Sut i ymdopi â hunan-niweidio
Efallai ein bod ni’n barod i ddod o hyd i ffyrdd o geisio helpu ein hunain. Er enghraifft, drwy ddysgu am bethau i helpu i reoli’r ysfa i hunan-niweidio. Neu ddod o hyd i strategaethau tymor hir, fel creu cynllun diogelwch. Mae hyn yn gallu gwneud i ni deimlo mewn mwy o reolaeth.
Neu efallai y byddwn ni angen help gan bobl eraill. Felly, mae gan y dudalen hon wybodaeth am sut i gael triniaeth a help os wyt ti’n hunan-niweidio.
Cofia hyn: rwyt ti’n haeddu cael help.
What's on this page?
Isod mae awgrymiadau a syniadau ar gyfer:
Beth yw hunan-niweidio?
Cyn darllen ein hawgrymiadau a’n syniadau am sut i ymdopi â hunan-niweidio, mae modd canfod beth mae hunan-niweidio yn ei olygu.
Os wyt ti’n helpu rhywun arall, mae gennyn ni wybodaeth i tithau hefyd.
Ymdopi â’r ysfa i hunan-niweidio
Weithiau, mae meddwl am hunan-niweidio, neu’r ysfa i hunan-niweidio, yn gallu teimlo yr un mor llethol a phoenus â hunan-niweidio ei hun. Pan fyddwn ni’n cael ysfa i hunan-niweidio, mae’n gallu bod yn anodd canolbwyntio ar ddim byd arall, na meddwl am ffyrdd eraill o ymdopi.
Gydag amser ac ymarfer, bydd ffyrdd eraill o ymdopi’n dechrau teimlo’n fwy defnyddiol.
Efallai y byddi di’n gweld bod pethau gwahanol yn gweithio’n well ar adegau gwahanol. Neu efallai na fydd rhai o’n hawgrymiadau ni’n gweithio i ti. Mae hynny’n iawn. Rho gynnig ar y pethau rwyt ti’n gyfforddus yn eu gwneud – mae hynny’n ddigon.
Bydd mor garedig a phosib gyda ti dy hun ... Dydy hunan-niweidio ddim yn golygu dy fod di wedi colli’r cyfan nac wedi colli dy urddas. Mae’n golygu bod pethau’n boenus, a bydd hyn yn pasio – Rose, 16
Awgrymiadau i dynnu ein sylw ac i deimlo pethau eraill
Mae ymdopi ag emosiynau cryf neu feddyliau annymunol yn gallu bod yn anodd. Ond mae pethau y gallwn ni’u gwneud i dynnu ein sylw oddi wrth yr ysfa i hunan-niweidio. Efallai y bydd rhai o’r awgrymiadau hyn yn eich helpu i deimlo pethau eraill.
Bydd yr hyn sy’n gweithio i ni yn dibynnu ar sut rwyt ti’n teimlo a pham rwyt ti’n teimlo’r ysfa i hunan-niweidio. Am y rheswm hwn, mae gennyn ni awgrymiadau ar gyfer delio â gwahanol emosiynau. Mae gennyn ni hefyd awgrymiadau gan bobl ifanc am y pethau sy’n gweithio iddyn nhw.
Fe allet ti wneud un o’r pethau hyn:
- Taro clustog
- Gweiddi
- Gwrando ar gerddoriaeth
- Gwasgu pelen straen
- Rhwygo papur
- Rhoi cynnig ar ein hawgrymiadau i helpu i reoli dicter
Mae gwrando ar gerddoriaeth uchel/ddig/metel yn gallu bod yn ffordd dda iawn o fynegi dicter mewn ffordd sydd ddim yn brifo neb arall – Remy, 18
Fe allet ti wneud un o’r pethau hyn:
- Gadael i dy hun grio
- Cysgu
- Treulio amser yn yr awyr agored
- Osgoi gwrando ar bethau, darllen pethau neu wylio pethau sy’n dy wneud di’n fwy trist, fel y cyfryngau cymdeithasol neu bethau yn y newyddion
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Gwrando ar gerddoriaeth sy’n dy helpu i ymlacio
- Defnyddio blanced drwm neu flanced â phwysau ynddi
- Dod o hyd i gryfder neu gymorth mewn system gred neu ffydd
Fe allet ti hefyd wneud ymarferion anadlu i ymdawelu.
Fe wnes i ffeindio cân oedd yn cynnwys ymarfer anadlu, ac roedd hi’n llawer haws cofio hynny wedyn. Fe allwn i ddilyn y rhythm hyd yn oed os nad oeddwn i’n clywed fy hun yn meddwl y geiriau – Remy, 18
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Tacluso’r lle o dy amgylch
- Ysgrifennu rhestr, fel y pethau sy’n achosi straen i ti, ac wedyn uwcholeuo neu danlinellu beth rwyt ti’n gallu’i reoli
- Ysgrifennu llythyr yn sôn am sut rwyt ti’n teimlo, cyn ei rwygo
- Dysgu sgìl newydd i ti dy hun
- Datrys posau, defnyddio llyfr neu ap posau ar dy ffôn
- Tynnu llinellau wedi’u mesur, o’r un hyd a lled, ar ddarn o bapur
Dysga sgìl newydd – rhywbeth bach fel origami neu blethu gwallt – rhywbeth sy’n gofyn am ganolbwyntio i dynnu dy sylw oddi wrth bethau – Leigh, 18
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Mynd i rywle tawel, defnyddio clustffonau neu blygiau clust i reoli’r sŵn
- Mynd i gael awyr iach
- Pylu’r golau drwy orchuddio dy lygaid, neu gael golau naturiol
- Ceisio canolbwyntio ar fanylion pethau o dy amgylch di fel adar, dail neu gelf
- Dod o hyd i dymheredd sy’n fwy cyfforddus, drwy ddefnyddio rhew/iâ os wyt ti’n rhy boeth, neu flanced os wyt ti’n rhy oer
- Teimlo pethau rwyt ti’n mwynhau’u teimlo, fel dillad meddal neu wrthrychau synhwyraidd
- Rhwbio neu dylino dy freichiau a dy goesau gan ddefnyddio eli heb arogl neu eli sy’n arogli’n braf
Mae gorwedd o dan flanced drom yn gallu bod yn braf iawn ac yn fy helpu i ddygymod â’r ysfa – Rose, 16
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Dal neu rwbio ciwbiau rhew/iâ ar dy groen
- Arogli rhywbeth cryf, fel perlysiau a sbeisys
- Bwyta rhywbeth sy’n blasu’n gryf fel lemon, tsili neu fints
- Gwylio neu wrando ar raglen deledu, fideo neu gân sy’n dy gysuro
Fe allet ti hefyd geisio canolbwyntio ar beth sy’n digwydd o dy amgylch di, cyn ceisio enwi:
- 5 peth rwyt ti’n gallu’u gweld
- 4 peth rwyt ti’n gallu’u teimlo
- 3 pheth rwyt ti’n gallu’u clywed
- 2 beth rwyt ti’n gallu’u harogli
- 1 peth rwyt ti’n gallu’i flasu
Rydw i’n hoffi gwrando ar ragolygon tywydd y môr ar Radio Four. Mae’n fy helpu i dawelu ac yn fy atgoffa bod yna bethau sy’n fwy na fi. Rydw i hefyd yn hoffi gwylio fideos mae fy ffrindiau wedi’u hanfon ata i. Maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n hapusach, a theimlo bod pobl yn meddwl amdana i – Leigh, 18
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Cysylltu â sefydliad ar ein tudalen sy’n rhestru cysylltiadau defnyddiol
- Defnyddio fforymau ar-lein fel The Mix neu Childline
- Sgwrsio â rhywun rwy ti’n ymddiried ynddo
- Mynd i rywle cyhoeddus sy’n teimlo’n ddiogel, fel llyfrgell
Mae treulio amser gyda fy nghi yn gallu fy nhawelu pan fydda i’n cael ysfa – Rose, 16
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Atgoffa dy hun ein bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau, a bod hynny’n iawn.
- Ysgrifennu llythyr tosturiol atat ti dy hun – fe alli di ddefnyddio’r templed yn ein hawgrymiadau i wella dy hyder a dy hunan-barch.
- Cysylltu â rhywun i gael sgwrs. Mae cywilydd yn gallu bod yn gryfach pan fyddwn ni’n ei gadw i ni’n hunain.
- Treulio llai o amser gyda phobl sy’n gas gyda ti neu sy’n gwneud i ti deimlo’n waeth.
- Treulio mwy o amser gyda phobl sy’n gofalu amdanat ti ac sy’n gwneud i ti deimlo’n well amdanat ti dy hun.
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Mynegi dy hun yn greadigol. Mae hyn yn gallu helpu i ryddhau’r teimladau. Fe allet ti ganu cân sy’n adlewyrchu dy emosiynau. Neu dynnu llun neu baentio rhywbeth sy’n dangos sut rwyt ti’n teimlo.
- Ysgrifenna lythyr atat ti dy hun. Dechreua drwy fod yn onest am sut rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun. Wedyn, ysgrifenna ateb yn llawn caredigrwydd, sy’n derbyn y sefyllfa, fel taset ti’n ysgrifennu at ffrind. Mae gennyn ni dempled y galli di’i ddefnyddio i ysgrifennu llythyr tosturiol atat ti dy hun.
- Dathla’r pethau da rwyt ti’n eu gwneud. Gwna restr o’r pethau ti’n falch ohonyn nhw, neu dy lwyddiannau. Gall hyn fod yn unrhyw beth dan haul, dim ots pa mor fach na mawr.
Mae llawer iawn mwy o syniadau yn ein tudalen sy’n rhoi awgrymiadau i wella dy hyder a dy hunan-barch.
Awgrymiadau gan bobl ifanc eraill
Fe wnaethon ni siarad gyda phobl ifanc a rannodd eu hawgrymiadau nhw am ffyrdd gwahanol o ymdopi â hunan-niweidio.
Mae rhoi pethau sydd yn fy ystafell i fy rhieni’n ddefnyddiol.
Rydw i’n ceisio mynd allan o ble bynnag ydw i.
Mae gen i focs bach yn llawn o bethau sy’n fy helpu i ymlacio, fel teganau ffidlan ac olewau.
Un o’r pethau mawr yw dy orfodi dy hun i wneud pethau fydd yn sicr yn gwneud lles i ti, fel cael cawod.
Gan amlaf, pan fydda’ i’n cael cyfnod anodd ac yn teimlo’r ysfa, rydw i’n gwneud rhywbeth rydw i’n ei fwynhau, fel gwrando ar gerddoriaeth ysbrydoledig.
Po fwyaf y byddwn i’n siarad am y peth, byddwn i’n cael ysfeydd yn amlach, a hynny’n fy llusgo i yn ôl. Dyma fi’n ceisio siarad gyda ffrindiau am bethau iachach fel y gallwn i deimlo fel fi fy hun eto.
Y prif bethau oedd yn fy helpu i oedd snapio band gwallt ar fy arddwrn pan fyddwn i’n cael ysfeydd – Brianna – 17
Yn y drôr lle roeddwn i’n cadw’r pethau i hunan-niweidio, byddwn i’n eu tynnu oddi yno ac yn eu lle yn rhoi tegan meddal, pelen straen, a phethau lliwio, a gallwn i ddefnyddio’r rhain naill ai i liwio ar ble bynnag y byddwn i eisiau hunan-niweidio neu byddwn i’n estyn llyfr lliwio i dawelu – Brianna - 17
Awgrymiadau am sut i oedi cyn hunan-niweidio
Ar y dechrau, efallai y bydd hi’n anodd oedi cyn hunan-niweidio. Ond un peth sy’n gallu helpu ydy ceisio oedi cyn hunan-niweidio, am ychydig bach o amser i gychwyn, cyn ceisio gwneud hyn am gyfnod hirach.
Er enghraifft, rho gynnig ar aros am 30 eiliad cyn hunan-niweidio. Y tro nesaf byddi di’n teimlo ysfa, ceisia aros am gyfnod hirach – munud, efallai. Os galli di wneud hyn bob tro, fe alli di ddechrau cynyddu’r amser oedi yn raddol.
Mae rhai pobl yn galw hyn yn ‘reidio’r don’, gan fod yr ysfa i hunan-niweidio yn gallu codi a disgyn fel ton.
Rheoli hunan-niweidio yn y tymor hir
Dros gyfnod o amser, un peth sy’n gallu helpu ydy deall pam ein bod ni’n hunan-niweidio, a dod o hyd i ffyrdd mwy diogel o fynegi sut rydyn ni’n teimlo.
Mae’r adran hon yn cynnwys awgrymiadau i dy helpu i reoli hyn yn y dyfodol, yn hytrach na helpu sut rwyt ti’n teimlo y funud yma.
Adnabod y teimladau sy’n achosi i ti hunan-niweidio
Efallai y byddwn ni’n cael teimladau cryf am gyfnod hir. Ac efallai na fyddwn ni’n hoffi sut rydyn ni’n teimlo. Mae hynny’n iawn.
Weithiau, efallai y byddwn ni’n defnyddio hunan-niweidio i geisio stopio teimlo mewn ffordd benodol. Ond mae’n bwysig cofio bod yna bwrpas i bob teimlad. Er enghraifft:
- Mae dicter yn gallu dangos ein ffiniau ni
- Mae gorbryder weithiau’n ceisio ein cadw ni’n ddiogel
- Mae tristwch yn gallu ein helpu i orffwys neu wneud newidiadau
Weithiau dydyn ni ddim yn gwybod sut rydyn ni’n teimlo, nac yn gwybod sut i gyfathrebu ein teimladau. Efallai y byddwn ni’n fwy tebygol o hunan-niweidio er mwyn ymdopi wedyn.
Fe allet ti ddefnyddio olwyn deimladau i helpu. Lawrlwytha ein PDF Olwyn Emosiynau – mae hwn yn agor mewn ffenest newydd. Dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd yma ar gael ar hyn o bryd.
Fe alli di hefyd drafod y teimladau hyn mewn lle diogel gyda chwnselydd neu oedolyn arall dibynadwy. Neu fe allet ti gadw dyddiadur o dy hwyliau.
Mae mwy o wybodaeth yn ein tudalen am ddeall dy deimladau.
Dysgu beth ydy dy sbardunau
Ysgrifenna pa sbardunau neu bethau eraill sy’n achosi i ti hunan-niweidio dros gyfnod o amser – dros fis neu ddau, er enghraifft. Fe allet ti geisio cofnodi:
- Beth oedd y sefyllfa? Ble oeddet ti?
- Beth oedd yn mynd drwy dy feddwl di?
- Sut oeddet ti’n teimlo cyn hunan-niweidio?
- Sut oeddet ti’n teimlo ar ôl hunan-niweidio?
- Beth allet ti fod wedi’i wneud yn wahanol?
Sgwrsia â rhywun
Gall gofyn am help deimlo’n frawychus, yn enwedig os ydyn ni’n poeni na fydd pobl yn deall, neu y byddan nhw’n ein barnu ni. Ond yn aml, bod yn agored ydy’r cam cyntaf i gael yr help rydyn ni’n angen.
Efallai y bydd hi’n syniad da darllen ein gwybodaeth am ddweud wrth rywun dy fod ti’n hunan-niweidio.
Os byddai’n well gen ti siarad gyda rhywun nad wyt ti’n ei adnabod, fe allet ti wneud un o’r rhain:
- Cael sgwrs gyfrinachol â chwnselydd drwy gysylltu â Childline neu The Mix
- Chwilio am sefydliad neu wasanaeth defnyddiol ar ein tudalen sy’n rhestru cysylltiadau defnyddiol
Efallai na fydd dy anafiadau mor ddifrifol i olygu bod angen help meddygol ar frys, ond dydy hynny ddim yn golygu nad wyt ti angen help.
Cer ati i greu cynllun diogelwch
Mae cynllun diogelwch yn gallu helpu i reoli teimladau poenus neu annymunol. Mae modd ei ddefnyddio pan fyddi di’n ystyried brifo dy hun.
Efallai fod gen ti gynllun diogelwch yn barod os wyt ti’n cael cymorth proffesiynol. Ond mae modd i bawb greu cynllun.
Fe allai cynllun diogelwch restru’r pethau hyn:
- Yr arwyddion rhybudd y gallet ti hunan-niweidio
- Ffyrdd da o ymdopi
- Beth allai pobl eraill ei wneud i helpu
- Rhifau ffôn dy feddyg neu dy dîm argyfwng
Fe alli di gadw hwn yn rhywle sy’n hawdd i gael gafael arno – er enghraifft, yn dy fag, mewn sgrinlun, neu mewn ffeil ar dy ffôn. Neu fe allet ti ei sticio ar dy wal mewn lle sy’n hawdd ei weld.
Fe alli di greu cynllun diogelwch gydag oedolyn dibynadwy hefyd, a rhannu dy gynllun gyda’r unigolyn hwnnw. Bydd hyn yn gallu eu helpu nhw i dy gefnogi di mewn ffordd sy’n addas i dy anghenion.
Lawrlwytho templed i greu cynllun
Defnyddia’r dolenni isod i gael cynllun diogelwch i ti dy hun ac oedolyn dibynadwy ei lenwi. Mae’r holl ddolenni’n agor mewn ffenestr newydd.
Os nad wyt ti’n siŵr sut ddylai cynllun wedi’i gwblhau edrych, mae gennyn ni enghraifft i ti.
I mi, mae’r ysfa ar ei gryfaf ar ôl ysgol a gyda’r nos, felly rydw i’n rhoi sylw i hyn yn fy nghynllun diogelwch – Rose, 16
Cael triniaeth a help pan wyt ti’n hunan-niweidio
Mae cael cymorth proffesiynol yn gallu ein helpu i reoli hunan-niweidio.
Mae rhai ohonon ni wedi cael profiadau, da, gwael neu gymysg o gael help. Mae hyn yn gallu effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo am ofyn am help eto.
Mae hi hefyd yn gallu bod yn anodd gofyn am help os nad ydyn ni’n credu bod pethau’n ‘ddigon drwg’. Efallai y byddi di’n ansicr a wyt ti angen help neu ynghylch pa bryd y dylet ti ofyn am help.
Rwyt ti’n haeddu cael help.
Mae cydnabod bod angen help arnat ti yn andros o gam mawr, hyd yn oed os nad wyt ti’n gofyn am help yn syth bin. Yn wir, rwyt ti’n helpu dy hun drwy ddarllen hwn, hyd yn oed os wyt ti’n rhy ofnus i ofyn am help y funud yma – Leigh, 18
Mynd i’r ysbyty
Weithiau bydd angen help ar frys arnon ni os byddwn ni wedi brifo ein hunain. Efallai y bydd angen i ni fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty. Os byddi di’n mynd i’r adran achosion brys, dylai gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol gynnal asesiad o dy iechyd meddwl, gan drafod pa help y gallan nhw’i gynnig i ti.
Os wyt ti neu rywun arall wedi brifo’n ddifrifol, dylet ti:
- Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans
- Dweud wrth oedolyn dibynadwy a gofyn iddo ffonio 999
Dydy mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys ddim wastad yn golygu bod yn rhaid i ti aros yn yr ysbyty fel claf mewnol.
Help gan dy feddyg
Mae modd i ti fynd i weld meddyg ar dy ben dy hun. Neu fe alli di ofyn i oedolyn dibynadwy dy helpu i wneud apwyntiad, a dod yn gwmni i ti.
Os byddi di’n siarad gyda meddyg am hunan-niweidio, efallai y bydd y meddyg:
- Yn gofyn cwestiynau i ti am sut rwyt ti wedi bod yn teimlo a beth sydd wedi bod yn digwydd yn dy fywyd.
- Yn sôn am ffyrdd o gadw’n ddiogel, ac felly fe allet ti ddod â dy gynllun diogelwch gyda ti i’r apwyntiad.
- Yn dy gyfeirio at wasanaethau cymorth, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), er mwyn i ti gael triniaeth a help, gan gynnwys therapi.
- Yn galw am ambiwlans os bydd yn poeni bod hunan-niweidio yn fygythiad i dy fywyd, neu bod angen help meddygol arnat ti i drin dy anafiadau.
Os nad wyt ti’n teimlo bod dy feddyg yn dy helpu, fe alli di ofyn i gael gweld meddyg gwahanol i gael ail farn. Ond efallai y bydd yn rhaid i ti aros i gael apwyntiad arall. Mae gennyn ni ragor o wybodaeth am beth i’w wneud os bydd gen ti broblem gyda dy feddyg.
I gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau, cer i’n tudalen am siarad gyda dy feddyg.
Beth ydy CAMHS?
Gan amlaf, byddi di’n cael therapi drwy CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc). Mae gennym ragor o wybodaeth am hyn i dy gefnogi.
Efallai y bydd yn rhaid aros am hir am therapi, yn enwedig drwy CAMHS.
Help gan yr ysgol, y coleg neu’r gwaith
Mae athrawon, nyrsys ysgol, timau cefnogi myfyrwyr a rheolwyr yno i ofalu amdanat ti.
Efallai y bydd dy ysgol neu dy goleg yn gallu rhoi rhywfaint o help i ti, fel cwnsela. Fe allen nhw dy helpu hefyd i siarad gyda dy riant, gofalwr, gwarcheidwad neu feddyg am hunan-niweidio.
Os bydd yr hunan-niweidio yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl neu gyflwr arall sy’n cael ei ystyried yn anabledd, dylai dy ysgol, dy goleg neu dy weithle wneud ‘addasiadau rhesymol’ i ti. I gael rhagor o wybodaeth am addasiadau rhesymol, cer i’n tudalen am ddeall dy hawliau.
Therapïau ar gyfer hunan-niweidio
Mae therapi ar gyfer hunan-niweidio gan amlaf yn therapi siarad fel:
- Therapi ymddygiad dialectig (DBT)
- Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)
- Cwnsela
- Therapi grŵp
- Therapi creadigo
Wrth gael therapi, byddi di’n trafod sut rwyt ti’n teimlo a beth rwyt ti wedi’i wynebu, a hynny yng nghwmni gweithiwr proffesiynol. Fe alli di hefyd ddysgu sgiliau newydd, fel sut i ddeall dy emosiynau neu ymdopi â theimladau neu sefyllfaoedd penodol.
Dylai help gan gwnselydd neu therapydd fod yn gyfrinachol. Dim ond os byddan nhw’n poeni y gallet ti neu rywun arall fod mewn perygl y byddan nhw’n rannu beth rwyt ti wedi’i ddweud â rhywun arall.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i’n tudalen am gyfrinachedd.
Fe wnaeth fy therapydd fy helpu i ddeall beth oedd yn achosi fy straen go iawn, a sut i ymdopi, a hynny yn ei dro yn fy helpu i wella ar ôl hunan-niweidio – Carys, 18
Help ar-lein os wyt ti’n hunan-niweidio
Efallai y bydd hi’n well gan rai ohonon ni gael cymorth drwy wasanaethau tecstio neu fforymau ar-lein.
Mae llawer o sefydliadau sy’n gallu helpu pan fydd rhywun yn hunan-niweidio. Er enghraifft:
- Alumina – help ar-lein yn rhad ac am ddim i bobl 10-17 oed sy’n hunan-niweidio.
- Self Injury Support – gwybodaeth a help, gan gynnwys llinell gymorth a gwasanaeth tecstio.
- Childline – byrddau negeseuon lle galli di siarad gyda chwnselydd neu sgwrsio â phobl ifanc eraill.
- The Mix – llinell gymorth drwy we-sgwrs ac e-bost, llinell decstio mewn argyfwng, sgwrsio ar-lein un-i-un, a gwasanaeth cwnsela dros fideo, gwe-sgwrs neu’r ffôn. Fe alli di hefyd ddefnyddio’r byrddau trafod i siarad gyda phobl ifanc eraill.
Apps for mental health
Some apps can help us with things like feeling calmer or managing difficult experiences. But with so many apps, it can feel hard to know where to start.
To find safe, trustworthy apps for young people, visit Mind's app library.
Aros yn yr ysbyty
Efallai y bydd angen i rai ohonon ni aros yn yr ysbyty i gael triniaeth a help gyda’n hiechyd meddwl – gofal i gleifion mewnol maen nhw’n galw hyn.
Efallai y byddwn ni’n aros yn yr ysbyty os byddwn ni’n risg i ni’n hunain neu i bobl eraill, a bod angen iddyn nhw ofalu ein bod ni’n ddiogel.
Mae rhagor o wybodaeth am fynd i’r ysbyty oherwydd dy iechyd meddwl fan hyn:
Beth i’w wneud os na alla i gael help proffesiynol?
Efallai y byddi di’n credu na fyddi di’n gallu cael help, neu na chei di ofyn am help. Neu efallai y byddi di’n gofyn am help ac yn cael dy roi ar restr aros. Neu efallai na fyddi di’n gallu cael help proffesiynol am resymau eraill.
Os na alli di gael gafael ar help, fe allet ti wneud un o’r rhain:
- Defnyddio’r awgrymiadau ar y dudalen hon i ymdopi â hunan-niweidio
- Defnyddio llinellau cymorth a byrddau negeseuon, fel Childline neu the Mix
- Creu cynllun diogelwch. Mae modd llenwi hwn gydag oedolyn dibynadwy hefyd
- Cael cymorth drwy dy gangen Mind leol. Defnyddia ein map o ganghennau Mind lleol i ddod o hyd iddyn nhw
Ymdopi â chreithiau
Fydd dim creithiau gan bawb sy’n hunan-niweidio. Ond os bydd gennyn ni greithiau, efallai y byddwn ni’n teimlo sawl peth gwahanol amdanyn nhw.
Mae gwahanol sefydliadau yn cynnig ffyrdd gwahanol o ymdopi ag unrhyw deimladau anodd.
Fe allwn ni ddod o hyd i wybodaeth, help a chyngor os bydd creithiau:
- Yn effeithio ar ein hyder a’n hunan-barch. Os wyt ti’n chwilio am wybodaeth am ddelwedd y corff a hunan-barch, yn enwedig mewn tywydd poeth, cer i wefan Mental Health UK.
- Yn gwneud i ni fod eisiau’u cuddio nhw. Dydy pob craith ddim yn y golwg. Ac efallai y byddwn ni’n teimlo’n chwithig os byddwn ni’n meddwl bod pobl eraill yn gallu gweld ein creithiau ni. Ein penderfyniad ni ydy dangos ein creithiau neu beidio. Mae gwybodaeth am ddangos creithiau ar wefan LifeSIGNS.
- Yn ein poeni neu’n ein gwneud ni’n anhapus. Efallai y bydd rhai ohonon ni eisiau i’n creithiau bylu. Gan fod gennyn ni i gyd groen gwahanol a chreithiau gwahanol, efallai y bydd rhai creithiau yn dal i’w gweld dros amser. Fe alli di gael rhagor o wybodaeth am sut i helpu i wneud i greithiau bylu ar wefan LifeSIGNS.
- Yn gwneud i ni boeni am stigma. Efallai y byddwn ni’n ofni y bydd pobl eraill yn ein trin ni’n wahanol neu’n gofyn cwestiynau sy’n ein gwneud ni’n anghyfforddus. Fe alli di ddarllen am bethau y byddai pobl ifanc wedi hoffi eu gwybod am hunan-niweidio ar flog YoungMinds.
Mae creithiau hefyd yn gallu ein helpu i dderbyn ein profiadau. Ond mae hi hefyd yn gallu bod yn anodd pan fyddwn ni’n gweld pobl eraill sydd â chreithiau. Efallai y byddwn ni’n cymharu’n hunain, neu y bydd y profiad yn creu sbardun. Fe allai hyn fod yn fwy anodd os ydyn ni’n ceisio stopio. Ond fe all hyn hefyd helpu i dy atgoffa am y pethau sy’n dy helpu i reoli dy ysfeydd. Mae modd darllen am y mathau hyn o gymariaethau ar flog YoungMinds.
Mae popeth yn gymharol – os wyt ti’n teimlo bod pobl eraill yn dioddef mwy na ti, dydy hynny ddim yn gwneud dy boen di’n llai pwysig, nac yn llai poenus i ti – Leigh, 18
Ymdopi os wyt ti’n llithro yn ôl i hen arferion
Os byddwn ni’n llithro yn ôl i hen arferion wrth hunan-niweidio, mae’n teimlo weithiau ein bod ni’n gorfod dechrau o’r dechrau eto. Ond rydyn ni eisoes wedi dysgu cymaint am beth sy’n gweithio’n dda i ni, ac am beth sydd ddim yn gweithio. Ac fe allwn ni ddefnyddio hyn i’n helpu ni i ymdopi.
Fe allet ti geisio gwneud un o’r pethau hyn:
- Bod yn garedig â ti dy hun. Rwyt ti wastad yn dysgu. Ac mae llithro yn ôl i hen arferion yn gyfle i ddysgu pa ffyrdd o ymdopi sy’n gweithio’n dda i ti. Un peth sy’n gallu helpu ydy dangos caredigrwydd a gofal atat ti dy hun, drwy fod yn fwy tosturiol atat ti dy hun. Mae gennyn ni awgrymiadau fan hyn am sut i fod yn fwy tosturiol atat ti dy hun.
- Meddylia am yr adeg pan wnest ti roi’r gorau i hunan-niweidio o’r blaen. Beth wnaeth helpu, a beth na wnaeth helpu y tro diwethaf? Oes unrhyw beth y gallet ti’i wneud eto? Neu rywbeth y gallet ti’i wneud yn wahanol?
- Rho gynnig ar ein gwahanol awgrymiadau. Efallai y byddwn ni’n gweld nad ydy awgrymiadau wnaeth weithio o’r blaen yn gymaint o help bellach. Weithiau, efallai y byddwn ni wedi rhoi’r gorau i wneud pethau sy’n helpu, ac mae angen ein hatgoffa ni ohonyn nhw. Beth am weld a allet ti roi cynnig ar awgrymiadau newydd ar y dudalen hon i ymdopi â’r ysfa i hunan-niweidio, neu i helpu dy hun yn y dyfodol.
- Rho wybod i rywun. Mae hyn yn gallu helpu i wneud yn siŵr dy fod di’n cael yr help iawn. Mae’n gallu bod yn anodd siarad am y peth, ond mae hyn yn bwysig. Efallai y byddi di am siarad gyda rhywun rwyt ti wedi siarad gydag o o’r blaen, neu rywun newydd. Efallai y bydd dy feddyg yn gallu dy gyfeirio di i gael help gwahanol. Neu efallai y bydd dy athrawon yn gallu rhoi help ychwanegol i ti yn yr ysgol neu’r coleg.
- Cofia pam rwyt ti eisiau stopio. Mae hyn yn gallu bod yn hwb i ddal ati i weithio. Efallai y bydd dy resymau’n newid, ac mae hynny’n iawn hefyd.
- Edrycha eto ar dy gynllun diogelwch. Os nad wyt ti wedi gwneud cynllun diogelwch, ceisia fynd ati i greu un. Mae’n syniad da diweddaru’r cynllun os bydd pethau’n newid. A chadwa hwnnw yn rhywle hawdd i’w weld, i dy atgoffa o’r pethau sy’n helpu.
Counsellor
Counsellors listen to you and give you a safe space to explore how you’re thinking, feeling and behaving.
They can help you talk through problems or situations that are affecting you, and help you find ways to cope.
You may hear the terms counsellor or therapist used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryInpatient care
This is the care you get when you’re staying in hospital. You might be an informal patient or you might be sectioned. You might also be having treatment and support for your physical health.
See our pages on being an informal patient or being sectioned for more information.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that can support you with your mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same thing:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS).
- In England and Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS).
Find out more in our CAMHS information hub.
Therapy
This is treatment that aims to help improve your mental health and wellbeing. There are lots of different types of therapies. Here are some common ones you might have heard of:
- Talking therapies
- Creative therapies
- Ecotherapy
- Medication
Counselling
This is a type of talking therapy with a trained counsellor. Counselling can help you:
- Talk through a problem or situation that is negatively affecting your mental health
- Recognise how it affects you
- Work out positive coping strategies or ways to make the situation better
It may be face-to-face, over the phone or over video call.
Visit our full treatment and support glossaryDisability
'Disability' has a special legal meaning under the Equality Act. This is broader than the usual way you might understand the word.
The Equality Act says that you have a disability if you have an impairment that's either physical or mental. And the impairment has a substantial, adverse and long term effect on your normal daily activities.
Visit our full listing of Legal TermsConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryTalking therapies
These involve talking with a professional about your thoughts, feelings and behaviours. There are many types of talking therapies, such as counselling or cognitive behavioural therapy (CBT). You usually take part for an agreed length of time or number of sessions.
Visit our full treatment and support glossaryDialectical behaviour therapy (DBT)
This is a type of talking therapy. You might have this if you feel emotions very intensely or find it difficult to manage them. The aim is to help you:
- Understand and accept difficult feelings
- Challenge negative coping strategies
- Learn new ways to manage your feelings
You might take part in DBT by yourself or in a group.
Visit our full treatment and support glossaryCognitive behavioural therapy (CBT)
This is a type of talking therapy with a trained therapist. It can help you look at your thinking patterns and behaviours, to help you find new ways of coping.
CBT may be face-to-face, over the phone or over video call.
Creative therapies
This means using things like music, drawing, painting, dancing, drama or playing games to express your thoughts and feelings.
It can also mean doing creative activities to improve your wellbeing and confidence. For example, writing or acting out stories with other young people.
You might take part in creative therapies in a group or by yourself.
Visit our full treatment and support glossaryTherapist
This is a trained professional who runs or supervises your therapy. Therapists help you explore how you’re thinking, feeling and behaving, and what can help you in the future.
You may hear the terms therapist or counsellor used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryTrusted adult
A trusted adult is someone older than you who:
- Makes you feel safe
- Listens to you
- Treats you with respect, understanding and care
They will have clear boundaries but will support you when they can. They should know when to look for more help if you need it.
You can decide who you feel is a trusted adult to you. You might know them from somewhere like school, your family, places of worship or clubs for young people.
Trusted adults don't have to be the same people as nearest relatives.
Visit our full treatment and support glossaryCafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.