Mind Cymru is 40 - we want your stories!
You could make a video, write something, record a life story or your thoughts or do something involving crafts; the only limit is your imagination.
2013 sees Mind Cymru celebrate our 40th anniversary. We’re planning a range of events and activities to highlight our work in Wales – past, present and future.
One project is to collect 40 different stories that relate to mental health in Wales in some way since 1973 and publish them in the autumn. We want this to be an exciting and involving project and are looking for a variety of media. You could make a video, write something, record a life story or your thoughts or do something involving crafts; the only limit is your imagination.
We want people to tell us their experiences and stories about mental health in Wales over the past 40 years. For instance, have you been supported or involved in a local Mind in Wales; worked or volunteered at Mind Cymru? Have you used mental health services in Wales at any time since 1973; taken part in a Mind campaign in Wales; or talked about your experiences of mental health problems to friends or family? What does your mental health feel like to you? How do you think that mental health care has changed since 1973? Have attitudes changed to people with mental health issues over the last 40 years? Whatever your experience, we want to hear from you.
For more information or to take part, please contact Ruth Coombs on 029 2039 5575 or email her directly.
Mae Mind Cymru yn 40 oed - Anfonwch eich straeon atom!
Mae 2013 yn flwyddyn pen-blwydd Mind Cymru yn 40 oed. Rydym yn cynllunio ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau i amlygu ein gwaith yng Nghymru - yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Un o'n prosiectau yw casglu 40 o straeon gwahanol sy'n ymwneud i ryw raddau â iechyd meddwl yng Nghymru ers 1973 a'u cyhoeddi yn ystod yr hydref. Rydym am i hwn fod yn brosiect cyffrous a gafaelgar a gallwch gymryd rhan mewn sawl cyfrwng. Gallech greu fideo, ysgrifennu rhywbeth, cofnodi stori o'ch bywyd neu'ch meddyliau neu ddefnyddio deunyddiau crefft; gadewch i'ch dychymyg fynd ar grwydr.
Rydym am i bobl rannu eu profiadau a'u straeon am iechyd meddwl yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf â ni. Er enghraifft, ydych chi wedi cael cymorth gan Mind lleol yng Nghymru neu wedi bod yn ymwneud ag ef; wedi gweithio i Mind Cymru neu wedi gwirfoddoli iddo? Ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru unrhyw bryd ers 1973; wedi cymryd rhan yn un o ymgyrchoedd Mind yng Nghymru; neu wedi siarad am eich profiadau o broblemau iechyd meddwl â ffrindiau neu'r teulu? Sut mae eich iechyd meddwl chi? Sut mae gofal iechyd meddwl wedi newid ers 1973, yn eich barn chi? Ydy agweddau at bobl â phroblemau iechyd meddwl wedi newid dros y 40 mlynedd diwethaf? Beth bynnag yw'ch profiad, hoffem glywed gennych.
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â Ruth Coombs ar 029 2039 5575 neu anfonwch e-bost ati yn [email protected]