Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-18 oed 

Gwybodaeth i bobl ifanc am iechyd meddwl. 

Beth yw iechyd meddwl?

Mae iechyd meddwl yn ymwneud â sut rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Gallwn feddwl amdano fel ein cyflwr meddwl. Yn union fel iechyd corfforol, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl ac mae angen i ni ofalu amdano. 

Mae ein hiechyd meddwl yn newid drwy’r amser ac fe all amrywio o dda i wael:  

  • Mae iechyd meddwl da yn golygu ein bod yn teimlo ein bod yn gallu ymdopi’n gyffredinol. Gallwn feddwl am bethau mewn ffordd dawel. Ac rydyn ni’n gallu deall a mynegi ein hemosiynau mewn ffyrdd defnyddiol.  
  • Mae iechyd meddwl gwael yn golygu ei bod yn anodd ymdopi â’r ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo neu’n ymddwyn. Efallai na fyddwn yn mwynhau’r un pethau fel o’r blaen. Neu efallai na fyddwn eisiau bod o gwmpas pobl gymaint. Gall edrych yn wahanol i bawb.  

Cofia: gall pob un ohonom gael teimladau anodd ac iechyd meddwl gwael. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.  

Mae lles meddwl ar sbectrwm – gallwn fod ddim yn dda a chael pethau’n anodd, ac yn iach a gweithredu’n iawn. Mae’n newid yn barhaus, a gall hynny fod yn flinedig. Ond mae hefyd yn ein hatgoffa y bydd pethau’n newid er gwell eto.

Beth sy’n gallu effeithio ar fy iechyd meddwl? 

Rydym ni i gyd yn wahanol. Efallai na fydd yr hyn sy’n effeithio ar dy iechyd meddwl yr un peth â rhywun arall.   

Dyma rai pethau sy’n gallu arwain at iechyd meddwl gwael: 

  • Teimlo’n unig, teimlo dy fod yn cael dy adael allan neu fel nad oes neb yn dy ddeall 
  • Lefelau isel o hyder neu hunan-barch 
  • Anawsterau gartref, yn yr ysgol neu yn y coleg 
  • Pethau sydd wedi digwydd, neu sy’n digwydd i ti rŵan, sy’n rhoi straen arnat 
  • Problemau gydag arian 
  • Ddim yn teimlo’n ddiogel lle ti’n byw
  • Profiadau o wahaniaethu 
  • Cael dy fwlio neu dy gam-drin 
  • Byw gyda phroblem iechyd corfforol neu salwch tymor hir 
  • Ei chael hi’n anodd ymdopi â’r newyddion  
  • Teimlo’n ansicr am y dyfodol 

Cofia: mae iechyd meddwl gwael hefyd yn gallu effeithio ar ein hymddygiad a’n perthynas ag eraill.  

Dyma rai pethau sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl: 

  • Teimlo bod gennym gysylltiad â phobl eraill 
  • Teimlo ein bod ni’n cael gwrandawiad a chefnogaeth 
  • Gofalu am ein lles 
  • Cael y cwsg sydd ei angen arnom 
  • Bod yn garedig gyda ni ein hunain a gyda phobl eraill 
  • Ein ffydd neu ein hysbrydolrwydd 
  • Byw mewn ffordd sy’n teimlo’n driw i ni 
  • Gwneud y pethau rydyn ni’n eu mwynhau 
  • Teimlo ein bod yn gallu dysgu neu roi cynnig ar bethau newydd 
  • Teimlo ein bod yn gallu cyflawni pethau 

Efallai y bydd gennyt ti bethau gwahanol i’w hychwanegu at y rhestr hon.  

Agweddau gwahanol at iechyd meddwl 

Mae llawer o’n hagweddau at iechyd meddwl yn dod oddi wrth ein diwylliant.

Mewn rhai diwylliannau, ceir cysylltiad agos rhwng iechyd meddwl a chrefydd neu ysbrydolrwydd. Mewn diwylliannau eraill, mae iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn un.  

Mae hyn yn golygu bod pob un ohonom yn ystyried iechyd meddwl mewn ffordd wahanol. 

Mae’n gallu cymryd llawer o fentro a methu i ganfod beth sy’n gweithio orau i ti – does dim byd penodol sy’n addas i bawb. Dwi’n dal i weithio pethau allan yn fy mhwysau – Dora, 17

Sut gallaf i ofalu am fy iechyd meddwl? 

Mae weithiau’n gallu bod yn anodd gofalu am ein hiechyd meddwl, ond mae mor bwysig. 

Mae’n gallu cymryd amser, ymarfer a chymorth i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i ti, felly bydd yn garedig â ti dy hun. Cofia: mae pob un ohonon ni’n wahanol ac efallai y bydd angen pethau gwahanol arnon ni ar wahanol adegau.

Dyma rai awgrymiadau gan bobl ifanc a ddywedodd wrthym sut maen nhw’n gofalu am eu hiechyd meddwl: 

Mae myfyrio wir yn fy helpu i ‘gadw fy nhraed ar y ddaear’ ac yn fy helpu i gael heddwch a thawelwch yng nghanol yr anrhefn − Jumi, 17

“Mae gwrando ar gerddoriaeth yn helpu fy iechyd meddwl oherwydd y berthynas sydd gen i â’r gân, y geiriau. − Chantelle, 13

Dwi’n credu ei fod yn bwysig i mi wneud rhywbeth sy’n gwneud i mi deimlo’n well, hyd yn oed os nad ydw i’n drist. Gallai hyn gynnwys cysgu am ychydig yn hirach, pobi cacen neu ganu cân.

Fe wnes edrych am syniadau ar Pinterest a sut i gofnodi pwyntiau bwled mewn llyfr – rydw i’n ysgrifennu mewn gwahanol ddyddiaduron ac yn gweld patrymau .... Paid â meddwl bod yn rhaid iddo fod yn berffaith, ysgrifenna unrhyw beth.

Roedd arna i ofn siarad yn agored â phobl am fy lles i ddechrau, ond roedd yn gymaint o bwysau oddi ar fy ysgwyddau i wybod nad oeddwn i ar fy mhen fy hun.

Dwi’n gwneud fy ngorau i helpu fy iechyd meddwl drwy fynd am dro, chwarae pêl-rwyd, mynd allan gyda fy ffrindiau i gael sgwrs... gwylio’r teledu a jest ymlacio yn fy ngwely – Kaitlyn, 18 

Sut arall allaf i ofalu am fy lles? 

Mae'r ffordd rwyt ti’n gofalu am dy iechyd meddwl yn bersonol i ti. Mae gennym ragor o awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy les y galli roi cynnig arnynt. 

Awgrymiadau ar gyfer gofalu am fy lles

Beth yw problem iechyd meddwl? 

Efallai bod gennym arwyddion o broblem iechyd os ydy hi’n mynd yn anodd i ni ymdopi â’r ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo neu’n ymddwyn. 

Gall pob un ohonom ni deimlo’n drist, yn bryderus, yn flin neu gael llond bol ar adegau. Fel nerfau cyn arholiad neu deimlo’n isel pan nad wyt ti’n tynnu ymlaen â ffrind.  

Ond weithiau efallai y bydd angen mwy o help arnom. Er enghraifft, os yw’r ffordd rydych chi’n teimlo: 

  • Wedi para ers tro 
  • Yn effeithio arnat ti bron bob dydd 
  • Yn dy stopio rhag gwneud y pethau rwyt ti’n eu mwynhau 
  • Yn gwneud iti deimlo nad wyt ti’n gallu ymdopi 

Does dim rhaid iti aros i bethau waethygu cyn gofyn am help. Ac os wyt ti wedi cael help o’r blaen, rwyt ti’n dal i haeddu help eto.  
 

Beth yw problemau iechyd meddwl?  

Mae yna lawer o wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, i gyd gyda’u henwau eu hunain. 

Darllena am wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl
decorative

Dydy problemau iechyd meddwl ddim yn arwydd o wendid. Maen nhw’n gyffredin iawn ac yn gallu digwydd i unrhyw un. Fe all pob un ohonom brofi problemau iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd. 

Pa help allai fod ar gael?  

Gall fod yn anodd gwybod ble i droi am help i dy iechyd meddwl. Ond rydyn ni yma iti.  

Gallai’r gefnogaeth sydd ar gael gynnwys gwahanol bethau. Gall hyn ddibynnu ar beth ti’n mynd drwyddo a lle wyt ti’n byw. Er enghraifft, gallet ti wneud y canlynol: 

  • Siarad gyda phobl eraill sy’n deall beth wyt ti’n mynd drwyddo – fe allet ti ddefnyddio byrddau negeseuon gan Childline neu The Mix.  
  • Dod o hyd i ragor o wybodaeth – fel ar ein gwefan neu drwy raglen Reading Well. 
  • Cael therapi gyda therapydd hyfforddedig neu dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd diogel. Er enghraifft, therapïau siarad. Efallai y bydd angen i dy feddyg teulu neu CAMHS dy gyfeirio.  
  • Cymryd meddyginiaeth – efallai y bydd dy feddyg yn rhoi rhain iti ar bresgripsiwn mewn rhai sefyllfaoedd. I gael rhagor o wybodaeth, darllena wefan YoungMinds
  • Gofyn am help gan dy ysgol neu dy goleg - efallai y byddi’n gallu gweld cwnselydd ysgol neu ofyn am fwy o egwylion.  

Efallai y bydd angen iti roi cynnig ar dipyn o bethau gwahanol nes iti gael rhywbeth sy’n gweithio i ti.

Mae gennyn ni hefyd wybodaeth am y canlynol: 

Apiau ar gyfer iechyd meddwl

Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.

I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.

Mae [problemau] iechyd meddwl yn gallu bod yn brofiad ynysig iawn. Y peth gorau iti wneud ydy rhoi gwybod i bobl, ymddiried mewn pobl a gadael i bobl helpu – Eliza, 15

Eisiau gweld mwy o ddewisiadau cymorth? 

Mae gennym ragor o wybodaeth i dy helpu i benderfynu pa gymorth allai fod yn addas i ti. 

Darllena ein tudalen dod o hyd i gymorth

Cyhoeddwyd: Chwefror 2025
Adolygiad nesaf: Chwefror

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig