Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder

Dysgwch am iselder, ei symptomau ac achosion posibl, a sut allwch chi gyrchu triniaeth a chefnogaeth. Dewch o hyd i awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Beth sy'n achosi iselder?

Mae nifer o syniadau am yr hyn sy’n achosi iselder. Mae ymchwil yn awgrymu ei bod hi’n annhebygol o fod oherwydd un rheswm yn unig.

Mae’r achosion hefyd yn gallu amrywio yn dibynnu ar y person. I rai ohonom, mae cyfuniad o wahanol ffactorau’n gallu achosi ein iselder. Neu efallai byddwn ni’n teimlo’n isel heb achos neu sbardun amlwg.

Mae’r dudalen hon yn trafod achosion posibl iselder:

A yw iselder wedi’i achosi gan anghydbwysedd cemegol?

Mae’r ymennydd dynol yn hynod gymhleth. Oherwydd bod gwrthiselyddion yn gweithio trwy newid cemeg yr ymennydd, mae rhai pobl yn credu bod iselder wedi’i achosi gan newidiadau yng nghemeg yr ymennydd sydd yna’n cael eu ‘cywiro’ gan y cyffuriau. Efallai bydd rhai meddygon yn dweud wrthych fod ‘anghydbwysedd cemegol’ gennych a bod angen meddyginiaeth arnoch i gywiro hyn.

Ond mae’r dystiolaeth ar gyfer hyn yn wan iawn, ac os oes newidiadau i gemeg yr ymennydd yn digwydd, nid ydym yn gwybod os yw’r rhain o ganlyniad i’r iselder neu ei achos.

Profiadau yn ystod plentyndod

Mae ymchwil yn dangos bod mynd trwy brofiadau anodd yn ystod eich plentyndod yn gallu eich gwneud yn fwy agored i brofi iselder yn nes ymlaen ym mywyd. Gallai’r rhain gynnwys profiadau fel:

  • Cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol
  • Esgeulustod
  • Colli rhywun sy’n agos atoch
  • Digwyddiadau trawmatig
  • Sefyllfa deuluol ansefydlog

Mae profiadau anodd yn ystod plentyndod hefyd yn gallu cael effaith fawr ar eich hunan-barch. Gallan nhw effeithio ar y ffordd yr ydych chi’n dysgu ymdopi ag emosiynau anodd a sefyllfaoedd sy’n peri straen. Gallai hyn wneud i chi deimlo’n llai galluog i ymdopi â phrofiadau anodd a gallai hyn arwain at iselder yn nes ymlaen ym mywyd.

Gweler ein tudalen am opsiynau cymorth ar gyfer cam-drin i ddod o hyd i sefydliadau sy’n gallu helpu os ydych chi’n profi cam-drin.

Gwnes i brofi iselder am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 15 oed, yn dilyn cam-drin seicolegol a thrais domestig gan fy nhad (i mi a fy Mam), am nifer o flynyddoedd.

Digwyddiadau bywyd

Efallai bydd rhai ohonom yn profi iselder yn dilyn digwyddiad annymunol, trawmatig neu sy’n peri straen. Mae sawl math o ddigwyddiad sy’n gallu sbarduno iselder, ond mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

  • Colli eich swydd neu brofi problemau ariannol
  • Problemau perthynas neu ddiwedd perthynas
  • Profedigaeth
  • Newidiadau mawr ym mywyd, fel newid swydd, symud tŷ neu briodi
  • Cael eich ymosod arnoch yn gorfforol neu’n rhywiol
  • Cael eich bwlio neu eich cam-drin, gan gynnwys profi hiliaeth

Nid profiadau negyddol yn unig sy’n achosi iselder. Mae’r ffordd yr ydym ni’n ymdopi â nhw, a’r gefnogaeth sydd gennym o’n hamgylch, hefyd yn gallu effeithio ar ba mor debygol yr ydym i brofi iselder.

Darllenwch ragor am hiliaeth ac iechyd meddwl

Dechreuais i deimlo iselder yn cynyddu yn dilyn adeg anodd yn fy swydd, lle’r oeddwn i’n cael fy mwlio – fe wnes i chwalu’n llwyr.

Galar ac iselder

Mae galar yn ymateb naturiol i golli rhywun neu rywbeth yr ydym ni’n ei garu. Mae hyn yn aml yn cynnwys profi hwyliau isel. Bydd y cyfnod y mae hyn yn para yn unigryw i chi. Mae’r cyfnod hwn o deimlo’n isel yn cael ei gyfeirio ato fel profedigaeth.

Ond os ydych chi’n teimlo bod yr hyn yr ydych chi’n ei brofi’n rhywbeth mwy na galar, gallwch chi siarad â’ch meddyg amdano.

Neu efallai byddwch chi am roi cynnig ar gwnsela profedigaeth. Gallai hyn fod yn fwy defnyddiol i chi na chefnogaeth gyffredinol ar gyfer iselder. Mae Cymorth Profedigaeth Cruse yn cynnig cefnogaeth a chwnsela i unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan brofedigaeth.

 

I mi, dechreuodd pan fu farw fy Mam. Ar ôl cael trafferth a chladdu pethau’n ddyfnach, dechreuais i chwalu.

Ffyrdd o feddwl

Mae’n bosibl y bydd y rhai ohonom sy’n profi patrymau meddwl penodol yn fwy tebygol o ddatblygu iselder. Er enghraifft, os ydym ni’n tueddu beio ein hunain am ddigwyddiadau negyddol, neu’n meddwl am yr un digwyddiad negyddol dro ar ôl tro.

Os ydych chi’n profi patrymau meddwl negyddol, mae yna ffyrdd i gael cymorth. Er enghraifft, gallai therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) eich helpu i sylwi ar batrymau meddwl negyddol. A gallai eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd i ymdopi.

Problemau iechyd meddwl eraill

Os ydych chi’n profi problem iechyd meddwl arall, mae hefyd yn gyffredin i brofi iselder. Gallai hyn fod oherwydd bod symptomau problem iechyd meddwl arall yn gallu sbarduno iselder. Gallech chi fod yn fwy tebygol o brofi iselder os ydych chi hefyd yn profi:

Problemau iechyd corfforol

Mae iechyd corfforol gwael yn gallu cynyddu eich risg o brofi iselder. Mae nifer o broblemau iechyd yn gallu bod yn anodd eu rheoli, a gallai hyn effeithio ar eich hwyliau. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Problemau iechyd corfforol cronig neu hirdymor
  • Problemau iechyd corfforol sy’n achosi poen neu anghysur parhaus
  • Anhwylderau sy’n peryglu bywyd
  • Problemau iechyd corfforol sy’n newid eich ffordd o fyw yn arwyddocaol

Mae rhai problemau iechyd corfforol yn gallu achosi iselder:

  • Cyflyrau sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r system nerfol
  • Problemau hormonaidd, yn enwedig problemau thyroid a pharathyroid
  • Newidiadau hormonaidd sy’n ymwneud â chylchred y mislif neu’r menopos
  • Problemau cysgu

Os ydych chi’n credu bod gennych chi unrhyw un o’r problemau iechyd hyn, sicrhewch fod eich meddyg yn gwybod amdanynt. Gellir rhoi diagnosis ar gyfer rhai ohonynt trwy brofion gwaed.

Os ydych chi’n cael triniaeth am broblem iechyd corfforol, mae’n bosibl y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn cynnig cymorth iechyd meddwl i chi.

Hanes teuluol

Nid yw ymchwilwyr wedi dod o hyd i enyn penodol sy’n achosi iselder. Ond mae ymchwil wedi dangos os oes gennych chi aelod agos o’r teulu sy’n profi iselder, rydych chi’n fwy tebygol o brofi iselder eich hun.

Efallai bod hyn wedi’i achosi gan ein bioleg. Ond gallai hefyd fod oherwydd ein bod ni fel arfer yn dysgu ymddygiad a ffyrdd o ymdopi gan y bobl o’n hamgylch wrth i ni gael ein magu.

Mae’n debygol bod ein genynnau, a’r amgylchedd lle’r ydym ni’n cael ein magu, yn gallu cael effaith o ran a fyddwn ni’n datblygu iselder.

Meddyginiaeth

Gall iselder fod yn sgil-effaith nifer o feddyginiaethau.

Mae’r daflen wybodaeth i gleifion (PIL yn Saesneg) yn y pecyn gyda’ch meddyginiaeth yn gallu dweud wrthych os yw iselder yn sgil-effaith. Neu gallech chi ofyn i’ch meddyg neu fferyllydd am unrhyw sgil-effeithiau.

Os ydych chi’n credu bod meddyginiaeth yn achosi eich iselder, gallwch chi siarad â’ch meddyg am opsiwn arall. Mae hyn yn enwedig os ydych chi’n disgwyl i’ch triniaeth bara am amser hir.

Cyffuriau hamdden ac alcohol

Mae alcohol a chyffuriau hamdden yn gallu cyfrannu at iselder. Efallai bydd rhai ohonom yn eu defnyddio i wneud ein hunain i deimlo’n well neu i dynnu sylw ein hunain, ond maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo’n waeth yn yr hirdymor.

Gweler ein tudalennau am effeithiau iechyd meddwl cyffuriau hamdden ac alcohol i gael rhagor o wybodaeth.

Cwsg, deiet ac ymarfer corff

Efallai bydd rhai ohonom yn cael trafferth cysgu, bod yn actif neu gadw deiet iach. Ac os yw’r pethau hyn yn anodd i ni, gallan nhw effeithio ar ein cwsg.

Mae’r pethau hyn yn unig yn annhebygol o achosi iselder. Ond maen nhw’n gallu ein gwneud ni’n fwy agored iddo.

Gweler ein tudalennau am fwyd ac iechyd meddwl, problemau cwsg a gweithgarwch corfforol i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ebrill 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig