tŷ, doedd y sefyllfa ddim yn dda.

Iechyd a lles

Mae ein hiechyd meddwl a chorfforol yn gallu cael effaith ar y ffordd yr ydym ni’n teimlo, a sut yr ydym ni’n rheoli ein hemosiynau. Gall hyn gynnwys:

  • Hormonau. Mae newidiadau hormonaidd yn gallu cael effaith fawr ar ein hwyliau a’n hemosiynau. Mae hyn yn gallu cynnwys teimlo dicter sy’n gryfach nag arfer, sy’n digwydd yn gyfnodol, neu sy’n anoddach ei reoli neu ddeall. Efallai byddwch chi’n cael trafferth gyda dicter yn ystod y cyfnod cyn, yn ystod neu ar ôl y menopos. Neu efallai eich bod yn sylwi ar gysylltiadau rhwng eich dicter a’ch mislif, neu unrhyw ddulliau atal-cenhedlu sy’n effeithio ar eich hormonau.
  • Poen corfforol. Mae poen parhaus a chronig yn gallu gwneud i ni deimlo’n ddig, yn enwedig os nad ydym ni’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnom neu os ydym ni’n teimlo ein bod wedi cael ein trin yn annheg.
  • Problemau iechyd meddwl. Efallai bydd rhai problemau iechyd meddwl yn achosi i ni brofi lefelau uwch o ddicter, neu’n ei gwneud hi’n anoddach rheoli teimladau anodd. Mae gan ein rhestr iechyd meddwl A-Z ragor o wybodaeth am wahanol broblemau a phrofiadau iechyd meddwl.
  • Lles cyffredinol. Mae pethau fel cwsgbwyd ac ymarfer corff yn gallu cael effaith fawr ar ein hwyliau, gan gynnwys ein lefelau dicter.

Gwnes i dracio fy symptomau dros gyfnod o dri mis, a gwelais fod cysylltiad uniongyrchol rhwng fy nghylchred mislifol a fy iechyd meddwl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Awst 2023. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig