Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i ymdopi â phroblemau cysgu

Yn egluro cwsg ac iechyd meddwl, gan roi awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth ynglŷn â ble i gael cymorth.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Beth yw’r cysylltiad rhwng cwsg ac iechyd meddwl?

Mae cysylltiad agos rhwng cwsg ac iechyd meddwl. Gall byw gyda phroblem iechyd meddwl effeithio ar ba mor dda rydych yn cysgu, a gall methu cysgu gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.

 

Mae methu cysgu’n gwneud i chi boeni. Mae poeni’n gwneud i chi fethu cysgu. Os ydych chi’n poeni am gysgu mae eich meddwl fel pe bai’n ymladd ag ef ei hun. Mae’n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi.

Pa broblemau cysgu allwn i eu cael?

Mae pawb angen cwsg, ond mae problemau cysgu’n gyffredin iawn. Efallai y byddwch yn adnabod rhai o’r profiadau isod, neu y byddwch yn cael anawsterau cysgu eraill nad ydynt wedi’u rhestru yma.

Efallai y byddwch:

  • yn cael trafferth i fynd i gysgu, y byddwch yn deffro ynghanol y nos neu’n deffro’n rhy gynnar yn y bore (enw arall am hyn yw insomnia – mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar wefan y GIG)
  • yn cael problemau sy’n tarfu ar eich cwsg, pyliau o banig, atgofion annymunol, hunllefau neu seicosis
  • yn ei chael hi’n anodd i ddeffro neu godi o’r gwely
  • yn teimlo’n flinedig neu’n gysglyd yn aml – gallai hyn fod oherwydd eich bod ddim yn cael digon o gwsg, neu ddim yn cael cwsg o ansawdd da, neu oherwydd problemau iechyd
  • yn cysgu llawer – gan gynnwys cysgu ar adegau pan rydych eisiau bod yn effro, neu pan mae angen i chi fod yn effro.

Pan fydda i’n teimlo’n isel, rwy’n cysgu llawer iawn – pan o’n i ar fy ngwaethaf ro’n i’n cysgu 18 awr y diwrnod, oherwydd dyna’r unig ffordd ro’n i’n gallu stopio meddwl a stopio fy meddwl rhag dweud pethau ofnadwy wrtha i.

Os ydych chi’n cael problemau cysgu, efallai y byddwch:

  • yn fwy tebygol o deimlo’n bryderus, yn teimlo’n isel neu’n meddwl am ladd eich hun
  • yn fwy tebygol o gael cyfnodau seicotig – gall methu cysgu’n iawn achosi maniaseicosis neu baranoia, neu wneud symptomau sy’n bodoli’n barod yn waeth
  • yn teimlo’n unig neu ar eich pen eich hun – er enghraifft, os oes gennych chi ddim egni i weld pobl neu os yw pobl eraill ddim yn deall
  • yn cael trafferth i ganolbwyntio, neu wneud cynlluniau a phenderfyniadau
  • yn teimlo’n bigog neu heb egni i wneud pethau
  • yn cael problemau â bywyd o ddydd i ddydd – er enghraifft, yn y gwaith neu gyda theulu a ffrindiau 
  • yn cael eich effeithio fwy gan broblemau iechyd eraill, gan gynnwys problemau iechyd meddwl.

Yn ystod y dydd, mae fy ymennydd i’n niwlog, a dw i ddim yn gallu cofio pethau’n iawn. Does gen i ddim egni i wneud pethau.

Beth sy’n achosi problemau cysgu?

Mae’r pethau sy’n effeithio ar ein cwsg yn wahanol i bawb. Maen nhw’n cynnwys:

  • straen neu boeni – er enghraifft, am broblemau yn ymwneud ag ariancartref neu waith
  • problemau yn ymwneud â ble rydych yn cysgu – er enghraifft, os ydych chi’n cysgu mewn lle anghyfforddus neu os nad ydych yn cael llonydd
  • cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â chwsg, sydd hefyd yn cael eu galw’n anhwylderau cysgu
  • bod yn rhiant neu ofalwr
  • cymryd meddyginiaeth, gan gynnwys dechrau neu stopio cymryd meddyginiaeth
  • cyffuriau hamdden ac alcohol
  • gweithio yn y nos neu weithio shifftiau
  • trawma ar hyn o bryd neu yn y gorffennol
  • problemau iechyd meddyliol a chorfforol – gall llawer o’r rhain effeithio ar eich cwsg.

I gael rhagor o wybodaeth am anhwylderau cysgu, ewch i wefannau’r Sefydliad Iechyd Meddwl a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, a darllenwch ein rhestr o fanylion cysylltu defnyddiol.

Allwch chi ddim ymlacio os nad oes gennych chi rywle cyfforddus a diogel yn y nos. Mae hyn yn achosi i chi beidio cysgu a threulio’r rhan fwyaf o’r nos yn poeni.

Os yw problemau yn ymwneud â chysgu yn gwneud i chi boeni neu’n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, mae’n syniad da gweld meddyg a all roi archwiliad iechyd i chi a’ch helpu i gael triniaeth a chymorth. Os ydych yn cadw dyddiadur cysgu, gallech fynd â’r dyddiadur gyda chi i’ch apwyntiad i’w ddangos i’ch meddyg.

 

 

Mae fy mhroblemau cysgu [...] yn fwy o fater o ohirio amser gwely nag insomnia a dweud y gwir, a chanlyniad hynny ydy mod i’n rhy flinedig y bore ar ôl hynny. Dw i byth wedi darganfod beth sy’n gweithio i mi gan mod i yn gallu cysgu ar ôl i mi gyrraedd y gwely.

 

Sut allai problemau iechyd meddwl effeithio ar fy nghwsg?

Os ydych yn byw gyda phroblem iechyd meddwl, gallai hyn effeithio ar eich cwsg mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft:

  • Gall gorbryder achosi meddyliau sy’n gwibio neu feddyliau ailadroddus, a phryderon sy’n eich cadw’n effro. Efallai hefyd y byddwch yn cael pyliau o banig pan fyddwch yn trio cysgu.
  • Gall iselder ac anhwylder affeithiol tymhorol (SAD) wneud i chi gysgu mwy, gan gynnwys aros yn y gwely am fwy o amser neu gysgu’n fwy aml. Gall iselder hefyd achosi insomnia.
  • Os ydych wedi bod drwy drawma, gallai hyn achosi atgofion annymunol, hunllefau neu freuddwydion dychrynllyd sy’n aflonyddu ar eich cwsg. Efallai y byddwch yn teimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus yn y gwely neu yn y tywyllwch.
  • Gallai paranoia a seicosis olygu eich bod yn cael anhawster i gysgu. Gallech fod yn clywed lleisiau, neu’n gweld pethau sy’n eich dychryn neu’n achosi pryder i chi.
  • Mae mania yn aml yn achosi teimladau o egni a hwyliau da, felly efallai na fyddwch yn teimlo’n flinedig neu eisiau cysgu. Gall meddyliau sy’n gwibio hefyd eich cadw’n effro ac achosi insomnia.
  • Gall meddyginiaeth seiciatrig achosi sgil effeithiau, gan gynnwys insomnia, amharu ar gwsg, hunllefau a chysgu gormod. Gall stopio cyffuriau seiciatrig hefyd achosi problemau cysgu.
A woman looking at the camera with the sun setting behind her, with the sea, beach and docked boats.

Sut y gwnaeth fy mhatrwm cysgu amlygu fy mhroblemau iechyd meddwl

Fy nghwsg oedd y faner goch gyntaf a ddechreuodd chwifio’n wyllt i’m rhybuddio i bod rhywbeth o’i le.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig