Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dicter

Mae’r dudalen hon yn egluro dicter, achosion posibl a sut mae’n gallu gwneud i chi deimlo ac ymddwyn. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud ac i le allwch chi fynd i gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys cyngor i ffrindiau a theulu.

Sut deimlad yw dicter? 

Mae dicter yn teimlo’n wahanol i bawb. Efallai byddwch chi’n profi rhai o’r pethau a restrir isod. Efallai hefyd bod gennych brofiadau neu anawsterau nad ydynt wedi’u rhestru isod.

Mae’r dudalen hon yn trafod:

Effeithiau dicter ar eich corff

  • Teimlad anghyfforddus neu gorddi yn eich stumog
  • Tyndra yn y frest
  • Curiad calon uwch a chyflym
  • Coesau’n mynd yn wan
  • Cyhyrau tynn
  • Rydych chi’n teimlo’n gynnes
  • Mae awydd arnoch i fynd i’r tŷ bach
  • Chwysu
  • Cur pen neu densiwn yn eich pen neu lygaid
  • Crynu
  • Penysgafnder
  • Rhincian dannedd 

Effeithiau dicter ar eich meddwl

Gallech chi deimlo: 

  • Ar bigau’r drain, yn nerfus neu’n methu ag ymlacio
  • Yn euog
  • Yn chwerw tuag at bobl neu sefyllfaoedd eraill
  • Yn hawdd eich gwylltio
  • Wedi’ch gorlethu
  • Fel na allwch chi reoli eich hun
  • Fel petaech chi’n gwylltio’n gacwn 
  • Yn llawn cywilydd 

Mae’n teimlo fel petai pêl o dân yng nghanol fy mrest sy’n dod yn syth allan o fy nheg ac yn llosgi’r bobl o fy amgylch.

Sut allech chi ymddwyn pan fyddwch chi’n ddig

Mae’r ffordd yr ydych chi’n ymddwyn pan fyddwch chi’n ddig yn gallu dibynnu ar y ffordd yr ydych chi’n adnabod eich teimladau ac yn ymdopi â nhw, a’r ffordd yr ydych wedi dysgu i’w mynegi. Gweler ein tudalen pam ydym ni’n gwylltio i gael rhagor o wybodaeth.

Nid yw pawb yn mynegi dicter yn yr un ffordd. Er enghraifft, mae rhai ffyrdd yr ydych efallai wedi dysgu sut i fynegi dicter yn cynnwys:

  • Ymddygiad ymosodol allanol - megis gweiddi, rhegi, clepian drysau, bwrw neu daflu pethau, bod yn dreisgar yn gorfforol, bygwth eraill, neu gam-drin geiriol.
  • Ymddygiad ymosodol mewnol - megis dweud wrth eich hun eich bod yn casáu eich hun, gwrthod eich anghenion sylfaenol (fel bwyd a chwsg), osgoi pethau a allai eich gwneud yn hapus, ynysu eich hun rhag eraill neu hunan-niweidio.
  • Ymddygiad ymosodol di-drais neu oddefol - megis anwybyddu pobl, gwrthod siarad â nhw, awgrymu y gallech chi adael neu wneud rhywbeth i anafu eich hun, gwrthod gwneud tasgau neu eu gwneud yn wael ar bwrpas neu’n hwyr, neu ddweud pethau sarhaus neu angharedig yn anuniongyrchol.

Gall cydnabod yr arwyddion hyn roi cyfle i chi feddwl am y ffordd yr hoffech chi ymateb i sefyllfa cyn gwneud neu ddweud unrhyw beth. Gall hyn fod yn anodd iawn yn y foment. Ond po fwyaf cynnar yr ydych chi’n sylwi sut rydych chi’n teimlo, yr hawsaf y gallai fod i reoli eich dicter.

Roeddwn i’n gallu adnabod yr arwyddion. Ymddwyn yn ymosodol ac yna teimlo’n euog ac yn gywilyddus amdano’n nes ymlaen.

Dicter a stigma

Rydym ni i gyd yn mynegi ein hemosiynau’n wahanol. Gall hyn gael ei effeithio gan ein diwylliant, ein personoliaeth, ein magwraeth a nifer o bethau eraill.

Mae rhai pobl yn cael trafferth deall pryd y mae eraill yn mynegi eu hemosiynau mewn ffordd wahanol iddyn nhw. Oherwydd hyn, efallai byddwn ni’n teimlo ein bod yn cael ein beirniadu weithiau am y ffordd yr ydym ni’n mynegi ein dicter. Neu gallai pobl feddwl ein bod ni’n ddig pan nad yw hynny’n wir.

Mae gan gymdeithas syniadau cryf am fynegi emosiynau; mae’n rhaid i chi ymddwyn mewn ffordd benodol.

Mae hefyd nifer o stereoteipiau negyddol am ddicter. Efallai bydd rhai ohonom yn cael ein beirniadu’n fwy am ein dicter nag eraill. Gallai hyn fod oherwydd hiliaeth, rhagfarn ar sail rhyw neu ffurfiau eraill o wahaniaethu neu duedd.

Oherwydd hyn, efallai eich bod chi’n teimlo bod angen i chi rwystro eich teimladau eich hun o ddicter neu boen. Neu efallai eich bod chi’n poeni y byddwch chi’n cael eich beio neu eich beirniadu os ydych chi’n mynegi eich teimladau, pan na fyddai hyn yn digwydd i eraill.

Gall hyn fod yn rhwystredig a gofidus iawn, yn enwedig os yw’n effeithio ar ein bywydau dyddiol, swyddi neu berthnasoedd. Neu os yw’n golygu ein bod ni’n teimlo bod rhaid i ni dderbyn y ffaith ein bod ni’n cael ein cam-drin. Ond mae hi’n bwysig cofio eich bod yn haeddu cefnogaeth a pharch a bod eich teimladau’n ddilys.

Yn aml roeddwn i’n teimlo mai fi oedd y broblem a dywedwyd wrthyf fod angen i mi reoli fy nicter pan oeddwn i ond yn ceisio mynd i’r afael â’r ffordd yr oeddwn i’n teimlo.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Awst 2023.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators
arrow_upwardYn ôl i'r brig