Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dicter

Mae’r dudalen hon yn egluro dicter, achosion posibl a sut mae’n gallu gwneud i chi deimlo ac ymddwyn. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud ac i le allwch chi fynd i gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys cyngor i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r dudalen hon ar gyfer ffrindiau a theulu rhywun sy’n cael problemau dicter.

Sut alla i gefnogi rhywun sy’n profi dicter?

Gall fod yn anodd iawn pan fydd rhywun sy’n bwysig i chi’n profi problemau dicter. Yn enwedig os ydyn nhw’n cyfeirio eu dicter atoch chi, eraill sy’n agos atynt, neu eu hunain.

Rydym ni i gyd yn gyfrifol am weithredoedd ein hunain. Yn y pen draw eu cyfrifoldeb nhw yw dysgu sut i reoli a mynegi eu dicter yn briodol. Ond mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i’w cefnogi:

  • Byddwch yn ddigynnwrf. Er efallai bod gennych chi nifer o deimladau anodd eich hun, os allwch chi aros yn ddigynnwrf mae hyn yn gallu helpu stopio’r dicter rhag cynyddu.
  • Ceisiwch wrando arnynt. Os allwch chi, rhowch amser iddyn nhw gyfathrebu eu teimladau heb eu barnu. Yn aml, pan fydd rhywun yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando arnynt, maen nhw’n gallu clywed safbwyntiau eraill yn well hefyd. Ac weithiau mae cael caniatâd i gyfathrebu teimladau dig yn gallu bod yn ddigon i helpu tawelu rhywun.
  • Rhowch le iddyn nhw. Os ydych chi’n sylwi bod parhau’r sgwrs yn gwneud pethau’n waeth, rhowch le iddyn nhw dawelu a meddwl. Gallai hyn fod trwy fynd i ystafell wahanol am ychydig, neu dreulio ychydig ddyddiau ar wahân. Mae’n bwysig rhoi lle i’ch hun hefyd, fel nad ydych chi’n mynd yn rhy ddig.
  • Gosodwch ffiniau. Er bod nifer o resymau pam y gall hyn fod yn anodd, mae’n bwysig gosod ffiniau a therfynau. Byddwch yn eglur ymlaen llaw o ran pa fath o ymddygiad sy’n dderbyniol i chi a pheidio. A meddyliwch pa gamau gweithredu y gallwch eu cymryd os yw rhywun yn croesi’r llinell. Does dim rhaid i chi dderbyn unrhyw ymddygiad sy’n gwneud i chi deimlo’n anniogel neu sy’n effeithio ar les eich hun yn ddifrifol.
  • Helpwch nhw i adnabod eu sbardunau. Dyma rywbeth y gallwch roi cynnig arno pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigynnwrf, i ffwrdd o unrhyw sefyllfa ddadleuol. Mae adnabod sbardunau rhywun ar gyfer dicter yn gallu helpu’r ddau ohonoch i feddwl am ffyrdd y gallwch chi osgoi sefyllfaoedd sy’n ysgogi dicter. A gallwch gynllunio sut i ymdopi â nhw a sut i gyfathrebu pan fyddan nhw’n codi. Ond ceisiwch beidio â bod yn feirniadol nac yn gyhuddgar. Gall fod yn ddefnyddiol rhoi enghreifftiau penodol o adegau yr ydych chi’n cofio nhw’n gwylltio. Ond cofiwch y gall hyn fod yn anodd iddyn nhw feddwl amdano.
  • Cefnogwch nhw i gael cymorth proffesiynol. Er enghraifft, gallech chi eu helpu i drefnu gweld eu meddyg teulu, neu helpu ymchwilio i gyrsiau rheoli dicter. Gweler ein tudalennau am driniaethau ar gyfer dicter a chefnogi rhywun i gael cymorth iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth.
  • Gofalwch am les eich hun. Gall fod yn anodd weithiau i gefnogi rhywun arall, felly sicrhewch eich bod yn gofalu am les eich hun hefyd. Gweler ein gwybodaeth am sut i ymdopi wrth gefnogi rhywun arall i ddysgu mwy am hyn.

Y peth gwaethaf yw pan fydd pobl yn dweud wrthyf am dawelu neu’n dweud nad yw’r hyn a achosodd fy nicter yn bwysig. Y peth sy’n helpu mwyaf yw pan fydd pobl yn gwrando ar fy nheimladau ac yn eu derbyn (hyd yn oed os yw fy nicter yn ddigynsail).

Beth os yw eu hymddygiad yn gamdriniol neu’n dreisgar?

Os yw rhywun yn ymddangos yn grac iawn, nid yw’n golygu o reidrwydd y byddan nhw’n dreisgar neu’n gamdriniol. Mae gan dudalennau’r GIG am gam-drin wybodaeth am sut i adnabod arwyddion camdrin a sut i gyrchu cefnogaeth.

Ond os yw rhywun yn dreisgar neu’n camdriniol, y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod yn ddiogel.

  • Peidiwch ag wynebu rhywun sy’n ymddwyn yn ymosodol. Os ydych chi eisiau siarad â nhw, arhoswch tan fod y sefyllfa wedi tawelu.
  • Efallai byddwch chi am greu cynllun diogelwch. Gallai hyn gynnwys:
    • Creu rhestr o rifau ffôn pobl, sefydliadau a gwasanaethau y gallwch eu ffonio os ydych chi’n anniogel neu angen cefnogaeth ar frys.
    • Trefnu i aros gyda ffrind neu gymydog tan y bydd pethau’n tawelu.
    • Meddwl am y ffordd fwyaf diogel a chyflym y gallwch chi gael mynediad at arian, ffôn a thrafnidiaeth.
    • Cael bag yn barod i adael mewn argyfwng.
    • Mae gan Women’s Aid ragor o wybodaeth am gynlluniau diogelwch a sut i adael perthynas camdriniol yn ddiogel.
  • Mae gan Refuge dai diogel i fenywod a phlant sy’n dianc rhag camdrin domestig. Gallwch gysylltu â nhw i ddod o hyd i le mewn lloches.
  • Mae’r National Domestic Abuse Helpline yn cael ei redeg gan Refuge. Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd ar 0808 2000 247. Mae hwn ar gyfer menywod sy’n profi camdrin domestig sydd angen cyngor a chefnogaeth. Mae gwasanaeth sgwrsio gwe ar gael hefyd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 3yp tan 10yh. Mae Llinell Gymorth Iaith Arwyddion Prydain ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 10yb tan 6yp.
  • Mae Women's Aid yn cynnig gwybodaeth, fforwm ar-lein, cefnogaeth a gwybodaeth i blant a phobl ifanc. Mae cyfeiriadur o wasanaethau lleol ganddo i fenywod a phlant sy’n profi camdrin domestig. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth sgwrsio gwe sydd ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8yb tan 6yp ac ar benwythnosau, 10yb tan 6yp.
  • Mae Men's Advice Line yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr gwrywaidd camdrin domestig. Gallwch ffonio am ddim ar 0808 801 0327 o Ddydd Llun i Ddydd Iau, 10yb  tan 8.30yh a Dydd Gwener, 10yb tan 4.30yp. Mae gwasanaeth sgwrsio gwe ar gael ar Ddydd Mercher, 10yb tan 11.30yb a 2.30yp tan 4yp neu gallwch chi anfon e-bost at [email protected]. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth a chysylltiadau i wasanaethau a llochesau lleol.
  • Mae Galop yn cynnig cefnogaeth i bobl LHDT+ sydd wedi profi camdrin domestig. Gallwch chi ffonio am ddim ar 0800 999 5428. Mae’r llinell gymorth ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Iau, 10yb tan 8.30yh a Dydd Gwener, 10yb tan 4.30yp. Gallwch chi hefyd anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu â Galop trwy sgwrsio ar y we.
  • Gallwch ffonio’r heddlu. Os yw eich diogelwch mewn perygl – neu ddiogelwch eraill yn eich cartref, megis plant – ffoniwch 999. Efallai byddwch chi’n poeni am beri trafferth i’ch anwylyd, ond mae’n bwysig rhoi eich diogelwch yn gyntaf bob tro.

Mae gan ein canllaw opsiynau cefnogaeth ar gyfer camdrin ragor o wybodaeth a chysylltiadau i wahanol wasanaethau.

Dwi angen i fy nheulu siarad â mi’n onest ond i barhau i fod yn ddeallgar. Mae geiriau côd gennym y gallwn ni i gyd eu defnyddio pan dwi’n afresymol neu’n teimlo y gallwn i wylltio.

Beth os nad ydyn nhw’n cydnabod bod problem ganddynt

Efallai na fydd y person yr ydych chi’n eu cefnogi yn cydnabod bod problem ganddynt neu efallai eu bod yn gwrthod cyrchu cymorth.

Mae’n ddealladwy i deimlo’n rhwystredig, yn ofidus ac yn ddiymadferth o ganlyniad i hyn. Ond mae’n bwysig derbyn pwy ydyn nhw fel unigolyn, a bod bob amser cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwch ei wneud i gefnogi person arall.

Mae gan ein tudalennau am helpu rhywun i gyrchu cymorth ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud a pheidio yn y sefyllfa hon.

This information was published in June 2023. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig