Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dicter

Mae’r dudalen hon yn egluro dicter, achosion posibl a sut mae’n gallu gwneud i chi deimlo ac ymddwyn. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud ac i le allwch chi fynd i gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys cyngor i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pa driniaeth sydd ar gael ar gyfer dicter? 

Mae triniaethau amrywiol ar gael sy’n gallu eich helpu gyda’ch problemau dicter. Mae’r dudalen hon yn trafod:

Efallai bod eich anawsterau dicter yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl neu brofiadau trawmatig. Os yw hyn yn wir i chi, efallai bydd triniaeth a chefnogaeth ar gyfer hyn hefyd yn mynd i’r afael â’ch dicter. Gweler ein rhestr A-Z o faterion iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth am driniaethau a chefnogaeth ar gyfer gwahanol ddiagnosis a phrofiadau.

Young People Chatting In Bathroom

Under 18? Read our tips on anger for young people

Roedd hi’n teimlo’n dda i allu egluro fy sefyllfa yn gyfforddus a’r hyn oedd yn sbarduno fy nicter, heb boeni am gael fy marnu.

Therapïau siarad a chwnsela

Mae therapïau siarad a chwnsela’n gofyn i chi siarad am eich problemau gyda gweithiwr proffesiynol cymwys, megis cwnselydd neu seicotherapydd. Maen nhw’n gallu eich helpu i archwilio achosion eich dicter a ffyrdd i’w reoli. Gallai hyn eich helpu i ddeall eich teimladau a gwella eich ymatebion i sefyllfaoedd sy’n eich gwneud yn grac.

Mae gwahanol fathau o therapïau siarad a allai eich helpu i ymdopi â’ch dicter neu ei reoli.

  • Math o therapi siarad tymor byr strwythuredig iawn yw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Mae’n archwilio sut mae eich meddyliau, teimladau ac ymddygiad yn effeithio ar ei gilydd. Mae hefyd yn ceisio dysgu sgiliau ymarferol i chi er mwyn newid hyn. CBT yw’r therapi siarad mwyaf cyffredin a gynigir gan y GIG. Gallech chi hefyd geisio dysgu sgiliau CBT eich hun gan ddefnyddio llyfrau hunangymorth o’ch llyfrgell leol, neu apiau ar-lein am ddim.
  • Triniaeth yw cwnsela lle byddwch chi efallai’n siarad am fater penodol. Er enghraifft, pyliau o ddicter gyda’ch partner neu yn y gweithle. Ac efallai byddwch chi’n ceisio deall sut i reoli’r sefyllfaoedd hynny’n wahanol.
  • Mae therapi seicodynamig yn aml yn para’n hirach na chwnsela ac mae’n tueddu mynd yn ddyfnach i brofiadau’r gorffennol. Efallai mai’r ffocws yma fydd i ddysgu mwy am eich hun i’ch helpu i ddeall pam eich bod chi’n mynegi eich dicter fel hyn. Neu pam y mae sefyllfaoedd penodol yn eich gwneud chi’n grac.

I gael rhagor o wybodaeth am wahanol fathau o therapïau siarad a sut maen nhw’n gallu helpu, gweler ein tudalennau am therapïau siarad.

Mae siarad, siarad, siarad dros nifer o flynyddoedd wedi helpu’n fawr. Nawr dydw i ddim yn cadw popeth y tu mewn i mi.

Sut ydw i’n cael mynediad at y triniaethau hyn ar gyfer dicter?

I gael mynediad at y rhan fwyaf o driniaethau, y cam cyntaf fel arfer yw siarad â’ch meddyg teulu.

Mewn rhai ardaloedd, gallwch chi hefyd gyfeirio eich hun i wasanaeth cwnsela trwy Therapïau Siarad y GIG.

Mae rhai gweithleoedd, sefydliadau addysg uwch ac elusennau lleol yn cynnig gwasanaethau cwnsela am ddim neu am bris isel i’w gweithwyr, myfyrwyr neu drigolion lleol.

Gallech chi hefyd geisio chwilio am gwrs preifat neu therapydd sy’n arbenigo mewn dicter. Gallwch ddefnyddio gwefan Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) i chwilio am therapyddion cymwys yn eich ardal. Yn anffodus, mae hyn yn gallu bod yn ddrud felly efallai na fydd hyn yn bosibl.

Mae rhai therapyddion preifat yn cynnig gwasanaeth rhatach yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Felly mae’n werth edrych ar eu gwefan neu gysylltu â nhw i weld os yw hyn yn bosibl.

Gweler ein tudalennau am therapïau siarad i gael rhagor o wybodaeth am therapi preifat.

Gallwch chi hefyd weld ein tudalennau am geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl i gael awgrymiadau ar gyfer sut i siarad â’ch meddyg am eich iechyd meddwl.

Dicter pan fyddwch chi’n ceisio cymorth

Mae cyrchu triniaeth a chefnogaeth yn gallu bod yn heriol. Efallai byddwch chi’n wynebu rhwystrau neu oedi. Mae’n ddealladwy y gallech chi deimlo’n rhwystredig neu’n grac am hyn – yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch, neu os nad ydych chi’n cael eich gwrando arnoch.

Os ydych chi’n teimlo bod triniaeth wedi cael ei gwrthod i chi’n annheg, gweler ein tudalennau am gwyno am ofal iechyd a chymdeithasol

Dwi’n teimlo’n grac pan nad ydw i’n cael yr help sydd ei angen arnaf. Mae hyn yn gwaethygu fy iechyd meddwl felly dwi’n teimlo’n fwy pryderus a rhwystredig.

Rhaglenni rheoli dicter

Dyma fath o therapi siarad penodol i bobl sy’n cael trafferth â phroblemau dicter. Yn aml maen nhw’n cynnwys gweithio mewn grŵp neu sesiynau un-wrth-un. Efallai byddan nhw’n defnyddio cyfuniad o gwnsela a thechnegau CBT. Gallwch chi roi cynnig ar:

  • Cyrsiau rheoli dicter y GIG. Mae nifer o Ymddiriedolaethau’r GIG yn cynnal gwasanaethau rheoli dicter am ddim – gallwch chi ofyn i’ch meddyg teulu beth sydd ar gael yn eich ardal.
  • Cyrsiau rheoli dicter Mind lleol. Mae rhai o ganolfannau Mind hefyd yn darparu gwasanaethau cwnsela neu reoli dicter am ddim. Cysylltwch â’ch canolfan Mind lleol yn uniongyrchol er mwyn gwirio a ydyn nhw’n cynnig gwasanaethau rheoli dicter.
  • Hunan-gymorth ar-lein. Mae rhai sefydliadau wedi cynhyrchu canllawiau hunangymorth ar-lein er mwyn rheoli dicter. Gweler ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth.

Help ar gyfer ymddygiad camdriniol a threisgar

Os yw eich dicter yn golygu eich bod yn ymddwyn mewn ffordd gamdriniol neu dreisgar, mae’n bwysig cael cymorth. Efallai byddwch chi’n poeni y bydd gofyn am help yn peri trafferth i chi. Ond yn aml dyma’r cam cyntaf pwysicaf i newid eich ymddygiad. Gallwch gysylltu â’r canlynol:

  • Eich meddyg teulu. Gallan nhw siarad am eich opsiynau gyda chi a’ch cyfeirio at unrhyw wasanaethau lleol. Mewn sawl ardal, bydd y GIG, y gwasanaethau cymdeithasol a’ch cyngor lleol yn cynnal rhaglenni i helpu cyflawnwyr cam-drin domestig i newid eu hymddygiad.
  • Mae Respect yn cynnal llinell gymorth sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar 0808 802 4040. Mae’r llinell gymorth ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 10yb tan 5yp. Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy’n poeni am eu defnydd o drais neu gam-drin tuag at eu partner ac i bobl sy’n eu cefnogi. Gallwch hefyd anfon e-bost at [email protected]. Neu gallwch sgwrsio’n fyw ar-lein ar Ddydd Iau rhwng 2yp a 4yp. Mae hefyd gan Respect restr o wasanaethau lleol.
  • Mae The Freedom Programme yn cynnal cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb i unrhyw un sy’n dymuno newid eu hymddygiad camdriniol.
  • Mae Alternatives to Violence Project (AVP) yn cynnal cyrsiau i helpu pobl ddysgu ffyrdd newydd i fynd i’r afael â sefyllfaoedd lle y gallai trais ddigwydd.

Cefnogaeth leol

Noder:

  • Nid yw Mind yn ardystio unrhyw wasanaeth cefnogaeth benodol, gan gynnwys y rhai hynny a restrir ar y dudalen hon. Nid oes gwybodaeth gennym am eu gwasanaethau neu eu perfformiad.
  • Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Efallai byddwch chi’n gallu dod o hyd i wasanaethau eraill yn eich ardal trwy chwilio ar-lein neu ddod o hyd i sefydliadau lleol.
  • Gallai fod yn ddefnyddiol cysylltu â gwasanaethau lleol yn uniongyrchol i weld os ydyn nhw’n addas i chi a’ch anghenion.

This information was published in June 2023.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig