Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder

Dysgwch am iselder, ei symptomau ac achosion posibl, a sut allwch chi gyrchu triniaeth a chefnogaeth. Dewch o hyd i awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Roeddwn i wir yn cael trafferth gydag SSRIs, er bod y meddyg teulu wedi dweud mai dyma’r unig beth oedd ar gael i mi. Roeddwn i’n teimlo’n waeth arnyn nhw nag oeddwn i ddechrau, ac yna roeddwn i wedi blino’n lân. Fe wnes i ymladd i gael fy nghyfeirio ar gyfer CBT ac yn y diwedd, dyma wnaeth fy achub.

Adnoddau hunangymorth

Efallai bydd eich meddyg yn cynnig adnodd hunangymorth i chi i ddechrau. Mae hyn yn fwy tebygol os yw eich iselder yn llai difrifol.

Mae modd cael mynediad at yr adnoddau hyn yn gyflymach na thriniaethau eraill, a gallan nhw wneud i chi deimlo’n well heb angen yr opsiynau eraill. Efallai bydd eich meddyg teulu’n argymell eich bod chi’n rhoi cynnig ar un o’r canlynol:

  • Rhaglen hunangymorth dan arweiniad. Mae’r rhain yn aml yn canolbwyntio ar sut y mae eich meddyliau, teimladau, credoau ac ymddygiad yn rhyngweithio. A gallan nhw ddysgu sgiliau i’ch helpu i ymdopi gyda’r ffordd yr ydych chi’n teimlo. Dylai gweithiwr iechyd proffesiynol eich cefnogi a gwirio eich cynnydd drwy gydol y rhaglen. Efallai bydd y gefnogaeth ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
  • Rhaglen o weithgareddau corfforol, megis dosbarth ymarfer corff grŵp. Mae’r dosbarthiadau hyn wedi’u dylunio ar gyfer pobl ag iselder. Efallai bydd eich meddyg teulu hefyd yn gallu eich helpu i gael mynediad at raglenni ymarfer corff eraill am ddim neu am gost isel. Mae mynediad at hyn yn dibynnu ar le rydych chi’n byw a’ch sefyllfa ariannol. Siaradwch â’ch meddyg teulu i ddysgu rhagor am hyn.

Therapïau siarad

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y therapïau siarad canlynol er mwyn trin iselder:

  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)
  • CBT Grŵp
  • Gweithredu ymddygiadol (BA)
  • BA Grŵp
  • Therapi grŵp yn seiliedig ar feddwlgarwch
  • Seicotherapi rhyngbersonol (IPT)
  • Cwnsela
  • Seicotherapi seicodynamig yn y tymor byr (STPP)
  • Therapi datrys problemau
  • Therapi ymddygiadol i gyplau – os yw eich meddyg yn cytuno y gallai fod yn ddefnyddiol cynnwys eich partner yn eich triniaeth, oherwydd efallai bod eich perthynas yn cyfrannu at eich iselder

Gweler ein tudalen am fathau o therapi siarad i ddysgu rhagor am y triniaethau hyn.

Yn anffodus, gwyddom fod rhestrau aros y GIG mewn nifer o ardaloedd yn gallu bod yn hir iawn. Gall eich meddyg siarad â chi am ba opsiynau sydd ar gael yn eich ardal, a gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i’r math o therapi cywir i chi.

Mae siarad am bethau gyda chwnselydd neu therapydd wir yn helpu i mi weld pethau gyda mwy o resymeg ac i greu cysylltiadau rhwng realiti a’r hyn sydd yn fy mhen.

A ddylwn i stopio therapi os ydw i’n dechrau teimlo’n well?

Os ydych chi’n cael therapi ac yn dechrau teimlo’n well, nid yw hyn yn golygu bod rhaid i chi stopio. Gallwch chi drafod eich hwyliau gyda therapydd a siarad am ba opsiynau a allai fod yn iawn i chi.

Er enghraifft, mae canllawiau NICE yn argymell CBT grŵp neu therapi gwybyddol yn seiliedig ar feddwlgarwch i’ch helpu i aros yn iach os ydych wedi profi iselder yn y gorffennol. Mae’r rhain yn gallu helpu hyd yn oed os nad ydych wedi defnyddio therapi siarad o’r blaen.

Bod yn agored am iselder

Y mwyaf agored yr oeddwn i yn ystod sesiynau cwnsela, y lleiaf yr oeddwn i’n teimlo baich ar fy ysgwyddau.

Meddyginiaeth

Efallai bydd eich meddyg teulu yn cynnig meddyginiaeth i chi er mwyn trin eich iselder, megis gwrthiselyddion. Mae hyn yn fwy tebygol os yw’r iselder rydych chi’n ei brofi’n ddifrifol, neu os ydych chi wedi rhoi cynnig ar wahanol driniaethau ond nid ydynt wedi helpu.

Efallai byddan nhw’n cynnig meddyginiaeth fel triniaeth ar ei phen ei hun, neu efallai byddan nhw’n argymell y feddyginiaeth a therapi siarad.

Mae gwybodaeth gennym am y gwahanol fathau o wrthiselyddion:

Mewn rhai achosion, efallai bydd eich meddyg hefyd yn rhoi presgripsiwn o lithiwm i chi ar y cyd â gwrthiselyddion. Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych chi iselder difrifol, neu os yw eich iselder yn parhau i ddychwelyd. Mae hyn fel arfer os ydych wedi rhoi cynnig ar wrthiselyddion ac nad ydynt yn gweithio.

Mae rhai ohonom hefyd yn gallu profi symptomau seicotig fel rhan o iselder. Os yw hyn yn digwydd, efallai bydd eich tîm gofal iechyd yn rhoi presgripsiwn o feddyginiaeth gwrth-seicotig i chi, ynghyd â’ch triniaeth ar gyfer iselder. Gweler ein tudalen am feddyginiaeth gwrth-seicotig i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai bydd y feddyginiaeth yn gweithio i chi’n syth, neu efallai bydd angen i chi roi cynnig ar sawl math cyn dod o hyd i un sy’n gweithio i chi. I rai ohonom, nid meddyginiaeth yw’r driniaeth gywir o gwbl. Gallwch siarad â’ch meddyg am eich opsiynau.

Am ba mor hir fydd angen i mi gymryd y feddyginiaeth?

Mae canllawiau NICE yn argymell eich bod chi’n parhau i gymryd gwrthiselyddion am o leiaf 6 mis ar ôl i gyfnod o iselder ddod i ben.

Ond efallai bydd rhai ohonom yn dewis parhau i gymryd meddyginiaeth am gyfnod hirach. Er enghraifft, efallai ein bod wedi cael sawl cyfnod o iselder yn y gorffennol. Felly efallai byddwn ni am barhau i gymryd meddyginiaeth er mwyn osgoi cyfnodau o iselder yn y dyfodol.

Stopio meddyginiaeth

Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer iselder, mae’n bwysig peidio â stopio’n sydyn. Mae symptomau diddyfnu o wrthiselyddion yn gallu bod yn anodd ymdopi â nhw. Ac ar gyfer rhai meddyginiaethau, mae stopio’n sydyn yn gallu bod yn beryglus.

Os ydych chi’n penderfynu ceisio dod i ffwrdd o’ch meddyginiaeth, sicrhewch eich bod chi’n:

  • Siarad â’r person a roddodd bresgripsiwn o’r feddyginiaeth i chi, neu weithiwr iechyd proffesiynol arall sy’n deall y broses
  • Dysgu am y risgiau posibl a sut i’w lleihau
  • Stopio’n raddol, dros gyfnod o amser

Fel arfer, eich penderfyniad chi yw parhau i gymryd gwrthiselyddion neu stopio. Fel arfer, mae gennych chi’r hawl i wrthod meddyginiaeth neu stopio. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eich meddyg yn credu y gall hyn wneud eich iselder yn waeth.

Dyma’r sefyllfaoedd lle mae’n bosibl na fydd gennych yr hawl hon:

  • Rydych o dan ofal adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl
  • Nid oes gennych chi’r gallu meddyliol i benderfynu cael triniaeth ai peidio
  • Rydych chi’n cael meddyginiaeth fel triniaeth argyfwng, achub bywyd

Gweler ein tudalennau am stopio meddyginiaeth seiciatrig i gael rhagor o wybodaeth.

Esketamine

Mae ymchwil diweddar wedi edrych ar ddefnyddio meddyginiaeth o’r enw esketamine i drin iselder. Mae hyn wedi canolbwyntio ar iselder nad yw wedi ymateb i driniaethau eraill.

Nid yw canllawiau NICE yn argymell defnyddio esketamine i drin iselder ar hyn o bryd. Oherwydd hyn, mae meddygon yn annhebygol o’i gynnig fel triniaeth ar gyfer iselder ar y GIG, ond mae ar gael mewn rhai clinigau preifat.

Mae gwrthiselyddion wedi helpu i mi ymdopi â chwnsela. Roedd hyn yn gofyn am lawer o waith a bu’n rhaid i mi dderbyn ffordd o feddwl hollol wahanol.

Triniaethau eraill ar gyfer iselder

Mae nifer o driniaethau eraill y gallwch chi roi cynnig arnynt i helpu gyda’ch iselder. Efallai byddwch chi am roi cynnig ar y rhain yn unig, neu ar y cyd â meddyginiaeth a therpïau siarad.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Efallai bydd eich meddyg yn gallu eich cyfeirio at rai o’r gwasanaethau hyn. Neu efallai byddwch chi’n gallu rhoi cynnig ar rai ohonynt eich hun.

Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch canolfan Mind lleol i weld os oes unrhyw beth fel hyn ar gael yn eich ardal.

Mae gofalu am fy nghorff a fy neiet, siarad a dulliau amgen yn gweithio llawer yn well i mi.

Beth sy’n digwydd os nad yw'r meddyginiaeth neu therapi yn gweithio?

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar therapi siarad neu feddyginiaeth yn barod, efallai bydd eich meddyg yn trafod gwahanol opsiynau gyda chi.

I ddechrau, maen nhw’n fwy tebygol o gynnig mathau eraill o therapi siarad neu feddyginiaeth i chi. Mae hyn rhag ofn y gallwch chi ddod o hyd i rywbeth arall sy’n gweithio i chi.

Ond mewn rhai achosion, efallai bydd eich meddyg yn trafod triniaethau eraill gyda chi. Prin iawn y mae’r triniaethau hyn yn cael eu defnyddio. Maen nhw fel arfer yn cael eu cynnig os ydych chi’n profi iselder dwys nad yw wedi gwella gyda thriniaethau eraill:

Therapy electrogynhyrfol (ECT)

Triniaeth sy’n anfon cerrynt trydanol trwy eich ymennydd yw therapi electrogynhyrfol (ECT).

Mae canllawiau NICE yn dweud y dylai meddygon gynnig hyn mewn sefyllfaoedd penodol, prin yn unig. Er enghraifft, os ydych chi’n cael cyfnod hir a difrifol o iselder ac nid yw triniaethau eraill wedi gweithio, neu os ydych chi mewn sefyllfa sy’n peryglu bywyd.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn y sefyllfa hon, gallech chi drafod ECT gyda’ch meddyg. Dylen nhw sicrhau bod gennych chi wybodaeth eglur a hygyrch am ECT, fel eich bod yn ei ddeall cyn penderfynu i’w gael.

Gweler ein tudalennau am ECT i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon a phryd y gellir ei gwneud. Gweler ein tudalennau cyfreithiol am gydsyniad i driniaeth a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i gael gwybodaeth am eich hawliau cyfreithiol o ran triniaeth.

Ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus

Triniaeth yw Ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus lle mae eich ymennydd yn cael ei ysgogi gan ddefnyddio meysydd magnetig. Mae canllawiau NICE yn dweud bod meddygon yn gallu ei gynnig ar gyfer iselder difrifol, os nad yw wedi ymateb i driniaethau eraill.

Niwrolawdriniaeth, VNS a DBS

Yn anaml iawn y mae niwrolawdriniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol (NMD) yn cael ei wneud. Dim ond os yw pob triniaeth arall wedi methu y bydd meddygon yn ei gynnig. Nid oes modd rhoi niwrolawdriniaeth i chi heb eich caniatâd. Gweler ein tudalen am NMD i gael rhagor o wybodaeth.

Mae yna hefyd driniaethau tebyg i NMD, sy’n wrthdroadwy. Er enghraifft, ysgogiad yn nwfn yr ymennydd (DBS) ac ysgogiad nerf y vagws (VNS). Gellir defnyddio’r rhain i drin iselder difrifol, ond gwneir hyn yn anaml iawn.

Roedd y rhan fwyaf o driniaethau a gefais yn aneffeithiol - ond mewn sefyllfa argyfwng, ar fin cael fy nerbyn i ysbyty seiciatrig, dechreuais i Therapi Rhyngbersonol a Sertraline. Dwi’n gallu dweud yn hollol onest eu bod nhw wedi achub fy mywyd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ebrill 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig